Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
EGLWYSWRW.
EGLWYSWRW. Yr wythnos ddiweddaf bu farw, yn y gymydogaeth r hon, hen gymeriad na cheir mo'i gyffelyb ond pur an- fynych. Yr oedd Eben Wallis 11 yn hollol adnabyddus i'r rhan fwyaf 0 drigolion siroedd Aberteifi, Caer- fyrddin, a Phenfro. Teithiai yn ei gylch o fferm i fferm yn rheolaidd, ac yr oedd drwa agored i Eben pa bryd bynag y denai. Yr oedd yn hollol ddiniwed, ao 0 duedd hynod grefyddol. Adrodd pregethau, a chanu thai 0 emynau a thonau melus y dyadiau gynt oedd gwaith bywyd yr hen Eben. Y tro diweddaf y clywaiB ef oedd yn ngwaelod sir Aberteifi, yn canu gyda bias, Ac oa oedd dyled arnynt hwy," ar un 0 hen donau oyntaf fy mhlentyndod. Druan o Eben, daeth yn ei gwrs i Derwenfron, a phan yn croesi y buarth syrthiodd i lawr, a bu farw yn y fan. Heddwch i lwch yr hen bererin, a Naf i'w enaid. Derbyniodd y Dadgysylltwyr ergyd drom yn y plwyf hwn ddydd Mercher diweddaf. Yma y mae cadeirydd y gwrth-ddegymwyr yn byw, ac er mwyn bychanu yr Eglwys penderfynodd y gwr hwn ddangos ei alia trwy gymeryd y swydd 0 warcheidwad y tlodionoddiar y Ficer i'w law ei hnn. Ymarfogodd i ryfel gyda phob ymddiried yn ei bwysigrwydd ei hun—clywid corn y gid yn galw 0 Dan i Bearseha-a chasglwyd y saint o for i fynydd. Ar ol torsythu o flaen y plwyfolion am rai dyddian fel y Goliath oedd wedi dyfod allan yn anterth ei nerth, i ddarostwng yr Eglwys i'r llwch, daeth dydd y frwydr, pryd y cafwyd fod 0 blaid y Ficer 72, a chyda y Gwr o'r Palle 54. Heblaw hyn collodd y Ficer 9 o bleidleisiau oherwydd esgeulusdra; oni bai hyny buasai eanddo fwyafrif 0 haner cymaint arall ag a gafodd prif gynhyrfwr yr ardal. Dyma brawf eto, at y lliosog brofion eraill, nad ydyw corn y bobl yn elyn- iaethus i'r Eglwys, ac mai dyrnaid fechan 0 ysgragl- ach sydd yn cadw yn fyw y cynwrf presenol er mwyn hunan-les.-Cdmro.
LLECHRYD, CEREDIGION.
LLECHRYD, CEREDIGION. Cyflwynwyd awrlais ardderchog a chostfawr o farmor wedi ei oreuro i Miss Thomas, merch henaf y Parch. T. Thomas, ficer Llechryd. Ychydig ameer yn ol ym- adawodd Miss Thomas am Goleg Penarth, Caerdydd. Cymerodd gyfeillion atynt (yn anymwybodol i'r Ficer) i gasglu, acagorwyd subscription list, a chwyddodd hon gymaint fel nad oeddym yn gwybod beth i wneyd o'r arian oherwydd ieuenctyd y derbynydd. Bydd yn syndod gan ddarllenwyr Y LLAN ddeall fod un saith mlwydd oed yn alluog i chwareu yr harmonium trwy yr holl wasanaeth, a gwnaeth hyn am flynyddau, ac fel arwydd o'u parch a'a hedmygedd tuag ati ni adawsant i'r cyfleustra fyned heibio heb arddangos eu teimladau da tuag ati. Pwnc mawr ydoedd anrheg o beth i roddi i un mor fechan ac mor ieuanc; anhawdd oedd pender- fynu. Modd bynag penderfynwyd ar awrlais marmor wedi ei oreuro-ac fel y gwyr pawb a'i gwelodd ei fod yn ardderchog, mae yn ornament ynddo ei hun, heblaw ei ddefnyddioldeb i gadw amser-digon yw dweyd ei fod yn un o'r goreuon, ac fe fydd yn relic ymysg y teulu yn yr amser a ddaw. Cyflwynwyd yr awrlais ar yr 16eg o Ebrill y mae yn gerfiedig arno:—"Presented to Miss M. S. J. Thomas by the members of St. Tydfil's Chtirch, and a few friends, in recognition of services as Harmoniumist, March, 1888." Cafwyd yr awrlais 0 fasnachdy Mr. A. M. Webb, Cardigan, yr hwn hefyd a wnaeth y cerfwaith-maent wedi rhoddi llwyr foddlon- rwydd. Mae Miss Thomas yn myned rhagddi mewn cerddoriaeth—dychwelodd gydafirst class honours mewn cerddoriaeth, French, ac hefyd good conduct. Ewch rhagoch mewn perffeithrwydd yw ein dymuniadau.— Ewyllysydd.
GWRECSAM.
