Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
.YNYS MON. - .1H-
YNYS MON. .1H- VI. Ln Yn Mon mae doethion mewn dysg; Llenyddionllawn oaddysg A'i beirddion rhai union ynt, Godidog i gyd ydynt. Huw Huws oedd o'r Ynys Wen, A Lewya Morys lawen j i BardJ o Fon oedd Goronwy, j ,r j; Ddawnas fardd ni wys eifwy j Tra MeDai glir a thirion, A'i dwndwr mad dan dir Mon, Gwir enwog fydd Goronwy A chawr fardd na cheir ei fwy.Moi-wylit. Saif y Plas Gwyn yn nghanol pare coediog a phrydferth y LLWYN ONN,- •' un o lwyni gweddilledig yr' hen Dderw- yddon. Gwerthwyd y lie gan un Robert Griffith i Henry Rowlands, D.D., Esgob Bangor, a pharhaodd yn feddiant i'r Row- landiaid, hyd yr olaf o honynt, sef y Parch. Henry Rowlands, A.C., person Niwbwrch a: fleer Llanidan, obiit 1842. Gadawodd ef yr etifeddiaeth i'w gar, Charles Henry Evans o'r Henblas, etifeddion yfl hwn a'i gwerthasant. Y naillghedlaeth a dyra olud a'r Hall a'i gwasgar. Mab ydoedd yr Esgob Rowlands i Rolakt ap Robert, Ysw., Plas Mellteyrn, Lleyn, o Elizabeth, merch i Gruffydd ap Robert \Vauglian, Ysw., Talhenbont, Eifionydd. Derbyniodd elfenau dysg yn ysgol Penllech, a ph#r- ffeithiodd ei addysg yn y Coleg Newydd, 1 Rhydychen. Ordeiniwyd ef yn Mangor, Medi 14, 1572, a chafodd berigloriaeth Mellteyrn. Bu yn berson Naunton ac Aberdaron. Cafodd brebendariaeth Pen- mynydd yn Eglwys Gadeiriol Bangor yn 1584, a'r Ddeoniaeth drachefn yn 1593. Cyssegrwyd ef yn Esgob Bangor, Tach. 12, 1598. Bu farw Gorphenaf 6, 1616, yn 65 oed, a chladdwyd ef o fewn ei Eglwys Gadeiriol, lie ychydig cyn hyny y cyfod- asai wyddfa hardd iddo ei hun a'i gefnder, yr Esgob Vaughan, gyda busts o honynt ill dau. Anafwyd y wyddfa goffadwr- iaethol hon yn dost yn amser Cromwell, a symmudwyd y busts anffurfiedig o'r fan yn 1810. Hynodrwydd arbenig yr Esgob Rowlands oedd ei elusengarwch a'i hael- ioni, neullduolion a etifeddodd ei ddisgyn- yddion yn helaeth, o oes i oes, hyd yr hynaws a'r haelionus Mr C. H. Evans, Plasgwyn, Henblas, a Threfeilir. Bu yr Esgob yn haelionus iawn yn ei ddydd, Aildodd yr Eglwys Gadeiriol ar ei draul ei hun, ac anrhegodd hi a chlychau soniarus, bedair neu bump, 1611. Sefydlodd Ysgol Rammadegol yn Mottwnog, a gwaddolodd hi a thir-oedd yn iielaeth. Sylfaenodd ddwy gymmrawdoxiaeth yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, a dwy ysgoloriaeth yn Ysgol Bangor. Adeiladodd agwaddplodd Elusendy yn Mangor i gynnal chwe henaf- gwr tlawd o blwyfau Penmynydd, Llan- gristiolus, Amlwch, Aberdaron, Mellteyrn, a Bangor. Dywed yr Esgob Humphreys ■i am dano, Yr oedd yn ddyn rhagorol iawn, a gwir elusengar a chydwybodol; I, ac yn llawer mwy gofalus am yr Esgob- aeth hon, ac o'i olafiaid yary swydd, na np a eisteddodd yma o'i flaen, nac ar ei dIrel yr ymddengys." Wedi ei dihatru o'r than apocryphaidd, saif achau yr Esgob Rowlands fel canlyn: i. Rivid Flaidd o Benllyn. ii. Madoc ab Rivid. I iii. leuan ab Madoc. iv. Gruffydd ab Ieuan, yrhwn a briod- odd ferch ac etifeddes leuan ab Hywel ap Meredydd ab Gwrgant ab Collwyn. v. leuan Vychan ab Gruffydd, a briod- odd Nest, ferch a chydetifeddes Ithel Ddu ab Ieuan ab Cynwrig Yychan. vi. Howel ab leuan Vychan., vii. Rhys ab Howel, a briododd Mar- garet, merch Huw Trygarn, A.C., Arch- ddiacon Meirionydd, circiter, 1422. viii. Robert ab Rhys a briododd Elen, ferch i Robert Gruffydd ab William Gru- :ffydd, Siamlen Hen." ix. Rolant ap Robert o Fellteyrn. Bu yn briod ddwy waith, sef yn gyntaf ag Elizabeth, ferch Gruffydd ap Robert Vychan, Tal-hen-bont, Llanystumdwy; acl yn ail a Gwenllian, merch ap Morgan ap John ap Meredith, o'r hon y cafodd 1, Dafydd, person Llanallgo, Mon, obiit 1610. 