Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
NID oes dim newyddion oddiwrth Gordon i'w cofnodi yr wythnos hon eto. Mewn llythyr a ymddangosodd yn y Times ddydd Marcher, dywed Syr Samuel Baker fod y ddadl ar yr helyntion Aiphtaidd a gymer- odd le yn Nhy y Cyffredin wedi deffroi y genedl o berthynas i wir sefyllfa pethau yn Khartoum, ac wedi dangos y cyflwr gresyn- us yn yr hwn y gadewir Gordon gan y Llywodraeth ar yr hon yr ymddibynai. Fel y dangosai Mr. Forster yn ei araeth yn y ddadl dan sylw, cyfyd perygl mwyaf y Cadfridog, nid oddiwrth ymosodiadau oddi allan, ond oddiwrth gyd-fradwriaeth oddi mewn. Y mae y perygl oddiwrth fradwyr yn cael ei fawrhau yn ddirfawr gan y ffaith na.s gall y Cadfridog addaw i'r rhai o'i am- gylch na bydd iddynt hwy ddioddef pe y gadewid hwynt ganddo. Yn ngwyneb y cwbl, gomedda y Llywodraeth a chymeryd eu hargyhoeddi fod angenrheidrwydd am wneuthur dim i waredu Khartoum a diogelu y Cadfridog dewr.
[No title]
DRWY guro a brathu mae cariad yn magu," ebe un o'r hen feirdd Cymreig. Felly y mae wedi bod gyd ag Arglwydd Randolph Churchill a blaenoriaid y blaid Geidwadol. Bu Arglwydd Randolph yn brathu ac yn curo yn erchyll ar Arglwydd Salisbury. Yr oedd swn y ffrae i'w chlywed o'r tuallan er's amser. Tua phythefnos yn ol tynodd y Standard y lien a daeth y cwbl i'r golwg. Peryglus yw ymyraeth rhwng gwr a gwraig, pan y cwympant allan a'u gilydd. Nid hollol ddiogel fuasai ceisio ymyraeth rhwng Arglwydd Randolph Churchill ac Arglwydd Salisbury. Pa fodd by nag, y mae y ddau yn ymgofleidio. Ac ar achlysur y bleidlais gerydd ar y Llywodraeth, un o'r ymosod- wyr mwyaf ffyrnig ar ymddygiad y Llyw- odraeth tuag at y Cadfridog Gordon ydoedd Arglwydd Randolph Churchill. Ergyd greulon ydoedd hono a roddodd i Mr. Glad- stone, pan yn cyferbynu ei ymddygiad tuag at Mr. Bradlaugh a'i ymddygiad at y Cad- fridog Gordon, yr araeth oreu a draddod- odd y boneddwr anrhydeddus yn y Ty ydoedd yr hon a draddododd yn ffafr cablwr bradol, a'r waelaf ydoedd yr hon a dra- ddododd gyda golwg ar wir wron Cristion- ogol."
[No title]
Y MAE heddwch wedi ei sefydlu rhwng Ffrainc a China, ac y mae ymdrechion yn cael eu gwneyd i ddwyn i ben y rhyfel rhwng Ffrainc a Madagascar. Y mae llyw- odraeth Madagascar yn foddlon i dalu swm o arian fel digollediad i Ffrainc, ac hefyd i roddi i fyny rai ynysoedd gerllaw Madagas- car, ond gwrthodant roddi i fyny y rhan o dir a ofynir gan Ffrainc yn nghanol Madag- ascar ac fel rheswm am hyn dywedant fod Ffrainc, drwy weithred a chyfamod, yn cyd- nabod uwchafiaeth y Frenhines ar yr holl ynys, a darfod i lywodraeth Madagascar ychydig flynyddau yn ol dalu 240,000 i Ffrainc, ac am y swm hwn rhoddodd Ffrainc i fyny bob hawl ar y tir dan sylw. Y mae'r ymdrafodaeth yn myned ymlaen, a gobeith- iwn yn fuan glywed ei bod wedi dyfod i der- fyniad boddhoal.
