Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
C Y N W Y S I A D.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
C Y N W Y S I A D. Hysbysiadau 1,2 Cofnodan a Sylwadan im 3 Y Gwr o'r Hendy-Llwyddiant yr Achos gorea 4 Y Ford Gran 5 Colofn y Gweithiwr—Briwsion o Bengwem 6 Llanelli—Glanau'r Dyfi—Rhymni—Liverpool a'r Amgylchoedd-Rhoudda Fach 7 t BRIF ERTHYGL- Purdeb Etholiadan 8 Coleg AberyBtwyth 8 Llythyr Llunilain-Cyfarfod Chwarterol Arfon- Caerphili-Bryngwenith 9 Claddedigasth y Parch T. Thomas, Llanfar- Pembre-Undeb Ysgolion Dwyreiniol Penfro— Cyfarfod Anrhegu y Parch Ll. E. Jenkins 10 N.ediadan o Dd)fed-Gohebiaothau 11 Y Wers Ryngwladwriaetbol 12 Llyioedd Trwyddedol Gogledd Cymru-Cyfa fod- ydd—Geni, Priodi, a Marw 13 HysbyBiadan 14,15,14
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llctw.-—Bryntnenyn—Athrofa Caerdydd—Bethesda'r Fro-Cyfundeb Glanau yr Wy Hen Gapel Maellclochog- Taihirion-Cyfaill- Ll wynpia- -'J'onrhywgaled—Agoriad Llyfrfa Prifysgol Aberystwyth—Bwrdd Ysgol Llangiwc — Ffurfio Ysgol Newydd|.yn Cwmtwrch—Y Dyn o'r Lleuad— Nodion Dirwestol — Gogledd Ceredigion Ysgoloriaeth Coleg y Bala-Adolygiad y Wasg -Alclitie a'r Cylehoedd Woolwich-Llanstephan a'r Cyleh-Nodioii o Lannu Taf Porthmadog—Cwmcynon—Eglwysnewydd— Manvolaethau —Cyfarfodydd, &c., &c.
Hysbysiadau.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Hysbysiadau. Heb fod dros dair llinell, Is. y tro am,bob llinell ychwanegol,3c. Ond ymddengys Hysbys>aan.u am Vspaidoamserambrisiaullaweris.
PURDEB ETHOLIADAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PURDEB ETHOLIADAU. YR ydys y dyddiau hyn yn gwneyd prawf ar gyfreitblondeb dychweliad nifer o aelodau Seneddol, a chan nad beth fydd effaith y prawf ar seddau yr aelodau hyny, nis gall fod dwy farn am lygredd yn yr etholaetbau. Anhawdd iawn ydyw gallu profi mewn Ilys barn i foddlonrwydd barnwyr y wlad fod moddion anghyfreithlon wedi eu defnyddio, er fod y peth yn ddigon gwybyddus yn yr etholaethau. Metbodd y ddeiseb yn erbyn Mr BALFOUR yn Nwyrain Manchester, ac y mae arweinydd yr Wrthblaid yn ddyogel yn ei sedd. Nid oedd neb yn awgrymu dim yn ei erbynef yn bersonol, ond bernid y galJesid olrhain moddion anghyfreithlon o'i du ar ran ei orucbwylwyr. Methwyd gwneyd hyny-o leiaf, methwyd i foddloni y barn- wyr. Mewn acbosion fel hyn, dibyna y cwbl ar y tystion; ac, fel rheol, y mae y dynion a brynir mewn adeg etholiad yn troi allan yn dystion digon cyffredin yn y Ilys. Felly y bu yn Manchester. Hyd yn nod pe llwyddasidi ddiseddu Mr BALFOUR, ni buasai neb yn meddwl cysylltu dim o'r drwg ag ef yn bersonol; ond yn sier, buasai yn anhawdd iddo jntau ddianc o'r fath sefyllfa yn gwbl ddianaf. Ond yr oedd un peth yn ddigon amlwg, er, hwyrach, na fynai y barnwyr ei weled felly, sef fod digon o ddiod yn yr etholiad, a hyny am ddim. Ymddengys fod un o brif gefnogwyr Mr BALFOUR yn dal cysylltiad a darllawdy, a bod yn nglyn a'r darllawdy hwnw nifer o dafarndai yn rhwym. Yr oedd, yn ol tyst- iolaeth y rhai a alwyd i'r llys, ddigon o ddiod yn y tafarndai hyn am ddim. Nid oedd y cefnogydd selog yma yn oruchwiliwr i Mr