Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD UTICA.— Foneddigion: Gan eich bod wedi ail osod "Goresgyniad y Cymry gan y Saeson" yn destyn i gystadlu at Eisteddfod 1876, a bod rhai wedi llafnrio yn lied helaeth arno, a'u llafur oil wedi myned yn ofer, yn ol llathen Llew Llwyfo, y mae wedi myned dros ben hwyr i'r cyfryw gael eu llafur yn ol, i wneyd y goreu o hono. Deallwn fod y traethodau yn yr Hen Wlad yn nghrafane y Llew, a dywedodd mewn newyddiadur yn ddiweddar, na clilywodd ddim oddi- wrth Bwyllgor eich Eisteddfod o bartlied iddynt; a'i fod ef yn rhy dlawd i dalu eu cost yn ol; ac na cheidw mo honynt lawer yn hwy. Pa beth a wna iddynt, ni hysbys- odd, ac ni allwn ninau ddyfalu. A dywed- yd y lleiaf, dylai y pwyllgor ac yntau ddyfod i ddeall a'u gilydd, heb golli dim amser. Mae bai dirfawr yn gorwedd yn rliywle na cliai pawb yr eiddo.—Morfran ap Tegid.
Y DATHLIAD CANMLWYDDOL YN…
Y DATHLIAD CANMLWYDDOL YN PHILADELPHIA YN 1375-NEUADD GARDDWRIAETH.
LLYTHYR EPHRAIM LLWYD.!
LLYTHYR EPHRAIM LLWYD. AT EI GYDWLADWYR YN Y TAIAETIIAU TJN- EDIG. Marwolaeth y Parch. John Evans (I. D. Ffraid)—Sankey a Moody—G/maeth Gerdd- orol y Lerpwliaid- Dydd Gwyl Dewi Sant —Amrywiaeth. LERPWL, Mawrtli 10.—Gyda gofid mawr yr ydym yn gorfod hysbysu fy ngliydwlad- wyr yn y Talaethau Unedig, am farwol- aeth un o gewri mawr llenyddiaeth ein gwlad-cyfailt calon, pregethwr grymus, amddiffynydd rhyddid, a'r beirniad craff, 1. D. FFRAID. Y mae rhyw beth rliyfedd ar gymeryd lie, pan y mae cewri fel hyn yn cael eu symud ymaitli! Gobeithio nad ydyw y byd ddim i gael ei amddifadu o'r dynion da i gyd, a'n gadael i drigianu yn mhlith gwehilion cymdeithas-sorod y byd. Os ydyw, goreu po gyntaf y daw y mil blynyddoedd. Rhagfyr yrl6eg, 1.874, cyf- arfyddais a fy nghyfaill I. D. Ffraid yn Lbtnrwst, yn edrych yn (Ida-yn cerdded fel bachgen ieuanc-yn llawn bywiogrwydd yn ffraeth ei eiriau fel arferol. Yr oedd- ym yn dweyd wrtlio fod blynyddau lawer iddo eto ar wyneb yr hen ddaear yma. Ond yn mhen dau fis wed'yn, pan ar ymweled drachefn a Llanrwst, clywid ei fod yn gorwedd ar ei wely cystudd, wedi ei rwymo rhwng ei erchwynion, yn dioddef oddiwrth afiechyd ag sydd bob amser braidd yn troi yn angeuol, sef clwyf yr ysgyfaiut, ac ,,y erbyn heddyw dyna raid ddweyd am dano yntau, "Efe a fu farw." Colled fawr i'r byd llenyddol a'r wlad yn gyffredinol.- Diclion yr anfonwn ychydig linellau eto ar I. D. Ffraid yn ein nesaf. Bu y gweinidogion efengylaidd, Sankey a Moody, yn dryllio calonau celyd ein cynulleidfuoedd yn y dref fawr a phechad- urus hon; ac ni bu y fath beth yn nghof neb sydd yn fyw, yn y dref hon beth bynag. Gellid gweled dagrau, yn treiglo dros ruddiau budron rhai o scamps mwyaf ein tref-dynion, mae'n debyg, sydd wedi dal pob math o weinidogaeth, heb blygu dim-dynion y buasai yn liawddach tynu deigryn o gareg nag o'u llygaid hwy. Ie, y dynion yna yn wylo fel babanod-yn plygu fel brwynen o flaen awel o wynt, o dan weinidogaeth y dynion da hyn. Pwy fu- asai yn dychymygu gweled hen "Midden pickers," o heolydd mwyaf puteinllyd a lladronllyd tref Lerpwl, yn sefyll yn nghan- ol torf o ddeuddeng mil o bob!, a'u llyfrau hymnau yn eu dwylaw, ac yn canu a'r dagrau yn ffrydio eu gruddiau, "Safe in the arms of Jesus," 111 will sing for Jesus," &c. I Ar y 3ydd o fis Chwefror diweddaf