[No title]
DA genym ddeall fod Mr. Gladstone wedi caniatau jOlOO i weddw y diweddar Barch. J. Henry Blunt, allan o'r drysorfa sydd dan ei reolaeth at amcanion o'r fath. Bu Dr. Blunt farw yn Llundain ddydd Gwener y Groglith, a hysbysir fod ei weddw wedi ei gadael mewn amgylchiadau isel. Gradd- iodd Dr. Blunt yn mhrifysgol Durham yn y flwyddyn 1852, bu dau blwyf yn Lloegr o dan ei ofal, ac yr oedd yn 61 mlwydd oed < pan y bu fatw. Yr oedd yn awdwr nifer fawr o lyfrau ar bynciau Eglwysig, ac y mae amryw o honynt yn teilyngu cael eu rhestru yn y dosbarth blaenaf. Ymhlith eraill o'i weithiau gallwn enwi y rhai can- -lynol :-Dictionary of Doctrinal and His- torical Theology, Dictionary of Sects and Heresies, Annotated Book of Common Prayer, Annotated Bible, Companion to the Old and New Testaments, History of the Reformation of the Church of England, Directorium Pas- torale, Household Theology, Sacrament and Sacramental Ordinances.
[No title]
Bu cyfiwyniad gravamen y Parch. D. W. Thomas, St. Ann's, yn achlysur i ymdrafod- aeth bwysig gael ei dwyn ymlaen yn Nhy uchaf y Confocasiwn. Eglurodd Esgob Bangor iddo ef roddi rhybudd i holl esgobion y deyruas llynyddau yn ol, nad oedd y Parch. T. Morris Hughes yn wr addas i fod yn y weinidogaeth; ond rywfodd neu gilydd llwyddodd i gael derbyniad am amser byr yn esgobaeth Worcester heb wybod i Esgob yr Esgobaeth. Tystiai Dr. Harrold Brown, Esgob Winchester, oddiar hir brofiad, fod yr ugain mil o offeiriaid sydd yn yr Eglwys, fel corph o ddynion, yn nodedig am eu cy- meriad uchel a phurdeb eu bywyd. Credai ef na fu er dechreuad y byd, ugain mil o wyr ag yr oedd eu bywydau yn burach a mwy diargyhoedd. Ond eto, yr oedd ambell ddafad ddu yn mhob diadell, ac yr oedd yn rhaid bod yn wyliadwrus iawn mewn per- thynas iddynt. Dywedai Esgob Rhyd- ychain, na ddylid, ar un cyfrif, groesawu un offeiriad i'n Heglwysi heb yn gyntaf ym- ohebu a'r Esgob. 0 berthynas i anfoesoldeb cwynai rhai o'r Esgobion fod yn anhawdd iawn cael tystiolaethau lleygwyr. Dywedai Dr. Wordsworth, Esgob Lincoln, fod yn rhaid iddo ef gyfaddef fod y lleygwyr yn llawer iawn rhy anewyllysgar i ddyfod yn mlaen a'u tystiolaethau mewn achosion o'r natur hwn. Dywedai Dr. Maclagan, o Lichfield, fod y lleygwyr weithiau yn cy- meryd plaid gweinidogion anfucheddol pan ddygir eu hachos o flaen yr Esgob; ac felly fod yn rhaid i'r Esgobion wneyd eu gwaith yn ami, nid yn unig heb gymorth y lleyg- wyr, ond hefyd mewn gwrthwynebiad iddynt. Hyderwn y bydd gwaith ein cyd- wladwr, Mr. Thomas, yn tynu sylw at y pwnc pwysig hwn yn dwyn llawer o ffrwyth da; a hyderwn yn ddifrifol na cheir byth yn ychwaneg glywed cwyn yn erbyn ein lleygwyr, gyffelyb i'r hon a ddygwyd ymlaen gan Dr. Maclagan. Y mae purdeb y weini- dogaeth o'r pwys mwyaf i'r Eglwys, ac y mae cadwraeth y purdeb hwn yn sefyll ar law lleygwyr i raddau pellach nag y gellid meddwl.