2, Hugh, a briododd Annes, ferch Tho- mas Madryn, Ysw., a bu iddynt ddwy ferch, Mary a Margaret, cyd-etifeddasau. Priododd Mary un Simwnt Williams, o Feillionydd. Eu disgynydd, Ann Wil- liams, aeres Meillionydd a Mellteyrn, a briododd Syr Robert Howel Vaughan, o Hengwrt a Nannau. Hi a fu farw yn 1791.. Meibion Rolant ap Robert o'i wraig gyntaf oeddynt Edward Rowlands, Ysw., a Henry Rowlands, D.D., Esgob Bangor, 1598-1616. Edward Rowlands, brawd yr esgob hybarch, ydoedd boncyffdad teulu y Plas Gwyn. Yn y Plas Gwyn y ganwyd y Parch. Henry Rowlands, A.C., yr hynaf- iaethydd clodfawr. Yn y plas hwn y treuliodd ei oes lafurus, ac ynddo yr anadlodd ei anadl olaf. Efe a roddodd fri ar y fan, ac anfarwolodd. y cyfenw teuluaidd. Olrheiniodd ef ei acbau ryw- beth fel y canlyn r i. Edward liowland-s,.a briododd Jane, ferch i John Griffith, Ysw., Gefn Amwlch, neu Borthdinllaen, ii. Henry Rowlands, a briododd Martha, merch i Dr. Williamson, physygwr y Frenhines Elizabeth. Eu meibion :— 1, William. 2, Henry Rowlands, a briododd Jane, ferch Edmund Griffith, Esgob Bangor, 1633-1637. iii. William Rowlands, a briododd Maud, ferch i Edward Wynn, o Penhes- gyn. iv. Henry Rowlands, awdwr Mona An- tiqua Restaurata. Nid oes ond prin yr enw yn unig yn aros o'r Llwyn Llwyd a LLWYN-OGAN -ogan, vel Dir-ogan, i.e., Vaticinium vel Augurium.-H. R. Ceir swrn o olion Derwyddol yn y LLWYN LLWYD, ynbendifaddeu "Yr Ogof" neu garnedd gromlechol ger Bryn Celli-Bryn Celi. Sonia Rowlands am weddillion dwy garnedd, o fewn ychydig gamrau i'w gilydd," yn y Llwyn Llwyd neu Bryn Celi, y naill wedi ei dryllio ychydig, a chloddio iddi ar un ochr o ba le y clud- wyd ymaith y ceryg, a'r. llall a'i meini wedi eu dwyn ymaith bron i gyd at adeil- adu cloddiau;" a chrybwylla am ddau faen ,hir yn sefyll cydrhwng y garnedd. Dan un o'r carneddau hyn darganfyddwyd yn ddamweiniol yn nechreu mis Tachwedd, 1T77, YR OGOF, 1 i- sef math o ystafell danddaearol o gryn faintioli, a mynedfa yn arwain iddi. Caf- wyd swm o esgyrn dynol ar y 11awr ond pan gyffyrddwyd a hwynt, aethant yn llwch yn y fan. Cynnelid nen yr ystafell i fyny gan golofn gron yn sefyll ar ganol yr ystafell. Ceir desgrifiad manwl o'r "Ogof" yn yr Archceologia Cambrensis, cyf. ii., a Pennant's Tours, cyf. ii.td. 262. Cyfeiria Wyndham atti, a desgrifia King hi yn y Munimenta Antiqua. Dywed Pen- paiat fod tryfesur y garnedd gyfan y cyf- eiria Rowlands atti rywle o ddeg troedfedd a phedwar ugain i gan' troedfedd. Adeil- Jtdwyd mur o'i chwmpas gan y tirfedd- iannydd, Mr C. H. Evans, Plas Gwyn,— gweithred dra chanmoladwy. Y mae rhedfa y "fynedfa" o'r dwyrain i'r gor- llewin, Mesura ddeunaw troedfedd o hyd, dwy droedfedd a hanner o led, a thair troedfedd o uchder. Y mae yn igyn-nwysedig o chwech o%ini l^fr ystlys ogleddol a phump ar yr ystlys' ddeheuol. Yr oedd mewn rhan yn doedig a slabs yn amser Wyndliam, ond