Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. 0 hyn allan, cyfeirier pob gohebiaeth yn nglyn a'r WYTHNOS A'R ERYR, naill ai i JOHN EVANS, Bron Ceidiog,Llandrillo,Corwen,neu i'r Cyhoeddwr i'r Bala. MR. THOMAS EDMUNDS, Argraffydd, Corwen, fydd yn gofalu yn gyfangwbl am bob Hysbysiad o Gorwen ac ardaloedd Cerrig-y-druidion, Dyffryn Clwyd, a Llangollen, ac os yn fwy cyfleus, gellir anfon goheb- laethau i'w ofal ef o'r ardaloedd a nodwyd. Anfoner cynyrchion barddonol fel o'r blaen i EDNANT, CYNWYD, CORWEN. Yn ein nesaf -Cyngor Plwy Corwen, &c.
NEWYDDION LLEOL.
NEWYDDION LLEOL. CORWEN. Ysgol y Bwrdd.—Prydr.awn Gwener cyflwyn- odd y plant ac athrawon Ysgol y Bwrdd dressing case prydferth i Miss L. Warburton ar ei hym- adawiad o Gorwen i Ddeheudir Cymru. Wrth gyflwyno yr anrheg siaradai Mr Anwyl yn uchel am ei chymwysderau fel athrawes a dymunai iddi bob llwyddiant yn ei hysgol newydd Di- olchodd Miss Warburton i'r athrawon a'r plant am eu caredigrwydd. Deallwn y bydd i'r Bwrdd Ysgol benodi athrawes brofiadol i gymeryd ei lie Scholastic Success.-We are please to observe that Miss Minerva Roberts, daughter of Mr Chas. Roberts, Arlington House, has passed the Higher Cambridge Local in French, thereby gain- tog the Higher Cam bridge certificate, she having Previously passed in Botanv,Biology, Chemistry, History of English Literature, and Arithmetic. Miss Roberts is at present a student at Datchclor College, Camberwell, London. Cyfarfodydd Adfywiadoi.—Cynaliwyd cyfar- fodydd adfywiadoi neillduol o Iwyddiadus yn addoldy y Wesleyaid yr wythnos ddiweddaf, o fcos Fawrth hyd nos Sul, pryd y pregethwyd i Synulleidfaoedd mawrion gan y Parch. T.O. Jones (Tryfan). Yn ystod yr amser y chwanegwyd wyih at nifer yr aelodau eglwysig y dref. Appwyntiad —Hvfrydwc'n mawr i gyfeillion lAr D. R. Roberts, gynt o'r Berwyn Works— tnab Eryr Alwen, ydoedd clywcd ei fod wedi ei aPpwyntio g:ili Gyngor Dinesig y Bala i Arolygu y Gwaith Dwfr, &c. Tybiwn ei fod yn fwy •tyddysgna Uawer mewn gwaith o'r fath oblegid yn gweithi" flynvddoerld vnglvn a Gweith vyfr Corweu, Jan gyfarwyddyd y Mii J. Wil- y lams a'¡ F ib, a phan wnaeth raw mawr ychydig YliYcldoedd yn 01, dangosodd ei fod yn dealt sut j drin y pibellau i'r dim. Hefyd bu yn gweithio jawer i Gwmui y Gwaith Nwy. Pob llwyddiant ddo yn ei le newydd. Ffair.—Cynaliwyd y ffair fisol ddoe (dydd ~^awrth). Yr oedd perchyll da yn gwerthu yn hwydd, ond anb&wdd iawu ydoedd gwerthu rhai wyth i ddeg wythnos oed. Yr oedd gwartheg atod yn is o gryn lawer na'r ffair ddiweddaf, ac YehYdí o alw oedd am danynt. Galw mawr Oedd am wartheg stores, ond anhawdd oedd eu g, Yr oedd cryn amrywiaeth 0 geffylau yn y y rhai da yn gwerthu yn rhwydd am brisiau Yr oedd •jalw mawr am geffylaa ieuanc, tL-ychydig iawn oedd i'w cael. At eu gilydd y °^did prisiau da am geffylau. Pris yr ymen- 1/1 y pwys, wyau 14 i 15 am swilt. IARWOLAEI-H,—Yr wythnos hon y mae genym y &Vvr