Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Ysglyfaeth i'r " Eryr " o…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ysglyfaeth i'r Eryr o Langower. Mr. Golygydd,-Anaml iawn y gwelir yr ERYR yn ehedeg am ysglyfaeth i'r ardal hon, ac y mae llawer o ddyfalu wedi bod yn ddi- weddar yn nghylch yr achos o hyny. Y casgl- iad naturiol a dynwyd genym oedd, fod yr ERYR yn ymddangos mor brysur mewn cylch- oedd eraill, nad oedd ganddo amser i ym- weled a'r cymoedd hyn. 0 dan y cyfryw am-! gylchiadau, yr ydym yn bwriadu anfon ambell i ysglyfaeth iddo, gan fod newid bwyd yn llesol i bob creadur, ac yn feddyginiaeth rag- orol rhag diffyg treuliad ond nid ydym wrth ddweyd hyn, yn awgrymu fod lie i gwyno rhyw lawer ar archwaeth yr ERYR. PONT Y GLYN. Hwyrach y bydd yn newydd i'r ERYR fod yma bont ardderchog wedi cael ei chwbl orphen dros yr afon sydd yn rhedeg gerllaw Capel y Glyn. Y mae Mri. Morris Peters, Rhydwen, a R. Jones, Glynmawr, a'r cymyd- ogion oil, i'w canmol am eu hymdrechion can- moladwy mewn cysylltiad a hi. Codwyd a chwblhawyd hi heb droseddu ar logell y trethdalwyr. Y CYNGOR PLWYF. Credwn fod Cyngor Plwyf Llangower heb ei fath a'i gymar. Pe byddem yn enwi yr oil a gyflawnodd er pan y mae mewn bodolaeth, byddai yn ormod gwledd hyd yn nod i'r ERYR, a dygwyd y cyfan oddiamgylch heb wario yr un ddimai o'r dreth. YR OEN CYNTAF ELENI. Boreu ddydd lau, gwelwyd yr oen cyntaf eleni yn y plwyf hwn ar dir Mr. J. Roberts, Pantyronen, ond cipiodd yr ystorm neu'r ERYR efymaith nos Iau, ac ni welwyd byih mo hono ef. LLYTHYR YR HEN LANC. Fel y gwyddoch o'r goreu, nid oes dim mhela a'r hen lanciau yma. Y maent wedi eu llyncu i fyny gymaint gan eu ffyrdd a'u mympwyon eu hunain, fel nad allant fwynhau bywyd fel dynion eraill, a gwae i'r eneth hono a aberthir i'r cyfryw rai ar allor serch. Nid oes raid i ni ond ymweled a'u preswvlfod i gael gwybod hyn. Y mae eu celloedd mor ddigysur, moel, a diymgeledd, a chrogell. Unig wrthrych eu bywyd yw hunan-les neu hunan-foddhad. Ond wrth eu clywed yn -siarad, gellir meddwl mai hwynt-hwy yw y dosbarth mwyafhunan-aberthol o'r hit ddynol. Y gwir am dani, y maent yn bla ar gymdeith- as. Sylwer ar leferydd Hen Lane yr ERYR. Un rheswm a rydd dros beidio priodi, yw caethiwed y gwragedd. Gan hyny, yr ydym i gymeryd yn ganiataol, pe byddai i'r Hen Lane hwn briodi, y byddai iddo gaethiwo ar ryddid ei wraig, ond rhag i'r fath beth ddigwydd, gwell ganddo aberthu ei fywyd i henlancyddiaeth, Y fath weniaith Y fath ragrith! Pe byddai yn sicr na fyddai i'w wraig gaethiwo ar ei ryddid ef ei hun, priodai yfory nesaf. Nid yw ei ddadl dros gaethiwed y gwragedd ond cwrlid i guddio ei wir wrth-1 wynebiad. Son am benyd wasanaeth, fe fyddai oes felly o'i chyferbynu ag oes o dan arolygiaeth haiarnedd yr Hen Lanc yn fyd gwyn iddi ar ei hyd. Na, hunan-les yw gwreiddyn henlancyddiaeth. Y mae yn rhaid i ni ymattal rhag ofn y bydd i ni dynu holl hen lanciau y plwyf ar ein penau (a pha |"ai yn heigia), ond cyfaddefwn nad yw hen lanciau Llangower fel hen lanciau eraill. Yr eiddoch, YSGLYFAETHYDD.

Advertising

LLANUWCHLLYN.

Llys Ynadol y Bala.

LLANDRILLO.

Clywedion o'r Bettws G.G.

Etholiad Cyngorau Plwyf, Cyngorau…

Advertising