cyn- aliwyd cyngerdd ardderchog yn y "Concert Hall," Nelson St., er codi fund i anfon "Telynores Cybi" i'r Royal Academy of Music, Llundain, i berffeithio yn y gelfydd- yd o cliwareu y delyn. Yr oedd yn an- mliosibl cael gwell programme, ac yr oedd yr artistes yn bobpeth a allesid ddymuno- "Eos Morlais," prif Tenor Cymru, yr hwn y dylecli chwi yn yr America ei gael dros- odd ar bob cyfrif; Mr. Gordon Thomas, prif faswr Eglwys Gadeiriol Bangor, G. C., bachgen ieuanc hynod o obeithiol, er nad ydyw eto ond ugain oed; "Miss Gardner," geneth ddall, a llais gogoneddus; "Miss Hughes" (Eos Cybi), geneth yn meddu Ilais soniarus a chryf, ond fod eisiau tipyn o cultivation; "Telynores Cybi," a "Telynor Seiriol;" Mr. J. L Hughes, mab Mr. T. J. Hughes, yn dilyn ar y berdoneg. Ond er yr holl dalent, methiant noeth fu y cyfan. Yn lie anrhegu y Delynores a surplus o ugain punt (yr hyn a ddylasai fod), anfon- wyd hi adref mewn dyled o saitli bunt!! Y gwir yw, fod Cyngerddau Cymreig yn y dref hon yn y cyffredin yn troiynfethiant.' Ie, yr wyf yn meddwl yn sicr nad oes yr un o'r Cyngerddau Cymreig yma yn prin talu eu ffordd; ac y mae hyny i'w briodoli i an- ngwladgarwch, a gwir wenwyn y naill i'r llall, yn gystal a'r chwaeth isel sydd yn nodweddu Cymry y dref hon gyda golwg ar gerddoriaeth. Aed yr "Oratorios," "Y Mesiah," "Y Creation," "Jeplitha," &c., i ebargonant, os cant hwy hen faledwyr i'w difyru. Yr oeddwn i yn cynyg y diwrnod o'r blaen i'r Llyfrbryf gylioeddi cyngherdd i gael ei gynal yn y "Philharmonic Hall" (yr Hall fwyaf yn y dref,) a llogi artistes fel ycanlyn: Prif Denor, "Abel Crwst," hen faledwr; Soprano, "Nansi y Penwaig ffres," un iawn am waeddi dig-on; Alto, "Dafydd y Gogrwr;" Baswr, "Robin y Busnes," aclios dyna ydyw ei fusnes ef; "Cor," wedi ei wneyd i fyny o holl falad- wyr Cymru (y rhai a geir am ychydig o bres adiod); "Telynwyr," sef deuddeg o'r rhai salaf a geir drwy y wlad; Llywydd y cyf- arfod, "Shon Catrin," a "Jack y Bala," yn is-Iywydd; Arweinydd y cyfan, "Dafydd y Glew,"yr hwn sydd yn arweinydd y canu yn ffeiriau Llanbabo. Ond cael yr enwog- ion (?) yna oil at eu gilydd i ffurfio cyng- herdd, yr wyf yn sicr y byddai genym surplus o gan punt. Dyna y fath gyng- herddau a dal orcu yn y Metropolis of Wales, gyfeillion. Beth feddyliai Apmadog a Glanmarchlyn am beth fel yna, tybed? Pur yehydig a geir yn ddigon gwladgar'd i gadw coffawdwriaeth o'r hen Sant Cym- reig Dewi, ar y dydd cyntaf o Fawrtli. Y mae yn ein tref ni, meddir, oddeutu pedwar ugain mil o Gymry (?) ond ni cheir yn mysg y nifer yna fawr ond rhyw ddyrnaid o Die Shon Dafyddiaid o Gymry, i ddathlu ei ben blwydd, a hyny mewn ytngynull yn yr Adelphi Hotel i swpera. Yno ccrir yr holl weithrediadau yn mlaen yn yr iaith fain.— Bwyteir yn Saesoneg—siaredir yn Saesoneg -chwerthir yn Saesoneg—cenir yn Saeson- eg-yfir yn Saesoneg—mewn gair, pob petli yn Saesoneg. Yr oedd yr henDdewi yn Gym- ro trwyadl, meddai y diweddar Batriarch Owain Williams o'r Waenfawr. Ond y mae ei olynwyr wedi colli yr iaith braidd yn gyfan. Nid oes yr un genedl yn ym- ddwyn yr un fath tuag at eu hen Seintiau a chenedl y Cymiy. Y mae y Gwyddel yn fywyd i gyd ar "St. Patrick's Day;" bydd y "Shamrock" ar ei ddwy-fron y diwrnod hwnw, y lie agosaf i'w galon, onide? Y Sais yn addoli y rhosyn gwyn, a "Sant Sior." Yr "Orangemen" eu "William Prince of Orange." Gorymdeitliiant i ddathlu ei goffawdwriaeth. Yr "Ysgotyn" 9 6 ei "St. Andrew," drwy yfed cliwys ci Ys- gotaidd. Ond y Cymry yn llonydd a di- fywyd. Yr hen "geninen" yn tyfu, ac yn gwywo o eisiau gwres calon wladgarol i'w gwisgo ar y fron. Ni bydd na chynghercld nac unrhyw gyfarfod arall i goffhau am dano. Y lTaith am dani ydyw hyn: Bydd farw yr hen iaith Gymraeg o eisiau cefnog- aeth ei chenedl ei hun; a dylid, ar air a chydwybod,ddienyddio y cyfryw agy bydd ganddynt law yn eillofruddiaeth. "Cas gwr na charo'r wlad a'i macco." Rhyw ddynion ffolion eu ffull-a rwygai Gymraeg yn gan ddryll; Di orchest, onid yw erchyll, Ein hiaith ni o goegni a gyll ? Cenwch, siaredwch heb rodres—Gymry Gymraeg groyw gynes; A gwellhewch, neu ewch yn ncs, Atolwa, at blant Ales." Ie, yn wir, ewch i ryw "Giliau o'r golwg." Gadewch iddi farw 0 farwolaetli naturiol, yn hytrach I¡a'i llofruddio, y giw- ed anwladgarol. Wei, cyfarfod cyffelyb i'r rhai arferol a gaf- wyd eleni—Cymry a Saeson yn gymysgedig a'u gilydd, a'r rhai hyny y rhan fwyaf o honynt heb fod na beirdd na llenorion, na chefnogwyr7yr"'uii o'r ddau. Gadewch i ni fel [Cymry twym- galon, godi dydd yr hen "Ddewi Sant" yn fwy cyhoeddus o hyn allan. -:0:-
CHRISTMAS EVANS.
CHRISTMAS EVANS. YN EIN NESAF, cy- hoeddwn y gyntaf o dair o ysgrifau, gan y Parch. D. W. MORRIS, Hyde Park, Penn., ar "CHRISTMAS EVANS," yn nghyd a DARLITN o'r hen Christmas. Os ewyllysia rllyw rai gael copiau cliwaneg- ol, bydded iddynt an- fon eu liarchebion gyda throad y mail. M -:0:- GI'. 1 kiai (Jolygydd yr Herald Gymraeg yd- ynt y rhai canlynol: "Yn y DRYCII, y pap- yr Cymreig cyntaf a gyhoeddwyd yn .Am- erica, y mae:un a eilw ei hun "Traliaiarn," yn ysgrifenu yn gam- pus ar "Henafiaetli y Maengylchoedd Der- wvddol.' Diau yw Joel Cymreigeiddiwch diled- ryw yn uwch yn Amer- ica nag yn Kgbym.ru. Pe gellid dystewi y baldorddyn, Aneurin Fardd, byddai yn fen- dith."
CYFALAP A LLAFUR.
CYFALAP A LLAFUR. GAIR BACH AT GYMRY Y GWEITHFEYDD. Yn nghano] yr amseroedd caled presenol, pan y mae miloedd mwnwyr a gweithwyr haiarn a glo Talaethau Pennsylvania ac Ohio yn barod i feddwl fod cwmwl dudew anobaith wedi cau am eu penau-sefyllfa y gweithfeydd mor ansefydlog ac ansicr; masnach yr haiarn mor isel; a chynifer o ddynion gonest, diwyd ac ymroddgar allan o waith, efallai y goddefer i Hen Fwnwr profiadol roddi ychydiff o awgrymiadau calonogol, ac arwain meddyliau ei gyd- weithwyr at ryw gynlinn i lesoli y dos- barth gweithiol—y dosbarth hwnw sydd bob amser yn gwingo dan draed haiarnaidd Trais a Gormes percheno gion Cyfalaf, 0 holl feibion llafur ni orthrymir neb yn fwy na'r mwnwr dewr a'r gweithiwr hai- arn; ac ni cliamddarlunir neb yn fwy na'r glowr druan, pan y mae cynyrch ei lafur yn myned i'r farchnad, a'r Operator yn gofyn Sj4,$5, a $6 y dunell am dao.u Gofynir yn fynych gan y cylioedd, paham y mae y glo mor ddrud? a'r ateb a geir yn union yw, "0, the miner demands so much for mining it, and they are so outrageously uncontrolahle that yoit can not depend upon them to supply the demand." Felly eir ym- aith gan regi a melldithio y mwnwr tlawd ar hyd a lied y wlad, heb ei fod ef druan yn ymwybodol am ddim o'r anfri a deflir arno, hyd nes y digwydd efallai iddo, trwy ryw amryfusedd neu y trosedd lleiaf, gael ei wthio o