Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
---BANGOR.
BANGOR. COR EGLWYS ST. MAIR.-Llawenydd i'M calon ydoedd darllen yn y LLAN diweddaf fod nifer aelodau y oor rhagorol hwn yn cynyddu yn barhaus, ac yr wyf yn hollol o'r un farn a'ch gohebydd y dylid helaethu y gangell yn ddioed, gan mai hynod gyfyng ydoedd pan oeddwn i yn aelod, tra erbyn hyn y mae nifer ychwanegol yn y cor. Yr wyf wedi talu ym- weliad ag ugeiniau o eglwysydd yn Ngogledd a De- heudir Cymru, ond ni chlywais erioed gystal canu ag a geid yn Eglwys St. Mair, dan arweiniad y cerddor galluog, Mr. William Williams, Port Pen- rhyn, ac y mae hiraeth yn llanw fy mynwes yn ami wrth adgofio yr amser a fu, a'i gymharu a'r hyn a elwir yn ganu yn yr Eglwys lie yr wyf yn aelod o honi yn bresenol. Pan ddaethum yma gyntaf pen- derfynais fyned i'r Eglwys Gymraeg, ac anhawdd disgrifio fy nheimlad pan aethum drwy y drws, sef gweled y lie mor llwm, yr hyn a fwyhawyd pan glywais y canu marwaidd oedd yno. Ar ol y gwas- anaeth hwyrol, yr oeddwn yn myned ar hyd llwybr y fynwent tuag adref pan y clywais un yn gofyn, Sut yr y'ch chi heno ?" i'r hyn yr atebais fy mod yn iach, ond synais pan ddywedodd, Mae'r canu yn wahanol iawn yma rhagor Eglwys St. Mair, Bangor." Ydyw yn wir," meddwn inau pa beth a wyddoch chwi am Bangor ?" Mewn atebiad dywedodd ei fod yn aelod o'r cor yno yr un adeg a a minau, ac erbyn gweled pwy ydoedd wrth oleu y lamp yn yr heol, adnabyddais ef yn union, a chawsom ymgom ddifyr am yr hen gor, a dyna yw prif destyn ein hymddiddan pan y cyfarfyddwn, yr hyn sydd yn digwydd yn lied ami. Os ceir canu da a gwresog mewn Eglwys, mae yr achos yn sicr o lwyddo ond os marwaidd fydd, llwvdaidd fydd yr achos, a cheir profion o hyny yma. Er fy mod yn preswylio yn awr ugeiniau o filldiroedd o diinas henafol Bangor, eto mae fy meddwl yn ehedeg yno yn barhaus, ac adgofion hyfryd genyf am y cyfar- fodydd canu nos Fercher, ac am bump prydnawn ddydd Sul. Pan feddyliwyf am danynt, mae hiraeth yn fy ngorlethu, a buasai yn dda gan fy nghalon gael talu ymweliad &'r Eglwys anwyl sydd dan ofal y Parch. J. Morgan yn Mangor unwaith yn rhagor. Duw a fendithio y ficer, yr arweinydd, y cor, a phawb sydd yn mynychu yr Eglwys hono yw fy nymuniad diffuant, a hyderaf glywed fod y gangell i gael ei helaethu.-Hen Aelod o'r Cor.
LLANGOLLEN.
