Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GENI, PRIODI, A MARW. PRIODASAU. EVANS-JONES.—Dydd Sadwrn, Mai 2il, yn nghapel y Methodistiaid, Llanfyllin, gan y Parch Dan Aubrey, Pontrobert, Mr D. Evans, Penffordd, a, Miss E. A. Jones, Cwm. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei brawd Mr D. Jones, Cwm. Gweiniwyd fel gwas y priodfab gan Mr J. Ellis, Llanrhaiadr, ac fel mor- wyn y briodferch gan ei chwaer, Miss M. Jones. Y mae y par ieuanc yn uchel eu parch, ac yn fawr eu cymeradwyaeth yn yr ardal, ac yn eglwys Penllys. Difyr oedd gwel'd nifer luosog o gyfeillion a chym- ydogion wedi ymgasglu yn nyffryn y Cwm i ddy- muno yn dda iddynt. Yr oedd yr hin yn hynod ffafriol, a chawsant briodas anrhydeddus ac urddasol yn ngwir ystyr y gair. Gadawodd y pir ieuanc gyda'r gerbydres am Colwyn Bay. Eiddunwc iddynt oes faith, ddedwydd, Iwyddianus, a llawer iawn o wenau'r Nef.-Cyfaill. PUGHE-ROBERTS—Mai 5ed, yn nghapel yr Annibyn- wyr Saesoneg Upton Manor, Lluudain, unwyd mewn glan briodas, Mr Evan Pughe, Stepney, gynt o Blaen-pennal, Aberteifi, a. Miss E. May Roberts, Cefncamberth Hall, Towyn, Meirionydd. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei brawd, Mr J. Owen Roberts, chemist, Plaistow. Y gwas a'r forwyn oeddent Mr Thos. Evan Pughe, Aberarth, a Miss Massie Roberts, chwaer y briodasferch. Helena fach merch Mr J. Owen Roberts ydoedd y page girl. Yr oeddynt wedi gwisgo yn hardd a dymunol. Gwas- anaothwyd gan y Parchn Llewelyn Bowyer, East Ham, a Mr Humphreys, City road. Wedi y ffurf- wasanaeth yn y capel aetbiwyd i breswylfod Mr a Mrs Roberts i fwynhau o'r wledd oedd wedi ei darpar yn helaeth ar gyfer y parti. Eisteddodd nifer helaeth wrth y bwrdd, a gwasauaethwyd gan Mrs Roberts, Miss Pugh, a Miss Martin. Yr oedd Mr Price Roberts, brawd arall y briodasferch, yn brysur iawn yn gwneyd pawb yn gysurus a chartrefol yn ystod yr amser y buwyd yn mwynhau y danteithioa Derbyniodd Mr a Mrs Pugh nifer luosog ofrys- negesau yn dymuno iddynt bob hapusrwydd a ded- wyddwch ar ei gyrfa briodasol. Yr oeid yr anrheg- ion oddiwrth gyfeillion a pherthynasau yn lluosog iawn. Yn eu mysg tegell ariau rhoddedig gin eglwys Nazareth He yr oedd y briodasferch ynaelod, ac yr oedd yr ar-ysgrifen arni fel y canlyn An rheg i E. M. Roberts, rhoddedig gan eglwys Naza- reth a'r cylch, Mai 6ed, 1908.' Gadawodd y cwpl ieuanc yn y prydnawn am yr Isle of Wight i dreulio eu mis met. Pob llwydd a chysur iddynt ar hyd eu hoes.-C,yfhill. WILLIAMS-RICHARDS.—Dydd Mawrth, Mai 12fed, yn addoldy Salem, Coedpoeth, unwyd Mr J. 0. Williams Maelor Stores, mewn glan briodas a Miss Frances Jane Richards, merch ieuengaf Mr a Mrs Richards, The Lodge. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch Ll. Williams, Nefyn, brawd y priodfab, a'r Parch T. E. Thomas, y gweinidog. Yniidawodd y par ieuanc yr un dydd am Rhyl yn ughanol dymun- iadau da llu o gyfeillion. MARWOLAETHAU. PHILLIPS.