pruddaidd o gofnodi marwolaeth annys- 0 r ^r- Roberts, Meirion House (gynt ^0r\o Cottage, neu yn fwy adnabyddus, Pwllclai), UiW C?' yr hw° ymadawodd a'r fuchedd hon ddydd Cw' -lonawr 9fed, yn 65 mlwydd oed. Yr oedd yn Pel J0' °nd ni feddyliwyd fod ei ddiwedd mor agos. y* hoffid ef yn fawr gan bawb a'i hadwaenai, ac yn Gristion gloew. Bu yn ffyddlon gydag yn j YR Arglwydd er pan ei bedyddiwyd 30 mlynedd &\va<, 8an ei weinidog, y Parch. H. C. Williams, a W(j^nacthodd fel blaenor a thrysorydd gyda'r Bed- am t8 mlynedd, a bu yn athraw ffyddlawn flynyddau lawer, fel y gellir yn briodol iawn K\yn ?so iddo y geiriau hynv, yr hyn a allodd 'UawV a.i gwnaeth." Diamheu y teimlir colled ,a.r ei ol mewn Uawer cylch. Cymerodd ei &e*vB*eth le ddydd Gwener, o dan y Drefn ^^san £ n mynwent Eglwys Corwen. Cynaliwyd ""yd t-k by yn Nghapel y Bedyddwyr, a chymer- 0«.C van £ an y Parchn. H. C. Williams, J. Williams y ty J' Wesley Hughes, ac aed yn orymdaith at £ Wasanaethwyd gan y Parch. D. Will- na aed yn orymdaith drefnus i'r Willfnt, yn cael ei bIaenori g-an y Parchn. H. Cernyw (M.C.v ST' Williams, Llangollen, J. Williams ^Shyda Lesley Hughes, Lewis Davies (A.), yn 'etL, a'aconiaid y gwahanol eglwysi, a gwasan- Caf0cj^a ,wrth y bedd gan y Parch. H. C. Williams. d'od gaeth parchus iawn,—hen ac ieuanc yt oedd yn nghyd 1 dalu y gymwynas olaf iddo ac Pa\vb .e £ lur o alar i'w ganfod ar wynebau -v'thyrau ^byniodd y teulu galarus nifer luosog o !?lUl)ant pufl °ddiwrth gyfeillion galarus, a dv- a^li eu cvnhesaf iddynt hwy a ^erw hwT,am^lijCytiyrn<^e^rn^ad yn yr amgylchiad t rched i 1 <jadawodd briod a chwech o feibion a Hywdv • e' °1* ^awdd y nef fyddo dros- DYROUMAD CYFAILL. CYNWYD. Nos Lun y 23ain cyfisol, bydd y Parch G. Geidiog Roberts, Llanllyfni, yn traddodi araeth ar un o'r testynau pwysicaf a berthyn i ni fel teyrnas, yn addoldy yr Annibynwyr. Mynediad i mewn yn rhad. Diameu y bydd yn faich gan nifer gael y cyfle o glywed hen frodor o'r cylch- oedd hyn fel cynrychiolydd Cymdeithas yr 411iance GWVDDELWERN. Bwrdd r.,gol.- Y personau sydd wedi cael eu henwi ar Bwrdd newydd ydynt-Mri Joseph Davies, Wernddu; John Evans, Maerdy uchaf; John Hughes, Clegir is,f; John Hughes, Hen- dre; Thomas Hughes, Grove House; David Jones, Maerdy bach; E. R. Owen, Tynycelyn; John Williams, Chapel House, a'r Anrh. C. H. Wynn, Rug. Yn enwadol gwneir hwynt i fyny o 4 o Fethodistiaid, 3 o Westoyaid, I Eglwyswr ac 1 Annibynwyr. Bydd raid i ryw ddau dynu yn ol os am osgoi etholiad. ac mae'n debyg na saif y Wesleyaid frwydr. LLANDBILLO. Cor yr Eglwys Sefydlodig.-Nos Iau diweddaf gwahoddwyd aelodau C6r yr Eglwys gan Mr. a Mrs. Eden i Tvddynllan, lie yr oedd swper danteithiol wedi ei ddarparu ar eu cyfer. Mwynhaodd pawb eu hunain yn rhagorol. Gyngor Plwyf.