flaen rhai o'n llysoedd gwladol. Yno teflir i'w wyneb bentwr o gyhuddiad- au anwireddus a dychymygol wedi eu cyn- llunio oil gan ei feistr ryw dro er cuddio ei ocraeth, ei ormes a'i orfaeliaeth uffernol ei hunan rhag y cyhoedd; a gorfydd iddo ddwyn pechodau llaweroedd. Y mae llawer iawn 0 ysgrifenu a siarad wedi bod, yn yr ugain mlynedd diweddaf, ar y moddion goraf i gael cyfalaf a llafur i gydweitliio ac i gyd-dynu, er lies y naill a'r llall. Bu adeg pan yr oedd y mwyafrif yn coleddu y syniad, mai Cyfraith Moses fu- asai yn tycio i symud y gorthrymder oddiar warau y gweithwyr. Os buasai y meistri yn gormesu, yr oedd yn rhaid i'r gweith- wyr sefyll allan-strike am dani-y gweith- iwr yn nacau gweithio ei hunan, ac yn gorthrymus nacau i arall weithio. Yn awr, y mae digon o ffeithiau i brofi na wnaeth ac na wna strikes ddaioni parhaus i'r gweith-
[No title]
Yn y DRYCII am Rhagfyr 24, 1874, cy- hoeddasom arlun prif adran yr adeilad mawr sydd yn cael ei wneyd yn Philadelphia, Pa., i ddathlu ynddo y can mlwydd cyntaf o oed y Weriniaeth Americ- anaidd; a'r wythnos hon y mae genym yr hyfrydwch i anrhegu ein darllenwyr a dar- lun hardd o'r Neuadd Arddwrol. Dyma yr adeilad prydferthaf o'r holl adeiladau mewn eysylltiad a'r antur- iaeth, yr hwn a gyn- lluniwyd gan Mr. II J. Schwarzmann, yr adeiladydd nodedig. Haiarn a gwydr ydyw y prif ddefnyddiau; ac mae yn 310 o droed- feddi o hyd wrth 160 o led, yn gorcliuddio oddeutu erw a chwar. ter o dir, rhwng yr adenydd a'r ewbl. Canolbarth y Neuadd fydd yr adran geid- wadol, 227 o droed- feddi o hyd wrth 77 o led, lie y cedwir y prif lysiau y bytli- wyrddion, y perthi, y man goed, y blodau a'r rhosynau; ac ar yr ochrau y bydd y tai brwd a'r ystafelloedd oerion. Ar y ddau dalcen, yr ochr dde a'r ochr aswy, mae ys- tafelloedd, v^hiaw-^i ymwisgo ac i orphwys -yn nghyda gwahan- ol swyddfau perthynol i adranau garddwr- iaeth. Yn agos i'r prif'adeilad bydd amryw fathau o fan adeiladau—tai y g winllanoedd, tai y perllanau trofabi a chartrefol, y Vic- toria Regia House, &c. Darperir y tir oddiamgylch yr adeilad at blanu gwahanol y 9 fathau o lysiau gerddi; a clian fod y Gym- deithas Arddwrol Genedlaethol wedi ym- uno yn yr anturiaetli gyda Dirprwywyr y Can-mlwyddiad, bernir y bydd y lie pan orplienir y cwbl, yn ardderchog ac ys- blenydd. Bwriedir planu coed ffrwythau o walian- ol fathau o bob parth o'r Talaethau Uned- ig-o lfinidwydd hinsawdd oer y gogledd i brenau eurafalau Florida, achoedffrwyth- au anghydmarol California. Cymerir y gofal mwyaf i wneyd hyn mor berffaith fel ag y cynrychiolir pob adran o'r wlad fawr lion yn^onest a ffyddlon; yna gall dyeithr- iaid ar'unwaitli gael golygfa gryno ar holl fawreddau rliyfeddodau llysieuol yr holl Undeb. Bwriedir dwyn y cwbl i gylch bychan, fel y gellir edrych ar y gwahanol gynyrchion yn tyfu yn yr un fan; a defnyddir gwres celfyddydol i dyfu y llys- iau a'r coedydd trofaol, y rhai na fwriad- odd natur i awelon oerion y gogledd chwythu arnynt. Hefyd tyfir llawer o goedydd, planigion, llysiau, blodau, rhos- ynau a [ffrwytliydd, perthynol i wledydd eraill, fel ag y^welir y gwahaniaeth rhwng eynyrchion gwahanol wledydd. Bernir y bydd yr adran hon y fwyaf dyddorol a phrydferth, yn holl arddangosiadau ys- blenydd Datliliad y Can-mlwydd cyntaf o oed y Weriniaeth fawr Americanaidd.