Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
11 erthygl ar y dudalen hon
GWYDDAI O'R GOREU
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWYDDAI O'R GOREU TUA'R flwyddyn deunaw cant a phpntlieg ar hugain, galwodd hen foneddwr mewn masnachdy cerddorol adnabyddus yn Paris, masnachdy lie yr argrephid ac y cylioeddid cerddoriaeth, i gynnyg ar werth gasgliad o ddeugain o ganeuon cenedlaetliol, y rhai y dywedai mai efe ei hun oedd yr awdwr. Edrychodd un o'r partneriaid drwy y bwndel, a chanfu ynddi gan yn dechreu, Allons, cnfants de la Patric." "Ydych chwi yn gwybod ? gofynai yn wawdlyd i'r hen foneddwr, fod y gan hon wedi ei chyhoeddi o'r blaen, ac mai ei henw ydyw "La Marseillaise," ac mai ei hawdwr ydyw Rouget de Lisle." i I Ydwyf, meddai'r hen foneddwr, "myfi ydyw Rouget de Lisle."
3 CYFRWYSDRA YR ARAB
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
3 CYFRWYSDRA YR ARAB YR oedd Sais yn trafaelio yn y Dwyrain, ac heb fod yn hollol foddlon gydag ymddangos- iad yr anifail ar ba un y marchogai, a ofyn- odd i'w was Arabaidd a oedd y gaseg yn cael digon o fwyd. "O ydyw," oedd yr atebiad, "y mae fy mghydwladwyr i yn dwyn oddiar eu gilydd yn fynych, ac yn yspeilio ceffylau eu gilydd ond fe allaf fi ddyweyd bob amser os bydd y gaseg yna wedi cael ei thwyllo. Byddaf yn rhoi chwech neu saith o gerig man i mewn gyda'r haidd, gan eu rhifo yn ofalus. Fydd y gaseg byth yn bwyta cerig ac, os bydd rhywun wedi bod yn lladrata haidd, bydd yn sicr o fod wedi myn'd a dwy neu dair o'r cerig hefyd gydag ef. Os gwelaf fod rhai o'r cerig yn fyr yn y boreu, byddaf yn rhoddi geiriau caledion, ac ni fedrant hwy wybod pa fodd yr wyf yn gwybod, ac felly, y mae nhw yn rhoddi i fyny dwyllo."
" MEWN UNDEB Y MAE NERTH"
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MEWN UNDEB Y MAE NERTH" YR oedd hen fwnci ystyrbwyll ag awydd ar ei galon ddysgu i'w feibion fanteision undeb, wedi dwyn bwndel o brysgwydd, a dymuno arnynt sylwi mor hawdd oedd eu tori bob yn un ac un. Dododd un i bob un, hwythau a'u torasant yn rliwydd. Yn awr," meddai y tad, yr wyf yn myned i ddysgu gwers i chwi," a dechreuodd gasglu y brysgwydd yn nghyd yn un bwndel. Ond y mwnciod ieuainc, gan feddwl ei fod yn myned i'w curo, a ymosodasant arno, ac a'i llwyr orchfygasant. "Dyna," meddai yntau, yr ydych yn gweled yn awr mor fanteisiol ydyw bod yn unol! Pe buasech chwi yn ymosod arnaf bob yn un, buaswn yn lladd pob copa walltog olionocla. Mewn undeb y mae nerth."
