Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
21 erthygl ar y dudalen hon
DINAS OSHKOSH, AVIS.
DINAS OSHKOSH, AVIS. Masnach yn Farwaidd-Y Diweddar John E. Jenkins-Afiecity(I-Darlith Ednyfed. OSHKOSH, Ebrill 20.—Yn fasnachol, lied farwaidd ydyw y ddinas hon ar hyn o bryd-braidd yn waeth nag yr ym- ddangosai ychydig wythnosau yn ol. Y mae yma lawer o siarad a threfnu wedi bod yn ddiweddar er cael Sabboth tawel- ach; yr unig effaith amlwg hyd yn hyn ydyw gorchymyn ein maer i beidio agor y salwns ar ddydd yr Arglwydd, ond rhyw gellwair gyda golwg ar y gorchym- yn y mae amryw heblaw y rhai sydd yn perchenogi ac yn rhedeg y cyfryw leoedd. Hyderwn yn fawr er hyny y bydd y dos- barth goreu o'n dinaswyr yn sefyll fel un gwr wrth gefn y maer i orfodiufudd dod trwyadl i'r gorchymyn hwn o'i eiddo, ac y bydd siopau yr eillwyr, y cigyddion, y pobwyr, a phawb sydd yn tori y deddfau trwy fasnachu ar y Sabboth yn cael eu cau yn hollol am un diwrnod o bob saith. Ganol yr wythnos ddiweddaf bu farw yr hen wr parchus John E. Jenkins, yn 80 oed, ar ol gwaeledd o tua naw mis; a chladdwyd ef yn ngwydd torf fawr bore Sadwrn, y Parchn. L. C. Smith, Richard F. Jones a David Davies yn gweinyddu yn y ty ac wrth y bedd. Bydd yn chwith iawn yn eglwys y T. C. hebddo, ar gyfrif ei ffyddlondeb am 35 mlynedd gyda'r achos, ac fel diacon. Ein swvddog Jenkins heddyw—o'i henaint, Aeth i lioenus eilfyw. A dedwydd fywyd >'<}>■ Yn ngwlad iach engyl a Duw. Ei faith oes a roes i'r Iesu—a i gan I gvd i'w folianvi; Llawn aidd. trwy gall wemyddu, I lanw "i fwlch ffyddlon fu. A diacon da. CUll, a dwys-ydoedd, Gvda rhodiad cymwys; Fu 'n hvglod goloi'n eglwvs. Ar Dduw byw yr oedd ei bwys. Nos Sadwrn yr oedd Ednyfed yn dar lithio yn Eglwys Gyntaf y Bedyddwyr, ac yn pregethu y Sabboth i gynulleidfa- oedd lluosog fore a hwyr. Mae ei gan- moliaeth ef yn wastad yn ei waith. Mae Henry R. Williams yn wael iawn, ac ofnir am ei fywyd bob dydd. Edwin T. Lloyd sydd hefyd o dan y tywydd, ond yn codi a myned allan ychydig. Mae Hugh Williams o South Chicago yma gyda'i frawd a'i chwiorydd ar ymweliad. -Edno.
- Pe Byddai Haman Ddim Ond…
Pe Byddai Haman Ddim Ond Gwybod. Y fath nifer o blant sydd y dyddiau hyn yn cwyno gan gur pen. twymynau, ac anhwylder- au y cylla a'r coluddion. Pe byddai maruau ddim ond yn gwybod am rinweddau Mother Gray's Sweet Worm Powders ni byddent heb- ddynt. Maent yn hyfryd i'r archwaeth, yn hawdd eu cymeryd ac yn effeithiol yn eu gweithrediad. Gwerthir mwy o honynt nag o un feddyginiaeth arall i blant. Dylanwada Mother Gray's Sweet Worm Powders ar yr afu, glanhant y cylla, symudant y coluddion, ac maent mor ddiberygl a llaeth, Ar werth gan gyfferwyr am 25 cents. Anfonir pecyn ar brawf yn rhad i unrhyw fam ond iddi gyfeirio i Box 88, Le Roy, N. Y.
LAKE EMILY, WIS.
LAKE EMILY, WIS. Etholiad Cymry—Lien a Chan—Cymanfa- oed(I-Diangfa Gyfyng. LAKE EMILY, WIS., Ebrill 20.—Mae y gauaf oer a blinderog wedi eingadael un- waith eto, a'r gwanwyn fel ar ymddang- os gyda'i wenau teg a hafaidd, a'r fferm wyr yn hwylio ati o ddifrif i roi yr had yn y ddaear, fel y gallo dyn ac anifail ddysgwyl, o dan fendith Duw, am gynal- iaeth yn y dyfodol sydd o'n blaen. Yr ydym wedi ethol ein swyddogion plwyfol eleni eto, a da ydyw gallu dweyd mai Cymro ydyw swyddog uchaf ein plwyf. Byddwn yn ofni weithiau fod y Cymry yn llai pur i'w gilydd na'r un genedl dan haul; ond anrhydeddwyd Cymry yma eleni fel y dylasid. Ni raid i'r Cymro fod yn fwy gwasaidd na rhyw genedl arall, o herwydd y mae wedi profi fod ynddo allu a thalent, a medr neilldu- ol i roi ei alluoedd ar waith. Gadewch i ni ddyrchafu ein cenedl a'i pharchu, a pheidio ei diraddio yn ngwydd cenedl- oedd eraill. Cawsom gyngerdd da yma nos y 7fed cyfisol, gan gwmni o Ripon College, gyda'r amcan o gynorthwyo y brawd ieuanc gobeitliiol Robert Griffiths i gael addysg gerddorol ychwanegol yn Ripon. Mae y cyfaill hwn yn haeddu cael cyn- orthwy genym, canys y mae ar y ffordd i ddringo yn uchel fel datganwr. Os ca fywyd ac lechyd gall wneyd un o denors mwyaf swynol ein gwlad. Llwyddiant a'i dylyno. Cawsom gyfres o gyfarfodydd llenydd ol yn ystod y gauaf, y rhai droisant allan yn llwyddiant yn mhob ystyr. Da oedd gweled y bobl ieuanc yn cydio yn eu gwaith mor egniol. Gallwn ddweyd fod y cyrddau hyn yn fwy o adloniant lien yddol a cherddorol na'r un cyfarfod arall yn ein mysg. Tybiwn pe bae mwy o rai mewn oed yn rhoddi eu presenoldeb yn y cyfarfodydd llenyddol y byddai hyny yn welliant ac yn gefnogaeth i'r bobl ieuanc ddringo grisiau gwybodaeth. Meddylier am hyn yn y dyfodol, frodyr anwyl. Mae y Gymanfa Ysgolion sydd i'w chynal yn Engedi yn Mehefin nesaf yn agosau. Diau y dylid deffroi o gysgu a pharotoi ar ei chyfer. Bwriedir i'r Gym- anfa hon fod yn un neillduol, canys dys- gwylir enwogion i'n cynorthwyo i'w chynal; hefyd