dynoethwyd y garnedd oil oddigerth ychydig swm o ddaear sy'n awr ar uchaf y maen anferth sy'n ffurflo to y brif ystafell, neu'r grom- lech. Y mae'r ogof wedi ei hadeiladu yn chwe-ongl afreolaidd irregular hexagonal-A meini mawrion, a'u lied yn bum' troedfedd pedair modfed'd, pedair troedfedd, chwe' troedfedd, pedair troed- fedd, a chwe' troedfedd yr un, gan ganiat- tau ugain modfedd i'r fynedfa i mewn, yr hon, gyda maen arall 21 modfedd o led, a ffurfia y chweched ochr i'r hexagonal chain- ber. Mesurai y maen gorweiddiog ar y top ddeuddeg troedfedd o hyd wrth naw o led. Y mae y golofn attegol ar ganol yr ystafell wedi cwympo i'r llawr. Cry- bwylla ymwelydd diweddar am. ddau faen gorchuddiol, un o ba rai sydd yn awr ar ei ogwydd." Sonia yn mhellach "fod y faingc gareg oddifewn i'r ystafell wedi colli, gan gystled a'r esgyrn a gaed arm. Dadenhuddwyd y gromlech er cael pridd o bossibl at ddybenion amaethyddol —utilising^ everything Nid oes dim yn gyssegredig yn yr oes oleu hon." Nid yw serch at bethau henafol yn erthygl yn nghredoyr "oeshaiarn."
NODION 0 GEREDIGION.
NODION 0 GEREDIGION. Gwyr pob un o'ch darllenwyr ag sydd wedi bod yn Ngheredigion fod genyf fan- tais i glywed a gweled llawer. Cofnodi rhai o'r pefchau hynotaf o'r llawer" hyn yw fy amcan yn y Uith hon a'r: rhai di- lynol. LLAIS Y WLAD."—Yr wyf yn gweled mwy o Lais y Wlad yn cael ei ddosbarthu yn mysg y trigolion nag o un newyddiad- ur arall, a dylid talu am dano yn brydlonj gan mai small profit and quick returns" yw arwyddair arianol y Llais. Yr wyf yn clywed llawer iawn o'i ganmol, a gobeithio nad yw yn rhy hwyr i geisio darbwyllo Radicaliaid Ceredigion o'r di- rywiad sydd yn eu plith. Dau hen gyfaill anwyl i mi er y'm gan- wyd ydynt GLOCHDAI LLANDDEWI A LLANYBYTHER., —Y mae y naill ar yr aswy a'r llall ar y ddeheu i mi cyn cof genyf, ac y mae yn gysur genyf feddwl na raid i mi golli eu cwmni am rai canrifoedd. Mae y brawd o Landdewi yn edrych yn iach a chryf ar 01 y feddyginiaeth drwyadl ac effeithiol a gafodd o law y Cyfaill Rowland, o Ystrad Fflur. Adgyweiriwyd ei ddoniau siarad gan fy nghyfoed, Inglis Jones, nes y mae ei lais yn fy nghyrhaedd yn uchel a swynol. :Maeyn hyfryd i nÜ" f.eddwl Jod y t$rawd o Lanybyther wedi gosod ei aches mewn dwylaw galluog/ ac iliA oes1 geny-f y i amheuaeth na welaf yntau wedi newid gwedd," a dyfod yn llengcyn ieuangc jao uchel-leisiol. Ychydig o gymdeithas sydd rhyngwyf a'r brawd o Dregaron, ond gwn fod angen mawr am wellhad arno yntau. Anfonais un o'r Jacks yma i'r Llan ddydd lau diweddaf i ofyn helynt y brawd. Methodd weled y parti a fwriadai, oher- wydd y Talbot School Board Meeting." Naw wfft i'r anghenfil hwn ag sydd wedi dyfod i ymborthi ar drethoedd ein gwlad. GWYL GUY F AWKEs.-Clywais lawer o rialtwch ar y dydd hwn. Yr oedd Dyffryn Tulas yn wenfflam oleu y noson hono, ac hardd balas y Dderi yn dadseinio o floedd- iadau mwynhaol, a Mrs Jones, y Derry Arms, yn prysur ranu ei chwrw enwog. Ni welwyd gwell hwyl ar Eos Glan Teifi erioed. Clywais hen gloch Coleg Dewi yn galw ar y myfyrwyr i'r Hall y boreu hwnw, ond methais a gweled y boys yn gwylltio mewn ufudd-dod fel arferol. Anfonais un o'm cenadon i lawr i weled beth oedd yr achos, ond ni ddychwelodd yr aderyn hyd heddyw. Yr wyf yn