Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

LLOFFION O'R DEHEUDIR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLOFFION O'R DEHEUDIR. GWRTHDARAWIAD AR Y RHEILFFORDD.— Dydd Sadwrn diweddaf, fel ag yr oedd tren teithwyr ar ei ffordd o Casnewydd i Sirhowy ar linell y Western Valleys, gwrth darawodd gyda nerih yn erbyn tren nwyddau yn nghymmydogaeth Risca. Y mae yr achos o'r gwrthdarawiad yn ber- ffaith anesbonidwy, yn ngwyneb y ffaith ei fod yn anmhosibi braidd fody swyddog- ion yn anwybodus yn nghylch amser y ddau dren. Llwyddodd gyriedydd a than- iwr tren y teithwyr i ddiangc rbag y dinystr a'u bygythiai, trwy neidio oddiar y peiriant, ond cafodd y teithwyr eu hysgwyd yn erbyn eu gilydd yn ofnadwy, ac hysbysir fod amryw o honynt wedi cael eu niweidio yn lied beryglus. Digwyddodd damwain arall, a brofodd yn farwol yr un noswaith ar linell y Great Western, trwy i "wrthdarawiad gymmeryd lie rhwng dau dren vn agos i Llantrisant, a chafodd un o'r guards niweidiau a brofasant yn farwol iddo yn mhen ychydig amser wedi iddo eu derbyn. CAERDYDD.—Yn llys yr heddgeidwaid yn y dref hon ddydd Llun diweddaf, o flaen y maer, cyhuddwyd un o'r enw John Williams, pilot, o wneuthur ymosodiad beiMdgar ar Robert Russell, waterman, a brathu i ffwrdd ddarn o'i drwyn y dydd Sadwrn cyn hyny. Ymddangosodd Mr Rees dros y carcharor. Cyfododd dadl rhyngddynt yn ngbylch corwynt a gym- merodd le ers dwy flynedd yn ol, a galwodd y carcharor yr erlynydd yn forgi," a dywedodd yr erlynydd wrtho yntau mai "ysgadenyn ydoedd ef yr hwn a lyngcasai y morgi, os na chai heddweh." Ar hyn rhuthrodd y carcharor arno gan afael yn dyn yn ei farf a brathu darn o'i drwyn i ffwrdd yn glir fel ag yr awgrymwyd Uchod. Galwyd ar amryw o dystion yn mlaen gan y ddwy oebr. Ymddengys oddiwrth y dystiolaeth fod creulondeb Williams yn ddiarhebol. Trosglwyddwyd ef i sefyll ei brawf yn y frawdlys chwarterol nesaf. ABERHONDDU.—Cyfarfyddodd dau swydd- og milwrol o'r enwau Cadben James a Brereton, sl damwain ddifrifol dydd Sadwrn diweddaf. Pan yr oeddynt yn gwneud prawf ar y pylor yn Aberclyn, ger y dref, ymddengys fod y pylor drwy ryw ddull anesboniadwy wedi ffrwydro, a dallwyd y swyddogion yn y fan. PONTYPRIDD.-Nos Sadwrn diweddaf, dygwyd y swm o un-bunt-ar-hugain o logell dynes o'r enw Campain, yr hon sydd yn byw yn Trallwm, ger y lie hwn. Y dydd Mercher blaenorol lladratawyd y swm o un-bunt-ar-bymtheg o logell dynes arall yn yr un lie, yr hyn sydd yn peri i'r trigolion dybied fod rhyw rai yn dilyn y i3 0 Hogellau yn trigo yn yr ardal. Gobeithio na fydd yr heddgeidwaid yn hir cyn rhoddi attalfa ar ystrangciau y brodyr hyn. MOUNTAINAsH.-Damwain Arsivydus.