[No title]
+ YR wythnos ddiweddaf traddododd Dr. Stubbs, Esgob newydd Caer, ei ddarlith olaf. fel Proffeswr Hanesyddiaeth Ddiweddar. Ymhlith pethau eraill, cyfeiriodd atyr ad- roddiad a ddarparasai efe i'w gyflwyno ir Dirprwywyr ar y Llysoedd Eglwysig. Hwyrach," ebe fe, nad yw werth y papyr ar yr hwn yr ysgrifenwyd ef, ond y mae mor wir a hanesyddiaeth, ac yn ffrwyth ymchwil- iad maith a llafurus." Gyda'r gwyleidd-dra hwn y sieryd y Doctor dysgedig am un o'r ysgrifeniadau pwysicaf i'r Eglwys sydd wedi gweled goleuni y dydd er's llawer o flyn- yddau. Gyda golwg ar ei ymadawiad o Rydychain, dywedai ei fod yn gadael ar ol yno lawer o gyfeillion, a dim un gelyn, hyd y gwyddai ef, ond nid, ebe fe, fod arnaf fwy o ofn gwneyd gelynion nag sydd gydweddol a'm sefyllfa. Pa fodd bynag, gallai ddweyd nad oedd erioed wedi bod mewn ymrafael a neb, ac ni bu iddo ymosod un amser ar eraill. Credai fod gwybodaeth drwyadl am nerth unrhyw sefyllfa yn llawer mwy gwerthfawr yn achos y gwirionedd na'r arfer mwyaf deheuig ar arfau, ac na'r ymosodiadau mwyaf medrus. Dywedir fod y Doctor dysgedig wedi llwyddo i ddyrchafu yr Ysgol Hanesyddol yn Rhydychain i safle tra llwyddianus, a choleddir gobaith cryf y gwna waith rhagorol fel Esgob. Y mae i Gymru ddyddordeb neillduol yn Esgob Caer, ac nis gallwn lai nag adseinio dymuniad ein gohebydd Sion y Fron," ar fod i'r Esgob gael arweiniad oddi uchod yn newisiad olynydd teilwng i'r Parch. Canon Evans yn nhref bwysig Caernarfon.
[No title]
TRA ar y pwnc hwn gallwn gyfeirio at benodiad Dr. Stubbs i Esgobaeth Caer fel un prawf ychwanegol nad oes gan wleid- yddiaeth, fel rheol, ddim llaw yn newisiad ein Hesgobion. Yn amser Arglwydd Bea- consfield y penodwyd Dr. Stubbs yn Ganon yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, ac yn amser Mr. Gladstone y gwnaethpwyd ef yn Esgob Caer. Cymhwysderau i lenwi y swydd Esgobol, ac nid golygiadau gwleidyddol sydd yn rheoli y penodiadau hyn ac y mae gan yr Eglwys ddyled fawr o ddiolchgarwch i'w thalu i Mr. Gladstone am y gofal a'r doethineb y mae yn ei arfer yn newisiad ei phrif weinidogion.
[No title]
PETH rhyfedd iawn gyda golwg ar y Dad- gysylltwyr yw eu bod ar un llaw yn honi mai lies yr Eglwys sydd ganddynt mewn golwg; ac ar y llaw arall yn gwrthwynebu yn egniol bob ymgais am ddiwygiad. Un o'r diwygiadau mwyaf angenrheidiol yn awr yn yr Eglwys yw ad-drefniad y llysoedd Eglwysig. Ac nid oes neb mwy gelynol i hyn nag aelodau Cymdeithas Rhyddhad Crefydd. Yn nghyfarfod mis Mai y gym- deithas dywedai Mr. Lyulph Stanley, A.S., ei fod ef yn gobeithio. na bydd i'r Senedd ymgymeryd a deddfwriaeth yn unol ag adroddiad Dirprwywyr y Llysoedd Eglwysig, ond y byddai iddi ar unwaith wrthod y cynygiad. Derbyniwyd y sylwadau hyn gydag uchel gymeradwyaeth. Y mae ad- roddiad y dirprwywyr yn ffafr ychwanegu rhyddid disgyblaethol yr Eglwys ac eto y mae y boneddigion hyn, tra yn gwneyd eu goreu i leihau rhyddid yr Eglwys, yn rhoddi digon o bres ar eu talcenau i alw eu hunain yn Gymdeithas Rhyddhad Crefydd.