arogli foul play yn y busnes, a gwyliwch chwi, fechgyn, os caf allan. Clywed fod TAl i. LWYDO TYLODION i gael eu hadeil- adu gan Warcheidwaid Tregaron a Llan- bedr. Byddai yn dda pe gellid rhoddi ychydig mwy o wrid yn ngruddiau y treth- dalwyr. Hwynt-hwy sydd lwydaf o bawb yn yr undebau uchod ar hyn o bryd ond nis gwn a wnaiff treulio pedair mil i adeiladu tai a phedwar cant yn flynyddol o gyflogau wella gruddiau na llogellau y trethdalwyr-caf weled cyn hir. Buasai yn well, feddyliwn, i Undeb Tregaron ddi- wygio ychydig ar eu machinery presenrfol na rhuthro i brynu rhai newydd. Pa beth wnaethant hwy na Llanbedr o'r peiriant newydd gawsant yn ddiweddar, y Sanitary Act ? Mae allan yn yr yard gefn yn rhydu. Mae pob peiriant a gafodd Undeb Tregauon, oddi-erth y gallu i godi treth, allan yn rhydu. Druan o hen wr fy nhad, Morgan, o Brynmaen, beth pe deuet yn ol i rodio heolydd Undeb Tre- garon yn awr ? Nis gallet lai nag wylo. fel yr wyla y trigolion yn bresennol wrth gofio am dy ffyrdd rhagorol. TWR Y DDERI.
.. i L. ... - YMLADDFA DDYCHRYNLLYD…
i L. YMLADDFA DDYCHRYNLLYD GYDA RHINOCEROS. Yn Ngerddi y Zoological Society, yn 0 Regent's Park, Llundain, cymmeiodd digwyddiad hynod o alarus le. Un boreu, tra yr oedd dau o geidwaid y bwystfilod, o'r enwau Andrew Thompson a Richard Godfrey, yn ysgubo cage y rhinoceros mawr Indiaidd, yr hwn sydd o dueddfryd ddialgar, rhuthrodd yr anghenfil arnynt, tarawodd hwy i lawr, ac amcanodd eu sathru. Yn gweled hyn, prysurodd Matthew Scott, ceidwad arall ag oedd yn yr adeilad ar y pryd, yn uniongyrchol i'w cynnorthwyo a chan ddyrnu y rhinoceros a'i holl nerth yn ei lygaid, &c., a'r chwip oedd ganddo, gyrodd ef yn eiol. Llewygodd Godfrey yn union, a syrthiodd ar lawr y cage; a chan fod y rhinoceros yn ei weled etto o fewn ei gyrhaedd, rhuthrodd yn ei ol, a gwnaeth ymosodiad arall arno- Gyda dim ond ei chwip yn ei law, llwydd- odd Scott unwaith yn rhagor i yru yr anghenfil yn ei ol. Modd bynag, cwymp- odd Godfrey yr ail waith, a rhuth- rodd y rhinoceros yn ol atto rhwygodd groen ei goes, gan adael dim ond yr asgwrn noeth. Unwaith yn rhagor llwyddodd Scott i yru y bwystfil yn ei ol, ond nid y tro hwn heb gryn ymdrech abeiddgarweh ar eiraii, gan fod yritinoceros yn troi yn fileinig o'i gwmpas, a bron a chael y Haw uchaf arno. Y tro hwn, modd bynag, bu Scott yn llwyddiannus i lusgo y dynion ereill allan o'r cage. Prin y rhaid crybwyll iddo wneud hyn oil dan berygl colli ei fywyd ei hun. Nid oes gan y rhinoceros gorn, gan ei fod wedi ei wisgo ymaith wrth ei rwbio yn erbyn y bariau heiyrn; ond y mae yn fwystfil o'r fath fwyaf trahaus a drygionus, ac yn pwyso yn agos i saith dunell o bwysau. Anobeithir am adferiad Godfrey. Y mae Thompson wedi ei archolli yn dost, ac ofnir ei fod wedi derbyn niweidiau mewnol peryglus. Diangodd Scott heb dderbyn dim niwed. Nid ydyw ond dyn bychan, heb fod o gwbl yn neillduol o grvf, ond yn 9 1 meddu ar ddewrder a hunanfeddiant an- ngnyffredin. Y mae y tri dyn wedi bod yn ngwasanaeth y gymdeithas uchod am amryw flynyddoedd, ac yn bur adnabydd- us i'r ymwelwyr a'r gerddi. Dywedir fod y i-hiitoeei-oq yn cyfatteb i ddesgrifiad y Beibl o'r lefiathan, ac mai yr un ydyw. Efallai y bydd i rai o'n gohebwyr galluog roddi eglurhadjpellach ar hyn.
