Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

eaafau Seneddol Newydd.

,Ymosodiad Penffordd gan Grwydryn.

Ssgenlnso Plant yn Methesda.

A 3oddiad Trafaeliwr c Golwyn…

Cael Dyn wedi Boddi yn Llanfairfechan.

ILlythyr Nodedig Eunanlsiddiad.

Advertising

AT EIN GOHEBWYR !

[No title]

Anrhydeddu Cantcrion y Ehondda.

Marwolaeih a OJiladdedigaeth…

- Addysg Ailraddol.

Esgob Newydd Bangor.

ulTith Arglwydd Lovat" Eto.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ulTith Arglwydd Lovat" Eto. CYHUDDIAD AU YdHWANEGCL YYi ERBYN MISS FRASER. Yn Llys Bow-street, Llundain, dygwyd cyliudd- iadau newyddion (ebai'r "Daily Mail") yn erbyn yr anture3 dal, brydweddol, Catherine Louisa Fraser, alias Lovat, alias Mrs Rothschild Owen. Yn y gwrandawiad blaenorol fe haerid iddi gaffael symiau mawrion o arian trwy dwyll osod ei hun allan fel nith i Arglwydd Lovat a gwraig i aelod o deulu y Rothschilds. Mr Williamson, yr hwn a erlynai ar ran y Trys- orlys, a ddywedodd fod y garehares yn ferch i weinidog Methodus yn Ngogledd Cymru. Yr oedd ers cryn amser wedi bod yn byw trwy dwyllo, gan gadw i fyny "style" dda a chaffael nwyddau gan fasnachwyr heb dalu am danynt, i siopau pa rai yr arferai ddreifio mewn cerbydau llogedig am y rhai na thalodd byth. Mewn un achos rhoddwyd tystiolaeth ddarfod i'r garchares ordro dress gwerth pum' punt gan Miss Hickman, "court dressmaker" yn cario bus- nes yn mlaen yn Francis-street, Tottenham-court- road. Ar ei dymuniad hi (Miss Fraser) anfonwyd y dress iddi i Orsaf Charing-cross, lie y cymerodd feddiant o honi ao yr anfonodd y gwas yn ol gyda chenadwri. Pan dcla-eth y gwas yn ol, yr oedd y garehares a'r dress wedi diflanu. Yn nesaf daeth un Miss Esmond yn mlaen a dywedodd y bu y garchares yn byw ar un amser gyda hi yn Regent-street, ac iddi ddweyd wrthi ei bod yn nith i Arglwydd Lovat, a bod Syr Wat- cyn Williams Wynn yn ewythr iddi. Bu iddi ymadael oddiwrthi mewn dyled o 46p. Dywedid yn mhellach ddarfod i'r gyhuddedig gymeryd ty wedi ei ddodrefnu yn Thames Dit- ton, yn mis Medi diweddaf, yn ol 33 gini yr wyth- nos, gan alw ei hun "Mrs Rothschild Owen." Ni thalodd ddim rhent, a thwyllodd lawer o fasnach- wyr yn y gymydogaeth. Gohiriwyd yr achosion yn mhellach.

Marwolaetb Cymro o Fon.