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mown rhan o India cymer gweithred briod- asol ryfedd iawn Ie. Cymerir buwch a llo i'r dwfr gan y priodfab, y briodasferch a'r offeir- iad, ac yn y dwfr cydir gan bob un ohonynt yn nghynffon' y fuwch. Yna tywallt yr offeiriad, allan o gwpan bres, ddwfr ar y gynffon ac ar y dwylaw, a chylioeddir fod y par ieuanc yn wr a gwraig am byth. Hawlia yr offeiriad y fuwch a'r llo a'r holl arian a roddwyd i'r eilun gan y par ieuanc, fel tal am ei drafferth,
Y CARWR GWRTHODEDIG
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y CARWR GWRTHODEDIG YR oedd carwr gwrthodedig o ardal Llan- frothen wedi penderfynu cyflawni hunan- laddiad. Yr oedd wedi llwytlio ei lawddryll, ac wedi anfon am gyfaill mynwesol i fynegu iddo ei ddymuniadau olaf, Yna, pan oedd y claf o gariad yn ysgrifenu ei epistol ymadawol, ymaflodd ei gyfaill yn y llawddryll mewn dull diofal ac esgeulus, gan edrych arno a'i archwilio yn ofalus, ac yna fe'i hanelodd at yr ysgrifenydd. Gostyngodd hwnw ei ben yn ddychryn- edig, ac ymguddiodd o dan y bwrdd gan waeddi:—■ "Y nefoedd fawr! cymer ofal fachgen, wyddost ti ddim fod y llawddryll yna yn llwythog!" Yr oedd hynodrwydd a difrifwch eithafol y sefyllfa yn fwy nag allent ddall, torasant allan i chwertliin yn galonog, a phenderfyn- odd y gwr ieuanc fyw drachefn.
, PERYGLON DISYMWTH
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PERYGLON DISYMWTH YR oedd Sara'r forwyn wedi clyfod a'i cliariad, llencyn o lilwr yn ei got goch, i'r gegin, pan yn ddisymwth y clwai swn traed ci meistres yn dyfod i lawr y grisiau. Brysia Robin, brysia," meddai Sara yn ddistaw ac yn gyffrous, cymer un o'r plant bach yma yn dy freichiau i'w nursio." "Beth ydyw hyn yr wyf yn ei weled, Sara?" meddai'r feistres, gan edrych ar y gwr a'r got goch o'i goryn i'w sawdl. "O," meddai Sara, gan ymdrechu bod yn hamddenol. Y mae'r plant yma mor hoff o'r sowldiwrs yma, ac yr oeddwn yn meddwl y buaswn yn d'wad ag un ohonyn nhw adre iddi nhw chwareu ag ef."
YMROAD A DYFALBARHAD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YMROAD A DYFALBARHAD Y MAE gan y Chineaid chwedl gampus i osod allan nerth dyfalbarbad. Un o'u cydwlad- wyr, yr hwn oedd wedi gwneyd pob ym- drech ac egni i gyrhaedd gwybodtu^H lenyddol, ac wedi ei ddigaloni gan rwystruu anorfod, o'r diwedd a roddodd i fyny yr ymdrech mewn anobaith. Fel yr oedd yn dychwelyd i ddilyn ei alwedigaeth fel llafurwr, cyfarfu a dynes yn rhwbio bar haiarn yn erbyn careg. Wedi gofyn iddi beth oedd yn ei wneyd, dywedodd fod arni eisieu nodwydd, a'i bod am rwbio y trosol yn y gareg nes y byddai yn ddigon main i ateb y dyben hwnw. Cynliyrfodd ei liamyncdd ef i wneyd un ymgais egniol arall, a llwyddodd i gyrhaedd y radd o fod yn drydydd yu yr Ywherodraeibu
PA LE YR OEDD Y DOCTORIAID?