BALFOUR, ac nid oedd yr un o'r tafarn- wyr chwaith, ond yr oedd yn amlwg eu bod yn llygru yr etholwyr. Y mae y ddeddf a basiwyd rai blynyddoedd yn ol i geisio s'erhau purdeb yn yr etholiadau yn ddiffyg- iol iawn mewn rhai pethau. Y mae yn afresymol 0 gaeth a Uym mewn rhai pethau, ond yn llawn mor afresymol o lac mewn pethau ereill. Gwaherddir i ymgeisydd wario mwy na swm penodol ar etholaeth neillduol, a cbydnabyddir yn gyffredinol yn awr fod y swm hwnw yn annigonol i faint- ioli yr etholaetb. Ni chaniateir, ychwaith, i dalu am fentbyg cerbyd ddydd yr etholiad, a thaimlir y ddarbodaeth hon yn anghyfleus- dra yn fynycb. Ond, yn ol dim a ddaeth i'r golwg yn Nwyrain Manchester, gall cwrw lifo yn ffrwd gyson i'r sawl a fyno ei yfed mewn ambell i dy, ac eto i'r sedd fod yn ddyogel i'r neb a fyddo ynddi. Y mae prawf rhai o'r deisebau ereill ar droed yn awr, ac nid ydys yn gwybod eto beth fydd y diwedd. Yn erbyn naw o'r aelodau y deisebir, ac y mae wyth o'r naw yn Doriaid. NAORIJI, yr Indiad a ddychwelwyd dros ran o Lundain, yw yr unig Ryddfrydwr y deisebir yn ei erbyn. Bychan iawn oedd ei fwyafrif ef, a dichon y gellir profi iddo gael nifer o bleidleisiau anghyfreitblon, a thrwy hyny ei ddiseddu. Amser a ddengys. Yr aelod dros Fwrdeisdrefi Maldwyn yw yr unig un o Gymru y ceisir ei ddiseddu. Daw ei brawf ef ddechreu y mis nesaf. Nid oes dadl nad oedd yr Etholiad Cyffredinol diweddaf, a'i gymeryd drwy y wlad, yn llygredig iawn, er hwyrach nas gellir profi byny yn y fath fodd ag i beryglu y seddau i'r rhai sydd yn eu dal. Yfed oedd yr elfen amlycaf mewn llygredd. Trowyd yn agos bob tafarndy at wasanaeth ymgeiswyr o liw neillduol. Dywedir fod Cymdeithas y Dar- llawyr, a'r rhai a gefnogant y fasnach mewn diodydd meddwol, wedi gosod can' mil o bunau o'r neilldu at wasanaeth yr etholiad. Onid yw hyn yn ddifrifol? Yr oedd pawb yn deall ystyr y ddiod a geid am ddim, ac eto nis gellir atal yr ywgeisydd a gefnogwyd felly gadw ei sedd. Y mae yn hen bryd gwneyd terfyn ar y fasnach felldigedig hon. Yr ydym yn dysgwyl daioni hyd yn nod o'r drwg hwn. Amcan cefnogiad y fasnach ydyw sicrhau etboliad ymgeiswyr sydd yn ffafriol i iawn pan atelir trwydded; a cban mai Toriaid, fel rheol, sydd felly, hwy a gefnogir ganddynt. Gobaith eu helw yn unig sydd tu ol i'w hymdrechion hwy, ac nid ydynt yn celu hyny a chwareu teg iddynt, nid ydynt yn hyn yn wahanol i bob! ereill. Nid ydynt yn gofalu am Ynireolaeth i'r Iwerddon na'r Eglwys yn Nghymru ynddynt eu hunain, ond defnyddiant y ddau i geisio sicrbau eu buddianau eu hunain. Y mae dysgwyliad y wlad wrth y Senedd bresenol i wneyd rhywbeth yn effeithiol yn nglyn a'r fasnacb bon. Ffynonell o lygred- igaeth ofnadwy ydyw, ac oni cheir atalfa arni cyn hir bydd wedi gwneyd difrod mawr iawn. Cydnebydd pawb yn awr nas gellir ei gadael fel y mae yn ei rbwysg bresenol, a hyny a wê1 ei cbefnogwyr, a'u bymgais bwy yw dycbwelyd y.blaid debycaf 0 waddoli y fasuach wrth geisio ei diddymu. Y mae gwaith mawr o'n blaen. Bydd tipyn o groesi llawr y Ty bwyrach cyn y ceir terfyn arno, ond y mae amser o du cyfiawnder, a pburdeb, a sancteiddrwydd.
