Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Colofn y Calendar.—Rhif xxiii.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Colofn y Calendar.—Rhif xxiii. YR -A]IL SUL GWEDI'R PASG- MAI 7. Y LLITHIAU. Y Boreu, Num. xx. 1-14.; St. Luc xxiii. 50-xxiv. 13. Yr Hwyr, Num. xx. 14—xxi. 10 neu xxi. 10 i'r diwedd; 1 Thess. iv. Adnabyddid y Sul hwn er yn fore iawn, ac yn lied gvffredinol trwy wledydd Cred, yn "Sul y Bugail Da," mewn cyfeiriad yn ddiameu at ddysgeidiaeth yr Efengyl. Ar yr olwg gyntaf ymddengys fel pe buasai y brif wers am y dydd' ym marw- olaeth Crist, ac nid yn Ei Adgyfodiad; ond ni byddai ystyr yn y cyfeiriad Ato fel ein Bugail out bae Ei fod wedi adgyfodi i fyned O'Il blaen i'n cysuro, amdaiffyn, d'h harwain, gan droi anialwch y byd yn "borfeydd gwelltog ger Uaw'r dyfroedd taweI," ac hefyd i fod yn bresenol gyda ni er mwyn i ni Ei adnabod, a, chael ein hadnabod ganddo. Nis gallasai Crist na ninnau gyrhaedd hyn ond trwy fuddug- oliaeth y Pasc. Gwir fod cyweiriiod Gwasanaeth y Cymmun (prif wasanaeth y dydd sydd yn gadael ei argraff ar bob gwasanaeth arall), yn dechreu cyfnewid, ac yn graddol droi o'r diolchus a'r llawen o herwydd yr Adgyfodiad, i'r dwys a'r difrifol o her- wydd ein cyfrifoldeb i ddwyn y ffaitli a'r athrawiaeth fu dan eiu sylw i ymarferiad. Yr hyn ddaet-li fwyaf amIwg o'n blaen y Sul diweddaf ydoedd cin cyfiawnhad a'n sancteiddhad gan lesu Grist yn rliinwedd Ei Adgyfodiad heddyw. gofynir i ni nid yn unig i ddiolcli am Ei Aberth dros Obechod, ond hefyd disgwylir ni Ei gy- meryd yn Esampl o fuchedd dduwiol, a llwyr ymroddi i ganlyn 61 Ei draed. Y bywyd adgyfodedig oedd prif destyn ein myfyrdod y Sul diwcddaf; heddyw, meddyliwn fwyaf am y bywyd hwn yn troi allan mewn cariad, mewn cyflawnu y gocrliymvn newydd a roddodd ein Prynwr, sef, "Ar garu o honocli eicli gilydd; fel y cerais I chwi, ar garu o honocli chwithau bawb eich gilydd" (St. loan xiii. 34). Ond nis gallwn garu heb syllu ar gariad anfeidrol Aberth y Groes; ac ofer galw arnom i efelychu cariad heb ein dwyn i yfed o ysbryd yr esiamgl berffaith a gafwyd yn wir lanaf Fuchedd y Gwaredwr. Mae yr Aberth 'li¡'J: Esiampl yn cydgyfarfod yng nghy- meriad y Bugail Da, yr Hwn uid yn unig a roddodd Ei einoes dros y defaid, ond yr Hwn sydd liefyd yn myned o flaen Ei ddefaid fel y gallont Ei ddilyn. Marw- olajeftli Crist ydyw gwraidd ein hym- ddiried, ein symbyliad, a'n hysbrydiaeth. Cariad Crist sydd yn ein cymhell ni i'w ddilyn, ac yn ein cyfodi ni i fywyd dyrch- jafedig o gariad. Fel hyn, y mae yr Eglwys yn dysgu i'w phlant, (gwedi syllu trwy ffydd ac mewn llawenydd ar Adgy- fodiad ei Phen, a sylweddoli claddiad eu peohodau yn Ei Fedd ac agoriad porth y bywyd tragywyddol o'u blaen), i droi ac edrych i fyny ar Ei Berson Gqgoneddus er mWYll ymdebygu fwy mwy Iddo. Y COLECT. Cyfansoddwyd y Colect gogyfer