—Gyda thristweh yr ydys yn hysbysu marw- olaeth sydyn ac annysgwyliadwy y chwaer anwyl Mrs E. Phillips, Station Hall, Cilgeran. Bu farw gyda sydynrwydd brawychol, heb ond ychydig fyn- ydau o gystudd, tua haner awr wedi 7 o'r glocb nawn lau, Ebrill 30ain, yn 61 oed. Yr oedd yn ferch i'r diweddar Thomas ac Eleanor Davies, Cilgwyn, sir Benfro, y rhai a fuont yn brif gynorthwy i'r achos yn Capel Newydd am 45 o flynyddoedd, ac a gyrhaeddasant oedran teg, efe yn 85 a hithau yn 93 o flynyddoedd, ac a fuont 61 o flynyddoedd yn nghyd yn y bywyd priodasol. Yr oedd iddynt chwech 0 blant, pump chwaer, a brawd, a'r ddau ieuengaf yn unig sydd yn fyw bellach, sef Mrs Thomas, Glan- deri, Cilgeran, a'r Parch J. Coedfryn Davies, Caer- fyrddin. Yr oedd Mrs Phillips yn wraig o dymher hynaws a charuaidd, yn Ikwn o synwyr da, ac:yn un a gerid gan bawb a'i hadwaenai. Yr oedd hi a dau o'r plant, sef y ferch ieuengaf a'r mab, yn aelodau gyda'r Methodistiaid, tra y mae ei phriod a'r ferch henaf yn aelodau parchus gyda'r Annibynwyr. Yr oedd hi yn frenines yn ei theulu, ac yr oedd y rhau fwyaf o'r pethau y dywed Solomon a berthyn i wraig rinweddol yn amlwg yn ei chymeriad hithau. Oy- merai ddyddordeb mawr yn ngweithrediadau Oym- deithasfa Cilgeran tua thair wythnos yn ol. Ar achlysuron fel hyn ychydig iawn o'r cyfarfodydd y mae pobl y lie yn gael oherwydd prysurdeb a thra- fferth. yn gweini ar ddyeithriaid. Ond er ei bod hi yn gwneyd ei goreu, a gweithio yn galed er gwneyd y dyeithriaid dros ddyddiau y Gymdeithasfa yn gy- surus, eto cymerai ddyddordeb mawr yn y moddiou cyhoeddus a'r pregethau, a mynodd hamdden 1 wrandaw amryw ohonynt, a siaradai am danynt ar ol hyny fel un wedi derbyn lies a bendith drwyddynt. Un mis ar ddegyn ol oladdwyd ei hunig fab yn "4 mlwydd oed, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc hynod 0 ddiymhongar a gwylaidd, ac o gymeriad eithriadol 0 Ian a phur—yn gyfryw nad oedd pleserau poblog* aidd ieuenctyd yr oes yn meddu dim swyn iddo. Ac er yr ymddangosai hi y pryd hwnw yu gallu modd- ianu ei hun yn brydferth dan yr oruchwyliaetn chwerw, ac yn ymostwng i drefniadau Rhagluniafltti gyda gwroldeb Cristion eto gadawodd yr amgylcb" iad pruddaidd effeithiau dwys ar ei meddwl a'i hya- bryd, ac ar ei hiechyd, yr hwn nid oedd yn gryf ianv" er's rhai blynyddoedd. Y mae angeu yn dyrnodi yn drwm ar y teulu hwn yn ddiweddar. Ychydig cy y Nadolig diweddaf bu farw Mr Christmas, pos feistr, Llanwrda, yn dra sydynj yr hwn oedd y briod & chwaer Mr Phillips, Station Hall; gan ei bod wedi adeiladu ty yn nghymydogaeth Cilgeran, ° hen ardal enedigol, symudodd i'r gymydogaet ddechreu'r flwyddyn hon gyda'r bwriad o drel'' gweddill ei hoes yno, Ond yn mhen ychydig wy nosau, bu hithau farw yn dra sydyn, ac, yn ol j dymuniad, aed a'i chorS yn ol i ymyl ei Lauwrda. Yr o9ldynt ill dau yn barchus gan y diweddar Mr Thomas, gweinidog Llanwrda a Llangadog, Rhyfedd y fath gyfres o farwolaetba sydyn mewn cysylltiadau mor agos ac anvV a hyny mewn amser mor fyr! GadaWf" Mrs Phillips briod hoff a charedig a dwy anwyl, i alaru eu colled ar ei hoi. Tad yr amddiia^ a Barnwr y gweddwon a daeno ei aden fawr drosty^ Dydd Mercher, Mai 6ed, claddwyd yr hyn 00 farwol ohoni yn ymyl ei mab yn Mynwent TyrlO Daeth torf luosog o bell ac agos yn ngbyd chladdedigaeth. Gwasanaethwyd ar yr gan y Parchn D. Morgan, Llaududoch D. Phil'uj> | Caerfyrddin H. H. Williams, Llechryd a 1 < Rees, Tyrhos..—D Phillips, Qaerfyrddin,
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
rœ 1 Should Women havevotfes? Certainly! I I ] 1 They have shewn their intelligence fey voting B UljOLBROOKS CLAII^ir I The Best in the World I
YR YSGOL SABBATHOL.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