[No title]
-.0- UN peth ag sydd yn peri jpoen mawr i Mr. Lyulph Stanley yw, yr undeb mawr a'r cyd- weithrediad y mae yn ei weled oddifewn i'r Eglwys. "Yr oedd," ebe fe, "yn gweled un perygl bach." Beth, atolwg, yw yr "un perygl bach" hwn sy'n blino y boneddwr anrhydeddus? Hyn: "Yr oedd yr Isel Eglwyswr, yr Uchel Eglwyswr, a'r Defod- wyr yn gwneyd un achos cyffredin, ac yn anghofi eu cwerylon." Y mae'r dadgysyll- twr hwn am unwaith wedi dangos ffeithiau yn eu gwir liwiau. Nid ydyw yr anghyd- weliadau by chain a eilw ef yn "gwerylon," ond prawfion bod yr Eglwys yn weithgar, ac o ddifrif, a phawb yn awyddus i wneyd ei oreu. Y mae Eglwyswyr o bob lliw a llun yn ami yn cydgyfarfod ar yr un llwyfan mewn cynhadleddau, yn rhwymyn cariad. Un yw ein credo, un yw ein gweinidogaeth, un yw ein sacramentau, ac fel aelodau o un teulu, ymgasgla Eglwyswyr o amgylch yr un allor. Yn ngolwg Eglwyswyr y mae'r ffaith hon yn ddiogelwch mawr; ond yn ngolwg dadgysylltwyr, "perygl bach" ydyw —diogelwch crefydd, perygl Cymdeithas y Dadgysylltiad.
[No title]
YN yr un cyfarfod gwnaeth Mr. Stuart Rendel, yr aelod anrhydeddus dros Sir Drefaldwyn, haeriadau digywilydd i'r eithaf. Dywedodd fod y rhai a ymbarotoant ar gyfer gweinidogaeth yr Eglwys, "yn cael eu haddysgu yn rhad mewn ysgolion offeiriadol a waddolwyd yn ehelaeth gan y Llywodr- aeth Wrth sylwi ar y geiriau hyn, dywed golygydd y Church Times, Yr oeddym ni o'r farn fod y Llywodraeth yn ddiweddar wedi rhoddi gwaddol da i Golegau yn Nghymru. a sefydlwyd yn benaf er lies Ymneillduwyr." Gallasai ychwanegu hefyd, "Nid ydyw Coleg Eglwysig Llanbedr yn gofyn un dimai oddiar law y Llywodraeth." Y peth rhyfedd yw bod golygydd newydd- iadur Seisnig yn Llundain yn gwybod mwy am Gymru na'r gwr boneddig sy'n meddu yr anrhydedd o gynrychioli Sir Gymreig yn Nhy y Cyffredin. Hyderwn y gofala ethol- wyr Maldwyn yn yr etholiad' nesaf am anfon i'r Senedd rywun a wyr dipyn bach am hen Gymry fynyddig."
CYNYG I ATEB DYCHYMYG " HEN…
CYNYG I ATEB DYCHYMYG HEN LANG 0 GWALIA DEG." Y gair a grybwyllwch yw brawd 'r wyf yn tybio, 0 bump o lyth'renau y gwneir ef yn gryno; Os tynaf yr olaf, braw ddaw i'r golwg Os tynaf yr ail, y mae bawd yn dra amlwg Os y drydedd a dynaf, mae brwd yn dra eglur, Fel diwrnod o haf yn gynes a difyr Os tynai'r bedwerydd fydd dim synwyr ynddo Ond unig lythyrQn adewir o hono Nid chwi ydyw'r oil, addefaf yn groew, Ond os oes genych frawd 'r 'ych yn perthyn i hwnw. Ll'anddeusant GWILYM MAWKTH. [Derbyniasom atebion eraill i'r un perwyl, ond di- angenrhaid eu cyhoeddi oil.—GOL. J
[No title]
Y mae yn anhawdd dweyd pa un a gynyrcha y wén siriolaf ar wyneb menyw-dweyd wrthi fod ei baban yn drwm, neu ei bara yn ysgafn.
NEWYDDION CYFFREDINOL.'
