Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GOSOD AMAETHDY AR DAN GAN DDAU GRWYDRYN.-Boreu Sadwrn diweddaf, tafl- wyd cymydogaeth Llanillterne, yn agos i Gaerdydd, i gryn gyffro pan ddeallwyd fod amaethdy o'r enw Trewern wedi ei osod ar dan gan ddau dramp. Rhwng naw a deg o'r gloch, aeth Mr a Mrs David, preswylwyr y fferm, i farchuad Caerdydd, fel y byddent arferol a myned, gan adael y ty yn ngofal morwyn. Yn mhen ychydig fynydau wedi ymadawiad y meistr a'r feistres, daeth i'r ty ddau grwydryn wedi duo eu gwynebau, gan geisio lluniaeth. Gwrthododd y forwyn roddi iddynt, a chan ofn rhedodd i fyhy y grisiau, a sicrhaodd ei hun mewn ystafell trwy gloi y drws. Dilynwydhi, ac agorwyd y drws gan y ddau filain. Cymerodd y ferch afael mewn gwn ddygwyddai fod yn yr ystafell, gan ei anelu atynt. Tynodd un o'r tramps ei gyllell allan, gan fygwth y ferch neidiodd hono allan drwy y lfenestr i'r lawn, a rhedodd i ymofyn cynorthwy, a dychwelodd gydag ereill gyda hi mewn llai na haner awr ond erbyn hyn yr oedd y ddau grwydryn wedi cymeryd y traed, ond nid cyn gosod yr amaethdy ar dan, yr hwn a lwyr losgwyd. Gobeithio y deuir o hyd iddynt un o'r dyddiau nesaf.

[No title]

I Cynwysiad. I

Advertising

Y WTTIIMi

Advertising