GWRECSAM. Dydd mawr oedd dydd Gwener diweddaf gyda'r Fyddin Eglwysig. Daeth y Parch. G. W. C. Ward yma i anerch yr aelodau oedd am ymrestru yn y fyddin. Yr oedd y gwasanaeth yn effeitbiol iawn yn eglwys y y plwyf. Khoddwyd y cordyn coch, arwydd aelodaetb, i tua 40. Y mae y fyddin yn gaffaeliad gwerthfawr fel Ilawforwyn i waith yr offeiriaid yn y plwyf. Cynhaliwyd cyfarfod nos Fercher yn y Savings Bank ynglyn a'r Eglwys Gymraeg. Yr oedd y cyfarfod yn gynwysedig o ganu ac adrodd. Unwaith yn rhagor aibrydir fod Eglwys Gymraeg ar roddi ei hymddangos- iad yn ein plitb mewn dull sylweddol. Gellir dweyd am hon fel am bethan siomedig eraill, "Gobaith a oeder a wanha y galon." »
DINBYCH.
DINBYCH. Y FESTJRI.—Cynhaliwyd hon yn yatafell yr ynadon, ddydd Iau, y 12fed cyflsol, am 11 y boreu. Talwyd diolchgarwch i'r wardeniaid, Dr. Tumour, a Mr. J. P. Lewis, a chan nad oeddynt am aefyll eto, etholwyd Mr. J. Davies, dros y Rheithor, a Mr. G. T. Miller, station master, dros y plwyfolion, yn wardeniaid y flwyddyn sydd yn cerdded. Ni ddarllenwyd y cyfrifon; ystyrir hwynt mewn cyfarfod o Eglwyswyr yn y Church House. Nos Wener, y 13eg cyfisol, cafwyd entertainment yn y Drill Hall er cynorthwy i'r clwb sydd mewn cysylltiad a'r Ysgol Sul Seisnig peTthynol i'r Eglwys, pryd y cafwyd ty llawn ac elw da at y sefydliad. YMADAWIAD Y PARCH. E. J. EVANS, M.A.—Mae ein parchus gurad yn ein gadael am Llanelwy, gan ei fod wedi ei benodi yn Ficer Corawl. Bydd yn golled i Ddinbych, ond yn enill i'r ddinas Esgobol. YSGOL SUL EGLWYSIG GYMREIG.-Cynhelir hon yn y Drill Hall, ac y mae golwg lewyrchus iawn ami. Yr average, attendance am y flwyddyn yn terfynu gyda Mawrth ydoedd 199, chwanegiad o 50 er Sal byth- gofiadwy y Cyfrif. Go dda, onide ? Pe buasai y symudiad hwnw wedi gadael cyffelyb argraff ar holl ysgolion Eglwysig ein gwlad cyrhaeddid ancan na feddyliodd ei sylfaenydd iddo wneuthur.
CAERDYDD.
CAERDYDD. CYMDEITHAS EGLWYSIG DEWI SANT.—Dyma enw y gymdeithas (Guild) a sefydlwyct bythefnos yn ol mewn cysylitiad a'r Eglwys Gymraeg. Cynhaliwyd y cyf- arfod rheolaidd cyntaf nos Lun diweddaf, yn yatafell genhadol St. Dyfrig (trwy garedigrwydd y Parch. G. A. Jones, ficer St. Mair). Darllenwyd papyr dyddorol ac addysgiadol iawn gan y Warden (y Parch. A. E. H. Hyslop) ar y testyn, Yr Eglwys Anglicanaidd yn wir adran o'r Eglwys Lan Gatholig." Cafwyd ychydig o sylwadau gan yr aelodau wed'ynar gynwysiad y papyr, am yr hwn y talwyd pleidlais wresog o ddiolchgarwch i'r Warden. Treuliwyd noswaith ddifyrus a bnddiol dros ben. Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Lun, y 7fed o Fai, pryd y disgvvylir y bydd papyr yn cael ei ddarllen ar Y tair gradd yn y weinidogaeth."
LLANBEDROG.
