Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

DEDDFAU ANHYSBYS

GWRTHBWYSO HACRWCH

CHWAREU'R CRWTH I DDOFI BLEIDDIAIP

TENNYSON A'R YSGADAN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TENNYSON A'R YSGADAN FLYNYDDOEDD yn ol yr oedd y diweddar Arglwydd Tennyson yn arfer talu ymweliad & Chymru, yn enwedig rhan o sir Feirionydd, ac mewn cysylltiad &g un o'r ymweliadau hyn adroddir yr hanesyn a ga.nlyn Pan fyddai allan wedi ymwisgo yn blaen cymerid ef yn ami fel rhyw ddyn cyffredin. Ar un achlysur yr oedd yn aros yn nghymydogaeth Llanbedr, pan y camgymer. wyd ef gan y meddyg lleol am berson oedd mewn angen cynnorthwy. Yr adeg hono yr oedd yn arferiad ar ran y boneddigion a arosent ar lan y m6r i roddi pris mawr am y penwaig cyntaf a ddelid ar ddechreu y tymhor. Yr oedd y pysgotwyr wedi bod wrthi am oriau un diwrnod, a phan dynwyd y rhwyd imewn nid oedd ynddi ond dau benog I wneyd i fyny am hyn, penderfyn- odd y dynion gymeryd y pysgod i Dr Owen, Crafnant, a gwyddent yn dda na chawsant ddod oddiyno yn waglaw. Cyfarfuasant y meddyg ar y ffordd, dywedasant wrtho eu neges, ac wedi derbyn swm da am y ddau benog, dychwelasant yn llawen. Nid oedd y meddyg wedi myned yn mhell oddi- wrthynt gyda'r ddau benog yn ei law, pan y canfu ddyn a golwg dlodaidd arno. Gan ei gymeryd fel crwydryn, cynnygiodd iddo un o'r penwaig, a derbyniwyd y rhodd gan y dyeithrddyn yn foesgar a diolchus. Wedi cyrhaedd adref, dywedodd y meddyg wrth ei wraig ei fod wedi rhanu y penwaig a chrwydryn, a gofynodd Mrs Owen am ddesgrifiad o'r dyn, ac wedi ei gael, dywed- odd Wyddoch chi pwy ydoedd ? Na, wn i," meddai'r meddyg. Wel, Arglwydd Tennyson, y bardd bren. hinol," ac heb oedi dim, rhedodd y meddyg j allan, a dilynodd Tennyson gan ofyn ei faddeuant. Chwarddodd Tennyson yn galonog pan ddeallodd am y camgymeriad.

[No title]

Advertising