LLANGOLLEN. Y TAD IGNATIUs.-Nos Sul, Mai 4ydd, cawsom yr hyfrydwch o glywed y Parch. J. L. Lyne (Father Ignatius) yn pregethu yn Eglwys y plwyf. Er na chafwyd ond ychydig oriau o rybudd, cafwyd llonaid yr eglwys o wrandawyr, amryw o honynt yn perthyn i'r gwahanol gynulleidfaoedd Ymneillduol yn y dref. Yn hollol groes i ddisgwyliad pawb, cawsom un o'r pregethau mwyaf argyhoeddiadol ac efengylaidd y gallai neb byth ddymuno ei chlywed. Yr oedd ym- ddangosiad a gwisg fynachaidd y pregethwr yn tueddu i greu rhagfarn cryf a disgwyliad am athrawiaeth fwy cydweddol a daliadau Eglwys Rufain nag a symlrwydd yr efengyl ac erthyglau Eglwys Loegr; ond cafodd pawb eu siomi a'u swyno tra yn gwrando ar y Tad parchedig yn traethu yn rymus ac effeithiol ar Droedigaeth pechadur." Y nos Iau canlynol pregethodd drachefn, a chafwyd trydedd pregeth ganddo nos Sul diweddaf. Dis- gwylid et i anerch y cymunwyr boreu Sul, yn y gwasanaeth cynarol, ond lluddiwyd ef gan afiechyd i gyflawni ei fwriad, er fod llawer o'r Ymneillduwyr wedi dyfod i'r gwasanaeth mewn bwriad i gydgyf- ranogi gydag aelodau y Fam Eglwys o'r elfenau cysegredig. Er gwaethaf y siomedigaeth hon, daeth Uu mor fawr yn nghyd i'r Eglwys i'r gwasanaeth hwyrol fel nad oedd lie i lawer o honynt eistedd. Pregethodd y Tad y tro hwn eto gydag eneiniad neillduol nes yr oedd dynion eryfion yn wylo fel plant, a da genym ddweyd fod Duw wedi arddel cenadwri ei was er adeiladaeth i'w eglwys a deffroad i bechaduriaid. Prydnawn dydd Mercher, y 14eg cyfisol, traddododd anerchiad yn Abatty Vale Crucis ar yr Abatty a'r Mynachod." Afreidiol dweyd fod yr anerchiad yn hyawdl a dyddorol, pa un bynag a oedd ei syniadau yn gywir ai peidio. Nid oes amheuaeth nad yw y dyn rhyfedd hwn yn siaradwr penigamp ac yn ddyn Duw, mal y tystiai taerineb ei weddiau difyfyr o flaen ei bregethau a'i araeth.
LLANGATTWG, CASTELL-NEDD.
LLANGATTWG, CASTELL-NEDD. Drwg genyf gofnodi marwolaeth Mr. John Thomas, Brewery House, o'r lie uchod, sef mab Mr. a Mrs. Thomas, Court Herbert, Castell-Nedd. Yny flwydd- yn 1873, darfu i Mr. John Thomas uno mewn glhn briodas & Miss Bevan, sef merch henaf Mr. a Mrs. Bevan, Cadoxton Place, o'r lie uchod, y rhai sydd yn haeddu ded am eu haelioni tuag at y tlawd a phob achos da yn y lie. Yr oedd Mr. a Mrs. Thomas yn rhai ag oedd yn hoffi eu gilydd yn fawr. Yn y flwyddyn 1874 darfu i Mrs. Thomas roddi genedig- aeth i ferch, yr hon sydd erbyn hyn yn naw mlwydd oed. Ond mae undeb y byd hwn yn darfod, ac felly mae wedi bod yn y teulu byn. Bore Sul, Mai lleg, daeth angau i mewn, gan dori i lawr y penteulu, sef Mr. Thomas, yn 38 oed, bron yn rnlodau ei ddyddiau, gan adael i alaru ar ei ol ei anwyl briod a'i unig ferch. Duw a fyddo gyda hwynt yn eu galar, a'r Ysbryd fo yn cael ei dywallt ar bob un o honynt. Yr oedd Mr. Thomas yn un ag oedd yn hoff gan bawb, gan ei fod yn foneddwr cariadus a phob amser yn caru y gweitbiwr. Erbyn dau o'r gloch y dydd Iau canlynol, Mai 15fed, daeth torf luosog ynghyd i hebrwng ei weddillion i'w hir gartref, pryd yr oedd yn cael ei ganlyn gan ei dad, ei frodyr, ei dad-yn- nghyfraith, Mr. Bevan, a Mr. E. E. Bevan, ei gyd- frodyr-yn-nghyfraith, ac eraill o'i berthynasau. Yn yr Eglwys darfu i'n parchus ficer, yn cael ei gynorth- wyo gan ein curad, ddarllen y gwasanaeth mewn modd tra difrifol, ac yna aethpwyd o'r Eglwys at y bedd, pryd yr aethpwyd trwy'r gwasanaeth terfynol gan y ficer. Yna ymadawodd pawb, gan adael y rhan llygredig i orphwys yn ei hir gartref, hyd ail- ddyfodiad Mab y dyn, pan y bydd y beddau, ar floedd yr archangel, yn rhoddi eu meirw yn rhydd i ddyfod ger bron y Barnwr, pryd y caiff pawb dder- byn ei wobr. Ni chafodd Mr. Thomas ond byr gystudd, ac y mae hyn yn galw yn uchel ar bawb am fod yn barod, gan mai yn yr awr ni thybiom y daw yr alwad am danom. Wel, arholwnein hunain pa fodd yr ydym yn byw, ac a ydym yn barod pe bae yr alwad yn dyfod ganol dydd. Mae'r amser yn A myned, yn myned o hyd, a'r dyn yn myned gyda'r amser; felly mae pob munyd yn gosod dyn yn nes i wyddfod ei Dduw. Yn mhobllafury mae elw ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi; yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn, ac i'w blant ef y bydd noddfa." -Cattwg.