-Cynaliwyd cyfarfod o'r Cyngor Plwyf nos Sadwrn, pryd yr oedd yn bresenol-Mri. John Phillips, Tynyfach (Cadeirydd) John Jones, Llechwedd Cilan; Ellis Davies, Tynycae; J. Evans, Bronceidiog; H. Davies, Garthiaen, a J. H. Davies (Ysgrifenydd). Darllenwyd a cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diweddaf. Derbyniwyd llythyr o'r Swyddfa Gartrefol yn am- gau copi i'w ddarllen i'r Cyngor Plwyf o'r llythyr oedd y Swyddfa wedi ei dderbyn ar y 15fed o Fawrth diweddaf, cynwys pa un, na phwy oedd wedi ei anfon nid oedd y Cyngor yn gwybod. Wedi ei Gymreigio y mae y llythyr yn debyg i hyn- Y Ficerdy, Llandrillo yn Edeyrnion, Ger Corwen. B. 26387 Meirionydd Gogledd Cymru, 15fed o Fawrth, 1898. At y Gwir Anrhydeddus Syr Mathew White Ridley. Syr, Mae genyf yr anrhydedd o'ch hysbysu yn barchus fod ein Mynwent Blwyfol wedi myned mor lawn, nes y mae yn angenrheidiol gwneyd cais i'r Swyddfa Gartrefol am Orchymyn Swyddogol i'w chau i fyny. Mae genyf hefyd y pleser o ddweyd fod Syr Henry Beyer Robertson, Pale, Llandderfel, y plwyf agosaf, yn haelfrydig wedi cynyg i'r plwyf hwn ddarn o dir cyfleus a thra dymunol fel ychwan- egiad at Gladdfa'r Eglwys. Byddaf wir ddiolchgar am eich cyfarwyddyd mor fuan ac sydd yn bosibl, pa fodd i weithredu tuagat ddwyn i ben yr amcan sydd mor bwysig i'w gyraedd. Ydwyf, Eich ufudd was, (Arwyddwyd), THOMAS WILLIAMS. Penderfynwyd gadael y llythyr ar y bwrdd, hyd nes y ceir gwel'd y Weithred am y tir. Hysbysodd Mr. H. Davies, Garthiaen fod cyfarfod oymddiriedolwyr Elusen Hugh Jones, i gael ei gynal yn Nghorwen prydnawn Gwener nesaf, a gofynodd a oedd gan rywun ryw awgrymiad pa fodd i ddefnyddio yr arian. Awgrymwyd amryw foddipn, ond gan ni wyddid faint oedd y swm, ni phenderfynwyd ar ddim. Pasiwyd yn unfrydol ein bod fel Cyngor yn mawr lawenhau, ac yn cymeradwyo y symudiad gwir bwysig a Christionogol a gychwynwyd gan Ymherawdwr Rwsia, er sicrhau heddwch parhaol rhwng gwledydd a'u gilydd. Marwolaeth.—Chwith iawn genym gofnodi marwol- aeth tra sydyn yr hen gyfaili dyddan Mr. Thomas Hughes, Brynhyfryd, yr hyn gymerodd le oddeutu haner awr wedi naw o'r gloch nos Lun. Yr oedd yr ymadawedig yn fwy hysbys i lawer fel un o geidwad helwriaeth Syr Henry B. Robertson, ac hyd 6 fewn ychydig wythnosau yn ol yn byw yn Blaenyglyn. Teimlal yn falch y gael dyfod i fyw i'r Llan am y caw- sai felly mwynhau moddion y capel, a hoff iawn oedd genym ei weld yn y gwahanol gyfarfodydd a gynal- iwyd yn y pentref o fewn y tri mis diweddaf. Ai o gwmpas ei gyfeillion yn y pentref hyd o fewn diwrnod neu ddau i'w farwolaeth, a theimlir chwithdod mawr wrth feddwl ei fod wedi ei gymeryd o'n piith mor SydYR, a cydymdeimlir yn fawr a'r weddw o herwydd yr amgylchiad. Deallwn y cymer y claddedigaeth le yn Llandderfel ddydd Iau.
Advertising
LLANDDERFEL-Gwener y Groglith. Cyfarfod Llenyddol ardderchog. D.S -Y prif draethawd ar hanes y Plwyf i fod yn llaw un o'r ddau Ysgrifenydd erbyn Chwef, i. Beirniad Cerddorol, W. M. Roberts, Wrec- sam. Rhestr o'r Testynau trwy y Post i gan R. M. JONES, Brynmelyn, Wca E. HUGHES, Minaifon, } g*
BALA.