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PA LE YR OEDD Y DOCTORIAID? DRANOETII wedi y ddaeargryn ar lan Mor y Canoldir, yr oeddwn yn digwydd agor y drws i Simon y llaethwr o Bwllygro, pan y sylwais ar hysbyslen yn union ar fy nghyfer yr ochr arall i'r heol. Yr oedd yn hysbysu mewn llythyrenau breision foci yn y newydd- iadur hanes llawn am y trychineb ofnadwy lie yr oedd cynifer o fywydau wedi eu colli. Parodd yr olwg ar yr hysbyslen i mi ocheneidio a dweyd, Yr anwyl fawr, y fath drychineb arswydus!" Yr oedd Simon, yn ol pob tebyg, wedi arfer a meddwl mai rhywbeth tebyg i'r colera neu'r influenza oedd y ddaeargryn, ac y gollid ei ragflaenu gyda gofal, glanweith- dra, a'i gadw i ffwrdd yn gwbl oil drwy y dyfeisiau meddygol diweddaraf. Wrth fy nghlywed yn gofidio felly, trodd ataf, a chyda golwg synedig, dy- wedodd:— Yr own i'n meddwl fod yr hen glefyd yna wedi ei lwyr ddileu oddiar wyneb y ddaear."
GLYNU WRTH YR ADFEILlON
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GLYNU WRTH YR ADFEILlON MEWN pentref bychan yn sir Fynwy, y mae hen balasdy yn y fath gyflwr o adfeiliad nes yr ymddengys fel pe ar ymollwng yn chwil- friw. Y mae y preswylydd presennol yn hanner addoli meini yr hen adeilad. Un diwrnod, cwrddodd ag estron, yr hwn a wnaeth amryw ymholiadau yn nghylch y gymydogaeth, ac yn mhlith pethau ereill cyfeiriodd at yr hen balasdy :— Eiddo pwy yw y palasdy henafol yna?" Yr hen balasdy henafol yna, syr, ydyw y Wernddu. Oherwydd allan ohono ef y daeth Iarllod Penfro o'r llinach gyntefig, Arglwyddi Herbert Cherbury, Herbcrtiaid Coldbrook, Ramsey, a Cardiff, y Morganiaid a'r holl Boweliaid. Ac atolwg, pwy sydd yn byw ynddo yn awr?" myfi, syr." Yna, maddeuweh i mi, os nad oes arnocli eisieu cael eich claddu yn ei adfeilion, byddai yn well i chwithau hefyd ddyfod allan ohono."
YR HEN GYFRIF
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR HEN GYFRIF YR oedd boneddiges ffasiwnol wedi cadw y dilledydd am ddwy awr i ddangos iddi ei nwyddau, ac yn y diwedd, wedi'r holl dra- fferth a'r gwastraff amser, gofynodd y fon- eddiges iddo yn siriol:— Ydych chwi yn siwr eich bod wedi dan- gos i mi yr hyn oil sydd genych ?" Naddo, madam," meddai y siopiwr, gyda gwen awgrymiadol, y mae genyf eto ben gyfrif yn y ledger, yr hwn y bydd genyf y pleser mwyaf o'i ddangos i chwi." Nid oedd eisieu iddo ddangos dim yn ycli- waneg. Aeth y foneddiges i fvvrdd, gan ddweyd y galwai ryw ddiwrnod eto. Nid ydyw wedi galw hyd yn hyn.
RHEDEG I FFWRP^GYPAG ETIFEDDES
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHEDEG I FFWRP^GYPAG ETIFEDDES LAWER o flynyddoedc1 yn ol, pan nad oedd rhedeg i ffwrdd i briodi yn beth anglryffredin, aeth gwr ieuanc i ymofyn a'i gyfreithiwr yn nghylch dwyn ymaith etifeddes oedd yn garu. Nis gellwch wneyd hyny heb lawer o berygl," meddai'r cyfreithiwr. "Ond or mwyn gwneyd y peth yn iawn, bydded iddi hi fyned ar gefn y ceffyl yn gyntaf, a dal y flrewyll a'r awenau yn ei Haw, yna owch cliwithau ar ei gefn wrth ci hysgil, felly, hi fydd yn rhedeg i ffwrdd gyda chwi." Boreu dranoeth, canfyddodd y cyfreithiwr, yr hwn a roddai gynghor mor dda, fod ei fercli wedi rhedeg i ffwrdd, yn ol ei gyfar- wyddid ei hun, gyda'i gwsmer.