-------------------------------------------…
ABERDAR. EGLWYS FAIR.—Nos Fercher, y 14eg cyfisol, caf- odd cor, ynghyd a sidesmen yr eglwys hon eu gwledd flynyddol, sef swper ardderchog mewn goruwch-ys- tafell perthynol i'r -1 Prince Albert Inn," sof ty un o aelodau yr Eglwys Gymreig. Cawsom wledd ardderchog yn ngwir ystyr y gair. Yr oedd y byrddau wedi eu hulio erbyn 8 o'r gloch y nos a'r danteithion mwyaf dewisol, a'r rhai hyny wedi eu cogino yn dda gan dylwyth caredig y Westy hon, ac wedi i'r tri carver dori a rhanu, gallwn i feddwl eu bod, fel yr oedd Joseph yn yr Aipht gynt yn carvio i Benjamin, yn meddwl mai Benjaminiaid oeddem ni oil gan y seigiau mawrion melusion a osodent ger ein bronau, a gallaf sicrhau darllenwyr y LLAN ei bod yn amser prysur yno tra yn gwledda ar y gwahanol ddanteith- ion. Cyn clirio y byrddau, rhanwyd ffrwythau per n'r fath oreu, megys afalau, aurafalau, nes yr oedd- em mewn syndod yn barod i ofyn a oedd digon o arian yn y god i dalu am danynt; ond er ein llaw- enydd cawsom ar ddeall nid yn unig fod digon i dalu ond hefyd fod gweddill. Wedi gwneuthur cyfiawn- der a'r holl bethau yna symudwyd y llieiniau a rhoddwyd programme yn llaw y Ficer, yr hwn ydoedd yn llywydd, a threuliwyd ryw awr a haner neu ddwy awr mewn canu unawdau, gan wahanol aelodau y cor, a chafwyd dadl neu ddau ganynt, ac anerchiad gan y Ficer, y Curad, ac un o'r Sidesmen, a thyst- iolaeth pawb yn bresenol oedd, na chawd gwell swper, na mwy difyr cyfarfod erioed yn eu bywyd. Gwedi i'r Ficer dalu diolchgarwch i deulu y gwestv am y trefniadau rhagorol, ac i aelodau y c6r ddatgan eu diolchgarwch i'r Curad am ei ymdrech a'i lafur di- flino yn casglu yr arian angenrheidiol i dalu am yr holl draul, ymadawyd drwy ganu Duw gadwo'r Frenhines.' Ein taer ddymuniad a'n gobaith yw, y bydd y wledd hon yn foddion i'n symbylu un ac oil i gyflawni ein dyledswyddau yn y dyfodol me wn cysylltiad a, cherddoriaeth yr hen Eglwys Gymreig anwyl, nes y bydd gwres ei gwasanaeth yn foddion i dynu llawer i lan llyn y moddion i ddisgwyl am gynhyrfiad y dwfr. DAMWAIN ANGEUOL.—Yn mhwll y Bwllfa, Cwm- dâr, dydd Gwener, Mai 16eg, cafodd glowr o'r enw Griffith Williams, ei ladd yn ddisymwth iawn trwy i gareg o'r top syrthio arno a'i daro tra yr oedd yn siarad ag un arall. Digwyddai weithio, debygem ni, yn un o'r manau diogelaf yn y gwaith, ond fel y dywedodd ein Iachawdwr y profwyd y tro hwn yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn.' Yr oedd yn ddyn tawel, diwyd, a sobr, a pherchid ef gan bawb. Gadawobd weddw a phump o blant i alaru ar ei ol. Da genym ddweyd ei fod yn aelod o Gymdeithas ddarbodol y Glowyr,' felly caiff ei wraig a'rrhai hyny sydd mewn oedran gynorthwy ar ei ol. Duw yn nawdd iddynt oil. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH GWILYM CYNON. -Y mae genym eto y gorchwyl gofidus o groniclo marwolaeth y cyfaill William Phillips (Gwilym Cynon). Cafodd ei gystuddïo am amryw wythnosau, eto i gyd nid oedd neb yn disgwyl ei-farwolaeth, ac felly boreu dydd Mercher, y 13eg cyfisol, pan ehed- odd y rhan anfarwol ymaith, tarawodd y newydd bawb a. syndod. Ei oedran oedd 38 ar y 5ed dydd o Ebrill diweddaf, felly gwelir ei fod yn anterth ei ddyddiau. Prydnhawn y Sadwrn diweddaf ymgyn- hullodd tyrfa luosog o'i hen gyfeillion at y Mason's Arms,' Hirwain, ynghyd a thrigolion Hirwain, er mwyn talu y gymwynas olaf i'w weddillion marwol. Ffurfiwyd yn orymdaith fawr, a chychwynwyd am Cemetery Aberdar. Wedi canu emyn wrth y ty cyn cychwyn, canwyd allan drwy y lie, a chan fod cyn- ifer o gantorion yn bresenol yr oedd y canu yn effeithiol dros ben. Wedi cyrhaedd hyd at y cemetery, safwyd ar yr heol, a chasglwyd yr holl gantorion ynghyd, ac aeth Mr. Richard Morris, Hirwain, i ben mur yr ochr arall i'r heol er mwyn i bawb ei weled yn arwain, a chanwyd yr hen don anwyl Dymuniad ar y geiriau, "Pan ballo ffafr pawb a'u liedd, Duw o'i drugaredd odiaeth," gan yr holl dorf yn ddwys iawn. Gwedi hyny nwcl at y bedd, lie yr anerchwyd y dorf aruthrol gan y Parchedigon W. Edwards, Ebenezer, Trecynon, Aberdar;—Williams, a Rowlands, Saron, Aberaman. Canwyd wrúh y bedd cyn dechreu y don 'T-eifioitydd,' ar y geiriau, "Mae nghyfeillion wedi myned, Draw yn lluoedd o fy mlaen." A chyn ymadael yr hen don fendigedig Babel," ar y geiriau, Bydd myrdd o ryfecldodau." Yr oedd yn ystod eioes fer wedi dyfod yn adna bydd us drwy holl Gymru benbaladr, a llawer o Loegr hefyd. Yr oedd ei lais tenor soniarus, ei chwaeth uchel, ei fedrusrwydd fel arweinydd, wedi ei godi i fyny i'r rhes flaenaf yn mhlith y Cymru fel amateur, a thrwy hyn yr oedd yn uwch o'i ysgwyddau na rhan fwy- af o'i gydoeswyr yn y gerdd. Bydd yn dda gan bawb a'i hadwaenai debygwn glywed am ei act olaf cyn marw. Boreu dydd Mercher, galwodd am ei wraig a gofynodd iddi ei godi ar ei liniau yn y gwely. Gwnaeth hithau hyny, a gweddiodd yntau am amser yn y fan hyny. Yna dywedodd wrthi, Gelwch y plant yma; yr wyf yn myned i farw." Daeth y plant, a dywedodd wrthynt, Gadewch i ni ganu," a thra yn ceisio canu ehedodd ei ysbryd ymaith.
LLANBEDR, PONT STEPHAN.
LLANBEDR, PONT STEPHAN. GRIFFITH JONES, LLANDDOWROR. Traddodwyd darlith alluog ar y testyn uchod, nos Fercher y 14cg, yn neuadd y dref gan y Parch. E. T. Davies, B.A. (Dyfrig), Aberdyfi. Ni raid canmol y darlithydd. Y mae ei fedr a'i hyawdledd yn adnabyddus trwy Gymru. Caed ganddo ddarlun byw o gymeriad a llafur Tad y Diwygiad Cymreig. Dangosodd Mr. yll it ig. Davies, trwy ystadegau a fieithiau anwadadwy, mai o ysgolion cylchdeithiol Griffith Jones y tarddodd Ysgol Sul ein gwlad. Olrheiniodd hefyd ddylanwad Griffith Jones ar Daniel Rowlands, Llangeitho, Thomas Charles y Bala, a diwygwyr eraill y ddeu- ganrif. Gofalai am wneyd tegwch a dwy ochr y cyfnod dyddorol hwn o hanes ein Heglwys Gymreig. Nid oes Him yn ei ddarlith i beri tramgwydd i un Ymneillduwr diragfarn. Deallwn fod ganddu ddar- lith gyffelyb ar Dr. Morgan, cyfieithydd y Beibl, ac enwogion Eglwysig ereill. Gobeithio y cyhoeddir hwy ganddo, cyn hir, mewn llyfr, er mwyn i'r wlad ganfod gymaint o wasanaeth a wnaed i'r genedl o oes i oes gan offeiriaid yr Eglwys. Ni ellir gwneyd dim gwell, er gwrthweithio y Dadgysylltwyr, na chael yn mhob ardal ddarlithiau fel yr eiddb Mr. Davies.