mae y flwyddyn hon yn haner can mlwyddol er pan ddechreuwyd yr ysgol Sul yn y parthau hyn. Yn awr, feirdd a llenorion, yn gystal a chantor ion, deffrowch ati, a hyny mewn pryd, fel y caffer Cymanfa lewyrchus. Hefyd, cofiwn am y Gymanfa Ddir- westol sydd 4 fod yn Lake Emily nos y 3ydd o Gorphenaf, a thrwy y dydd can- lynol. Ofnwyf nad yw y Gymanfa hon yn cael y lie priodol yn ein meddyliau. Cwyna rhai yn erbyn. iddi gael ei chynal ar y dyddiau uchod, am, meddant hwy, fod lluaws o'n pobl ieuainc eisieu crwydro yma a thraw i ddathlu y Fourth; dichon fod peth gwir yn hyny, ond efallai fod yna rywbeth yn is na hynyna hefyd yn gorwedd yn y galon, sef rhagfarn. Beth bynag am hyny, anogwn ein pobl ieuainc i'r Gymanfa Ddirwestol, a sicrhawn nas gallant gael lie gwell i fyned iddo. Ym- drechwn wneyd hon eto eleni mor llwyddianus a rhai a gawsom yn y gor- phenol. Cysurus yw genym ddweyd fod yr achos goreu yn dal ei dir. os nad yn enill cryfder. Cynorthwy nid bychan i'r ach- os crefyddol ydyw y gymdeithas sydd gan y Bobl Ieuainc, sef y Christian En- deavor. Mae ol y gymdeithas hon i'w weled ar ein pobl ieuainc yn tori allan yn ein cyfarfodydd crefyddol, megys y society a'r cyrddau gweddi, holl gyfar- fodydd crefyddol yr un cystal. Llwydd iant iddi yn y dyfodol. Dygwyddodd anffawd allasai droi yn ddamwain i'r hen pioneer Evan W. Hughes ar y 15fed cyf:so!. Fpl yr oedd ef a'i briod yn myned i Randolph i wneyd eu gorchwylion, dychrynodd yr anifail oedd ganddynt pan yn croesi afon Fox Lake, nes eu taflu i'r dwfr; modd bynag cawsant ddiangfa heb fawr niwed. Dysga hyn ni i fod yn ofalus pan yn myned trwy leoedd peryglus. — Yspiydd.
WEST PULLMAN, ILLINOIS.
WEST PULLMAN, ILLINOIS. Swyddfa y Plabo-P. M. ac Ymwelwyr Eraill-Dr. Harries a'r aelios Cl-iiireig. WEST PULLMAN, ILL., Ebrill Si.—Erbyn hyn y mae swyddfa gwaith y Piano, wedi cael ei symud i'r weithfa fawr yma, ond bydd gan y Llywydd a'r ysgrifenydd swyddfa yn Chicago fel o'r blaen. Cyr- aeddodd Mrs. D. T. Harries a'r tri phlen- tyn yma at ei phriod, o New Decauter, Ala. mae'r brawd Harries wrth ei fodd yn awr. Y mae Evan P. Richards, di- weddar o Minneapolis, ar ol bod am fis- oedd ar ymweliad a'i gartref yn Dolgellau, wedi aros yn y lie hwn i weithio, a phawb yn falch o'i weled. Anfonir ymaith o weithfa y Plano yn ddyddiol lwyth deg o gerbydau y rheilffordd o beirianau, a dysgwylir yn fuan yru 25 bob dydd, i ateb i'r alwad drom sydd am danynt. Ein cyfaill P. M. Evans, cyn-olygydd y Coliimbia fu ar ymweliad a'r lie, ac ni a obeithiwn am ymsefydlu yn ein plith. Dyma fel y canodd ein tri bardd ar dar- awiad am dano pan y'i gwelsant: Ai P. M. yw y chop yma—delw Gwir deilwng Columbia; Ei daliodd amser dyla. Lion wr doeth mae'n lienor da -Deudraeth. Hanes P. M. sydd yn emau-a deil Yn ddilys trw'r oesau: Y G'lomen aig wen in 'n gwau Adail hynt ei dalentau.—Gicaemidd. Trwy hwyl ein ter heolydd-yn wyladd Y gwela'r Golygydd; Ac a heibio bob gohebydd, Ie, hyd fyth *i glod a fydd.- W. IT-. Jones. Dydd Sadwrn ymwelwyd a'r lie gan oddeutu 150 o brjif arianwyr a masnach- wyr dinas Chicago, gan fyned yn fanwl trwy weithfeydd y Piano, a Whitman a Barnes. Cawsant eu boddhau yn fawr yn y lie, ac ni welodd y rhan hon o'r ddinas erioed y fath gynrychiolaeth o werth arian. Darparwyd ymborth iddynt yn eiddo Whitman a Barnes. Yn mhen yr awr ar eu hoi, gwnaeth gwr arall ei ymddangosiad am y waith gyntaf erioed yn y lie, nid amgen yr anwyl barchedig Dr. Harries, Chicago, a lion gan ein cenedl oedd y newydd am ei ddyfodiad. Y cyntaf iddo gyfarfod ar yr heol, oedd Alfred Harries, mab yr hybarch Thomas R. Harries, Laranie, W. Va., ond gynt o Ironton, Ohio—un o blant yr eglwys tra yr oedd y Doctor yn aros yno. Efe yn awr sydd yn eymeryd gofal ariand y Pull- man. Am ddau y Sabboth, pregethodd Dr. Harries yn afaelgar iawn i gynulleid- fa astud, yn ein hystafell newydd ragor- 01 yn rhan o fasuachdy Dafydd Rhisiart, sef y West Pullman Emporium. Yr oedd John R. Davies a Deudraeth wedi bod yn Ffair y Byd, ac wedi prynu saith dwsin o gadeiriau am bum sent y dwsin, a'n pen saer celfydd, John R. Davies, wedi eu hadgyweirio a'u trefnu yn dde- heuig iawn, fel y teimlem oil yn falch iawn o'n ty newydd i Dduw. Wrth glywed y Parch. Dr. Harries yn pregethu mor fywiog a da ymflamychodd ein tri bardd iddo: Wiw grebwyll ac arabed-a thonau Ftraethiueb, tan rhyfedd, I'r oos geir ya Harie, Gwedi selio gyda sylwedd.—W. W. J. Yn traethu yn gu ni a gawn-Harries, Am euraidd ffordd uniawn; Dros y groes. trwy'roes, a'r lawn, A'i hyawdledd cymodlawn.-Deudraeth. Gwr enwog. hawddgar, union—yw Harries, Gwir araul ei galon: Gwr i Dduw, yn gar i ddynion. A llawen wr yn ngwinllan Ion.—Givaenfab. 0 ie, fe gludodd ein Cymrawd, D. T. Harries, y cadeiriau yn rhad i ni o'r Ffair, am yr hyn y teimlir yn wir ddiolch- gar.-R. O.
WEST BANGOR, PA.
