Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
! ST. CLEARS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ST. CLEARS. Cyfarfodydd ,.egethii.-Y mae cyfarfodydd blynyddol holl oglwysi y cylch h WB o bob en wad yn taedda'n ddiweddar i ddilyn eu gilydd y paUl Sal ar o' y llall yn ddifwlch adeg gwyliau haf. FeUy y mae wedi bod eleni. Dyna'r adlorjiant sydd gan eglwysi'r wlad i'w gyunyg i bobl y treli a gwýr y gweithe' pan yn chv. i io am newid awyr ac etyb yr amcan yn eithriadol felly ar flwyddya fel hon. Pregetfawr Bethlehera eleni oodd Podroa:; a phregethwyr Capel Mair oedd Elfed a'r Parch Fred Jones, B A B D., Rbymni. Oafwyd mêr Bfeogyl gau y tri. Y Cyiiiaeaf.-Y gofyuiad cyntaf rhwng pob dau yn yr ardaloedd hyn yn ddiweddar fyddai, 4 Ydych chi wedi cael eich gwair i mewn ?' neu, Ydych chi wedi dechre torri llafar ? Y mae wedi bod yu gynhaeaf gwair trafferthus ond y mae yn dywydd rhagorol bellach i gael yr yd i ddiddoscwyda, a bydd hynny'n golygu lIawer iawn y fIwyddvn hon. Y mae gan yr amaethwyr yn bur gyffredin fwy o wenith nag arfer, ac y one y rhagolygon yn addawol. (t.
I Rhiwmatic ac Anhwyldeb yr…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Rhiwmatic ac Anhwyldeb yr Arennau. Triniaeth Rad. Y mac rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymalau, effaith gormod o nric acid yn y cvfansoddiad, a'r acid hwn ydyw achos pennaf o boed yn y cefn, lum- bago, sciatica, gowt, annhrefn y dwfr, y garreg, grafel, dropsi, diabetes, a Bright's disease. Y mae Tabledi Estora yn driniaeth effeithiol a llwyddiannus ar gyfer hyn, ac wedi gwella llu o achosion wedi i feddyginiaethau eraill fethu, yr hyn a gyfrif am y ffaith eu bod yn cyflym gymeryd lie meddyginiaethau ar ol yr oes ydynt yn ami allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog. Y mae nifer cyfyngedig o Da bledi Estora yn cael eu CYNMYG YN RUAD er profi eu bod yn llawn warantu eu disgrifiad meddygiuiaeth onest at yr arennau am bris gonest, 1/1 y bocs o 40 o dabledi, iieu 6 bocs am 6/ Cyflenwir hwy gan y rhau fwyaf o fferyllwyr. Y mae y cynnyg hwn o un bocs llawn yn parhau mewn grym i ddarllenvvyr y TYST am ddeng niwrnod o'r dyddiad hwn, ar yr amod fod y rhybudd hwn yn cael ei dorri allan a'i j anfon gyda 3c. mewn stamps onide, fe anwyb- yddir y ceisiadau a'r amcan ydyw diogelu rhag rhai nag oes arnynt angen am y cynuyg Cyfeiriacl-Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C.