---_._------_._--------_.-_-_-._-_/.…
I LLANWONNO. Y mae y lie hwn yn myned ar ei gynydd yn gyflym iawn, ac yn ol pob ymddangosiad bydd yn le poblog- 1 i,idd yn funn. Da genym ni a chanoedd eraill fod D. Davies, Ysw., Llandinam, yn cychwyn yn frysiog gyda sinMo dau bwll glo yn agos i Tyle'rfedw, yn agos i Ynysybwl, tua milldir i lawr y cwm. Felly, yma y bydd tynfa canoedd o bobl mewn ychydig amser. Hefyd, yr ydym yn deall fod cwmpeini newydd wedi ymgymeryd 11'1' Black Grove Colliery, .y yr hwn oedd yn meddiant H. Williams, ac yn bwriadu ei ail gychwyn ar unwaith.
DYFFRYN RHONDDA.
DYFFRYN RHONDDA. TAN YN NGLOPA CYMMKR.—Tua dau o'r gloch prydnawn ddydd Sadwrn, achoswyd cyffro annis- grifiadwy yn y Dyffryn, jpan ddeallwyd fod rhan o bwll glo Cymer ar dan. Ymhen ychydig eiliadau ar cl canfod y colofnau trwchus o fwg yn ymddyrchafu, yr oedd canoedd o bersonau wedi ymgynull. Pan dorodd y t&n allan, yr oed 560 o bersonau, ac 80 o geffylau i lawr yn y pwll. Gwnaed pob lymdrech i ddiffodd y tan gan ganoedd o bersonau, y rhai a gludent ddwfr i'w luchio ar yr elfen ddinystriol. Drwy offerynoliaeth Mr. Charles James, un o'r swyddogion, llwyddwyd i orchfygu y fflamau rhag ymledu, ac i hyn yn unig y gellir priodoli y ffaith na losgwyd yr holl waith a'r rhai oedd ynddo. Dech- reuodd y tan gerllaw genau y pwll, drwy i cinders poethion ddisgyn o beiriant ar ran o'r gwaith coed, .Y yr hwn oedd yn drwythedig ag olew, ac yn ffodus buwyd yn alluog i'w rwystro rhag ymeangu i lawr i'r pwll, ac felly achubwyd bywydau y canoedd oeddynt i mewn. Dygwyd y gweithwyr a'r ceffylau i fyny yn ddiogel, er mawr lawenydd i'r miloedd oeddynt wedi ymgynull gerllaw y gwaith. Mae llawer o golled wedi ei achosi i ranau o'r gwaith, ond teimlir diolch- garwch cyffredinol fod y gweithwyr yn ddiogel. Dechreuwyd adgyweirio y rhanau llosgedig ddydd Sul, ond cymer gryn amser i'w gwblhau, yr hyn yn ddiau a dafla y gweithwyr allan o waith am gyfnod. -Gohebydd.
PONTLLANFRAITH.
PONTLLANFRAITH. CLWB CEIDWADOL. Ymgyfarfyddodd aelodau Clwb Ceidwadol y Gweithwyr, yn y Greyhound Hotel, nos Sadwrn, pan y daeth nifer da o weithwyr ynghyd, y rhai a arwyddasant eu henwau wrth reolau y sefydliad. Mae gan y gymdeithas hon ddau amcan mewn golwg, sef hyrwyddo egwyddorion Ceidwadol, a darparu trysorfa ar gyfer afiechyd a marwolaeth. Y Parch. J. Griffiths, Mynyddislwyn, a etholwyd yn llywydd cyntaf y gymdeithas, ac y mae amryw foneddigion o'r gymydogaeth wedi am- lyga eu parodrwyddiddyfod yn aelodau anrhydeddus a thanysgrifio tuag at a.mcanion y gymdeithas ddaionus hon. Mae y rhagolygon yn hynod addawol yn bresenol, gan fod Mr. Davies, yn nhy yr hwn y cyfarfyddir, yn Geidwadwr cywir, ac yn gwneyd ei oreu o blaid y gymdeithas. Dangoswyd cryn lawer o frwdfrydedd yn y cyfarfod ar sefydliad fiurfiol y gymdeithaH, ac yr wyf o galon yn dymuno ei llwydd- iatit.-Giveithi,tor.
