Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. Y DYCHWELIAD.—Daeth dau neu dri o'r aelodau Cymreig yn ol i Lundain yr wythnos hon, er mwyn bod yn bresennol ar ddydd agoriad y Senedd. "TUDUR ALED.Dyina fydd testyn yr Athro J. Morris Jones o flaen Cymdeithas y Cymmrodorion ar y 26ain o'r mis hwn. Nid oes sicrwydd hyd yn hyn a yw Syr Marchant i ddod i lywyddu y ddarlith a'i peidio EISTEDDFODAu.-Ar waetha pob arweinydd, mae'r cynulliadau hyn yn myned yn aniodd- efol o hwyr. Dylai pob pwyllgor ofalu am amser penodedig i'r prif gorau i ddechreu, waeth beth fyddai'r canly,niadau! CLAPHAM JUNCTION. Dadl Seneddol R Fod y ty hwn o'r farn fod Masnach Rydd' yn fwy llesol i'r gweithiwr na 'Masnach Deg. Dyna oedd testyn y ddadl gan Gymdeithas Ddiwylliadol y ll uchod nos Fereher ddiweddaf. Agorwyd y ddadl ym mhlaid Masnach Rydd gan Mr. R. 0. Wynn Roberts, a dilynwyd ef gan Mr.. R. L. Davies, pen-campwr y Diffyndollwyr. Siaradwyd. ymhellach gan Mrs. Wynn Roberts a'r Mri. M. Thomas, Wynn Williams, Tom Edwards, a P. Daniel, ac yr oedd cryn lawer o gamp ar yr areithio o'r ddeutu ond llwyddodd y llywydd, Mr. T. L. Davies, i gadw'r cwch a'i wyneb i fynny. Gresyn mai rhyw ddyrnaid oedd yn eu gwrando;, ond dyna'r ffaith bob amser-po mwyaf. ymarferol y bo'r pwnc, lleiaf yn y byd y gwelir y cynhulliad. DEWI SANT, PADDINGTON.-Y Gymdeithas Lenyddol a Cherddorol.- Yn neuadd Eglwys- Dewi Sant, nos Fawrth, Chwefror 2, o dan nawdd y Gymdeithas uchod cafwyd cyngerdd, ardderchog o dan gyfarwyddyd Mr. a Mrs. David Jenkins, Shelden Street, Paddington. Mae Mr. a Mrs. Jenkins, yn weithwyr ffydd- lawn yn y winllan, a choronir eu hymdrech- ion bob amser a llwyddiant. Pe ceid mwy o rai tebyg iddynt, ni fyddai raid petrusa byth ynghylch eefyllfa arianol Dewi Sant. Nerth ac iechyd gaffont ill dau i barhau yn ffyddlon hyd y diwedd. Llan- wyd y gadair gan aelod blaenllaw o'r frawd- oliaeth yn Shirland Road, sef Mr. Ebenezer Davies. Gwnaeth Mr. Davies gadeirydd campus. Mae yn siaradwr llithrig ac yn llawn bywyd, a gwnaeth nodweddion cym- hwys i swydd o'r fath. Cofiodd am y Gym- deithas hefyd mewn dull anrhydeddus. Bendith a'i dilyno ef a'i briod hawddgar am eu haelionu. Gwasanaethwyd yn y cyng- erdd gan Misses Lily Fairney, R.AM., Maggie Williams, R.A.M., Helena Scott, R.C.M., Mri. Dyfed Lewis, R.A.M., David. Jones (Llew Caron), Eddie Evans, a T. Vincent Davies. Oynygiwyd pleidleisiatt cynnes o ddiolchgarwch i'r uchod gan Mr. Tom Jenkins, David Evans, James Wil- liams, ac Evan Lloyd. Gwnaeth Mr. Humphrey Pierce ei waith yn ganmoladwy fel ysgrifennydd, a chynorthwywyd ef yn fawr y tro hwn gan y cyn-ysgrifennydd, Mr. Dan Jones. Diweddwyd cyngerdd poblog- aidd-yr ystafell yn orlawn-drwy ganu yr Anthem Genedlaethol. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, Chwefror 3ydd, darllenwyd dau o bapyrau dyddorol ac adeiladol o flaen aelodau ein Cymdeithas Lenyddol yn y lie hwn. Noson gyda'r hen bregethwyr ydoedd hon i fod, a throdd allan yn dra llewyrchus. Yn gyntaf dar- llenodd Mr.. Tom Davies ei bapyr ef ar "Kilsby Jones." Ar ei ol ef traethodd Mr. W. Parry Jones ar Un o hen bregethwyr Sir Gaernarfon." RHoddodd y papyrau hyn foddlonrwydd cyffredinol, fel y profai y gwrandawiad astud a roddwyd yn ystod yr oil o'r cvfarfod. Ar y diwedd caed ychydig; sylwadau gan y Mri. John Rowland, Tom Jenkins, ac R. Gomer Jones, yr hwn, yn absenoldeb y Llywydd, a lanwodd y gadair yn ddeheuig am y noson. Oyn ymwahanu, diolchwyd yn wresog i'r ddau frawd ieuanc- am eu papyrau rhagorol. UNDEB Y GWEINIDOGION.—Cynhaliodd yr Undeb uchod eu cyfarfod misol ym Mile End Road, Llun, Chwefror 8, am dri, dan lywyddiaeth y Parch. W. Rees, Kensington, W. Maes yr ymddiddan oedd "Moesddysg a Gwasanaeth y Mabinogion Cymreig." Darllenodd y Parch. J. Machreth Rees bapyr gwerthfawr ar y rhamantau Celtaidd, a dangosodd yn eglur fod gan y Ilwythau Goidelaidd hen syniad am iawnder yn llywodraethu mewn bywyd am drawsnewid-
EISTEDDFOD BATTERSEA.
Dyma restr y buddugwyr yn y gwahanol gystadleuon Y BUDDUGWYR. Traethawd i ferched Miss Owen, Battersea Rise. Unawd Tenor: Mr. W. H. Jones, Charing Cross (hanner y wobr). Unawd Bass Mr. Stanley Davies, King's Cross. Unawd Contralto: Mrs. Walters, Croydon. Unawd Soprano Miss Annie Thomas, Hackney. Champion Solo: Mr. Stanley Davies. Best Gentleman's Vest: Miss Catherine Evans, Liverpool.. Sideboard Cloth Miss Hughes, Hammersmith. Dressed Dolls in Welsh Costumes: Mrs. Jenkins, Queen's Road, a Miss Maggie Owen. Lady's Slippers: Miss Jones a Miss Hughes, Hammersmith. Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg: Parch. I. Richards, Paddington Green. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg Mr. J. Edwards, Falmouth Road. Adroddiad, i rai mewn oed, Mr. Esmond Evans, Falmouth Road. Adroddiad i blant dan 10: Miss Richards, Batter- sea. I rai dan 16, rhanwyd rhwng Llew," Fal- mouth Road, a Lizzie Davies, Goswell Road. Bugeilgerdd Mr. Hughes, King's Cross. Testyn y gadair: Parch. W. Parri Huws, Dol- gellau. Cor y Plant: Cor Jewin Newydd, tan arweiniad Mr. D. Thomas. Y Corau Mawr: Cor y Tabernacl, tan arweiniad Mr. Stanley Davies. Enillwyd y tlws aur am werthu tocynau gan Mrs. D. H. Evans, Abbeville Road a Mrs. Richards. Sutherland Terrace, yr ail wobr o gini. Gweithiodd y ddwy chwaer hyn yn egniol gyda'r Eisteddfod. Llwyddodd y blaenaf i werthu 211 10s. mewn tocynau, a'r ail 28 10s. Yn anffodus, oherwydd diweddarwch y gystadleuaeth gorawl ni chawsant eu galw ymlaen i dderbyn eu gwobrau, ond mae'r ysgrifenyddion yn dra diolchgar iddynt am eu ffyddlondeb. Y BEIRNIADAETHAU. PRYDDEST GOFFA I MR. DAVID JONES, COMMERCIAL ROAD. Addefwn mai nid peth hawdd yw canu i wr mwyn a thawel ei hynt nes gwneud darlun byw. Weithiau ymollyngir i ormodiaith bryd arall ceir gormod o fyw-graffiad a rhy fach o farddoniaeth, neu ynte farddoniaeth heb gofiant. Ein gofyniad uwch ben y saith hyn yw: Gan ba un o honynt y mae darlun naturiol a phendant o David Jones? Er ei Fwyn.