Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU, O DDYFED.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU, O DDYFED. Clywais fod cynadledd ddiweddaf Undeb Ysgol- ion Dwyreiniol Penfro yn un bur fywiog ar y cyfan. Dywedodd un, os oedd bywiogrwydd y gynadledd yn ddangoseg o fywiogrwydd ysgolion yr undeb, fod gobaith cryf am i waith ardderchog gael ei wneyd yn yr ysgolion hyn yn y dyfodol. Dymunaf longyfarch y Parch W. Morlais Davies, Abergwaun, ar ei waith yn tori tir newydd ac ymddangcs yn mhlith cyfansoddwyr cerddorol ein cenedl. Mae ei gan a chydgân I M6r o GAn yw Cymru gyd,' yn sicr o ddyfod yn boblogaidd, gan ei bod o gylch hawdd, yn nwyfus a melodus, a'r gerddoriaeth wedi ei phriodi a geiriau sydd yn llawn tan gwladgarol. Moes eto. Y mae llythyr diweddar y Parch L. James, Brynbauk, yn deilwng o sylw, nid yn unig aw- durdodau y TYST, ond hefyd swyddogion yr holl bapyrau Oymreig. Mr James ydyw yr unig wein- idog Annibynol sydd yn aelod o Gynghor Sirol sir Benfro, ac nid aelod yn unig ydyw, ond efe yw arweinydd y blaid Ryddfrydol ar y Cynghor, Cadeirydd Pwyllgor Addysg y sir, ac aelod o amryw bwyllgorau, ac nid oes neb genym fel Enwad yn Mhenfro mewn amgylchiadau mor fan- teisiol ag efe i roddi crynodeb i'r TYST 0 waith Senedd ein sir. Clywais fod rhai yn Nyfed yn oedi prynu llyfrau bymnau, gan ddysgwyl yn bryderus am lyfr newydd i'r Enwad. Yn ol yr argoeiion presenol, tebyg y cant aros yn bur faith cyn cael ohonynt eu dewisol lyfr. Gyda llaw, yn ddiweddar clywais gryn siarad am lythyr Mr Jones, Treherbert, a'r farn gyffredin yma, gallem feddwl, ydyw nad oes yn bresenol yn ein gwlad addfedrwydd digonol i gario allan awgrymiad "Mr Jones. Dywedir fod rhagolygon addawol am eisteddfod lewyrchus yn Bethesda tua'r Nadolig. Mr Dan Davies, Dowlais, ydyw y beirniad dewisedig, ac os ceir hin ddymunol, diamheu genyf y bydd cantor- ion a cherddorion y cylch yn lluosog. Ymddengys fod eglwysi Brynberian, Felindre, Penygroes, ac Antioch, yn bwriadu cael cymanfa ganu cyn bo h,ir. Y mae Nebo a Hebron hefyd yn cyfeirio eu camrau i'r un cyfeiriad. Darfu i gerddor-areithiwr siomi cynulleidfa yn sir Benfro yn ddiweddar, trwy beidio gwneyd ei ymddangosiad yn y cyfarfod, ac wrth gwrs trwy beidio traddodi ei araeth apwyntiedig. Mewn cyfarfod cyatadleuol a gynaliwyd yr wythnos ddiweddaf yn nghapel Albany, HwlSordd, myfyrwyr coleg y Bedyddwyr oeddynt y cystad- leuwyr llwyddiam s yn y rbanau cerddorol o'r rbaglen. Clywais fod Annibynwyr Maenclochog a'r cylch, wedi cael eu boddloni gymaintyn eu cymanfa ganu ddiweddaf, fel y maent wedi penderfynu cael un yn flynyddol. Drwg genyf fy mod, yn anfwriadol, wedi cam- arwain darllenwyr y TYST yn ddiweddar mewn perthynas i symudiad gweinidog. Ymgysuraf, er hyny, yn y fifaith fod ereill yn gydgyfranog a mi yn yr amryfusedd hwn. MYNYDDWR.

Advertising

Y SABBATH DIRWE STOL.

USTUSIAID HEDDWCH YMNEILLDUOL.

GWERINIAETH YR ENWAD ANNIBYNOL…

[No title]

CYFARFOD ANRHEGU Y PARCH LL.…