'DYFFRYN RHYMNI.
DYFFRYN RHYMNI. Y DADGYSYLLTIAD ETO.—Y mae gweision cyflog- edig Gymdeithas Rhyddhad Crefydd (fel ei llysenwir), yn benderfynol o afionyddu heddwch ein cwm. Pythefnos yn ol buont ar bererindod yma o'r blaen, ac y maent yn dyfod yma yr wythnos yma eto. Yn y cysylltiad yma dylaswn ddweyd fod Menagerie arall yn dyfod i'n plith hefyd ar yr un diwrnod. Felly cawn gyfleusdra go dda i chwilio i fewn i ddir- gelion y missing link. Rhyfedd mor galed y maent yn gorfod gweithio er mwyn cadw hen geffyl seneddol Dillwyn yn fyw. Y Meistri Jones a Mathews, ie, a "Dr." Williams, mae'r dydd wedi cerdded yn rhy bell, ni wnaifE hi ddim o'r tro i arfer hen offerynau rhydlyd athrod a chabldraeth i wneuthur drwg i ddosbarth o ddynion sydd Ilawn mor barchus, doc- toraidd, a dysgedig a chwithau. Rhowch wybod, foneddigion, beth yw'r tal am eich gwaith yn dyfod yma. DYRCHAFIAD.—Mae yn dda genym fod yn alluog i gofnodi fod Mr. John Jones, prif athraw ysgol ddyddiol y bechgyn yn Pontlottyn, wedi ei benodi i ysgol bwysig o dan Fwrdd Ysgol Bedwellty. Brodor 0 11 o'r cwm yw Mr. Jones, ac y mae ei gyfeillion un ac oil yn hyderu bod y dyrchafiad presenol yn rhag- liaenu dyrchafiadau eraill a mwy anrhydeddus fyth. CYFLWYNIAD TYST.EB.-Nos Iau nesaf, bwriedir cyflwyno tysteb i'r Heddgeidwad Summerhill, ar ei ymadawiad o Bontlottyn i Dowlais. Bu y derbyniwr yn un o heddgeidwaid y lie am dros bedair blyned, o o dan y Sergeant Rutter, a pherchid ef yn fawr iawn. Y mae yr heddgeidwad ieuanc a gobeithiod yma wedi derbyn un dysteb eisioes oddiwrth ei gyfeillion Eglwysig, am ei lafur a'i wasanaeth dros yr Eglwys a'r cor canu. Llwyddiant iddo. Drwg genym ddweyd fod amryw dwymynau yn blino y rhan uchaf o'r cwm yn y dyddiau presenol, Gobeithio, gan fod yr haf wedi dyfod yn ei holl brydferthwch a'i ogoniant, y dillana pob math o afiechyd o'n plitli.-Y Ffwrnes Flast.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. Y GWIRFODDOLWYR.—-Dydd Sadwrn, ymdeithiodd y gwirfoddolwyr perthynol i'r dref i gymydogaeth Castell Morlais, lie y buont am amser yn myned drwy eu hymarferiadau milwrol. Ar ol hyny aeth- ant i Pontsarn, lie y rhoddwyd bara a chaws a chwrw i bob un, ac yna ymdeithiasant tua chartref drwy Cefncoed-y-cymer. Yr oedd y swyddogion canlynol yn bresenol :Yr Uch-gadben D. Rees Lewis, Cadbeniaid T. L. White, J. 0. White, ac A. James, a'r Is-gadben L. P. Jones. Treuliwyd ychydig oriau yn hynod ddifyr, ac yr oedd cynulliad mawreddog yn eu croesawu yn yr heolydd pan ddaothant adrsf. EGLWYS Y PLWYF.—Nos Lun diweddaf, cefais y fraint o fod yn bresenol jmewn cyfeillach Eglwysig yn Eglwys y plwyf, a theimlid rhyw eneiniad dwyfol yn treiddio drwy y lie, mewn canlyniad i weddiau ac anerchiadau difrifol a gafaeJgar y brodyr Hyddlon sydd yn eu cario ymlaen. Yr oedd cynulliad da wedi dyfod ynghyd, a disgwylir y bydd eu nifer yn cynyddu yn barhaus, gan fod daioni annhraethol yn sicr o ddilyn eu cynhaliad. Teilynga y brodyr ffydd- Ion Mri. William Davies, Hugh Hughes, John Thomas, Thomas Richards, a Jenkin Jones, ddiolch- garwch diffuant am eu hymdrechion clodwiw i gynal i fyny y cyfarfodydd gwir ragorol hyn, He y mae y fath deimladau caruaidd, gwresog, a diffuant yn cael eu ddangos y naill tuag at y llall, yr hyn sydd yn rhwym o droi allan yn fendithiol i bawb. Duwa, fendithio ymdrechion y lleygwyr fiyddlon sydd yn llafurio mor egniol o blaid yr achos goreu. ANRHEG BRIODASOL.