WEST BANGOR, PA. Cydynldeimlad a'r Parch. E. Foulkes Jones —Dwy Foneddiges Hawddgar-Ar Brawf. WEST BANGOR, Ebrill 21. -Gwelsom yn y DRYCH diweddaf am farwolaeth Mrs. Jones, priod y Parch. E. Foulkes Jones, Llansantffraid, G C., gynt o West Bangor. Nos Sabboth diweddaf dangos- odd eglwys y T. C. yma ei chydymdeim- lad a Mr. Jones yn ei drallod, trwy godi ar eu traed i arwyddo eu cymeradwyaeth. i'n gweinidog anfon ato i ddatgan ein cydymdeimlad ag ef. Y mae i Mr. Jones le cynes ac anwyl iawn yn mynwes yr eglwys hon, er ei arosiad yn ein mysg, er ei fod wedi ein gadael er's tuag ugain mlynedd. Mae dylanwad daionus ei laf- ur yn aros ar yr eglwys hon hyd hedd- yw. Diau na ddigia neb am i ni ddweyd na wnaeth neb erioed fwy, os cymaint, er adeiladu yr achos yma nag ef, a bu yma am fwy o amser na'r un gweinidog arall. Bu yn myned i mewn ac allan yn ein mysg fel ein bugail am tua 12 mlyn- edd, ac mae y rhai hynaf o honom yn cofio yn dda am ei bregethau grymus a dylanwadol, ac yr ydym wedi adrodd hyny i'n plant, fel y mae coffadwriaeth am ei enw yn cael ei gadw yn gysegredig yn ei hen eglwys o genedlaeth i genedl- aeth. Un o'r rhai mwyaf siriola chared- ig gyfarfyddais erioed oedd Mrs. Jones, hefyd, un o heddychol ffyddloniaid Israel. Gwnai yr hyn a allai bob amser i gyn- orthwyo ei phriod yn ei lafur, ac y mae yn eithaf diogel genym fod y symudiad wedi bod yn elw mawr iddi hi, ond cyd- ymdeimlwn o galon a'n brawd yn ei alar a'i golled. "Duw fyddo yn gymorth hawdd ei gael iddo yn ei gyfyngder." Digon anghysurus hefyd ydyw gorfod cofnodi ymadawiad dwy ferch ieuanc oddiyma yr wythnos hon am Wisconsin, sef Lizzie Williams, merch William E. Williams, Ysw., a'i chyfnither Miss Mary A. Prichard, Randolph. Daethant yma ar ymweliad tua saith mis yn ol, ac enill- asant le mor gysegredig yn ein serchiad- au, fel mai rhwyg annyoddefol i'r teim- lad oedd eu gollwng ymaith. Mae Miss Williams wedi mabwysiadu Milwaukee fel lie i gartrefu er's rhai blynyddoedd, ond nid ydym yn anghofio ei sirioldeb ,gwastadol, na'n serchiadau yn oeri yr un gronyn tuag ati. Un o blant Wisconsin ydyw Miss Prichard, ac yn sicr gallant fod yn falch o honi. Teimlad pawb yma ydyw, ymwelwch yn fuan eto. Cyn y darllenir y llythyr hwn yn y DRYCH, bydd y brawd David J. Roberts wedi dechreu ei daith bregethwrol trwy gylch y Dosbarth, ar brawf, yn ol rheol- au y cyfundeb yn Pennsylvania. Bydd yn Shenandoah, Sabboth, Ebrill 22, ac yn Slatington, Bangor a Wind Gap y Sab- bothau canlynol. Gwnewch yn fawr o hono, y mae yn frawd gwir deilwng. 11". C. R.
OR WESTERN RESERVE, OHIO.
OR WESTERN RESERVE, OHIO. YOUNGSTOWN, 0., Ebrill 2L-Nos Sad- wrn diweddaf cynaliwyd cvfarfod adlon- iadol o dan nawdd CVmdeitha.s Dewi Sant. Yr oedd yno gystadlu mewn canu, areithio ac adrodd. Cafwvd am- ser da. Bydd cyfarfod arall ar raddfa eangach ar nos Wener y 4ydd o'r mis nesaf. Y mae y Gymdeithas vn bwriadu cynal cyfarfodydd fel hyn yn y dyfodol, oblegid tybir y gwnant les mewn rhagor nag un cyfeiriad. Mae yr hen wraig dduwiol "Gran'ma" Evans, sef mam-yn nghyfraith Robert Roberts, Weathersfield, yn wael iawn ei hiechyd ac yn ddiargoel byw. Hen fam weithgar a duwiol yn Israel ydyw Mrs. Evans, \edi ac yn bod yn un o bileri achos Duw yn y lie uchod am ddeg o flwyddi. Er ei bod hi yn hen iawn, gobeithio er hyny nad ydyw dydd ei hymddatodiad wedi dyfod; dyna'n gweddi.—loan Istwyth.
[No title]
—Mae y Seneddwr Kyle wedi cynyg mesur yn y Senedd yn gwahardd pob math o waith ar y Sabboth.
--------------NEW YOHK A VERMONT.
NEW YOHK A VERMONT. UTICA, N. Y., Ebrill 24.—Neithiwr, yn addoldy y Bedyddwyr ar Broadway, cyn- aliwyd cyfarfod ymadawol i'r Parch. Da- vid Evans, y cynweinidog, a chroesawol i'r Parch. A. J. Morton, y gweinidog new- ydd. Yr oedd yr adeilad yn 11awn. Llywyddwyd yn ddeheuig gan y Parch. D. Puw Griffith (Efrog), Remsen, yr hwn hefyd a wnaeth anerchiad croesawol dy ddorol. Gwnaed anerchiadau i Mr. Evans ar ei ymadawiad i Westport, N. Y., a Mr. Morton ar ei ddyfodiad i Utica, gan Edward Roberts, Remsen: Robert Jones, New York Mills; W. C. Cudd, Parch. J. Hughes Parry, Benj. F. Lewis, Josiah Perry, Parch. J. M. Hutchinson, Lewis R. Evans a G. H. Humphrey, Utica. Darllenodd y Bardd Cudd yr englynion canlynol: Heb weniaith rhown dderbyniad-a nodded Beunyddiol i genad Wna estyn i ni'n wastad. Ddoniau'r Ion, yn rhoddion rhad. A. J. Morton, dyn, a doniau-llithrig, A llathraidd ei eiriau; Rhoi enwog lwythog lithiau Diderfyn wna'r clod-ddyn clau. Pur fel awdwr per flodau-hwn ydyw Gan wiwdeg feddyliau; A'r eglwys o'u peraroglau Wna'n hyfryd o hyd eu mwynhau. Buddiol i'r eglwys y byddo—deued Da nodded Ion iddo; Chwithau gan dan Duw yn gwrando Ei ddwysion gyngorion o. Canwyd gan John Hughes, New York Mills, a W. R. Thomas, Utica. Ar ran eglwysi Utica a'r Mills, cyflwynodd Mr. Hughes i Mr. Evans anerchiad wedi ei ysgrifenu yn addurnedig a'i fframio yn brydferth, yn datgan eu teimladau da tuag ato a'u hedmygedd o hono. Diolch- odd y ddau weinidog yn gynes am y geir iau caredig a'r datganiad