LLANBEDROG. BRWDFRYDEDD.—Dydd Ian, y 19eg cyfisol, yr oedd y dydd hwn yn ddiwrnod eithriadol yn y plwyf hwn fel lliaws eraill trwy y Dywsogaetb, sef dydd priodas y tir- feddianydd a'r boneddwr Mr. Assheton Smith, caredig- rwydd a dyngarwch yr hwn sydd bellach yn wybyddus trwy Gymru benbaladr. Er nad yw nifer ei denantiaid ond ychydig o'u cydmaru yn y plwyf hwn, er hyny ni phetruswn hysbysu y cyhoedd ddarfod iddynt gario allan eu teimladau a'u deisyfiadau daionus mewn ym- ddygiadau mor ddoeth ac mor frwdfrydol ac unrhyw o'i wyth cant tenantiaid. Yn y pwyllgor ffurfiedig o'i denantiaid daethpwyd i'r penderfyniadau canlynol Ar fod i'r arian mewn llaw adanysgrifwyd fel ycanlyn, y Parch. J. Rowlands, £1; Mr. J. Williams, Bodwrog, 10s.; Mr. E. Williams, Tanymynydd, 5s.; Mr. O. Owens, Caerdeircwys, 5s.; Mr. R. Prichard, Tany- mynydd, 3s. 6c.; Mr. W. Evans, Gaefion, 2s.; Mr. W. Jones, Tanymynydd, 2s.: Mr: W. Evans, Tanymynydd, 2a.; Miss J. Evans, Tanymynydd, Is. 6c.; cyfanswm, Y,2 lls. gael eu gwario am fara i Mr. H. Jones, Baker, Glasfryn House, ac yr oedd yr oil o hono i gael ei wneyd yn dorthau 6c., ac fod pawb yn y plwyf a ddewisai ddyfod i gyrchu un, ac hefyd fod i Mr. H. Jones, ddwyn y torthau gerllaw y Rheithordy, yr hyn a wnaed yn brydlon, lie y gweinyddwyd ar y bobl gan y Parch. J. Rowlands; Mri. E. Williams, Tanymynydd; O. Owens, Caerdeircwys, ac H. King, Brynhyfryd. Cyflawnodd Mr. H. Jones y gofynion dan gamp, ac yr ydym yn hyderu y bydd hyn yn hysbyseb lwyddipnns a manteiaiol iddo yn ei ymgymeriad a'r gangen hon o fasnach. Yr oedd banerau o wahanol faintioli, ilun, a lliw, wedi eu codi i chwifio yn yr awel ar fryn a dol, a swn ergydion didor i'w clywed 0 wahanol gyfeiriadau yn pellebru eu negeseuau hyd yr hwyr, pryd yr oedd boll ffenestri aneddau y tenantiaid wedi eu goroleuo chanwyllau bron yn ddirif, a chopa hen fynydd Digwm- wd wedi ei goroni a. than mawr, am yr hwn yn benaf yr ydym yn ddyledus i Mri. Prichard a Jones, Tany- mynydd. CYNGERDD MAWREDDOG.-Nos Iau (sef yr un noswaith) cafwyd cyngerdd mawreddog o natur cyngherddau y Friallen yn Ysgoldy Genedlaethol y lie uchod, yr hwn a ddygwyd i fod gan Mrs. Angerstein. Glynyweddw Hall, Llanbedrog. Y mae y foneddiges hon wedi rhestru lliaws yn aelodau o Gyngrair y Friallen yn y lie hwn, ond hyd yma y mae y gymdoithas heb ei sefydlu yn ein plith, oblegid hyn byddem yn arfer ym- gynull i'r cyfryw gyfarfodydd a gynhelid yn Pwllheli. ODd gan y gwyddai Mrs. Angerstein am y defnyddiau rhagorol a geir yma, daeth i'r penderfyniad o'i dwyn ynghyd i'r diben o gael cyfarfod cartrefol. Yr oedd yr ysgoldy wedi ei gwisgo yn hynod brydferth abaneri, &c. Ll 7wyddwyd gan Mr. J. Angerstein, yr hwn, wedi an- erc )iad byr o berthynas i'r cyfarfod, a aeth rhagddo i alw yn ol y rhaglen ar y boneddigesau a'r boneddigion anlynolDeuawd ar y berdoneg gan v Misses L. a Z. Angerstein can, Mr. W. Wallis, Tanymynydd can, Mr. R. Roberts (Eos y Nant), yn cael ei ddilyn ary berdoneg gan Miss Z. Angerstein; can, Miss M. Wil- liams, yn cael ei dilyn ar y berdoneg gan Miss Wil- liams, Bodfean can, Mr. H. King, yn cael ei ddilyn ar y berdoneg gan Miss Caldecot; deuawd ar y berdoneg, Mrs. a Miss Z. Angerstein; canig, 'The dawn of day,' Llanbedrog Glee Party deuawd, God bless the Prince of Wales,' Mri. A. Blades a J. Jonea unawd ar y berdoneg, Miss Caldecot; can, Give me a penny, Sir,' Miss Z. Angerstein; can, Mr. J. Jones, yn cael ei ddilyn ar y berdoneg gan Mr. H. King; denawd ar y cnvth a'r berdoneg, y Misses L. a Z. Angerstein can, Mr. J. Angerstein, yn cael ei ddilyn gan Mrs. Angerstein ar y berdoneg; can, Mr. H. 'King; unawdy Misa L. Angerstein; unawd ar y berdoneg, Mrs* Angerstein; can,' Twr Babel,' Eos yNant; canig, y Glee Party. Y maa bod encorio yn effaith mynych a chyffredin yn awgrymu rhagoroldeb diambeuol 7 cyngerdd hwn. Wedi diolch yn y modd arferol i f llywydd, y chwareuwyr, o'r dadganwyr, rhoddwyd tair banllef frwdfrydig i Mr. a Mrs. Assheton Smith. Yna canwyd yr Anthem Genediaethol ac ymwahanodd y cynulliad. Tywotyn. DIRWEST.-Nos Lun, y 23ain cyfisol, 0 dan nawdd y G.D.E., sefydledig yn y lie. Citwsom an yn ychwaneg o'r cyfarfodydd adeiladol a manteisiol hyn, yr hwn yn rhagorol a lywyddwyd gan Mr. W. Russell, goruchwyl: iwr y Llanbedrog Granite Quarry, gan yr hwn wedi canu emyn a gweddio y cafwyd anerchiad byr. Cymer. wyd rhan anerchiadol gan y boneddigion a ganlyn Mri. W. Roberts, Evan Owen, W. Heigh way, H. Hughes, a'r Parch. J. Rowlands. Hefyd cafwyd dadl "yLili a'r Dderwen," gan Mri. Ernest Russell ac Edward Jones (Caradog Bach o'r North); adroddiad campus gan Miss M. Russell; can gan Mr. H. King, yr ysgolfeistr, I am almost persuaded," a chanwyd rhai hymnau yn gyffredinol yn ystod y cyfarfod. Yn y modd amrywiol yma yn ol ein hamcan yr ydym yn gallu boddio pawb, trwy ddangos yr egwyddor ddirwestol o wahanol gyfeiriadau ac i wahanol fanteision. Prawf o'n llwyddiant ydyw y cynuliiadau sy'n parhau i ddilyn y dosbarth yma o gyfarfodydd, ac addawon o'n (llwydd- iant ydyw fod rhywrai newyddion yn esgyn i handlo y cledd ar Iwyfan y rhyfel hon. Terfynwyd y oyfarfod trwy ganu yr Anthem Genedlaethol.-Tywotyn.