NEWYDDION CYFFREDINOL. Yn ol pellebyr o Gaercystenyn, dywedir fod Midhat Pasha wedi marw. Er holl dynerwch yr hin yr wythnos hon, yr oedd yr eira i'w ganfod ar gopa y Wyddfa dydd Llun diweddaf. Dydd Sadwrn diweddar cyrhaeddodd Mr. Errington i Paris, ar ei ddychweliad i Loegr o Italy. Amlyga fod ei ymweliad a Rhufain wedi bod yn dra boddhaol. Mae Mr. Henry Irving ;wedi cyhoeddi llyfr ar ol ei ymweliad a'r America, yr hwn a gynwysa yr argraffiadau a wnaed ar ei feddwl o berthynas i'r wlad a'i thrigolion. Rhoddir canmoliaeth uchel i'r llyfr. Nos Wener diweddat torodd tri o ladron i siop esgidiau yn Southampton. Gan fod un o honynt wedi tori ei law wrth fyned i mewn, llwyddwyd i ddal y tri mewn gwahanol dafarndai yn y dref yn ceisio gwerthu yr esgidiau. Bore Sadwrn diweddaf priodwyd par ieuanc yn Eglwys Preston, ond prydnawn yr un dydd bu farw y wraig ieuanc yn dra sydyn, er galar mawr i'w rhieni ac i'r gwr ieuanc. Mae naw o Babyddion wedi eu collfarnu i'w crogi am y llofruddiaethau a gyflawnasant yn New- foundland yn ddiweddar. Dydd Sadwrn diweddaf, yn Manchester, dygwyd i derfyniad arddangosiadau Mr. Frank J. Flynn a Miss Milly Edwards, y corachod bychain ag sydd wedi bod yn tynu cynulliadau mawrion yn nghyd i St. James' Hall. Ni chaiff y cyhoedd y fraint o'u gweled a'u clywed yn Manchester mwyach, oblegid y mae serch wedi bod yn gwneuthur hafoc gyda'u calonau bychain; a dydd Llun diweddaf gwnaed hwy yn wr a gwraig. Y mae yn debyg mai dyma briodas y dynion lleiaf yn y byd. Ugain mlwydd oed ydyw y priodfab, ac nid yw yn pwyso ond naw pwys. Y mae y briodasferch yn 17 oed, ac heb fod ond saith pwys. Ar y Cyfan- dir y maent am dreulio eu mis mel a byddant yn talu ymweliad ag Amsterdam, Hamburg, a Brus- sels, ac yna dychwelant i'w gwlad frodorol, sef America, gan ymneillduo i fywyd teuluaidd. Ychydig o ddyddiau yn ol achoswyd tan difrifol yn melin Pitfield, Norden, ger Rochdale, trwy anfoniad matches mewn cottwm. Bu agos i un dyn golli ei fywyd trwy gael ei daraw yn ei ben a rhyw offeryn. Deallir ei fod yn awr yn gwella. Prydnawn Sadwrn diweddaf, yr oedd merch ieuanc o'r enw Isabella Robertson, yr hon a gy- flogid fel gwniadyddes mewn sefydliad dilladau yn Insch, Aberdeenshire, yn prysuro i'w chartref oddiwrth ei gwaith, a chan ei bod yn ddiweddar, a'r tren ar gychwyn, rhedodd yn gyflym i'w ddal, ond cyn cyrhaedd yr orsaf syrthiodd i lawr yn ddiffygiol, a bu farw mewn ychydig fynydau. Gadawodd William King, South Kensington, y swm o gan' mil o bunau yn ei ewyllys i St. George's Hospital, Llundain. Dyma rodd gwerth ei chael, ac un a garia enw William King i lawr i oesau a chenedlaethau i ddyfod. Dychwelodd larll Mauvres 40 y cant i'w denant- iaid yn swydd Lincoln o'u rhenti am y flwyddyn ddiweddaf, a dychwelodd Mr. Rowland Winn, A.S., 10 y cant i'w denantiaid yn siroedd York a Lincoln am yr haner blwyddyn a basiodd. Crewyd cryn gyffro yn Rotten-row, Llundain, ddydd Iau, gan swn ergyd yn myned allan yn ymyl y Serpentine. Rhedodd nifer o bersonau i'r lie, a chanfyddasant ddyn iyn gorwedd ar ei gefn ar y ddaear o dan goeden. Yn ei ymyl yr oedd llawddryll, gyda pha un yr oedd wedi aaethu ei hun. Yr oedd yn gwbl farw. Anfonwyd pump o ddwylaw yr agerlong Angelica, perthynol i Lundain, i garchar gan ynadon Stonehouse yr wythnos o'r blaen am wrthod myned i'r mor "gyda'r llestr. Haerai y dynion mewn hunan-amddiffyniad nad oedd y llong yn ddiogel. n Ylmae