— Dydd Llun diweddaf derbyniodd dyn ieuangc o'r enw Samuel Prosser o'r lie hwn niweidiau difrifol trwy i amryw o ddrams glofa Cwmpenar redeg drosto. Ni ddisgwylir ybydd iddo fywyn hir. Dywedir mai troi clust fyddar i rybudd amserol ydoedd yr achos o'r ddamwain hon etto. CWMTWRCH.—Cymmerodd damwain le mewn pwll glo ger y lie uchod, yr hwn a berchenogid gan Mri. Jones a Saunders. Dydd Iau cyn o diweddaf, pan wrth y gwaith o ostwng stage, yr hon oedd wedi ei sicrhau ar ben y pwll, darfu i'r haiarn, yr hwn oedd yn gyssylltiedig a'r stage gael ei daflu o'i le, nes iddo ddyfod i gylfyrdd- iad a'r arolygwr a'i daflu ar ei ben i'r pwll, dyfnder tua 25 Hath, a bu farw yn mhen pedairawr. Enw y trangcedig oedd W. An- drewys (Gliadfab), ac yr oedd yn 30ain mlwydd oed. Claddwyd efy dydd Sadwrn canlynol yn nghladdfa Llansamlet. Da genym ddyweud i Meistri Jones a Saun- ders dalu traul y claddedigaeth yn an- rhydeddus. v.CWMRHONDDA.- Yn llys yr heddgeidwaid y Ue hwn, ddydd Llun diweddaf, o flaen Mr £ rwilym Williams, cyhuddwyd David Lewis: jo Tonypandy, o ladratta dwy bunt oddiar Thomas Griffiths, a deg punt oddiar Samuel Cos., llettywr gyda'r dywededig Thomas Griffiths. Amddjffyn- wyd ef gan Mr Simons. Dywedodd yr ynad dysgedig fod yr achos yn un drwg- dybus iawn, ond nid oedd y dystiolaeth yn ddigon cadarnhaol i brofi yn bendant V^iai^heuol euogrwydd y carcharor. Yr un diwrnod, cyhuddwyd Elizabeth Grif- fiths, o'r lie hwn, o wneuthur ymosodiad ar Mary Jones, Treiorci; ond gohiriwyd yr achos am wythnos er mwyn cyfleusdra i chwilio i'r manylion, CWMPARC.- Yn llys yr ynadon, ddydd Llun diweddaf, cyhuddwyd dyn o'r enw Dayid Davies, o'r lie hwn, o fod yn feddw, ac oredeg o amgylch y dref yn noeth- lymyn. Dirwywyd ef i ddeg swllt a'r costau. Yn yr un llys, cyhuddwyd Jere- miah Cox, Tonystrad, o ymddwyn yn an- weddaidd tuag at ferch ieuangc brydferth o'r un lie, o'r enw Jane Jenkins. Dirwy- Wyd ef i bunt a'r costau. LLANWENOG.—Ddydd Sul diweddaf, feu ysiorm annghyffredin o wynt a gwlaw yn y lie hwn, pryd y llifodd yr afonydd Cledlyn a'r Teifi dros eu glanau, er mawr arswyd i'r trigolion sydd yn pres- wylio ar eu glanau. Yr oedd y tai yn mhentref y llan yn llawn o ddwfr, a'r ffordd at Felin Drefach yn anmhossibl ei thramwyo. ABERDAR.—0 flaen ynadon Aberdar, ddydd Mawrth diweddaf, cyhuddwyd dyn o'r enw William Mills, cigydd, o Moun- tain Ash, o wneud ymosodiad ar yr hedd- geidwad Rodman pan yn cyflawni ei ddy- ledswydd. Rhoddodd Mr Rutsen gerydd llym i'r swyddog am ddefnyddio iaith isel at y carcharor; ond gan fod Mills wedi gwneuthur yr ymosodiad, cafodd ei ddirwyo i swllt. Yr un dydd cyhuddwyd William Mawson o arfer bygythion tuag at un David Davies, arolygwr o dan gwm- peini haiarn Aberdar. Anfonwyd y cy- huddedig i'r carchar am fis i gyflawni llafur caled. Hefyd cyhuddwyd James Brown, pudler, o Abernant, o glwyfo ac archolli William Richards, pudler arall o'r un He. Gohiriwyd yr achos hwn am wythnos yn ychwaneg. CWMAFON.