[No title]
Tanysgrifir at gronfa er adeiladu cof- adaili Mr Tom Hood, diweddar olygydcl y Fun,, yn Nunhead. Traddodwyd y Parch. Rees Prichard yn Bjadgend i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o saethu dyn. Adiosodd yr ysfcorm faWr>$ymwelodd yn ddiweddar a Hong Kong golled o dros fiiiVi/n o bunnau, ac y mae pob masnach yh y porthladd wedi sefyll oberwydcl y galanastra. Y mae -glanau y mor am lilldiroedd yn oTehuddiedig gan olion y nystr.
SION OWEN Y GARDDWR.
SION OWEN Y GARDDWR. Rhyfedd fel y mae y Cymry anym- ffrostgar yn gadael i ami seren loew yn eu hawyrgylch lenyddol fachludo' heb' gymmaint a sylw na chofnod o'i hym- ddangosiad. Rhaid fod rhyw hynod- rwydd a wnaethai gawrfil i'r Sais i berf i'r Cymro gymmeryd y drafferth o gron- iclo bywyd na marwolaeth yr un o feibion ei bawen a phlant ein liathrylith. Os ydyw y .Sais yn yr eitliafedd ar'un llaw, diam- heu fod y Cymro yn gwyro cymmaint y ffordd arall. Fel sail i'r haeriad hwn, cym- meraf wrthddrych yr ysgrif fechan hon. Yn mhlith llinach o feib athrylith yn Lleyn. ac Eifionydd yr oedd dosbarth yr Oweniaid yn rhagori, a'r awen i raddal1 9 llai neu fwy yn rhedeg drwy eu teuluoedd. 0 blith yr Oweniaid hyn (gwêI y Brython dan y penawd "Dosbarth yr Owen" gan Eben Fardd), y deilliai Sion Owen y Garddwr, neu Shon Cawrdaf. Yr ydoedd y bardd parod ac athrylithgar hwn yn berthynas llai neu fwy i Sion Lleyn, Sion Thomas, Chwilog, Ellis Owen Ellis, Ro- bert ap Gwilym Ddu, Ellis Owen, Cefn- meusydd, loan Madog, John E lias, a lluaws ereill yn Eifionydd. Ganwyd ef yn mhlwyf yr Abererch, neu Llancawrdaf, tua'r flwyddyn 1790, a bu farw felly tua 86 mlwydd oed, yn nechreu y mis di- weddaf mewn ffermdy a elwir Pentyrch- uchaf, yn mhlwyf Llangybi, sir Gaernar- fon. Ei alwedigaeth ydoedd garddwr. Dyn lied fychan o gorpholaeth ydoedd, pur olygus yn ngwneuthuriad ei gorph, yn tueddu i fod.yn wargrwm, yn hynod sydyn ar ei droed a hygar yn e.i ddull. Pan adwaenai yr ysgrifenydd ef gyntaf, yr oedd yn byw mewn treflan fechan ger Pwllheli a elwid Pen- llyn, lie y trinai ardd a nursery coed. Ond ni wen-ai ffawd fydol ar y brawd hwn i'r awen, a symmudodd i dref Bwllheli i gadw maelfa h-adau; ond ni bu hyny mor dyccianol ag y dymunai, ac nid oedd ei briod yn cael ei biechyd. Wedi rhai blynyddoedd rhoddodd y faelfa i fynu, ac aeth yn ben garddwr i'r diweddar D. Wil- liams, Ysw., (Dewi Heli),. Castell Deu- draeth. Wedi bod yno nifer o flynydd- oedd, symmudwyd ef i dy bychan a elwir y Nursery, ger Tremadog. Oddiyno sym- mudodd i Blaenyddol, lie cafodd