a'r Llyfr Gweddi 1549, ac, fel ag y gwelir ar unwaith, y mae yn sylfaenedig i raddau ar yr Epistol. Gesyd o'n blaen Gariad Anfeadrol y Tad yn rhoddiad Ei Fab i ni. "Felly carodd Duw y byd, fel y rhoddodd Efe Ei Unig-anedig Fab'' (St. loan iii. 1.6); "Y mae Duw yn canmol Ei gariad tu ag atom ni" (Rhuf. v. 8). Dau amcan y rhoddiad oeddynt, (a) fcberth fel lawn dros bechod, (b) bywyd perffaith a difrycheulyd fel copi neu gynlliun i'w efelychu. Efe a "ymddang- osodd i ddileu pechod trwy ei aberthu ei Hun" (Heb. ix. 26); ac Efe a fu fyw ym mhob perthynas ac agwedd o fywyd mor sanctaidd a, difai, fel y gallwn nid yn unig Ei edmygu ond dwyn ein bywyd i gyd- ymffurfiad 6'i Fywyd Ef, fel ag i sicrhau tebygolrwydd agos Iddo. Yna awn ym mlaen i erfyn am ras a chymorth i wneuthur dau beth i gyiateb i ddau amcan dyfodiad Crist, (a) sef derbyn Ei Abertlt (b) a dilyn Ei gamrau. I dderbyn an- rhaethol leahad lawn y Groes, rhaid J) wrth ffydd, (2) dyf albarhad, gan fod y derbyn yn cael ei nodweddu gan "byth (3) diolchgarwch. Y mae dilyn Ei gamrau yn golygu ei fod yn (1) vaith ymroddgar a defnyddiol, (2) ein bcm yi ymwybodol o natur Ei lwybrau. (3) a 11 bod yn hoff o astudio Ei wir laioaf Fuchedd Ef, er ceisio cyrhaedd yr efel- yohiad manylaf. Felly achubir ni trwy dderbyn yr hyn a wnaed drosom, a chyf- lawnu yr hyn a ofynir i ni weithredu. Cyfrifir cyfiawnder Crist i ni, fel y byddo i'w gymeriad gael ei gyfranu i ni, ac i'r goleuni a lewyrcha o hyn, gael ei gvflwyno genym ni i eraill. YR EPISTOL (1 St. Petr ii. 19 i'r diwedd). Mae yr anogaeth a rydd St. Petr i|r rhai v cyfeiria atynt yn y rhan yma o r Epistol, yn fwy grymus, os yr un, pan y cofier mai caethion oeddynt, ac felly yn gofyn amynedd nodedig ac addfwynder neillduol 0 amlwg. gan y byddent. yn dioddef mawr galedi, triniaeth chwerw, a chamwri creulon. Teimlai yr Apostol i'r byw drostynt gan ei fod ef ei httn wedi syrthio yn wyneb prawf, (ac er gwaethaf hyn a ail-osodwyd gan Grist, vn ystocl un o'i ddeg yniddaugQsiad, yn ei swydd fel Bugail ar braidd Duw). Hefyd nis gallai byth anghofio yr olygfa yn llya Caiaphas o addfwynder, amynedd, a dioddefgarwch Ei Feistr pan yn dioddef ar gam, ac yn cael Ei gernodio a'i ddir- mygu. Gan hyny yr oedd St. Petr yn medru ysgrifenu oddi ar brofiad, a chyngori oddi ar wybodaeth, ac annog addi ar gariad a thynerwch. Adgofiodd y rhai yr ysgrifenodd atynt mai derbyn- iol a chymeradwy gan Dduw ydoedd dioddef triniaeth anghyfiawn a bod yn amyneddgar dan gamwri ca-led, gan y byddent yn amlygu grasusau eu bywyd ysbrydol, ac yn byw i fyny i'w galwedig- aeth o ymdebygu i Grist yn Ei fywyd tawel, ymostyngar, a dioddefgar. Gall- asai y byd edrych i lawr ar amynedd a gostyngeiddrwydd fel pethau i'w dir- mygu; ond dyrchafodd Crist y rhin- weddau hyn a gosododd fri a mawredd arnynt. Ond gwnaeth Ef yn hyn nas gall neb o lionom ni ei gyflawnu, sef dwyn ein pechodau ni yn Ei Berson priodol Ef ei Hun ar y Groes; Efe a aeth i'w lie; Efe a ddioddefodd yr hyn a haeddodd holl bechodau y byd; Efe a dalodd eu dyled ac a wnaeth bridwerth drostynt: fel y gallom ninnau "farw i bechodau, a byw i gyfiawnder." 