-Syml ddigon, hyd at fod yn gyffred- inaidd. Ni ddylai bardd arddel llinellau mor ddi awen a hyn: Gyda Chapman yn Drenewydd Bu yn egwyddorwas cu. Yng Nghaerludd yr ymsefydlodd Yn fasnachwr mawr ei lwydd, &c. Nodyn Hiraeth.-Dechreua'n anaturiol hollol. Y mae'n llawn bryd gadael y dwyllsain am fudandod adar a gwyndra blodau, a phethau o'r fath. Nid oes ystyr iddynt bellach. Tuedda at ormodiaith yn fynych. Cymysglyd yw arddull brawddeg fel hon 'Doedd unman i hwn oedd yn gymar I Dinas dan olwg y ne'. Ond nid yw'r bryddest chwaith heb bethau gwell fel y gyfres benillion yn dechreu Os nad yn siaradwr dawnus, &c. Alun Mabon.-Pryddest ddymunol ar lawer ystyr; ond gwnai y rhan fwyaf o honi y tro i lawer Cymro crefyddol arall yn Llundain. Y mae rhan III. yn dechreu yn rhy chwyddedig o lawer i gymeriad mor ddirodres. Y mae awen hwn yn gryfach na'i ddawn i ddarlunio cymeriad yn glir. Adgof uwch Anghof.-Yr un modd eto am hwn nid David Jones sydd yma yn fwy na llawer un arall. Yn wir, pery i ni deimlo ei fod ar adegau yn pentyrru canmoliaeth yn ddiystyr. Yr oedd digon o nod- weddion yn David Jones i ganu arnynt, heb fyned i ychwanegu atynt. Beth olyga wrth enynau'r tan ? A yw yr awdwr wedi byw yn Llundain ? Edmygydd.-Y mae rhyw naturioldeb gwladaidd yn y gerdd hon sydd yn peri i ni ei hoffi. Gwell fuasai gennym iddo roi heibio ryw air ymfflamychol fel mal "I mal eryr cryf," II mal y caf," a chym. ysgedd fel hyn Daw mal y fellten adsain llef yn groch." Yn fawr Commercial Road." 0 fawr Landrindod draw," &c. Ei Hen Gydnabod.-Pryddest boenus o anhawdd ei darllen. Ond wedi dod i ddeall y llaw, y mae pethau'n gwella. Dechreua yn dda iawn ond wrth fyned ymlaen y mae'r awen fel yn gwanhau ac y mae'r rhan olaf yn fwy o fywgraffiad nag o bryddest. Edmygedd Colon. Pryddest loyw, farddonol. Gadewir allan rai nodiadau cofiannol y buasai'n ddymunol iddynt fod i mewn. Gan y ddau ddiweddaf hyn y mae'r darlun cyf- lawnaf a chywiraf o Meirionfab. Nid ydynt yn gorwneud y lliwiau. Cana Ei Hen Gydnabod" fwy o helyntion allanol ei fywyd ond y mae Ed- mygedd Calon wedi myned yn ddyfnach i'w fywyd o'r tu mewn, heb anghofio'r croesau a'r siomedig- aethau sy'n rhan o yrfa dyn. Y mae'r ddwy yn dda, ond teimlwn fod mwy o'r gwir David Jones a adwaenem ac a garem gan II Edmygedd Caton," yn gystal a bod ei bryddest yn gryfach o'r dechreu i'r diwedd. Iddo ef y dyfernir y gadair a'r anrhydedd. ["Edmygedd Calon" oedd y Parch. W. Parri Huws, Dolgellau]. YR ENGLYNION. Derbyniwyd