oedd hi am Bi ddal, fel y gallasai fwynhau Ei I gymdeithas (Matthew xxiii. 9), ond nid oedd yr amser i hyny wedi dyfod eto. Caiff y gym- deithas ei hadnewyddu, ond mewn ystyr ys- brydol. Dyledswydd Mair ar y pryd ydoedd gwasanaeth. Dos at Fy mroclyr. Rhaid danfon cenadwri gwirionedd a chariad i'r dysgyblion. Geilw hwy Fy mrodyr i ddangos Ei anwyldeb ohonynt. Yr ivyf yn dyi-eft(tfit. Yr oedd hyd yn nod y pryd hwnw ar y ffordd. Eich Tad chwi mor wirioneddol a Fy Nhad inau, ond mewn ystyr wahanol-Py Nhad I wrth natur, eich Tad chwi trwy ras. Adnod 18, Mail' Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i'r dysgyblion, weled ohoni hi yr Arglwydd, a dywedyd ohono y pethau hyn, iddi.' Cyf. Diw., 'Ac a ddywedodd wrth y dysgyblion, Mi a welais yr Arglwydd,' &c. Dywed Marc fod y dysgyblion ar y cyntaf yn gwrthod credu tystiolaeth Mair Magdalen. Ystyrient mai effaith ei dychymyg terfysglyd ydoedd y weledigaeth y tystiai ei bod wedi ei chael. Y mae yn debygol mai yr un mynediad yw hwn a'r un grybwyllir yn Matthew xxviii. 10; Marc xvi. 10; Luc xxiv. 10. GWERSI. 1. Yr adgyfodiad fel ffaith hanesyddol. 1. Yr oedd y trefniadau a wnaed i wylied y bedd yn ei gwneyd yn anmhosibl i dwyllo. 2. Tystiolaeth bendant yr apostolion a'r gwragedd 3. Dygwyd hwy i gredu y ffaith, er fod rhag- tarn cryf yn eu meddyliau i'w chredu. 4. Cawsant gyfleusdra digonol i farnu gwir- ionedd y ffaith. 5. Llwyddasant i gael miloedd i'w chredu, a hyny mewn adeg pan yr oedd ganddynt gyf- leusdra i broii drostynt eu hunain wirionedd tystiolaeth yr apostolion. 6. Yr oedd yr apostolion yn ddynion gonest, geirwir, a dangosasant mor sicr yr oeddynt o'r ) ffaith fel y rhoddasant eu bywydau i lawr er mwyn enw yr Iesu. 7. Y mae y dylanwad y mae Cristionogaeth wedi gael ar y byd yn profi gwirionedd y ffaith. II. Yr adgyfodiad fel athrawiaeth. 1. Gan fod adgyfodiad Crist yn ffaith, y mae ei honiadau fel Mab Daw yn cael eu gwirio. 2. Y mae adgyfodiad Crist yn sicrhau cyf iawnhad y rhai a gredant ynddo. Rhuf iv. 24, 25; 1 Cor. xv. 17. 3. Mae i'r adgyfodiad fel athrawiaeth rym neu ddylanwad i gynyrchu bywyd sanctaidd- bywyd o'r un natur a'r eiddo Crist Ei Han wedi Ei adgyfodiad. 4. Adnewyddir y saint i obaith bywiol trwy yr adgyfodiad oddiwrth y meirw. Rhuf. vi. 4-11; l|Pedr i. 3-21. 5. Yn adgyfodiad Crist cawn sicrwydd am ad- gyfodiad y rhai a huna.sant yn Nghrist. Rhuf. viii. 11; 1 Cor xv. 22. 6. Mae adgyfodiad Crist yn sicrhau yin- ddangosiad y saint gyda Christ yn Ei ail- ddyfodiad. Col. iii. 4. y GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Ar ba sail y mae Cristionogion yn cadw y dydd cyntaf o'r wythnos yn Sabbath? 2, Beth sydd yn neillduol yn hanes loan o adgyfodiad Crist oddiwrth y meirw ? 3. Pa beth yn yr hanes sydd yn awgrymu fod yna wragedd ereill wedi dyfod at y bedd gyda Mair ? 4. Paham y tybiodd Mair Magdalen fod rhyw- rai wedi dwyn corff yr Arglwydd o'r bedd ? 5. Pa fodd yr argyhoeddwyd loan fod yr Iesll wedi adgyfodi ? 6. Paham y safodd Mail' wrth y bedd ? Beth oedd wedi dyfod o'r gwragedd ereill oedd yn cyd-ddyfod gyda hi at y bedd y boreu hwnw ? 7. Pa fodd na ddarfu Mair adnabod yr Iesu pan yn sefyll yn ei hymyl ? 8. Wedi iddi gael ei dwyn i adnabod ei Har- glwydd, paham y mae yn gomedd iddo gyffwrdd ag Ef, a pha orchymyn a rydd iddi ? 9. Nodwch rai o'r ffeithiau sydd yn profi gwirioneddolrwydd [adgyfodiad Crist.