-Y mae yn wir ddrwg genyf gofnodi fod y gweithfeydd yn y lie uchod yn segur oddiar ddydd Sadwrn diweddaf. Y mae y rhagolygon am eu hail ddechreu- ad yn bur niwliog, ac y mae y rhan fwyaf o'r dynion wedi myned i leoedd ereill i chwilio am waith. GWAINCAGYRWEN.—Drwg genyf bysbysu fod glowyr Gwaith y Mynydd, o'r lie hwn, o dan fis o rybudd. Tebyg fod eu meistri yn bwriadu cael dwy geiniog yn y dun ell o ostyngiad, a hyny, meddant, am fod glowyr Llwynrhydiau wedi gweithio felly, sef tori eu glo am ddau swilt a thair ceiniog y dunell, pan oedd glowyr Gwaith y Mynydd yn cael dau swllt a phum' cein- iog y dunell. Gresyn na byddai gwell dealltwriaeth hefyd rhwng y ddau waith. Yn bresennol y mae glowyr Llwynrhydiau ar strike. Gwelsant eu camsyniad, ond gobeithio y bydd i'r ddau waith ddyfod i delerau buan. ABERGWAEN.—Boreu ddydd Gwener di- weddaf, rhwng saith ac wyth o'r gloch, canfyddid cwch bychan mewn cryn gyfyng- der yn mhorthladd y lie hwn. Yn ystod y nos yr oedd wedi bod yn chwythu yn drwm o'r gogledd-ddwyrain, ac ar y pryd y gwelwyd y bad yr oedd y mor yn dra therfysglyd ac yn rhedeg yn uchel. Tri o bysgotwyr oedd yn y cwch a fuont allan yn dala penwaig. Cyn pen ychydigamser, aeth nifer o ddynion dewrion allan attynt, a dygasant hwy yn ddiogel i'r lan, ond mewn cyflwr hynod o adfydus, wedi di- ffygio yn mron ar ol bob yn y dwfr am gryn amser. Y mae cryn lawer o glod yn ddyledus i'r rhai a aethant allan i waredu y trueiniaid o'u perygl. CAERDYDD.—Am gardota, anfonodd yn- ad on y lIe hwn ddyn o'r enw Alexander Frazer i garchar am ddeng niwrnod gyda llafur caled. Druan o hono. PANTYBEREM.—Yn ynadlys Caerfyrddin ddydd Sadwrn cyn y diweddaf, cyhuddwyd glowr o'r enw John Hebsworth o wneud ymosodiad ar ei gydweithiwr, David Lloyd, ,ar yr 16eg cynfisol. Y dydd a nodwyd aeth yr achwynydd i'r New Inn Hotel, o'r man lie yr oedd yn gweithio. Yno gwelodd y diffynydd, yr hwn a ofynodd iddo a oedd efe wedi setlo gyda'r meistr. Attebodd Lloyd ei fod. Pan y clywodd Hebsworth hyn ffyrnigodd, a dechreuodd alw yr ach- wynydd a phawb oedd yn yr un ffordd ag ef yn haid o durn coats, ac wedi dyweud y dylent gael eu hanfon i'r d -1, rhoddodd ddyrnod dost i Lloyd yn ei lygad. Dywed- odd cadeirydd yr ynadon, Syr James Hamilton, eu bod hwy yn benderfynol o wneud pob peth o fewn eu gallu i ddaros- twng yr arferiad gwarthus ac annghyfiawn o geisio bygwth gweithwyr, a dedfrydwyd Hebsworth i fis o garchariad, ac ni chan- iatteid iddo dalu y ddirwy ychwaith. IEUAN AWST.

DAMWAIN ANGEUOL. !

[No title]

ADDYSG I FECHGYN MON AC YSGOL…

---HUNANLADDIAD ARALL ODDIAR…

[No title]

rYSBEILIO AR REILFFYRDD CYMREIG.

[No title]

[No title]

Advertising