TALSARNAU.
TALSARNAU. Tua thair wythnos yn ol cyfarfu Mr. George Downes a damwain, trwy iddo syrthio a thori ei goes, pan ar ei ffordd gartref 0 Harleoh. Da genym glywed ei fod yn gwella yn araf dan ofal y medrus a'r gofalus Ddoctor Jones, Harlech. Dydd Sul, y 15fed cyfisol, bu farw Mrs. Downes. Yr oedd wedi dioddef cystudd caled 0 dro i dro, ond o'r diwedd fe ddaeth yr ergyd olaf, pa un a'i cymerodd ymaith yn sydyn ac annisgwyliadwy. Cydymdeimlir yn fawr a Mr. George Downes yn ei brofedigaeth lem. Y dydd Ian dilynol, hebryngwyd gweddillion marwol yr ymadawedig i dy ei bit gartref yn mynwent Llanfihangel-y-Traethau. Gweinyddwyd yn y ty ac yn yr eglwys gan ein parchus reithor, y Parch. J. Evans, ac ar lan y bedd gan y Parch. J. Hughes, curad. EGLWYS CRIST.-Nos Ian, y 19eg cyfisol, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. Hughes, a phregethwyd yn hynod effeithiol gan y Parch. John Evans, Llan- ddulas, sef brawd em parchus Reithor. Yn absenoldeb Miss Jones, chwareuwyd yr harmonium gan Mr. R. J ones-Morris. Yr oedd cynulliad da wedi dyfod ynghyd a phawb yn mwynhau pregeth y gwr dielthr.
LLANDILO.
LLANDILO. CANLYNIAD O'R CYNWRF GWRTHDDEGYMOL Ax ol gwasanaethu plwyfolion Llanfynydd, fel gwarcheidwad am ddeuddeng mlynedd a deugain, taflwyd Mr. D. Harris, Abersanan, allan yn yr ethotild diweddaf. Tarawyd llawer a syndod oherwydd y weitbred warthns ac anghall, canys nid oedd un acbos yn galw am y fath beth. Ond erbyn hyn mae'r achos a'r digofaint tuag ato wedi dyfod allan. Gwrthododd Mr. Harries danysgrifio ei enw ar document y gwrthddegymwyr er cario allan eu gweithredoedd anonest, ac felly yr oedd yn well ganddo ddioddef y canlyniad. YMWELIAD YR ARc]aDDIACON.-Talodd yr Archddiacon James, Caerfyrddin, ei ymweliad eleni a Llandilo, dydd Mawrth cyn y diweddaf. Cynhaliwyd gwasanaeth yn yr eglwys am 11, ac yn y prydnawn ymgynullodd lliaws o offeiriaid a llnygwyr yn yr Ysgoldy Genedlaethol, i drin y testynau canlynol1, Gwaith yr Eglwys yn y dref a'r wlad, a'r modd goreu i'w chryfhau. 2, Mesurau Seneddol sydd yn dal cysylltiad a'r Eglwys. J Darllen- wyd papyrau rhagorol gan y Parchn. E Jones, Gelli Aur; D. Davies, Llandybie, ac A. G. Edwards, Caer- fyrddin, a siaradwyd yn alluog iawn ac i'r pwrpas gan y Parchn. L Price, Llandilo; D. Griffith, Cwmaman, ac Arglwydd Emlyn.-T. A. J.
BRYNAMAN.