Congress Ddirwestol Cenhedlaethol i gael ei gynal yn Lerpwl ganol y mis nesaf. Y llywydd fydd Esgob Exeter, ac yn mhlith y siaradwyr bydd Dr. Richardson, Llundain; Proffeswr Calderwood, Edinburgh; Syr William Collins, Glasgow; a Cardinal Manning. Heblaw y rhai hyn, bydd amryw o ddynion blaenaf y deyrnas yn bresenol ac yn cymeryd rhan yn y gweith- rediadau. Cafodd Miss Newenliam, boneddiges 90 oed, yr hon a drigai gerllaw Cork, ei llosgi i farwolaeth drwy i'r canwyllbren gwympo oddi ar y bwrdd tra yr oedd hi yn eistedd ac yn darllen yn ei chadair. Y mae Dr. Commins, A.S., dros Roscommon, i gael ei wahodd yn ymgeisydd Gwyddelig dros Lerpwl, yniyr etholiad nesaf. Ar ynys San Domingo, y mae mynydd halen rhyfedd. Ei hyd yw 4 milldir, a thybir y cynwya 89,337,600 o dunelli. Dywedir fod yr halen mor risialaidd a disglaer, fel y gellir darllen argraff drwy ddarn o hono, troedfedd o drwch, heb nn- rhyw anhawsder. Yr oedd 73,000,000 o fwsieli o yd yn cael ei wastraffu yn flynyddol i wneyd diodydd meddwol. Digon i gadw trigolion Prydain â bara am bedwar mis o bob blwyddyn Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf cyfrifwyd pobl- ogaeth ymerodraeth Rwssia, a chaed allan fod deiliaid yr ymerawdwr yn rhifo dros 94,000,000. Yn 1882, yr oedd y bobl yn rhifo 91,118, 514; ac yn 1881, cofrestrwyd 4,033,862 o enedigaethau, a 2,826,438 o farwolaethau, yn dangos cynydd o 1,217,425 o bersonau. Yn ol y cynydd yma, bydd yn yr ymerodraeth yn mhen chwe' blynedd 100,000,000 o bobl; ac yn mhen 60 mlynedd cynydda y boblogaeth i 200,000,000. Mae hyd cyfartal bywyd yn Rwssia yn Ewrop yn 26 mlwydd. Dywedir fod 63 y cant o'r plant yn Rwssia yn Ewrop yn marw dan 5 mlwydd oed, yr hyn a ddengys fod 1,500,000 o blant yn marw yn flynyddol! Cyfrifir fod plentyn yn cael ei eni yn Rwssia bob wyth eiliad drwy yr holl amser, ac un person yn marw bob un eiliad ar ddeg. t
[No title]
MEWN araeth a draddodwyd ganddo fel cadeirydd Undeb Ysgolion Sul, gwnaeth Mr. Mundella sylwadau pwysig ar addysg grefyddol. Yr oedd ef ei hun yn raddolwr o'r Ysgol Sul, a llanwodd yn ei amser bob lie o'i mewn o'r ysgolhaig hyd yr arolygwr; a'r oriau hapusaf yn ei ieuenctid oedd y rhai hyny a dreuliwyd ganddo yn ngwaith yr Ysgol Sul. Teimlai felly fod ganddo fantais fawr i farnu gwaith y sefydliad daionus hwn, ac yr oedd yn ddiolchus yn mynegu ei farn fod bendithion yr Ysgol Sul yn anmhrisiadwy. Ffaith nodedig a grybwyllwyd ganddo yw fod mwy o blant yn yr Ysgolion Sul nag sydd yn yr ysgolion dyddiol. Tra nad oedd ond 4,300,000 o blant yn yr ysgolion dydd. iol, gyd a'u holl allu a'u swyddogion gorfodol, yr oedd yn yr ysgolion Sul, 5,200,000 o blant. Cymerasai Mr. Mundella drafferth i gael allan drwy gynorthwy Rector Sheffield nifer y plant yn yr Ysgolion Sul yn y dref hono. Gwnaeth yr un peth mewn amryw drefydd mawrion eraill. Yn mhob un o'r tref- ydd hyn yr oedd mwy o blant yn yr Ysgolion Sul nac yn yr ysgolion dyddiol. Gyda golwg ar hyn dywed Mr. Mundella, Y mae'r dosbarth gweithiol yn Lloegr trwy draddod- iad, drwy ddygiad i fyny, a thrwy argy- hoeddiad, mor awyddus i roddi i'w plant addysg grefyddol, fel ag yr anfonant eu plant yn rhwyddach i'r ysgol Sul nag i'r ysgol ddyddiol." Y mae hyn yn galondid i gyfeillion addysg grefyddol. Y mae teimlad y genedl, yn ddios, dros grefydd. Pe cai ein plant a'u rhieni lonydd gan gynhyrfwyr politicaidd, ceid cyfranu gwybodaeth am Dduw yn mhob ysgol ddyddiol.