waith cysson a charedigrwydd mawr gan y di- weddar George Casson, Ysw. Tra yno collodd ei anwyl wraig, a chafodd boenau trymion y crydcymalau, yr hyn a'i han- alluogodd yn hollol i ddilyn ei ,w^h. Yn yr adeg hon cymmerodd ei gymmwynaswr haelionus, Owen Evans, Ysw., Broorn Hall, drugareddarno, a bu am beth amser yn edrych a allai ar ol gerddi y boneddwr tiwnw yn Bodegroes. Dylem grybwyIl cyn myned yn mhellach mai tenant i Mr- Evans, Broom Hall, ydoedd yn Penllyn, a bod y boneddwr hwnw yn rhoddi ei dy a thuag erw o ardd iddo tra gallodd wneud dim o honynt, ac iddo gyfranu chwe phunt yn y flwyddyn i'r bardd hyd ddydd ei,, farwolaeth. Ond i ddychwelyd tua phum mlynedd ol, symmudodd i Bentyrch- uchaf, plwyf Llangybi, gan mai hwnnv oedd ei blwyf genedigoi, fel Elien Fardd, Dewi Wyn Nicander, -&c Ac yma Y treuliodd ran olaf ei oes, yn byw ar gyn" northwy yr undeb a chwe phunt ei gy#i- mwynaswr, er fod ganddo berthynasatf cyfoethog ond annrhugarog. Tua dechreii C- 9 mis Hydref, tynodd ei gwys i ben, a chladdwyd ef yn hen fynwent Sant Cawr- daf. Heddwch i lwcb yr hen aweng^r Sion Cawrdaf. Fel bardd yr oedd yn gyr- lym ac yn llawn o arabedd. Cofia yr ys- grifenydd ers tua deugain mlynedd yn 01, fod y bardd yn pasio cigydd, a'i enw HUVV Ifan, yn ymladd, a gwaeddai Sion Owen at frys- Twrw tost fel taro tAn Hwi o afael Huw lfan." Cyfansoddodd amryw englynion, a cby wyddau, a chaneuon llawn o chwaeth 30 awen. Gwelsom amryw o honynt, megys Cerdd Cymmedroldeb; Molawd i D. WIl" liams, Ysw., Castell Deudraeth, am sycbu pwlldiroedd y Penrhyn; Can Ddesgrifiad" 01 o Eisteddfod Madog yn 1851, yr holl sydd gyfansoddiad hynod ddigrifol a dl- fyrus. Hefyd, y mae genym awdl fechatl o'i eiddo ar Gareg yr Imbyll, yr hon a gyhoeddwyd yn y Llais ychydig amser 3r*J ol. Gwel y beirdd oddiwrth hon ei yn meddu awen goeth o'r radd uchaf. E fallai fod gan rai o'ch darllenwyr Phwllheli a manau ereill rai o'i weithiaol a byddai yn wasanaeth i'r oes eu rhoi a1 glawr caffaeliad, Yr ydoedd Sion Cawrd" yn ddyn craff, gwybodus, ac ymarferol ei alwedigaeth o arddwr. Cyhoeddod^ lyfr bychan tra gwasanaethgar i berebel" ogion gerddi a elwid Tro 'drwy Ardd J Gegin," a gall fod Ilawer o'i weitln0, rhyddieithol a barddonol yn bodoli na yr ysgrifenydd ddim am danynt. BarIle wyd yn well rhoddi hyn ar len gwlad Ilaý i'w goffadwriaeth fyned ar ddifancoll- neb a vVyr ychwaneg, traethed ei len. Sion Cawrdaf a gaf dan gwys-obry yn Abererch i orptwys A gem ei awen Rymmwys, A gelwyd dfua gldad dwye. ALLTUD EiFOt" Tremadog, Tachwedd 30ain, 1874.