0 herwydd hyn, er gwaethaf ein crwydriadau fel defaid cyfeiliornus, dychwelwyd ni at Warcheid- wad ac Arolygydd neu Oruchwyliwr mawr gy Ei Eglwys, "Bugail ac Esgoh ein hen- eidiau." YR EFENGYL (St. loan x. 11-16). Declireua yr Efengyl gyd a'r meddwl sydd ar ddiwedd yr Epistol. Ystyr llythyrenol y gair "Esgob" ydyw "un sydd a'i olwg neu ei lygad arnom," neu fel y ceir y gair yn Actau xx. 28, "Golygwr"; ac yn yr Efengyl rhoddir I ZIY ger ein bron y drychfeddwl fod yr lesu a'i lygad arnom yn barhaus, yn ein gwylied, cysuro, a'n harwain. Dyma'r gwirionedd mawr sydd yn gorwedd o dan y titl "Bugail. Ond hawlia Crist yr enw a'r swydd mewn modd neillduol. ac yn hollol wahanol i bob bugail arall. Gwir fod sefyllfa a gwaith bugail yn cyfleu i fcddwl yr Iuddew well a rhagorach syniad o aberth a dewrder, amynedd a ffyddlon- deb, nag a wnant i'n meddwl ni, gan nad gwyddom fawr trwy brofiad am rinwedd- au gwir fugail fel yr oedd yn ngwledydd y Dwyrain. Ond am Iesu Grist, gallodd Ef, ac Efe yn unig, ddatgau, "Myfi yw y Bugail Da," nid "Myfi wyf Fugail Da." Deohreua gyda'r gair 'lYdwyf''—yr Hunanfodolj a'r Anghyfnewidiol. Yna defnyddia y fanod ddwywaith, o flaen "Bugail," ac o flaen "da." "Y Bugail" i ddangos ei ragoriacth digyflFelyb ar bawb arall a fuont erioed ac a fyddant byth yn llonwi y swydd hon. "Y Da," y Per- ffaith, y Prydferth—neb "da" yn ystyr uwchaf y air fel Efe-da yn ei hanfod, a da i eraill. Trachefn, defnyddid yn yr iaith Roeg air am "dda" sydd yn dynodi fod y da ag oedd Ynddo yn dufewnol yn tori allan mewn disgleirdeb tanbaid fel ag yr oodd ei brydferthivch dihafal yn amlwg i bawb yn allu liioesol Ltdyniadol. Pa fodd y mae yn tori allan neu yn amlygu ei hUll? Trwy (1) aberth, (2) arweiniad, (3) amddiffyniad, (4) diogclwch a dar- pariaetli, (5) ac adnabyddiaeth dyblyg rhwng Crist a'i bobl ar yr un cynllun a'r adnabyddiaeth ddyblyg rhwng y Tad a'r Mab. "Myfi a adwaen yr eiddof Fi, a in heiddo I a'm hadwaen Inau, megis yr adwaen. y Tad Fi ac yr adwaen Inau y Tad. Gwna hyn oil ddwyn oddi am- gylcli y rheidrwydd gogoneddus a dwyfol o gyrcliu Cenedlocdd yn gystal ag ludd- ewon, a gwneyd un praidd o honynt o dan Un Bugail. Y fath ragolwg ben- GJicdiØ Y fath drawsffurfiad a chyf- newidiad i Eafurio er oa sicrhau! Y fath ddiwedd gogoneddus i'w gyrhaedd, a'r fath nod nefolaidd i woddio a gweithio am d::llO. Un praidd yn yr un Gorlan, o dan Un Bugail! W. WILLIAMS. Joffrevston, Ebrill 29, 1916.

SILIAN.

LLANRH AIADR-MOCHN ANT.

LLUNDAIN.

Ymddiddan Difrifol am Bethau…

LLANDILO FAWR.

LLANDINAM.

LLANWENOG.