Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

30 erthygl ar y dudalen hon

PENMACHNO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENMACHNO. CYFARFOD YSGOLION EGLWYSIG.—Cynhelir y cyfarfodydd hyn yn chwarterol, pryd yr ym- gyferfydd Ysgolion Sul y Llan a'r Cwm. Sul, pythefnos i'r diweddaf, cynhaliwyd y cyntaf o'r rhai hyn eleni. Daeth nifer liosog ynghyd, er fod afiechyd wedi lluddias rhai i fod yn bresenol. Yr oedd yr atebion yn foddhaol, ac yn dangos fod yr aelodau, yn enwedig y dosbarth hynaf a'r ieuengaf, wedi bod yn ymchwilio i'r pynciau a roddwyd i lawr i'w arholi. Arholwyd y dos- barth hynaf oddiar St. loan ix. gan Mr. W. Edwards, ysgolfeistr y dosbarth canol gan Mr. Daniel Davies, Cwm, ar hanes Abraham, a'r dosbarth isaf ar yr Ail Catechism gan Mr. Thos. Hughes, Red Lion. Ar ddiwedd y cyfarfod amlygodd y Rheithor, sef y Parch. J. Jenkyns, y boddhad a dderbyniodd wrth wrando ar yr arholiadau a'r atebion, ac anogodd bawb i ym- chwiliad ychwanegol yn ystod y chwarter dy- fodol. Maes llafur dyfodol fydd i'r dosbarth hynaf 1 Cor. vi., dosbarth canol Hanes Jacob. Nid oes amheuaeth nad oes daioni a bendith yn deilliaw i ddeiliaid yr Ysgolion Sul yn y plwyf trwy'r cyfarfodydd hyn.

RHYMNI,

METHDALIADAU.

DOSBARTHWYR " Y LLAN."

LLANFAIP. D. C.

GORSEINON.

EIFIONYDD.

LERPWL.

ABERHONDDU.

ARBERTH A'R CYLCHOEDD.

LLANLLECHID.

LLANUWCHLLYN.

LLANGYFELACH.

GARTHBRENGY.

TRALLONG A PHENYBONT.

MERTHYR CYNOG.

RESOLVEN.

DINBYCH A'R CYLCHOEDD.

RHANDIRMWYN.

HENDY GWYN AR DAF.

RHYL.

NODIADAU 0 DDYFFRYN TOWY.

LLANDEGAI.

LLITH 0 LANELLI.

CWMAFON.

NODION 0 DDEONIAETH LLANGOLLEN.

ST. GEORGE S-SUPER-ELY.

DEONIAETH DINBYCH.

ABERAERON.

YMWELIAD YR ANGYLION AIR BUGEIL.…