Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR LLUNDAIN. Cymdeithas Rhyddhad Crefydd. Dydd Linn, Tachwedd 21ain. DYDD Mawrth diweddaf cynal- iodd Cymdeithas Rhyddhad Crefydd un o gyfarfodydd ei Chynghor yn un o ystafelloedd y Memorial Hall. Pasiwyd penderfyniadau yn datgan llawenydd fod y fath lu o ymgeiswyr Seneddol wedi dyogelu seddau yn yr Etholiad Cyffredinol diweddaf oeddynt yn bleidiol i'r egwyddor o berffaith ryddid a chydraddoldeb crefyddol. Pasiwyd hefyd benderfyniad yn ngtyn a Dadgysyllt- iad yr Eglwysi Sefydledig yn Nghymru ac Ysgotland. Buasai yn dda genym weled gwell cynrychiolaeth o Gymru yn mynychu y Cynghor. Yr hyn a ddaeth i'n meddwl ar unwaith ydoedd-Yn mha le y mae cyn. rychiolwyr y genedl yn Llundain ? Pa le y mae y gweinidogion a'r lleygwyr o'r gwa- hanol enwadau crefyddol Cymreig ? Prin yr ydym yn credu eu bod ar y Cynghor. Gwyddom am rai fuasent yn ffyddlon pe gelwid am eu gwasanaeth. Yr ydym yn tybied fod yr adeg bresenol yn gyfryw y dylai y Cymry fod ar y blaen, gan fod cwestiwnDadgysylltiad yrEglwys Sefydledig yn Nghymru ar fin cael ei benderfynu. Mae swyddogion y Gymdeithas yn ei cham- gymeryd hi yn fawr drwy esgeuluso yr elfen Gymreig yn y mater mae i'r cwestiwn ei agweddau cenedlaetbol nas gall neb ond Cymry eu deall yn drwyadl. Yr ydym yn llwyr obeitbio y bydd i'r Cynghor ychwanegu at nifer y Cyinry. Credwn yn sicr y bydd hyny yn ychwanegiad nertb. Deallwn fod bwriad i gynal demonstration Cymreig yn mis Chwefror ar Ddadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Yr ydym yn gobeithio y I trefnir i gael, nid yn unig un cyfarfod mewn man canolog, ond amryw yn ngwahanol gyrau y Brifddinas. y Trwyddedau CYNALIWYD y gyntaf o gyn- adleddau i ymdrin a'r cwestiwn o ddiwygio y trwyddedau yn St. James' Hall prydnawn ddoe. Fel y gallesid tybied, yr oedd Mr Hugh Price Hughes yn un o'i fanau hapusaf pan yn ymdrin a'r cwestiwn. Dywedai eiriau cryfion ia wn-ond nid oedd, i'n tyb ni, yn lliwio yn rhy gryf. Yr oedd y fasnach feddwol yn allu aruthrol ac yn y rhyfel o'n blaen, yr oedd yn naturiol yn debyg o gael cymhorth pob twyllwr, dyhiryn, a tbroseddwr. Ar y llaw arall, yr oedd yr achos dirwestol yn sicr o gael cymhorth yr eglwysi, ac yr oedd yr eglwysi wedi deffroi o'r diwedd. Ni wyddai am unrhyw fater oedd yn cael y fath dderbyniad cyflym a chroesawgar a'r un dirwestol yn ei wahanol agweddau. Yr oedd merched y wlad hefyd o blaid dirwest, ac er nad oedd ganddynt bleidleisiau, credai, pan y caent hwy, y defnyddient y cyfryw o blaid diwygiadau cymdeithasol. Credai y gwelent cyn hir wrthryfel y merched yn erbyn anghenfil y ddiod feddwol. Yr oedd un arf arall gan- ddynt, sef gweddi. Nid oedd yn tybied y gallasai y dychymyg cryfaf bortreiadu dyn yn gweddio o blaid llwyddiant y fasnach feddwol. Yr oedd yn argyhoeddedig y derbyniai y fasnach y fath ddyrnod yn ystod y deuddeg mis nesaf, dyrnod nad ymunionai byth oddiwrth ei effeithiau. Wrth ymdrin a'r feddyginiaeth, dadleuai dros ddechreu trwy gyfyngu un tafarn ar gyfer pob mil o'r boblogaeth. Golyga hyn fod 80,000 or 120,000 i gael eu cau. Os nad oedd y Weinyddiaeth bresenol yn barod i gymeryd y cwestiwn i fyny yn drwyadl- os oedd yn unig yn myned i dincera-nid oedd dadl na theflid hwy alian ar unwaith gan bleidwyr y fasnach, am na fyddai cyfeill- ion sobrwydd yno i'w cynorthwyo. Terlyniti trwy ddweyd mai yr un ffordd i wella y fasnach ydoedd ei gwella oddiar wyneb y ddaear. Yr oedd myn'd' nodedig ar ei sylwadau, yr hyn a brofa fod calon y bobl o blaid deddfwriaeth fuan a thrwyadl ar y cwestiwn. Yr oeddym wedi llwyr fwriadu cyfeirio at benderfyniadau Cynghor Sirol Llundain yn uglyn a'r di-waith hefyd at y gwahanol welliantau y maent wedi ymgymeryd a'u cario allan ond rhaid sychu yr ysgrifell am yr wythnos hon.

CYFARFOD CHWARTEROL ARFON.

CAERPHILI.

BRYNGWENITH, SIR ABERTEIFI.

COLEG ABERYSTWYTH.