Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLANSTEPHAN A'R CYLCH. -

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANSTEPHAN A'R CYLCH. Cafodd y plwyf hwn ei enw, nid oddiwrth Stephan, y merthyr Cristionogol, ond oddiwrth un o hen seintiau Cymrn, sef Ystyffan, Bardd Teilo, yr hwn oedd yn fab i Mawan ap Cyngen ap Cadell Deyrnllwg, tywysog Powys. Mae plwyf arall o'r un enw a hwn yn swydd Faesyfed, ac wedi cael ei enw oddiwrth yr an sant. Yr oedd yr Ystyffan hwn yn rhodio y blaned hon yn niwedd y chweebod ganrif. Nid oedd son am adeiladu y Castell y pryd hwnw, ond y mae yn debyg fod yma gaer neu ddinas gan yr hen Frythoniaid y pryd hwnw. Mae yn anhawdd gwybod pwy adeiladodd y Castell mawreddog hwii. Myn rhai haneswyr iddo gael ei adeiladu gan Uchtryd, tywysog Meirionydd, yn y flwyddyn 1138. Dywed ereill fod y CastelUwedi ei losgi yn y flwyddyn 1136; a chyn y gallesid ei losgi, mae yn rhaid ei fod yn bodoli cyn hyny. Myn ereill mai y Normaniaid a'i hadeiladodd, y rbai a ddaethant drosodd i Morganwg yn y flwyddyn 1090, a gwth- iasant yn y blaen i wlad Myrddin, Dyfed, a Cheredigion. Mae ya debyg fod yma lawer brwydr boeth wpdi ei hymladd, a bod esgyrn mil- oedd o filwyr dewr yn pydru yn ae o gylch y lie. Yr hanes diweddaf a geir am y Castell yw iddo gael ei ddinystrio gan Meredydd ap Owain yn y flwyddyn 1257 Mae llawer tro wedi bod ar fyd er hyny hyd yn awr, end y mae muriau yr hen Gastell wedi herio ystormydd yr oesau, ac yn sefyll yn dalgryf hyd y dydd hwn; ond y mae dwylaw amser yn gwaeyd eu hoi arno, yn rhuchio ei wyneb caregog, ac yn fuan bydd yntau wedi myned heibio fel llawer o gedyrn a fu o'i flaen. BETHEL. Capel yr Annibynwyr yw Bethel. Ba yno gyf- arfod pregethu y Sabbath diweddaf, a chafwyd pregethau grymus gan y Parchn E. Evans, lAIan- bedr, ac I. C. Evans, Amanford. Gobeithio y byddant o fendith i bawb a'u gwrandawodd. BETHESDA. Yr oedd y Sabbath diweddaf yno hefyd yn ddydd eu huchelwyl gyfarfod, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parchn D. R. Davies, a J. Bowen Lloyd, Bwlchuewydd. Caed cynulliadau lluosog a phregethau doniol. Dilyned bendith yr oil. PENAR. Dyma y bardd diweddaf a welais yn y Castell. Galwodd yma ar ei ffordd o Ddyfed i'r Brifddinas, ond clywais iddo aros yn y Pentre wrth basio drwy y lie. Bachgen noble yw Penar, yn meddu ar dalentau amryfal—pregethwr, bardd, lienor, darlithiwr, a botanist Pob llwydd, frawd. T DON CRUGYBAR. Yn sicr, y mae Cledan Williams wedi anfarwoli ei enw drwy adgyfodi ac ad-drefnu yr hen alaw Bozra a'i galw ar enw sydd yn Hawn o swyn i'r sant Cymreig, Crugybar—yr hen le cysegredig lie bu Nansi Jones, Godreymynydd, Dafydd Shon Edmwnt, a llawer ereill yn neidio ac yn moli o flaen arch Duw yn y dyddiau gynt. Dyma y don a genir amlaf gan yr ymwelwyr. Ymddengys ei bod wedi gafaelyd yn y genedl; cenir hi o hyd— nid oes modd diflasu arni. Yn sicr mae y peth yn hon. Rhaid i don, fel penill, gael ei geni oddi- uchod cyn y byddo byw. Gwthir arnom lawer o donau ac emynau yn y dyddiau hyn er mwyn gwneyd masnach; ond nid yw y peth ynddynt. Maent yn feirw, a byddai yn llawer iawn gwell eu claddu na phoeni cynulleidfaoedd i geisio eu canu pan nad oescanu ynddynt. Nisgellir gwneyd tocau ae emynau to order. Gobeithio y ceir yn y Llyfr Tdnau Newydd clSnau ac emynau llawn o elfeoau I bywyd, onide bydd yr anturiaeth yn sier o droi allan yn fethiant hollol. Nid pob cerddor a all gyfansoddi ton fyw, ac nid pob bardd a all gyfan- soddi penill byw a fydd yn rhoi bywyd i ereill wrth ei ganu. PKESWYLYBD Y CASTELL.

DYFFRYN CYNON.

CLADDEDIGAETH YR HYBARCH W…

COLEG Y GOGLEDD, BANGOR.

FFESTINIOG A'R CYLCHOEDD.