o ewyllys da a ddangoswyd iddynt. Dywedodd Mr. Morton ei fod, yn ystod ei fywyd, wedi bedyddio oddeutu 2000 o bersonau -Dydd Llun gwerthwyd stoc ddillad Hugh E. Thomas, 64 Genesee Street, Utica, gan y sirydd. Y prynydd oedd T. Solomon Griffiths, a'r pris $5,900. Deallir y bydd i Mr. Griffiths gario y fasnach yn mlaen, megys yr arferai flynyddau yn ol. —Yn eglwys Bethesda (A.), Utica, nos Sabboth, derbyniwyd merch ieuanc yn aelod trwy lythyr o eglwys Seisnig; merch wedi ei geni a'i magu yn Utica. Sylwai Dr. Jones fod hyn yn beth new- ydd, gan mai yr arferiad fydd myned o'r eglwysi Cymreig i'r rhai Seisnig, yn hyt- rachnag o'r rhai Seisnig i'r rhai Cym- reig. Efallai, meddai y Dr., fod hyn yn ddechreu cyfnewidiad yn America, tebyg i'r hyn sydd yn cymeryd lie yn N ghymru. —Heno, bydd y Parch. J. Hughes Parry yn traddodi ei bumed darlith ar "Y Deuddeg Apostol" yn Moriah. —Nos yfory (Mercher) yn yr un lie cynelir Sociable dan nawdd Cymdeithas y Bobl Ieuainc; 10c. —Dydd Gwener, yn yr "Home for Aged Men," bu farw Hugh Hughes, yn 78 mlwydd oed. Yr oedd yn hen filwr, ac yn dra adnabyddus yn y ddinas. —Y mae Mrs. Jones, Spring Street, Utica, merch y Parch. James Griffiths, yn wael iawn ei hiechyd, ac ychydig ob- aith sydd am ei hadferiad. Claf iawn hefyd yw unig ferch y diweddar Richard Williams, y cigydd, yr hon sydd yn byw gyda'i mam ar Liberty Street. —Enwir Richard H. Jones, Rome, fel ymgeisydd am y penodiad am Arglygydd v Tlodion ar y tocyn Gwerinol yn Sir Oneida yn yr etholiad nesaf. —Yn Rome, nos Iau y 12fed, perfform- iwvd Drama newydd W. G. Jones, "Y Mab Afradlon," a chaed cyngerdd rhag- orol. Ymddengys y manylion yn ein ,,y nesaf. -Dydd Gwener, bu farw William Wheldon, yn nhy ei frawd yn nghyfraith J. R. Griffith, Remsen, yn 70 mlwydd oed. Bu yn Ustus heddweh y plwyf am 28 mlynedd. Gadawodd o frodyr a chwi- orydd. John Wheldon o Wisconsin, Grif- fith Wheldon o Colorado, Richard Whel- don o Nevada, Mrs. Ann Jones a Mrs. H. W. Ames, Utica. -Da genym fod Thomas Edwards, Poultney, Vt., wedi gwella yn ddigonol i fyned allan unwaith eto. —Agorwyd y farchnad gaws yn Little Falls, ddoe, a'r pris oedd o f)t i lOt y 4 pwys, pris da ar ddechreu y tymor. CYFARFOD LLENYDDOL BETHESDA.— Nos Fercher, Ebrill 18, cynaliwyd cyfar- fod llenyddol yn nghapel Bethesda (A.), Utica, W. W. George yn llywyddu. Gwobrwywyd y personau canlynol: Traethodau—' 'Bywgraffiad yr Efengylwr Luc," Griffith W. Griffiths; "Mam Tim otheus," Mrs. Richard Reese. Barddon- iaeth-Pedwar Penill ar "Yr Iesu a Wyl- odd," goreu o bump, H. W. Edwards (Dyffrynog); englyn i'r "Bicycle," goren o bump, W. C. Cudd, fel y canlyn: Haiarn-farch. hoew-fareh yw hwn—ac hoffus Ar gu-ffordd farchogWn; Dieisieu. dan bwn, A i'w deithiau bob dwthwn. Datganiaeth-Anthem, "Ar lan Iordd- onen ddofn," cor Bethesda, ar. John H. Reese; deuawd, "Lis Treigla'r Caveri." John H. Reese a Henry P. Williams; un- awd baritone, "Cymru," John G. Rob- erts unawd i blant dan saith oed, W. J. Hughes. Adroddiadau-I blant dan bymtheg oed, ugain adnod, "Cymro;" plant dan chwech oed, "Edgar bach a'r mochyn," (1) Alice S. Jones, (2) W. J. Hughes, (3; Nellie Griffith, (4) Richard Prichard; yr oedd naw yn cystadlu, a rhoddwyd gwobr fechan i'r oil. Adrodd — "Y Gwlith," Mrs. J. H. Reese. Can- wyd yn ystod y cyfarfod gan Harry P. Williams, John H. Williams, Mrs. E. L. Griffith; a chafwyd deuawd doniol ang- hyffredin gan ddwy ferch fechan Mr. a Mrs. Evan L. Griffith. Clorianwyd yr adroddwyr gan G. H. Humphrey, y dat- ganwyr gan Evan L. Griffith a W. R. Thomas, a'r beirdd a'r traethodwyr gan B. F. Lewis. Yr oedd cynulleidfa dda yn bresenol. NELSOX, Ebrill 21.—Ar yr wythfed o'r mis hwn bu farw Hannah, gweddw Thomas J. Jones, yn Nelson, yn 72 oed. Ganwyd Mrs. Jones yn Sir Gatrfyrddin, ond daeth i'r wlad hon yn 1850, a bu yn byw am dymor yn New Hartford, N. Y. Bu vn aelod gyda'r enwad Annibvnol Cymreig am dros haner can mlynedd. Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parchn. R. Hughes a Mr. Rixon. Gad- awodd wyth o blant: Miss Annie E, Jones. David W. Jones, Mrs. S. G. Jones, Nelson: Mrs. Evan Williams, Iowa City; J. L. Jones, Waterville; Mrs. Henry Roberts. Cora, 0.: James T. Jones. Co- lumbus, O.; a Willie B. Jones, Boston, Mass. C'VXGERDD MAWREDDOG YN REMSEN.— Cynelir cyngerdd yn Nghapel Ceryg1 Remsen, nos Wener yr wythnos hon, dan nawdd cymdeithas grefyddol y bobl ieu- ainc. Gwasanaethir gan y Curwen Glee Club o Utica ac eraill. Darperir prog- ram ardderchog, a dysgwylir cyngerdd swynol a dyddorol anghyffredin. Myn- ediad i mewn 25 cents. WEST PAWLET, VT., Ebrill 23.-Dyg odd y llech-berchenog William H. Hughes, Ysw., gydag ef c Hawaii, ffon hardd yn anrheg i'w oruchwyliwr, Rob- ert J. Roberts, West Pawlet: Ffon addas braff fynyddig-i wron, Yn arwydd parcliedig; Ffon hoff iawn o'i phen a'i phig, Ffon odiaeth orphenedig. Mae y chwarelau wedi ail gychwyn, ond y mae y cyflogau yn llawer llaL Ceir yma ugeiniau eto allan o waith. yn eu mysg rai wedi dyfod yma o Virginia a Pennsylvania. -De w i.
