Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

DIFYRION.\

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DIFYRION. Y mae dynion o dueddiadau urddasol yn meddwl eu hunain ddedwyddolaf pan bo eraill yn cyfranogi o'u dedwyddwch, Y mae yn bosibl gwella enw da wedi ei dori, ond can wired a hyny bydd i'r byd gadw ei lygaid yn wastad ar y man lie bu'r crac. Pan y mae merch ieuanc yn rhoi ei hun ymaitii, a ydyw yn colli ei hunanfeddiant ? Y mae y dyn hwnw yn profi ei hun yn gymwys i fyned yn uwch sydd yn dangos ei fod yn ffyddlon yn y man lie y byddo. Cynghorodd mam ei merch i roddi olew ar ei gwallt, ond syrthiodd i lewg pan yr atebodd yr eneth onest, 4 0 na, mam, y mae yn dyfetha gwosgodau y llanciau ieuainc.' Proffeswr yn edrych ar ei oriawr, a ddywedodd, Gan fod genym ychydig o fynydau i spario, byddat yn falch i ateb unrhyw ofyniad a ewyllysio unrhyw un ei ofyn.' "Myfyriwr Beth o'r gloch ydyw hi os gwelwch yn dda ?" 'A oes yma ffyliaid yn y ddinas hon '?' gofynai dieithrddyn i fachgenyn bychan oedd yn gwerthu newyddiaduron. Wn i ddim,' oedd yr atebiad, 4 ydych chwi yn teimlo eich hunan yn unig?' A ydyw bonnet yn cann oblegid ei bod wedi ei gorchuddio ag adar ? Nac ydyw; ond y mae y gwr sydd yn talu am dani yn chwibianu. Ysgrifenodd merch ieuanc at ei chariad y dydd o'r blaen fel y canlyn:—"Peidiwch dyfod i fy ngweled i ragor am beth amser, John y mae fy nhad newydd gael gwadnau i'w esgidiau, ac y mae dwy res o hoelion mawr wedi eu dodi ar eu blaenau." Yr oedd dwy ferch fach yn dweyd eu gweddiau cyn myned i'r gwely. Pan orphenodd y ddwy, dringodd yr ieuangaf ar lin ei mam, a sibrydodd yn ei chlust yn fuddugoliaethus, 4 Mam, ddarfu Clara ddim ond gofyn am ei bara beunyddiol,' ond gofynais i am fara a jam." Darfu i reithim r unwaith ofyn i Justice Hawkins ei esgusodi ar y tir ei fod yn rhy fyddar i glywed y tystion, Yr oedd y rheithiwr yn analluog i wneud allan dim a ddywedwyd wrtho, hyd nes y dywedodd y barnwr wrtho mewn llais meddal ac isel y gallasai efe fyned. Tywynodd gwen ar wyneb y rheithiwr, a dywedodd, Diolch yn fawr i chwi, fy arglwyddiaeth ond er ei fawr siouied- igaeth, cadwyd ef ymlaen nes y profwyd yr holl achosion. Yr oedd mab i gigydd yn cael trafferth anarferol i amgyffred fractions, er fod ei athraw yn gwneyd ei oreu i ddangos iddo a gwneyd iddo ddeall yr anhawsderau perthynol iddynt. Nawr, gadewcli i ni dybied,' meddai yr athraw, fod cwsmer yn dyfod at eich tad i brynu pum' pwys o gig, ac nad oedd ganddo ond pedwar pwys i werthu, beth wnelai efe ?' 4 Cadw ei law ar y cig tra y buasai yn ei bwyso, ac wed'yn buasai yn pwyso rhagor na phum' pwys,' oedd yr atebiad gonest. Onid oeddech chwi yn gwybod ei fod yn bechod i ladrata ?" gofynai barnwr yn Efrog Newydd i fachgenyn oedd wedi ei ddilladu yn dda, yr hwn a ddaliwyd yn y weithred o ladrata. Nac oeddwn, syr." 44 Oni ddarfu eich tad ddweyd wrthych erioed ei fod yn bechod i chwi gymeryd pethau hebfod yn eiddo i chwi?" "D'oes genyf fi yr un tad." 14 Gyda phwy yr ydych yn byw ?" 44 Gyda fy ewythr." 44 Pwy ydyw eich hewythyr ?" Y mae yn glerc yn swyddfa un o swyddogion y ddinas, syr," 44 Nid yw yn un syndod eich bod yn meddwl ei fod yn iawn i ladrata. Chwi ellwch fyned; yr ydych wedi eich rhyddhau, fy machgen i." Hen ferch weddw yn bostio ei bod yn glefer iawn yn bur ieuanc, a ddywedodd ei bod yn myned ei hunan pan yn chwe' mis oed. Atebodd rhyw berson maleisus oedd yn bresenol: "Oeddech, ac yr ydych wedi myned eich hunan byth er hyny." Cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhwng athraw a dysgybl ieuanc mewn ysgol ddyddiol. Yr athraw a ddywedai, 44 Yr ydych yn dweyd fod yna dair teyrnas ? yr anifeilaidd, y lyseuol, a'r fwnawl ?" 44 Ydwyf, syr." 44 'Nawr, ble yr ydych yn rhoddi siwgr ?" "Y mae dada yn ei roddi mewn dwfr, ac wedi hyny y mae yn rhoddi y wisci am ei ben, ac yn eu cymysgu a llwy d6."

CYNGHORION I WRAGEDD.

[No title]

ARGRAFFWYR CYi"LYM.

MARCHNADOEDD CYMREIG.

[No title]

Y PELLEBYR.

Y PELLEBYR.

DEON BANGOR

LLYFR MAWL.

[No title]

NJEWYDDION AMERICANAIDD.

Y CONFOCASIWN.