BALA. Llys yr Ynadon. Dydd Sadwrn diweddafr o flaen Dr. Hughes, cadeirydd, Mri. J. Parry, R. L1. Jones, Evan Jones, J. Williams, E. R. Jenkins, a J. R. Jones, clerc. Dirwywyd llanc ieuanc i 5s. a'r costau am feddwdod ar y 26ain cyn. Hyderwn na chaiff ei gyhuddo eto o'r un trosedd. Cyhuddwyd Richard Roberts, Bala, o ym- osod ar W. Roberts, Cystyllen fach, ar y 24ain o Ragfyr. Taflwyd yr achos allan. Ymadawiad yr Arolygydd Roberts.-Cyf- eiriodd Dr. Hughes at ymadawiad Mr. Rob- erts, a dywedai nas gallai adael i'r amgylch- iad basio heb iddo, ar ei ran ei hun a'r Ynad- on, ddatgan eu gofid oherwydd colli swyddog medrus a da, a lie bynag yr elai, yr oedd yn cario gydag ef longyfarchiadau goreu Ynadon y Bala. Mr. J. R. Jones, hefyd, a ddatganai ei ofid wrth golli Mr. Roberts, yr hwn oedd wedi cyflawni ei ddyledswyddau yn ddeheuig iawn, a dymunai hapusrwydd iddo yn ei le newydd. Diolchodd Mr. Roberts i'r Cadeir. ydd a'r Clerc am eu geiriau caredig.
Cyngor Dinesig y Bala.
Cyngor Dinesig y Bala. Dydd Gwener diweddaf. Presenol :-Mri. R. Ll. Jones, Y.H. (Cadeirydd) a'r 11 aelod. Cyflog y Neddyg.-Ai- gynygiad Mi Evan Jones, a chefuogiad Mr. H.Evans, pasiwyd i godi cyflog y meddyg i 20p. ar y deallltwriaeth y bydd i'r Cyngor Sirol ad-dalu yr haner. Dewis Surveyor.-Yr oedd chwech yn ymgeieio am y swydd hou, ac ar 01 edrych i fewn iddynt, aed i ddewis drwy y ballot, a chafodd Mr J. Hughes, Cynwyd, 1 bleidlais, a Mr. D. R. Rob- erts, Edeyrnion terrace,Corwen, 11 o bleidleisiau. Pasiwyd i oedi heb wneud y dewisiad yn der- fynol hyd nos Sadwrn dilynol, pryd y dysgwylid y byddai yr ymgeisydd yn bresenol. Nos Sadwrn, cyfarfu y Cyngor, ac yr oedd Mr. D.R.Roberts yn bresenol. Ar ol cael ymddyddan gydag ef, a chael atebion boddhaol ganddo, pas- iwyd yn unfrydol i appwyntio Mr Roberts am flwyddyn. yn ol 65p. Diolchodd Mr Roberts i'r Cyngor am ei ddewis, ac addawodd wneud ei. oreu i gyflawni ei ddyledswyddau.
Advertising
School Board for Llandrillo. Notice is hereby given in reference to the above District, that- (r) The above School Board have (subject to the approval of the Education Department) made certain Bye Laws in pursuance of power given to the School Board by Sec. 74 of the Elementary Education Act, 1870, as amended by the Elementary Education Acts, 1876,1880 and 1893. (2) A printed Copy of the proposed Bye Laws will continue deposited for inspection by any Ratepayer at Number 6, Westbourne Terrace, Corwen, the Office of the School Board, for one Calender month from the date of the publication of this notice. (3) At the expiration of the said Calender month, the said proposed Bye Laws will be submitted to the Education Department for approval. (4) The School Board will supply a printed Copy of the said proposed Bye Laws gratis to any Ratepayer. L. LLOYD JOHN, Clerk. January 14, 1899. YN EISIEU. GOF MEDRUS—Un yn gyfarwydd a gwaith U gwlad, yn ddyn diwyd a sobr, o 21 i 25 oed. Ymofyner a. JOHN EDWARDS, Smith, Llangollen. PENLLYN DISTRICT NURSING ASSOCIATION. THE Annual Meeting of the General Com- mittee will be held at the TOWN HALL, BALA, on Saturday, 21st January. The President, Sir H. B. ROBERTSON in the chair. Your attendance is invited. ELIZABETH BURTON, Hon Sec. Cynelir Cyfarfod Blynyddol perthynol i'r uchod yn Neuadd y Sir, Bala, ddydd SADWRN, Ionawr 2iain, am 3 o'r gloch. Llywydd,— Sir H. B. Robertson. Gwahoddtr pawb.