iDamwain Angeuol i Wm. E.…
Damwain Angeuol i Wm. E. Williams. Dydd Iau. Ebrill 19eg, cyfarfuWm. E. Williams, 29 Cottage Street, Utica, N. Y., a'i ddiwedd yn dra sydyn yn Theresa Junction, ar reilffordd y Black River. Yr oedd y tren ar yr hwn yr oedd Williams yn beirianydd, wedi myned ar y siding er mwyn i un arall fyned heibio, ond esgeu- luswyd cau y switch, a rhuthrodd y tren arall ar y siding, gan daraw -agerbeiriant Williams nes gwasgu y peirianydd i far- wolaeth rhwng y peiriant a'r tender. Mab oedd William i Edward ac Ellen Williams. Ganwyd ef yn Tyritan, Plwyf Bryncroes, Lleyn, Sir Gaernarfon, Rhag- fyr 8, 1843, a daeth i'r wlad hon gyda'i rieni pan yn bur ieuanc. Bu am 25 mlyn- edd yn un o weithwyr mwyaf vmddir- iedol Cwmni y Black River, yn ddyn cymeradwy a phoblogaidd gyda phawb, ac yn aelod dichlynaidd a defnyddiol o Eglwys Annibynol Plymouth, Utica. Cafodd angladd lluosog ac anrhydeddus brydnawn ddydd Llun o Eglwys Ply- mouth, y Parchn. M. E. Dunham a D. W. Bigelow yn gweinyddu, ac ar lan y bedd gan y Free Masons. Yr oedd y blodau yn brydferth tu hwnt i ddesgrif- iad. Gadawodd Mr. Williams wraig a thri o blant, Grace M., George R., a Clin- ton E. Williams; hefyd pump o frodyr, David E., Griffith E., a John E. o Utica, Edward E. o Seattle, Wash., a Robert E. Williams yn Nghymru, a thair chwaer, Mrs. John E. Jones, Mrs. Gaynor Jones, Utica; Mrs. Lewis E. Jones, Hinkley.
Lahsford, Carbon Co., Pa.I
Lahsford, Carbon Co., Pa. LANSFORD, Ebrill IT.—Traddodwyd pregeth angladifol hynod addas i'r diw- eddar fardd Gwalch Ebrill gan y Parch. Howell Davies yn yr eglwys Gynulleid- faol oddiar y geiriau "Mi a ymdrechais ymdrech deg." Dygodd Mr. Davies dyst iolaeth uchel i'r ymadawedig fel Cristion gweithgar a ffyddlon yn mhob man.- Nos Lun, Ebrill 9, cynaliodd yr Y. P. S. C. E. eu cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn yr eglwys Gynulleidfaol Seisnig. Yr oedd yn bresenol ddwy gymdeithas o Lansford, ac un o Summit Hill, yn rhifo dros 200 o flodau cymdeithas. Y llyw- ydd oedd John W. Thomas, bachgen ieu- anc gobeithiol, sydd a'i holl ysbryd yn y gwaith. Wedi iddo ef ddweyd ychydig eiriau i'r pwrpas, ac i'r gynulleidfa ganu dan arweiniad Crych Elen, cafwyd an- erchiad galluog gan y Parch. C. Roads o Philadelphia, llywydd Undeb y Dalaeth, yr hwn a ddywedodd fod yn Pennsylvan- ia yn unig dair mil or cymdeithasau hyn. -Araf v try olwynion masnach yma o hyd. Rhyw bedwar diwrnod yn yr wythnos weithir, a hyny am gyflogau bvchain. Y mae llawer o ddynion cryf- ion i'w gweled yn sefyllian ar yr heolydd heb ddim i'w wneyd. ac yn dyoddef eis- ieu. Gobeithio y tyr gwawr yn fuan.— Labrwr Tlawd.
West Pullman, Chicago, 111.
West Pullman, Chicago, 111. WEST PULLMAN, Ebrill 12.—Y mae amryw Gymry wedi dod yma i aros yn ddiweddar, megys y brodyr W. W. Jones a R. W. Jones, bardd a cherddor, o Cam- bria, Wis. John C. Davies o Carbonado, Iowa: W. R. Jones a H. Hughes o Bris tnl Grove. Minn.: J. D. Jones (gynt o'r Bala) a D. Morris (Abergwyngregyn) o MhmeapQlis: D. Jones, S. Chicago; Ed- ward Hughes, Aberdeen St., Chicago; W. Hayes Jones a T. R. Jones o Randolph, Wis., meibion yr hen batriarch John T. Jones, Lake Emily. Heblaw yr adnab- yddus Dafydd Rhisiart, y mae y poblog- aidd Morgan L. Morgans (Morgan Ddwy- waith), Pullman, yn dod yma i gadw maelfa. H. N. Jones, Minneapolis, un o fech- gyn hawddgar Lake Emily, Wis., sydd wedi cael ei ddyrchafu yn arolygwr cyn- orthwyol ar adran bwysig o'r gwaith yma. Diameu y bydd Cymry Minneapo lis yn cydlawenhau a ni yn ei ddyrchaf- iad. Bachgen rhagorol ydyw H. N.— R. O.
NEvVYDDION TRAMOR.
NEvVYDDION TRAMOR. [GYDA'R PELLEBYR TAXWERYDDOL.] PllYDAIN FAWR A'R WERDDON. Mesur Newydd y Teiiantiaid Difeddianed- ig—Daeargryn Dinystriol yn Nhir Groeg, &c. LLLNDAIN, Ebrill 24.—Yn groes i ddy- muniadau y Gwyddelod, y mae mesur newydd John Morley er gwneyd cyfiawn- der a thenantiaid difeddianedig y Werdd- on. yn caniatau hawl y tenantiaid new- yddion i aros ar eu ffermydd os yn dewis, ond rhoddir manteision iddynt os rho'nt eu lleoedd i fyny. Yn ol y mesur penod- ir tri o gyflafareddwyr, ac os gall tenant difeddianedig brofi ei hawl i adfeddian- iad, rhydd y cyflafareddwyr archeb am- odol iddo i gymeryd ei dir yn ol, ond bydd yr archeb yn ddirym os bydd y tir wedi ei ail osod, a'r tenant newydd yn gwrthod symud. Os bydd yn foddlon symud, penodir swm yr iawn fydd yn ddyledus iddo; telir haner y swm gan y llywodraeth allan o waddoliaeth neu ys- bail yr eglwys Wyddelig, a'r haner arall allan gan v tenant adferedig. Mae gan y cyflafareddwyr hawl i ben- odi y rhent a delir gan y tenant newydd, ond os bydd y meistr yn anfoddlon, gall apelio at lys tirol, yr hwn a benderfyna y mater yn derfynol. Os bydd ol ddyled yn aros ar den ant difeddianedig, rhaid talu ol-ddyled o ddim mwy na rhent dwy flynedd, ond telir haner y swm gan y llywodraeth. a'r haner arall gan y ten- ant. Os bydd meistr tir yn anfoddlon i adferiad tenant, gall ddadleu yn erbyn o flaen y llys, ac os bydd y llys yn ei erbyn, gall hawlio fod i'r tenant brynu y tir, a phenodir y pris gan y llys, ac os gwrthyd y tenant brynu ar y telerau hyn, ffor- ffedia ei hawl i adfeddianiad. Os pen- derfynay tenant brynu, awdurdodir y cyf- lafareddwyr i roddi iddo ryw swm hyd at $250, os bydd y ty anedd ar y tir mewn angen adgyweiriad. Y mae llawer o Ryddfrydwyr yn credu yr arweinia y mesur hwn i ymrysonau dibendraw. Yr unig gostau fydd raid i'r trethdalwr Prydeinig eu talu fydd traul v llys yn unig. Pan yn gwrthwynebu y mesur, dywedodd Balfour fod 1298 allan o 2700 o ffermydd lie y difeddianesid tenantiaid, wedi eu hail gymeryd gan rai newydd- ion, ac nad allai yr eiddo eglwysig ddal y draul newydd. Nos Iau, traddododd Ardalydd Salis- bury araeth i dorf anferth or Primrose League, yn y Covent Garden Theatre, Llundain. Prif bwnc ei arglwyddiaeth oedd dadleu fod y pwnc o ymreolaeth yn rhy bwysig i fyned yn mlaen ag ef heb apelio at y wlad ar y pwnc. Y mae Mr. Gladstone dipyn yn wael gan boen yn ei goluddion. hen afiechyd y mae wedi dyoddef oddiwrtho er's blyn- yddau, ond y mae yr ymosodiad diwedd- af yn waeth nag arfer. Enillodd Syr Vernon Harcourt glod mawr yn Mhrydain trwy ei gyllideb new- ydd. Dengys ol llaw un yn deall ei waith.