BRYNAMAN. Nos Iau, y 19eg cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod adlon- iadol yn yr Ysgoldy Brytanaidd, dan lywyddiaeth Mr. John D. W. Thomas, Emporium, warden yr Eglwys. Wedi cael araith hyawdl a gallnog ganddo, cymerodd y rhai canlynol ran yn nygiad y cvfarfod allanMri. Morgan Phillips, John Roberts, Edward Evans (Alawydd Aman), J. R. Jones, a Miss Sarah A. Rees. Chwareuwyd ar y berdoreg gan Mri. Theophilas Evans a Gwilym Jones. Hefyd canodd Mr. Joseph Gray, Pontardawe, amryw donau, pryd y chwareuwyd ar y berdoneg gan Mr. Jenkins, Pontardawe, a chawsant dderbyniad dymunol iawn. Dadl ar y pryd, "Paun gwell cyfoeth neu wybodaeth "-goreu, Mri. T. a D. Davies. Yna terfynwyd y cyfarfod drwy i Mr. E. Evans (Alawydd Aman), ganu Hen Wlad fy Nhadau." Ni raid i'r cyfaill hwn wrth ganmoliaeth. Aeth pawb adref wedi eu llwyr foddloni. Gwnawd ycbydig elw, yr hwn oedd yn myned i drysorfa er cynorthwyo i adeiladu ysgoldy perthynol i eglwys St. Catherine. Nos Sadwrn, yr 21ain, cynhaliwyd cyfarfod llenyddol yn yr un ysgoldy. Cymerwyd y gadatr gan Mr. Wm. Llewelyn, Albion House, Brynaman, a chafwyd anerch- iad ganddo ar gerddoriaeth yr hen amser, yr hon oedd yn tincian yn ddymunol ar y glust. Yr oedd yn hyfryd- wch ganddo weled y maes cerddorol yn ymeangu- Beirniaid y gerddoriaeth, Mr. W. R. Williams, Brynaman; yr amrywiaeth, Mr. Evan David. Aeth- pwyd ymlaen a'r rhaglen ganlynolAlto Solo-goreu, Willie Williams. Adroddiad, Psalm xix.—goreu, S: Williams. Bass Solo—goreu, John Hopkins. Tri plienill i'r Mynydd Du "—goreu, Edward Phillips. Tenor Solo—goreu, E. Lewis, Darllen cerddoriaeth ar y pryd—W. Williams a J. Walters yn gyfartal. Y sgrif, ar Joseph "-goreu, Samuel Williams, Pen- graig. St. Nicholas "—goreu, J. Howells a'i barti. Araitb ar y pryd, "Doethineb"—goreu, Edward Phillips. Tri chor yn cynyg ar y prif ddarn, sef St- Catherine, c6r y Bryn, a chor Silvan; dyfarnwyd yr olaf yn oreu, dan arweiniad Mr. D. Moses. Wedi talu diolchgarwch i'r cadeirydd, yr hwn a aeth drwy ei waith yn rhagorol, a'r rhai eraill fu yn gynorthwy i ddwyn y cyfarfod allan yn llwyddianus, aeth pawb -gartref gyda gwynebau llawen. Yr elw i drysorfa yr Yagoldy. Dydd Sul, yr 22ain cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod chwarterol Ysgol Sul St. Catherine, am ddau a chwech. Am ddau, dechreuwyd drwy weddi gan ein parchus weinidog, Parch. J. M. Jones, a chymerodd y rhai canlynol ran ynddo:—Misses Kate Harries, M- Lowe, C. Lowe, P. Owen, G. Owen, M. A. Jones, Jane Jones, Mri. D. Walters, a D. Oscar Williams. Hefyd anerchwyd yr ysgol gan Mr. John Owen (warden yr Eglwys), a Mr. Herbert ThomaB (arolygwr). TerfyD" wyd drwy weddi gan Mr. Jones. Cafwyd cyfarfo_ rhagorol. Am chwech daeth cynulleidfa liosog yng^y i'r EglwyB i wrando llafur yr Ysgol Sul, a chredaf llawer yn eiddigeddus wrth weled gwaith mor dda yr ysgoiheigion yn cael ei ddadblygu pan oeddynt h X yn treulio y Sul i rodiana. Dechreuwyd y v hwn eto drwy weddi gan Mr. Jones, a chanlyn° J rhai canlynol:—Misses E. DavieB, N. Harrie Jones, M. A. Jones, a Mary Thomas, Mri. D. ^org, Lewis Owen, a Herbert Thomas. Hefyd anercn y c dorf yn Saesneg gan Mr. Thomas Evans, ch&;< a yn Gymraeg gan Mr. John ThomaB, Glynboidy %o Canodd y cor amryw donau dan arweiniad Jou
DOWLAIS.
DOWLAIS. CYFARFOD CHWARTEROL ATHRAWON YSGOLION SUL YR EGLWYS.—NOB Iau, y 12fed cyfisol, yn y Coffee Tavern, ymgyfarfu athrawon Ysgol Snl yr Eglwys Gymreig, a'r gangen, Bef Gellifaelog a Phengarndau. Lly wyddwyd gan ein parchns Reithor. Darllenwyd papyr ar y "Pasg" gan William Howells, Pengarndda. Derbyn- iodd y darllenydd gymeradwyaeth uchel oddiar law pawb oedd yn bresenol am ei Bylwadau gafaelgar a phwrpaBol ar y testyn. Tynwyd allan ychydig reolau newyddion gyda golwg ar ddwyn ymlaen waith y oyfarfodydd hyn yn fwy deheuig a threfnus. Hefyd, penderfynwyd mai 0 Gellifaelog y bydd y papyr nesaf i gael ei ddarllen. Ac edrychir ymlaen am wledd bob amser o'r cyfeiriad hwn. ANRHEG MADAWOL.-Nos Sadwrn cyn y diweddaf ymgyfarfu aelodau Guild St. Andreas yn yr Yagoldy er mwyn cyflwyno anrheg fechan i Mr. W. Lintern, gwr ieuanc gobeithiol iawn fel organydd, ar yr achlysur o'i ymadawiad a'r lie am Blaenafon, i fod yn organydd yn eglwys y plwyf hwnw. Teimlir colled fawr ar ei ol yn Dowlais, yn arbenig yn nghyfarfodydd y Guilds, a chor yr Eglwys Seisnig. Yr oedd yr anrheg yn gynwys. edig o amryw lyfrau ar gerddoriaeth. Dymunir pob llwyddiant i Mr. Lintern gan bobl Dowlais, gyda'r gwaith da y mae wedi ymgymeryd ag ef.
