Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CONGL Y BEIRDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CONGL Y BEIRDD. Anfoner y Farddoniaeth i ofal EDNANT, Cyn- wyd, Corwen. Llandderfel." Y mgais wych ar y cyfan, ond nid yw y bardd hwn wedi dysgu sillebu yn gywir yr hen iaith fendigedig sydd i fyw gyhyd a'r Wyddfa, meddai'r beirdd. Mae ganddo i yn He y, n yn lie i, &c. Ymdreched y bardd ddysgu sillebu a mydryddu yn gywir, ac nid oes genyf yr amheuaeth Ileiaf na ddaw yn fardd rhagorol. Edryched ar ei gan wedi ei chywiro. Y rhew."—Nid yw cyrch yr englyn hwn yn gywir, yw y rhew Ar lyri ac afonydd." Cywir parth cynghanedd fel hyn, yw y rhew Ar hyd dol a mynydd. Myned y bardd Yr Ysgol Farddol ar unwaith, a dysged y cynghaneddion yn drwyadl. Ni ddylai yr un bardd, o leiaf bardd Cymreig, pa le bynag y byddo, fod heb Yr Yagol Farddol a Gramadeg Tegai. Ymboled a Llyfrwerthwr. Y ganwyll frwyn." -Nid oes yr un linell gy- wir yn yr englyn hwn. Yr agosaf i gywirdeb ydyw y linell olaf, a cbynwysa hono broest lefarog, Mewn Haw un liylaw yw hi." Cymered y bardd hwn y cyngbor a roddais i'r cyfaill blaenorol.

LLANDDERFEL.

DAU ENGLYN

NODION TRAMP.

Advertising