fam, A Oes Genych Chwi Faban…
fam, A Oes Genych Chwi Faban ? Os felly, mvnwch gan eich cyfferydd heddyw am 25 cents botel o Dr. Hand's Colic Cure. Mae pob plentyn yn cael y cnoi yn ami. Rhydd meddyglyn Dr. Hand esmwythvd dioed trwy symud y gwynt o'r cylla a llonyddu v giau, gan gynyrchu cwsg melus. Fam, meddyfiwch am y pryder a'r gofld a osgoir yn y dull hwn. Pan fyddo eich baban yn tori danedd mae Dr. Hand's Teething Lotion, pris 25 cents, yn lliniaru ac atal pob poen. Ar werth gan fferyllwyr.
PITTSBURG, PA., AIR CYLCHOEDD.
PITTSBURG, PA., AIR CYLCHOEDD. PITTSBURG, Ebrill 21.- Y mae ychydig adfywiad wedi cymeryd lie yr wythnos ddiweddaf yn y melinau dur a haiarn, ac amrai o'r streicwyr wedi dechreu gweith- io, ond eto mae yma filoedd yn segur, a lluaws o'r rliai hyny yn dyoddef angen. "Mawr ganmolir cyfarfodydd y Feibl Gymdeithas eleni, y rhai a gynaliwyd yn ddiweddar dan nawdd ein heglwysi Cym- reig. Yr oedd y lief ar wyr ar eu goreu yn~canmol a dyrchafu yr hen Lyfr ben- dio-edig. Wrth wrandaw yr hyawdl Twyson Jones yn llifeirio llaeth a mel yn nghapel South Side nis gallasai un o'n beirdd baidio dweyd- I Grist lesu a'i groes, Twyson-erys Yn arwr byw. ffyddlon: I bo bl ei oes mae Beibl Ion, A'i olud lon'd ei galon. Diau hwn vn ein dinas—yw'r uchaf Arechelcymdeithas: Ei bregeth ef sy'n gref. a gras Yn iach harddwch ei urddas. Mae Cymdeithas Pobl Ieuainc eglwys Fifth Ave. yn myned yn ei blaen yn dra llwyddianus yn mhob ystyr. Cafwyd social hynod lewyrchus a llwyddianus ar y South Side yr wythnos ddiweddaf. Er fod yr amser yn dlawd, crynhowyd tyrfa o gregyn heddwch. Da genym allu hys- cysu fod y Cymro haelfrydig Thomas Harris, 14th St., wedi ei ddyrchafu yn oruchwyliwr ar y puMlers yn y 10th St. Hill yr wythnos flaenorol- I fyny, frawd i fonedd-da esgyn Hyd ysgol gwirionedd: Amen. v sant. a myn sedd, Wr hael, mewn anfarwoledd. Pur wael ei iechyd ydyw Evan Rees, 29th St. y dyddiau hyn, ac y mae James Evans, Bingham St., o dan ofal y medd ygon er's wythnosau. Mae eglwys Gyn- ulleidfaol Seisnig y South Side wedi de- chreu adeiladu capel newydd ar 22nd St. yr wythnos hon, a thebyg y bydd yn dy hardd a chostfawr. Prif ysgogydd y mudiad yw Frank Edwards, Allentown, yr hwn sydd yn deilwng o glod am ei haelfrydedd a'i ymdrech diflino. Ben- dith ar yr anturiaeth. Bu Wm. Richards (Gwilym Glan Morlais), Carson St., yn wael iawn ei iechyd yn ddiweddar, ond y mae yn gwella. Wele ei brofiad yn ei gystudd: Nid ter mewn beirdd yw tori-eu barfau Heb orfod. mae 'n dlysni Bywiol wyneb; eleni Fe gadwa 'marf gyda nu. Tebyg y dydd eglwys Gymreig y South Side ac eglwys y 5th Ave., yn uno i gyn- HI eu picnic eleni. Deallwn fod eglwys ni 5th Ave. wedi pwrcasu pipe organ, gwerth dwy fil o ddoleri, erbyn y cyfar- fod neillduol a gynelir ganddi yn ystod yr haf dyfodol. Yn East Brady, Clarion Co., Pa., y mae Louisa E. Jones yn aros yn bresenol.-G.