COLEG ABERYSTWYTH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COLEG ABERYSTWYTH. Y MAE y sefydliad pwysig a llwyddianus hwn yn awr yn ei unfed flwydd ar hugain. Agorwyd y Coleg yn Hydref, 1872, o dan ofai y Prifathraw Edwards, a buasai yn anhawdd cael dyn cymhwysach i'r gwaith. Nifer y myfyrwyr ar y pryd oedd 25, ac y mae ynddo yn awr 220. Y Coleg bwn oedd ymgorfforiad cyntaf y meddylddrych o Brifysgol i Gymru, ac obono ef y deilliodd y ddau ereill sydd yn cydymgais ag ef i gyfranu addysg uwchraddol i'n cenedl. Taith digon helbulus a gafodd y Coleg hwn am gryn amser, ac ni raid iddo heddyw ddiolch i ambell un sydd yn proffesu ei gefnogi ei fod yn fyw. Gorchwyl mawr oedd gallu gorchfygu cyfnod y dirmyg. Yn ei ddecbreuad yr oedd hwn, wrth gwrs. Chwerthin yn ddirmygus am ben y meddyl- ddrych yr oedd ambell un, ac yn darogan mai i'r pen y delai yn fuan. Ond llwydd- odd y sefydliad i oroesi y dirmyg. Yna daeth cenfigen enwadol i mewn yn ei le. Deallwyd ei fod yn myned i fyw am dipyn beth bynag, a'i fod yn casglu nerth o hyd, a cheisiwyd codi rhagfarn sectyddol yn ei erbyn, gan awgrymu mai Coleg enwad neillduol ydoedd i bob pwrpas. Arf miniog iawn oedd hwn, ac yr oedd yn tori yn ddwfn ond methodd gyrhaedd einioes y sefydliad. Mynai fyw a chynyddu er pob ymgais i'w ddyfetha. Yna deallwyd ei fod yn allu Ymneillduol rhy gryf, a'i fod yn rhy bell oddiwrth ddylanwad Eglwysig, a gwnaed ymgais gyfrwys, ac agos bod yn effeithiol, i'w ddifodi, trwy i'r Ddirprwyaeth ar Addysg Uwchraddol awgrymu dau goleg, y naill i'r Gogledd a'r Hall i'r De. Yr oedd y cynllun bwn yn penderfynu tynged Aberystwyth, ac ni feddyliodd y rhai oedd tu ol iddo y buasai yn beiddio ei wrthsefyll. Ond yr oedd gormod o fywyd yn y sefydliad, ac yr oedd wedi gwreiddio yn rhy ddwfn yn serch y wlad i ymostwng i'r oruchwyliaeth hon heb ymdrech galed, a dyweyd y lleiaf. Caed prawf cyn hir' fod yn well gadael iddo, ac yn hytrach na'i ladd, rhoddi iddo gyfran o'r gynaliaeth wladol. Ond yr oedd ei gefnog- wyr yn penderfynu dal i ymladd nes y gosodid ef ar yr un tir a'r ddau arall, mor bell ag a fynai y Llywodraeth, a llwyddwyd yn yr amcan. Sefydlwyd y colegau ereill o dan gysgod Eglwysi Cadeiriol, a chestyll pendefigion, ac yr oedd ar y pryd yn y naill a'r llall ddeoniaid o ddylanwad pur fawr, ac yn amlwg yn llywodraethiad y colegau. Ond yr oedd Aberystwyth yn rhydd oddi- wrth ddylanwadau felly, er fod ei lywydd yn Eglwyswr selog. Bellacb, y mae y tri cboleg yu llawn gwaith, ac yn dwyn arwydd- ion amlwg o fywyd ac iecbyd, a pherffaith gydgordiad rbyngddynt. Y mae Coleg Aberystwyth wedi bod yn bur ffodus yn llwyddiant ei fyfyrwyr mewn arholiadau. Ceir cyfartaledd mwy ohonynt wedi pasio nag yn yr un o'r lleill yn ysbaid y blynydd- oedd y maent wedi cyd-fodoli. Ac er ei fod o dan fesur o anfantais, am ei fod wedi ei sefydlu mewn cwr o'r wlad sydd yn deneu ei phoblogaeth, eto llwydda i dynu iddo o bob rhan o'r Dywysogaeth, a nifer cymbarol fawr o Loegr hefyd. Diau fod a fyno y dref a'i chysylltiadau mewn rhan a hyn. Y mae Aberystwyth yn sicr o fod yn iachach, yn foesol a naturiol, na'r un o'r ddwy dref lie y mae y colegau ereill, ac y mae hyny yn rhywbeth i'w ystyried. Pryder mawr i rieni ydyw anfon eu plant oddicartref am eu haddysg, a da gauddynt gael lie i ddeall fod addysg yn bosibl iddynt ai, lai 0 brofedig- aethau nag sydd yn amlwg mewn ambell i dref. Y mae yn deg i gydnabod hefyd fod Dr Charles Edwards, diweddar Brifathraw y Coleg, wedi llwyddo i roddi cymeriad r, crefyddol i'r sefydliad yn nghyfrif y wlad. Yr oedd rhai-pobl nad ydynt yn deall Cymru —yn beio yn fawr fod y Prifathraw yn pregethu cymaint; ond dyweder a fyner, pregethu y Prifathraw roddodd gymeriad i'r Coleg, ac a wnaeth fwy na dim arall i'w sicrhau yn serch y genedl, ac a wnaeth ei ddifodiad yn anmhosibl pan gynygiwyd at hyny mor gyfrwys ac effeithiol. Anheg ac augharedig iawn fyddai anghofio gwaith a llafurus gariad y diweddar Syr Hugh Owen