YSPYTTY IFAN.
YSPYTTY IFAN. Nos Fercher, y 12fed cyfisol ymwelodd y Parch. Lloyd Williams, B.A., Ysgrifenydd y Gymdeithas er Lledaeniad yr Efengyl yn y Gwledydd Tramor, a'r pentref uchod. Yr oedd y dynulliad yn dda, a'r araith yn ddyddorol dros ben. Cymerodd y Parch. R. M. Edwards, y rheithor, ran yn y cyfarfod. Rhoddodd arddangosiadau y magic lantern foddlonrwydd mawr, ac y mae yn eithaf tebyg y derbyn Mr. Williams groeaaw caJon pan y daw i'r Yspytty eto.-Glantawe.
I'ST. LAWRENCE.
I' ST. LAWRENCE. Plwyf bychan gwledig yn Sir Benfro, ydyw hwn. Nid yn ami y mae darllenwyr Y LLAN yn gweled yr enw. Er hyny mae yr Eglwys yn myned ymlaen yma, o dan lywyddiaeth y Parch. J. Bowen. Ar brydnawn Sul cynhelir yma wasanaeth Seisnig, ond ar Sul y Pasg, yn lIe y bregeth, cafwyd y Pwnc," fel arferol. Dymadrefn yr Eglwys—"Bydded i gurad pob plwyf yn ddiesgenlus ar y Suliau a'r Gwyliau, ar ol yr ail Lith o'r Gosper, ddysgu ar oateg yn yr Eglwys, a holi cymfer 0 blant yn ei blwyf, ag a ddanfonir ato, megis y tybio efe fod yn gymhesur." Gresyn na wneid mwy o ddefnydd o'r hen drefn dda hon. Yn St. Lawrence cafwyd prawf amlwg 0 ddiwyd- rwydd a dyfalbarhad ar ran aelodau yr Ysgol Snl, a gobeithiwn y bydd ffrwyth y llafur hwn i'w weled yn y dyfodol yn mywyd yr aelodau, trwy eu gwneyd nid yn unig yn well Urietionogion, ond hefyd yn gadarnach fel Eglwyswyr.—Iolo.
LLANYCHLLWYDOG, A LLANLLAWER.
LLANYCHLLWYDOG, A LLANLLAWER. Gwneir ymdrech egniol i adgyweirio yr Eglwysi hyn. Nid oes ond ychydig 0 amser er pan ddaeth yr offeiriad presenol i'n plith. ac y mae eisioes wedi llwyddo i enill cydymdeimlad Ymneillduwyr yn ogystal ag Eglwyswyr. Ddydd Gwener cynhaliwyd cyngerdd yn y Temperanc Hall, Fishguard, er cyn- orthwyo y gwaith da hWn. Da genym ddweyd fod cynulliad hynod liosog wedi d'od ynghyd. Cafwyd cadeirydd da yn y Parch. J. G. Mortimer. Hydetwn fod y derbyniadau wedi cyfarfod disgwyliad y brodyr sydd a'u hysgwyddau o dan y baich.-Cymydog.
LEANARTH.
LEANARTH. Dydd Mercher, y 18fed cyfisol, talodd] Esgob Ty Ddewi ymweliad ag Eglwys Llanarth, er mwyn cynal conffirmasiwn ynddi. Daeth nifer dda 0 bobl ynghyd ar yr achlysur, ond yr oedd rhif yr ymgeiswyr am gonffirmasiwn yn llai nag arferol. JJellir cyfrif am hyn wrth ystyried fod ei arglwyddiaeth wedi cynal gwas- anaethau conffirmasiwn yn ddiweddar yn Aberaeron a Llanog-lleoedd ar y cyffiniau cymydogaethol. Wrth gymeryd hyn i ystyriaeth, yr oedd y nifer yn berffaith foddhaol. Daeth ymgeiswyr o'r plwyfi canlynol:- Llanarth, Llanina, Llangranog, Llandysiliogogo, a Cheinewydd. Gwelsom yno yr offeiriaid canlynol:— Parchn. W. O. Edwards, D.G., Aberaeron; J. D. Jones, Enoch Jones, Llanarth David Griffiths, Ceinewydd David Richards, Handysiliogogo; Morgan Evans, Llanddewi-Aberarth. Cawsom anerchiadau syml ac adeiladol gan yr Esgob yn Gymraeg a Saesneg.
HENDY GWYN AR DAF.