saith o gyfansoddiadau. Drwg gennym fod y gystadleuaeth yn un hynod o siomedig. Nid oes gan "Dienw" syniad am gynghanedd. Y mae gwallau cynghaneddol andwyol yn eiddo Dalmus odl Hiraeth," Cader Idris,' a Gerallt." Ac er fod eiddo "Hen Gyfaill," "Un a'i Carai," a Cydymaith yn rhyw tath o gywir, eto y maen't mor glogyrnog a chyffredin a dieneiniaid fel nas gallwn o gydwybod gymeradwyo gwobrwyo yr un o honynt. BUGEILGERDD. Dan ymgeisydd sydd yn y gystadleuaeth hon- "Eco'r Bannau a" Mab y Mynydd." Pur ddiff- ygiol o ran crefftwaith yw cerdd Eco'r Bannau." Anurddir lliaws o'i linellau gan ymadroddion an- addas a chan wallau iaith. Rhy fach o nodweddion bugeilgerdd sydd ynddi o lawer. Ond ceir ynddi ambell gyffyrddiad digon tlws a phriodol yma a thraw. Y mae "Mab y Mynydd" hefyd i'w feio am na fuasai ei iaith yn well a'i ffigyrau yn fwy priodol mewn ami linell. Ond y mae gan hwn uwch dir- nadaeth o'r hyn a geisia, a nodweddir ei gerdd gan lawer o fireinder. Gwell fuasai gosod Morfudd i ganu rhyw alaw llai milwrol na Difyrrwch Gwyr Harlech" pan y canai i'w chariad. Y mae y di- weddiad, er yn darawiadol, eto'n brudd a brawychus. Y cariad-fab yn boddi wrth achub oenig o'r llif, a Morfudd yn marw o hiraeth am dano. Mab y Mynydd yw'r goreu yn ddios, a barnwn fod ei gerdd yn deilwng o'r wobr. ELFED MACHRETH. Y CYFIEITHIAD CYMRAEG I'R SAESNEG. Daeth naw o gyfieithiadau i law yn brydlon yn dwyn y ffugenwau canlynol': Iorwerth; John Gogleddwr Maldwyn Glan Teifi; Min y Don Tafwyson Peredur a Chardi. Siomedig ar y cyfan oedd eu gwaith. Dylai cyfieithiad o ddernyn fel hwn amcanu at ddau beth- (i). Dylai fod yn hollol rydd o idiom y dernyn gwreiddiol am fod honno mor nodwedd- iadol Gymreig. Dyna orchwyl pur galed, rhaid addef. (ii). Dylai gadw'n ddiogel gywreinrwydd y brawddegau a'r geiriau a cheinder y ffigyrau geir yn y gwreiddiol. Ac nid oes un o'r naw wedi llwyddo i wneud hyn. Mae tri o'r naw, sef Tafwyson, Peredur, a Chardi, yn uwch o'u hysgwyddau na'u cyfoedion. Y mae Tafwyson wedi gwneud gorchwyl lied lan. Nid oes ynddo unryw gamgymeriad dybryd, na chwaith unrhyw ergyd meistrolgar. Y mae Peredur, ar y llaw arall, wedi cyfieithu ambell frawddeg fel meistr. Rhydd bleser i'w feirn- iaid pan yn cyfieithu "Ystoriau hynafiaethol" yn tales of ancient lore Y mae mwy nag nn o'r cyfryw yn ei gyfieithiad. Ond y mae ynddo dri neu bedwar o wallau gramadegol, ac, am hynny, rhaid iddo foddloni ar ail le yn y gystadleuaeth y tro yma. Cardi.-Dyma'r Sais a'r cyfieithwr goreu, ond y mae ganddo ynte lawer o le i wella. Nid yw agos cystal a "Pheredur" ar ei oreu, ond nid yw "Peredur" ar ei oreu bob amser. Y mae "Cardi" wedi cadw heb syrthio i bechodau rhyfygus. Cytuna Machreth a minnau mai hwn yw'r goreu, a dyfarnwn iddo wobr gyflawn. Y mae'n ei haeddu. Ar air a chydwybod, T. H. DAVIES.