R. THOMAS, GOMEE, ALLEN CO.,…
R. THOMAS, GOMEE, ALLEN CO., O. Adgofion am un o'r hen Sefvdlwyr fu yn ffyddlon gyda Cherddoriae^h. GOMER, 0., Ebrill 20.—Dylasai gair fod wedi ymddangos cyn hyn am Robert Thomas, un o hen amaethwyr y sefyd- liad, yr hwn fu farw ar yr 22ain o Ion- awr-hen wron dystaw, tangnefeddus, a grasol. Credaf mewn gwirionedd, fod mwy o wir wroniaeth mewn meibion tangnefedd nag sydd yn y llwfriaid ydynt beunydd yn cario eu cleddyfau ar eu cluniau. Cri rhyfel o hyd sydd gan ein tipyn byd ni, a gorchwyl hawdd iawn yw myned gyda'r llif, ond y mae yn gofyn cryn orchest a phenderfyniad i redeg yn ei erbyn. Un o feibion yr orchest gamp hon ydoedd ein cyfaill anwyl, Robert Thomas. Fel y rhan amlaf o dadau Cymreig' yr ardal, un o'r Hen Wlad oedd efe. Cychwynodd ei daith yn Bryngwran. Mon, G. C., yn 1822. Cafodd ei yn Bryngwran. Mon, G. C., yn 1822. Cafodd ei fagu gan ei daid a'i nam yn y Wydfa, am fod ei fam wedi marw o'r darfodedigaeth pan nad yd- oedd ond tair oed. Yir. oedd o dylwyth parchus iawn, a chrefyddol. Merch chwaer iddo ydyw y gantores enwog a'r Gymraes anwyl-garedig a hawddgar, Mrs. Jennie Alltwen Bell. Lima, 0.: ac ni bu gan briod erioed fwy o olwg ar ewythr nag oedd ganddi hi ar Robert Thomas. Gwnaeth ei goreu drosto hyd ddydd ei farwolaeth, a'r Arglwydd a fendithio ei henaid tirion. Yn 1852, aeth i gysylltiad priodasol a Miss Hannah Thom- as. Bryugwran eto; ac y mae yn ameus a gafodd neb erioed er dyddiau y fam gyntaf well ymgel- edd, mwy "cymwys," a ffvddlonach partner mewn bywyd. Croesodd y ddau y Werydd yn 1852. a gwnaethant eu cartref yn Paddy 's Run, Ohio; ond yn 1801, oddeutu adeg cvcliwvniad v rhyfel cartrefol, symudasant i Gomer, ac fel y rhan amlaf''a fwriasant eu coelbren "Tn Gomer, yma yr arosasant byth, Buont yn ddiwyd iawn, am flynyddau, "mewn amser ac allan o amser," hyd nesjy gwanhaodd iecliyd ein cyfaill yn 1882. Yr oedd beunydd yn cwyno gan gyf- vDgdra yn y frest, a ditt'yg anadl; a hyn ddarfu hwyluso yr ymddatodiad. yr hyn gymerodd le Ionawr 22, 16'.H. Yr oedd R. Thomas yn gerddor medrus er yn ieuanc. Yr oedd o dylwyth y gan. Bu ei dad am dros ddeugain mlynedd yn flaenor y gan yn nghapel y T. C. yn Bryngwran: ondiglpelvr A. yn Salem, yr arferai fyned. ac vr oedd vn un o gewn y cor yno yn nyddiau gweinidogaeth yr hybarch a'r enwog William Morris. Er iddo fod yn wasanaethgar am flynyddau yn nghaniad- aeth y cysegr yn y ddwy wlad, eto ni ildiodd i ewyllys Duw yn nhrefn y cadw cyn 1866, adeg diwysiad mawr a chyffredinol Gomer. dan lafur bugeiliol y diweddar Barch. J. Morgan Thomas. Bu Robert Thomas yn addurn i'w broffes hyd ei fedd. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf selog dros gadw l fyny y ddyledswydd deuluaidd; ac er fod ei nvchdod a l wendid flynyddoedd olaf ei fywyd wedi ei luddias i anturio nemawr ddim yn gy- hoeddus, eto yr oedd wedi bod vn ffyddlon iawn. Pan y siaradai mewn seiat. rlioddai ambell er- gyd gwerth ei chofnodi. Cof genyf iddo un- waith mewn cyfarfod parotoawl ddweyd am y ddau dy a adeiladodd, ac i'r ddau fyned ar dan. ond "gobeithiai yn sicr fod ganddo un ty nad elai ar dan i dragwyddoldeb." Dyma hefvd yw hyder cryf yr ysgrifenydd, oblegrid beth mewn gwirionedd oedd ynddo i Dduw maddeugar or- chymyn ei ddamnio ? Do. aeth adref vn y tang- nefedd mwyaf, "a'i ddwyn gan angylion i fyn- wes Abraham," ie, a mynwes yr Iesu hefyd. Dyn dystaw. o'r golwg. oedd R. Thomas; ac, O! mor wynfydedig fuasai eglwysi y byd pe bu asai mwy o'r ysbryd yma yn teyrnasu ynddynt. Hefyd yr oedd yn wr cadarn yn yr ysgrythyrau. Aeth ein cyfaill o'r byd fel y t>u fyw ynddo— mewn tangnefedd heddychlawn. Hebryngwyd ei weddillion ar y 24aiii o lonawr i feddrod y sefydliad. Gwasanaethwyd yn v capel ac wrth y bedd gan yr ysgrifenydd. Bydded i Dduw pob gras fod yn noddwr ac yn amddiffvnwr i'w weddw hyd ddiwedd ei tliaith laithau. pa bryd bynag y daw hyny, Dyma ddymuniad a gweddi ei gweinidog. W. M. D.
Budd-Gyngerdd i'r Cerddor…
Budd-Gyngerdd i'r Cerddor W. O. Jones, Bangor, Pa., yr Hwn Sydd yn Wael. BANGOR, PA., Ebrill 18.-Parhau i sef- yll allan wna gweithwyr New Bangor. Tybia rhai pe yr ymddygai y goruchwyl- iwr ychydig yn ddoeth, y deuai y gweith- wyr a'r perchenog Mr. Brown i ddeall eu gilydd. Mae Wm. O. Jones yn wael ei iechyd er's misoedd lawer, ond bydded hysbys i'w gyfeillion a'i gydnabod ei fod yn gwella, er yn annyben. Y mae can- torion Cymreig y dref hon wedi ymffurfio yn bwyllgor er trefnu a pharotoi i gynal cyngerdd er budd iddo. Y mae Jones yn adnabyddus a chyhoeddus yn y cylch- oedd hyn a Slatington fel cerddor galluog, ac y mae wedi bod -trwy y blynyddoedd yn barod ac ewyllysgar i wasanaethu ei gydgenedl yn rhad yn y cyfeiriad hwn. Buasem yn rhoddi Professor o flaen ei enw oni bae fod mor anliaAvdd gwahan- iaethu rhwng "proff." a "pwff." Gan ei fod mor adnabyddus yn Slatington, y mae rhai o'r cantorion yno wedi addaw dyfod yma i wasanaethu. Clywsom eu bod hwythau yn son am gyngerdd yno hefyd i'r un perwyl; ewch yn mlaen, gyf- eillion, gan eich bod yn gwybod ei fod yn deilwng wneuthur o honoch hyn iddo. Mae y pwyllgor yn bwriadu argraffu dig- onedd o docynau er mwyn i'r Cymry yn Wind Gap, Danielsville a Chapmansville gael eyfleustra i'w prynu trwy anfon at John Lyson Roberts, yr ysgrifenydd, neu y Parch. R. Lloyd Roberts v llywvdd. Cynelir y cyngerdd Mat 31. Cofiwch am dano i gyd, yn enwedig am y tocynau.- B. IT- Jones.
Springfield, Illinois.