HENDY GWYN AR DAF. Dydd Ian, Ebrill 19eg, oedd y diwrnod apwyntiedig i'r ( wardeniaid Eglwysig gael eu tyngu i mewn i'r swydd am y awyddyn, a darfu i'r Mri. T. John, Llwyn- drisse, a T. Jones, Brynbanc, a minau gychwyn yn brydlawn tua Chaerfyrddin, ond oblegid fod y gerbyd- res yn ngorsaf yr Hendy Gwyn tuag awr ar ol ei ham- ser, a ninau yn mysg llawer eraill mor ddiweddar cyn cyraedd Eglwys St. Pedr, ofnem y fflangell. Ond yn groes i'n disgwyliadau, cawsom yr Hybarch Archddia- con James a'i fab (y registrar) fel arferol yn llawn sir- ioldeb a charedigrwydd. Cynhaliwyd cyfarfod hynod o ddyddorol ac adeiladol yn ysgoldy Heol y Prior. Caf- wyd anerchiad agoriadol hyawdl a phwrpasol gan yr Archddiacon profiadol, yn gosod allan y prif bynciau ag yr oeddynt yn ddymunol i ymdrin ft hwynt yn y cyfar- fod. Yna galwodd ar Canon Williams, Llanelli, yr hwn, yn ol ei arfer, a siaradodd yn feistrolgar a theil- wng o'n hen broffeswr anwyl yn Ngholeg Llanbedr ryw 23 o flynyddoedd yn ol, ar y moddion goreu i'w mab- wysiadu er ychwanegu at lwyddiant yr Eglwys, yn neilldnol yn y trefi. Darllenwyd papyr galluog yn agos i'r un perwyl gan ein cyfaill ficer parchus Llanpum'- saint. Cododd Ficer Llanfihangel-ar-arth i fyny, ac apeliodd at y cadeirydd. gan ddatgan fod eisiau siarad yn Gymraeg, am fod rhai o'r wardeniaid Cymreig yn myned allan. Yna galwyd ar Ficer Llanybri, yr hwn, yn ol ei arfer, a wnaeth araith wresog yn yr hen Omer- aeg. Dilynwyd ef gan Ficer St. Paul, Llanelli, yn iaith y Saeson, yn hyawdl a melus. Galwyd ar Reithor Llanbedr Felfre, yr hwn, yn ei ddull swynol ei hun, a siaradodd gyda medrnsrwydd ar ddyledswyddau'r war- deniaid. (*obe-*thiwn y gwnant eu coflo a'u cyflawni eleni yn eu gwahanol biwyfi. Cawsom air byr a phrof- iadol gan ficeriaid Llanddowror a Llanstephan ar y pwnc. Yna cododd ein hen gyfaill Marlais," 0 Llan- adarog, golygydd barddoniaeth Y LLAN, i fyny ar gais y cadeirydd, a gwnaeth sylwadaa digrifol neu serio- comic, fel y dywed y Sais, ar brofiadau ei frodyr, ac fel arferol creodd gryn dipyn o chwerthin. Dichon fod eisiau hyn weithiau er ein cadw yn ein lie pan yn codi i fyny i siarad ya gyhoeddus. Yn olaf anerchwyd ni gan Ficer Llaallwch gyda'i ddeheurwydd ef ei hun, a rhybuddiodd ni i ochelyd esgeuluso pregethu yn ofalus yn anad dim. Ar ol y wledd yn ngwesty y Llwyn Eiddew, cafwyd ymgom ddadlenol wir ragorol ar Fil y Degwm sydd yn awr yn Nhy'r Arglwyddi, a phasiwyd penderfyniad unfrydol i ddymuno ar y Llywodraeth i gyfreithloni rhyw ddull gwell na'r un preBenol i gasglu. Gyda gofid y canfyddem fod ambell i warden da eisiau eleni eco. Dywed y registrar, yn ei wys iddynt, yn bendant nad ydyw yn bosib] i neb fod yn warden cyf- reithlawn heb iddo gael ei ethol yn flynyddol yn yatod wythnos y Pasg, a chael ei dyngu i mewn bobl blwydd- yn. Y mae y mwyafrif 0 honynt yn deyrngarol—yn cydsynio a. rheol ganonaidd ein Heglwys yn hyn 0 beth. Os na wnawn ni, Eglwyswyr, ufuddhau i'r rheolau, cofiwn ein bod yn chwareu i ddwylaw'r Liberationista, ac fel Samson gynt, bydd i ni bob yn dipyn dynu'r hen adeilad gogoneddus i lawr yn deilchion am ein penau, a gwneuthur beddau i ni ein hunain a'n plant, gwaeth o lawer na beddau i'r blys yr hen genedl gynt. 0 gan- lyniad. peidiwn bod mor bendew o hyn allan. Os yd- ym yn credu yn ein Sefydliad Apostolaidd, gwnawn ein goreu i'w gadw i fyny trwy efalu am ein dyledawyddau hyd y byddo ynom. Dydd Sadwrn, am dri o'r gloch, cynhaliwyd cyfarfod undeb ein Hysgolion Sul yn y ddeoniaeth yn Ysgoldy Genedlaethol St Clear's, trwy ganiatad a charedig- rwydd y ficer parchus, ac o dan lywyddiaeth y deon gwladol. Lluddiwyd ni gan anwyd trwm i bresenoli ein hunain yn gorfforol, ond yr oeddem yno o ran ein hysbryd a'n cydymdeimlad. Hyderwn iddo droi allan i fed yn llwyddiant perffaith fel yr un diweddaf, ac y gwna