—Arddangoswyd graddau o lawenydd ddydd Sadwrn diweddaf, ar yr achlysur o briodas Mr. John Leonard, o swyddfa Mri. Farrant a Frost, a. Miss Cecilia Brooks, merch Mr. Richard Brooks, Plymouth Street, yr hyn a gymerodd le yn Eglwys y plwyf, pryd iy gweinyddwyd gan y Parch. W. Jones, B.A., curad, yn ngwydd cynulliad parchus, ac yn eu plith weithwyr Mri. Farrant a Frost. Pan ydoedd y p&r ieuanc yn gadael yr Eglwys, lluchiwyd rice yn helaeth arnynt gan y dorf, fel arwydd o'u teimladau da. Mewn cyfarfod o'r gweithwyr, pen- derfynwyd tanysgrifio tuag at bwrcasu anrheg cyfaddas i'w chyflwyno i Mr. a Mrs. Leonard, ac wedi cael swm da o arian, penderfynwyd i'r anrheg gymeryd y ffurf o Tea Service ysblenydd. Ar ddych- weliaa y par priodasol nos Lun o Gaerdydd, ym- gyfarfyddodd eu cyfeillion yn y Carpenter's Arms, preswylfod Mr. David Jones, overseer cymeradwy a charedig y swyddfa, pryd y cymerwyd y gadair gan Mr. Lockyer, llyfr-rwymydd, yr hwn wrth wneyd y cyflwyniad, a draddododd anerchiad yn datgan dymuniad y tanysgrifwyr y caffai Mr. a Mrs. Leonard eu bendithio a. hir oes. Cafwyd anerchiadau gan y priodfab ac amryw eraill, ynghyd k chaneuon gan rai o'r cwmni, a therfynwyd cyfarfod hynod ddifyrus drwy dalu y diolchiadau arferol, a chanu God save the Queen." Mae y par ieuanc hefyd wedi derbyn lluaws o anrhegion eraill gan eu cyfeillion. GWAITH CYFARTHFA.—Dydd Llun, dechreuwyd gweithio y ffwrneisiau newydd, y rhai a agorwyd yn ffurfiol gan Mrs. Crawshay. Yn mhen ychydig amser bydd yr holl waith eangfawr hwn yn cael ei weithio yn llawn, a miloedd ychwaneg o weithwyr yn cael eu cymeryd i mewn, yr hyn a sicrhfi lwyddiant mawr i fasnach y dref fel ag y bu rai blynyddau yn ol.
- ^ ^ LLANELLI.1
LLANELLI. MARWOLAETH MR. D. EVANS.-Y mae yn flin genym gofnodi marwolaeth yr uchod, yr wythnos ddiweddaf yn ein tref. Bu yn un o'r masnachwyr y He un diwrnod, ond y blynyddau diweddaf trodd ffawd yn ei erbyn, a rhyw fodd neu gilydd, daeth yn ddyn tlawd. Ystyrid ef yn ddyn gonest, cariadlawn, ac hynod grefyddol. Perthynai i Gapel Seion, capel y Bedyddwyr, yn mha un yr oedd wedi bod yn ddiacon a thrysorydd yr Eglwys am flynyddau. Ca yr Eglwys golled fawr ar ei ol, oblegid yr oedd yn un o'r rhai mwyaf gweithgar ac haelionus yn y lie. Claddwyd ef dydd Gwener diweddaf. Yr oedd holl fasnachdai y dref yn nghau yn y prydnawn, yr hyn arwyddai y parch a deimlid at yr ymadawedig gan ein trefwyr. AELOD NEWYDD DROS Y SIR.—Deallwn fod yn mryd Rhyddfrydwyr y dref i geisio gan Syr Arthur Stepney i ddod allan fel ymgeisydd am sedd Arglwydd Emlyn, yn yr etholiad nesaf, yr hwn, medd y papyrau, sydd wrth y drws. Y mae y gwr boneddig uchod wedi addaw ymladd yn fynych dros Rhyddfrydiaeth, ond yn ol yr arwyddioJi yn y dref a'r wlad, y mae sedd Arglwydd Emlyn mor sicr ac erioed, a Cheidwadwr arall gydag ef, sef J. T. D. Llewelyn, Ysw., yr hwn ddywedir sydd yn pender- fynu do'd i'r maes dros Geidwadiaeth. Os oes neb yn deilwng o gael ymddiriedaeth y bobl, credwn fod Mr. Llewelyn. Ymladdodd yn wrol yn ddiweddar o blaid yr Eglwys a'i hiawnderau. EGLWYS Yn HOLL SAINT. Yn ystod y mis hwn. bydd y Parch. W. R. Villiers, ficer Newborough, i bregethu yn yr Eglwys hon. Y mae eisioes wedi enill iddo ei hun air da gan bawb sydd wedi ei glywed. Y mae yn llefarwr syml, ond yn hynod effeithiol a dylanwadol. Y mae yr Eglwys yn orlawn bob Sul. Trueni na bai y Canon yn gallu cwbl- hau yr Eglwys hardd hon, oblegid ar nos Suliau y mae yn rhy fach i ddal y gwrandawyr. Y mae yma wasanaethau rhyfedd o wresog, a chanu heb ei ail.