Springfield, Illinois. SPRINGFIELD, ILL., Ebrill 18.—Mae llawer yn y lie hwn yn dvoddef o eisieu angenrheidiau y corff, o 'herwydd araf- wch masnach, er fod pethau ychydig yn well nag y buont. Mae llawer wedi dechreu gweithio yn y felin haiarn, ond y eyflogau yn isel iawn; ac i wneyd y drwg yn waeth mae y rhai sydd mewn awdurdod yn fwy dibarch o'r gweithwyr na phe baent gwn. Mae y felin wlaneni yn myned yn well nag y bu. ond fod y cyflogau 25 y cant yn is. Mae y gweith- feydd glo wedi eu parlysu i'r fath raddau fel nad oes fawr yn cael ei wneyd, ac mae y pris yn llai nag erioed. Nid oedd y glo hwn wedi ei ddarganfod pan oedd y Democratiaid mewn awdurdod o'r blaen, onide mae yn debyg mai yn gyffelyb y bu- asai yr eft'eithiau. Er dangos fod' y 'bobl wedi cael digon ar weinyddiaeth y Dems, gellir crybwyllmai un Democrat yn un- ig gafodd swydd yn yr etholiad diwedd- ar,, ac nid oedd neb yn rhedeg yn ei erbyn ef. Dywectir fod yma gymdeithasau cryfion yn cael eu galw A. P. A.. ac mai hwy fu yr achos o orchfygiad holl blant Mary, y rhai sydd mewn canlyniad wedi ] ffromi yn aruthr. Gobeithio y bydd iddynt hwy a phawb dderbyn o oleuni llachar y blaid Werinol, ac y cawn weled olwynion masnach yn chwyrnellu fel yn 1892.-Nid Democrat.
NODION PELLENIG.
NODION PELLENIG. DAEARGRYN YX NHIR GROEG. ATHENS, Ebrill 22.—Teimlwyd ysgyt- iad daeargrynfaol difrifol yn Nhir Groeg ddydd Iau, ac un ysgafnach ddydd Sul. Dinystriwyd pentref Neapilla, ar gulfor Atlanta, a gwnaed llawer o niweidiau drwy y dalaeth. Dinystriwyd pentref- ydd cyfain hefyd yn nhalaethau Larissa a Phocia. Mewn un man claddwyd pump o blant dan adfeilion adeilad; a lladdwyd pump o bersonau yn Calsais. Lladdwyd 12H o bersonau yn Locris, a 30 yn Proscino yn ystod gwasanaeth cref- yddol; hefyd 00 yn Malesina. Mewn am- ryw ardaloedd y mae teuluoedd cyfain wedi eu colli yn hollol. Yn Martino lladdwyd 39, gan mwyaf trwy ddym- chweliad eglwys lie yr oeddent yn addoli. Ni chollwyd llawer o fywydau yn nghyff- iniau Athens, ond gwnaed dinystr mawr ar eiddo. Am flynyddau yr ydys wedi bod yn adgyweirio hen eglwys enwog Byzantine, yn Daphne, ond siglwyd yr g,deilad a chraciwyd y muriau, fel nad oes gobaith ei hadferu yn awr. MANION. -Dywed y LlYllgesydd Mello mai yr achos o fethiant y gwrthryfel yn Brazil oedd llwfrdra y milwyr: nid oeddyntmor wrol a'r iiiorwvr. S-Licldwyd cadlong fwyaf Mello gan fad torpedo bychan, yr hyn sydd wedi achosi tipyn o gynwrf mewn cylchoedd llyngesol. -Y mae New Zealand yn awyddus i gymeryd meddiant o Samoa, ond gwrth- wynebir hyny gan Germani. -Dywedir yn swyddogol fod etifedd soron Rwsia i briodi chwaer Tywvsog Hesse, er mawr foddhad i deulu breninol Germani. -Cyflogwyd miliwn o bobl i gymeryd leiliadeb ddiweddaf India Brydeinig, a gwnaed y gwaith gyda chyflymder rhyf- ?ddol, gan mwyaf mewn un diwrnod, Dhwefror 26, 1891.
Meddyglyn Crwanwyn Digyffelyb.
Meddyglyn Crwanwyn Digyffelyb. KID oes braidd ddiwrnod nad yw y cyfferwr adnabyddus Jonx B. WILLIAMS, 44 South Street, Utica, N. Y.. yn derbyn cymeradwyaethau i'w "Kidney Cure" digyffelyb. Dyma un dyddiedig Stephen, Minn., Mawrth 24, 1894: "Derbyniais datr potelaid o'ch meddyglyn, ac nis gallaf fyn- egu y lleshad a gefais trwyddo: ond un peth sydd sicr, fy mod yn teimlo yn dda, ac wedi en- ill 13 pwys. Yr wj-f yn awr vn pwyso 1«2.—JOHN R. NVALTEIIS,"
Advertising
[PRIS YMOFYKIAD §1.00.] YMOFYNIAD AM THOMAS O. DAVIS (Tom Bach)—dyn byr, gwallt tywyll, tua 45 mlwydd oed. Rai blynyddau yn ol bu yn gweithio yn Streator, 111. Yr oedd yn Coal Creek, Col., tua naw mlyn- edd yn ol, ond yn bwriadu myned i New Mexico. Diameu mai tua'r gweithfeydd glo y mae os yw yn fyw. Byddai ei chwaer yn bur ddiolchgar am air o'i hanes. Cyfeirier-Mrs. SARAH E. JONES, Postville. Neb. 15-17 b d Everybody's Shoes should be kept oiled with Vacuum Leather Oil. It saves money-the shoes last longer Doctor's bills—wet feet. Harness needs it also and more of it at a time. 25c. worth is a fair trial-and your money back if you want it—a swob with each can. For pamphlet, free, How TO TAKE CARE OF LEATHER," send to VACUUM OIL CO.. Rochester, N. Y.
NODION PERSOXOL.
nawn yr 28ain, daeth tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Aed a'r corff o dy Thos. H. Hughes i'r capel Seisnig, a gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Grace o Idaho Springs, a chanwyd yr hen emynau Cymreig. Dae- arwyd ei weddillion yn mynwent yr Od- yddion. -Cyfaill. FFAEN YN LLADD DAVID WALTERS. CAMBRIA, MIXX., Ebrill 17.—Mis i heddyw, yn fihy ei ewyrth a'i fodryb, Mr. a Mr. R. Williams, bu farw DAVID WALTERS, leu., yn agos i 21 mlwydd oed. Mad oedd i David Walters, ac wyr i'r diweddar ddiacon John Walters, Horeb. Bu ei fam farw ar ei enedigaeth. Yr oedd hi yn ferch i'r diweddar Hugh Williams. Ei afiechyd oedd enyniad yr ymysgaroedd mewn canlyniad i ffiien (bean) lynu yn y coluddion. Cyflawn- wyd operation arno gan dri o feddygon; ond profodd yr oil yn ofer, a daeth ang- eu wedi cystudd byr a thra phoenus. Yr oedd David yn fachgen ieuane dichlyn- aidd, ac yn un a hoffid yn fawr gan ei gyfoedion. Dylynai foddion gras yn nghapel Salem (A.), ger llaw i'w gartref. Cydymdeimlir yn fawr a'i dad galarus a'i luaws perthynasau eraill yn ngwyneb ei ymadawiad anamserol i'n golwg ni. Gwers fawr yr amgylchiad hwn eto yw, "Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid." Claddwyd ei gorff y dydd Llun canlynol yn mynwent Cam- bria, gan dyrfa luosog. Gwasanaethwyd yn y ty gan yr ysgrifenydd, ac ar lan y bedd gan y Parch. David Edwards, Lake Crystal; a phregethwyd y Sabboth, Eb- rill laf, ar yr achlysur gan yr ysgnfen- ydd yn nghapel Horeb oddiar Salm 90:5, 6 —T. E, Hughes.