rhyw frawd neu chwaer oedd yn breBenol fod mor garedig a danfon y manylion i'r LLAN. Dylai fod Ysgol Sul mewn cysylltiad a phob Eglwys. Pan y byddo gan yr offeiriad ddau blwyf i'w gwasanaethu, a bod yn an- mhosibJ cynal ysgol heb i'r offeiriad fod yn bresenol ynddi, gellid cynal un am awr wedi y gwasanaeth ymhob eglwyB, a gellid cynal doabarth Beiblau ar ryw ddiwrnod neu noswaith o'r wythnos hefyd. Ymafled y wardeniaid yn eu gwaith o ddifrif eleni eto. Hwynt hwy yn gyffredin sydd i arwain y lleygwyr. Gobeith- iwn weled llwyddiant mawr ar bethau o dan arweiniad eiD wardeniaid a'n hunain am y flwyddyn sydd o'n blaen. Dymunwn am eu cydweithrediad calonog yn barbaus. Ymdreehwn i gefnogi'r LLAN a'r waag Eg- lwysig â'n holl egni. Pe y caem ond dwain 0 Eglwys- wyr zelog, gweithgar, a ffyddlawn o'n hamgylcb, gyda bendith y nef, gallesid gwneyd llawer mwy o waith mewn byr amser nag yr ydys wedi ei wneyd yn y gorphenol. Y dynion hanerog yma-nid ydynt nac oer na brwd, ni wnant ddim en hunam, ac ni adawant lon- ydd i eraill sydd am wneyd rhyw beth. Y rhai hyn sydd yn blino Israel. Y mae y dog-in. the-manger policy wedi gwneuthur galanaatra mewn byd ac eglwys lawer gwaith cyn hyn. Nid ydym am friwo telmladau ein ffrindiau yn un man yn Whitland. Y maent yn anwyl iawn genym, os yn gwahaniaethu tipyn oddiwrthym ar bynciau fel hyn. Rhwymer ni i gyd a. rhwymyn cariad eto, a gwnawn ein goreu fel y byddo i weddi'r Pen Mawr gael ei chyflawni, fel y byddont oil yn un. Ein gweddi droatynt oil sydd er iachawdwriaeth. Awn ymlaen yn llu banerog, gan gofio mai mewn undeb mae nerth. Y mae yn Ilawer mwy cydnaws a'n teimladau i ganmol na beio. Os cawn fyw yr ydym yn golygu aroa ychydig uwchben rhinweddau, yn hytracb na ffaeleddau, pobl ein gofal. Yn awr, ynte, fy nghyfeill- ion hoff! ceisiwch basio'r arholiad hwn yn y dosbarth blaenaf. Ymdrwsiwch ac ymwisgwch yn eich dillad goreu. Byddwcb i gyd yn eich lleoedd, ac ar eicb heithaf, fel y dywedir weithiau, a chaiff darllenwyr Y LLAN trwy'r byd mawr llydan wybod yn gywir am rag- oroldeb eich addurniadau moesol a chrefyddol. Od oes dim clod," &c., meddyliwn am y pethau hyn." Da iawn genym fod Miss Yelverton, Abbey, yn ein plwyf, yn gweithio mor rhagorol 0 blaid Cyngrair y Friallen. Gobeithiwn weled boneddigesau eraill yn Llangan. Henllan, a Llanboidy yn cydweithio a hi er hyrwyddo y mudiad daionus hwn yn ein cymydogaeth. Ond cael y boneddigesau allan, gallwn benderfynu y bydd i'r egwyddorion Ceidwadol ag oeddent mor agos at galon yr anfarwol larll Beaconsfield yn enill tir ya fwy cyflym nag erioed. Ein harwyddair fyddo, A long pull, a strong pull, and a pull altogether."
VALLEY, MON.
VALLEY, MON. AGOKIAD EaLWYS ST. MICHAEL.-Gan fod lliaws 0 bethau o bwya wedi eu gadael allan yn yr adroddiad am yr uchod dymunaf wneyd yr hanes yn fwy llawn a chryno. Cyfranodd Syr Richard Bulkely, Baron Hill, 950 tuag at yr adeilad yn ychwanegol at roddi'r tir ar gyfer yr Eglwys; rhoddodd y diweddar Syr Richard Bulkeley, £ 50; Mr. Benjamin C. Roberts. Lerpwl, X50; y diweddar Anrhyd. W. O. Stanley, Penrhos, £ 50; Esgob Bangor, £ 20; Arglwydd Penrhyn, £ 10; Mr. Robert Roberta a'i Gwmni, £ 10; Mr. O.Lloyd, Ty'n- llan, X10 10a. y MisseB Lloyd, Ty'nllan, jElO; Mr. Robert Gardner, Y,10 10s.; Cyfaill i Mr. Gardner, £ 10; Mr. W. R. Pierce, jElO; Mrs. Symes, Bangor, 210 Parch. D. A. Beaufort, £ 8 Col. Hampton Lewis, 96. Yn ychwanegol at gyfranu yn llawen tuag at y gwaith da, rhoddodd amryw gynorthwy sylweddol i ddwyn y gwaith oddiamgylch trwy weithio yn llafurus i gasglu, sef Mr. W. R. Pierce, yr hwn a gasglodd at y gloch, heblaw at y gronfa gyffredinol, felly hefyd Mr. a'r Misses Lloyd, Ty'nllan, Mr. a'r Misses Gardner, Valley. Ond brenin a bywyd yr holl waith oedd Curad y plwyf, yr hwn a wnaeth fwy ymhob cyfeiriad na phawb gyda'u gilydd.-Mai)fab.