* LLANGENNECH. '
LLANGENNECH. GWEITHIAU ALCAN.—Oddiar yr auiser y dech- reuodd y gweithiau hyn weithio, y mae gwedd newydd ar yr ardal. Yr wythnos ddiweddaf, start- iodd yr ail waith, yr hwn sydd wedi bod yn aros am tua dwy flynedd. Y mae dan olygiaeth Mr. T. Glyn Thomas. Y cwmni newydd ydynt Afri.'Wni. a Henry Thomas, Llanelli; y maent yn foneddigion arianog a chymeradwy yn yr ardaloedd. Y mae gwaith alcan Penclawdd yn fuan i ddechreu hefyd. Dyma fendith arall i wawrio ar ardal y Fro.
FELINFOEL.
FELINFOEL. CYFARFOD 'ADLONIADOL.—Nos Fawrth diweddaf, cynhaliodd pobl ieuainc Eglwys y lie hwn eu cyfarfod aciloniadol blynyddol, yn Ysgoldy yr Eglwys. Yn absenoldeb Mr. Rogers, Aelybryn, cymerwyd y gadair gan M. F. R. Nevill, Felinfoel House. Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn o gyfeillion y mudiad, yr hwn, ddeallwn, ddygwyd i weithrediad yn hynod lwyddianus drwy offerynoliaeth Mr. Willie Nevill a'i gyf. Yr oedd yr elw at y Cricketers yn y pentref, lie y mae clwb llewyrchus.
.-"CYDWELI. ''
CYDWELI. MARWOLAETH DRWY FRATHIAD.-Dydd Sadwrn cyn y diweddaf, digwyddodd amgylchiad trist yn yr ardal hon, drwy i un David Morris frathu un John Howells. Dywedir fod y ddau dan ddylanwad y diodydd meddwol, ac ar y cyntaf yn cweryla. Mae yn debyg mai yn y cweryl yma y cymerodd Morris y gyllell allan, gyda bwriad i gyflawni y weithred. Brathwyd Howells yn ei fraich, yr hyn achosodd iddo waedu lawer. Yr oedd ei sefyllfa mor ddrwg, fel y eymerwyd ef i glafdy Caerfyrddin yn yr hwyr, ac yma yr oedd yn gwaethygu bob dydd, nes iddo farw boreu dydd Gwener. Cymerwyd David Morris i'r carchar y noswaith y brathodd ei gymydog. Oddiar pan y mae yma, teimlai gymaint fel y mae bron allan o'i bwyll. Cynhaliwyd trengholiad ar gorph Howells, a dygwyd yn erbyn Morris ei fod yn euog o Manslaughter. Nid oedd yn alluog druan, i fod yn bresenol, oherwydd ei afiechyd, a dywedir nad yw yn gwybod eto fod Howells wedi marw; ofnir os clyw hyn, y bydd y newydd yn ddigon i gymeryd ymaith ei fywyd. Wele enghraifft arall o'r hyn wna meddwdod. Pa bryd y day yr amser pan y cawn weled mwy o sylw yn cael ei dalu gan feistri gweithwyr ac eraill i'r cwestiwn o sobreiddio ein gwlad. Y mae eisiau mwy o sylw i gael ei dalu gan eglwysi ein gwlad. Y mae y weithred hon ac ugeiniau eraill ym galw yn uchel arnom i wneyd rhywbeth.