I Y EHYPEL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y YN KL/RAINC. Cyfriiir fod gan Prydain a'i Chynglircirwyr heddyvv dri milwr yn Ffrainc am bob un sydd gan Germani ac Awstria yi-io i'w gwrthwynebu. Gofynnir gan rai paham ynte na ymesyd Joflre a French ar y Germaniaid yno fel y gwnaeth y Germaniaid ar Rwsia ? Sicr yw pe y gwnaethai J offre a French hynny y gallent yn awr gael y trechaf ar y Germaniaid yn Ffrainc, ond byddai rhaid iddynt dalu mor ddrud am hynny ag y talodd Germani yn Rwsia. A fyddai yn iawn iddynt dalu pris mor fawr ? Cofier dau beth neu dri. i. Mae gallu milwrol Germani wedi cyrraedd ei fan uchaf. Fydd hi byth yn gryfach yn y rhyfel presennol nag yw heddyw. Gwanhau a wna gyda phob brwydr a ymleddir ganddi, pa un bynnag ai ennill ai colli y frwydr honno a wna. 2. Mae gallll Prydain yn myned yn fwy-fwy o ddydd i ddydd. Mae pob wythnos yn gwneud byddin Prydain yn gryfach rnewn dynion ac mewn cyfarpar. 3. Oherwydd y ddau beth uchod, geill Pryd- ain fforddio aros nis gall Germani fforddio hynny. Dyna paham y mae Germani yn gwario ei milwyr wrth yr ugain mil yn Rwsia yn y gobaith y geill drwy hynny ddifa byddin Rwsia, ac felly dwyn y rhyfel i derfyn. Gyda pob ymosodiad o'i heiddo yn Rwsia mae yn colli ei nerth i wrth- sefyll byddinoedd Ffrainc a Phrydain pan ddaw yr ymosodiad mawr oddiwrthynt hwy. Gwelir felly y gwahaniaeth rhwng rhaid a brys Germani, a rhaid ac arafwch Prydain a Ffrainc. Mae fel pe bai dau ddyn eill fod mewn angen o'r nn neu gyffelyb bethau. Mae y cyntaf yn gwybod os na fedr efe ei gael o fewn ychydig amser, y cyll efe y cyfle i'w gael am byth. Boddlona, felly, i dalu llawer mwy na'i werth am dano er mwyn ei gael ar unwaith. Tybier fod y peth ynddo ei hun yn werth can punt. Boddlon fydd y cyntaf i dalu deucant neu dri er mwyn ei gael yn ddioed rhag ei golli am byth. Mae ar y llall 11awn gymaint o angen y peth a'r cyntaf ond gwyr efe, os gall aros am chwe mis hebddo, y gall efe ei gael y pryd hwnnw am hanner can punt yn lie cant-a gan y gall efe fforddio aros, byddai yn ffol iawn i dalu cant am yr hyn y gall efe ei gael ymhen tipyn am hanner cant. Dyna yn hollol y gwahaniaeth rhwng Germani yn Rwsia, a ni yn Ffrainc. Rhaid yw i Germani nid yn unig ennill y fuddugoliaeth ar Rwsia, ond ei hennill yn ddioed, neu golli pob gobaith am dani. Dyna paham y gwaria efe ei wyr mor afradlon. Gwel fod y gaeaf yn agoshau, ac y bydd hwnnw yn elyn gwaeth iddo ef a'i fyddinoedd na lxoll lu Rwsia. Os na fedr efe ddifodi byddin Rwsia cyn daw'r gaeaf ar ei warthaf ar y gwastadeddau ofnadwy hynny, druan ohono. Bydd y Rwsiaid yn eu gwlad eu hun. Maent hwy yn gyneiin a'r gaeaf caled a'i beryglon. Bydd y Germaniaid mewn gwlad ddieithr, ynghanol gelynion yn barod i ymosod arnynt beunydd, a hwythau heb foddion priodol i wrtlisefyll erchylltra'r tywydd. Nid felly ni yu Ffrainc. Gallwn fforddio aros dri neu chwe ill is arall, gan wybod fod pob dydd o oedi yn golygu talu llai mewn bywydau Prydeinwyr am y fuddugoliaeth fawr pan ddaw'r amser. BJSTH AM Y D uajA:\HIJ,US ? Ond yn y Dardanelles yr ydym ninnau ryw, beth yn debyg i'r hyn yw Germani yn Rwsia. Rhaid yw i ninnau ennill yn y Dardanelles yn fuan, nen golli pob gobaith am ennill yno o gwbl. Dyna paham y gwneir yinosodiadau mor ffyrnig ac y collir cynifer o fywydau ein dewrion yno. Mae lie i ofni y bydd brwydro caletach ■, a cholledion trymach yn fuan eto yno. j' Gwyddys erbyn hyn maint ein colledion o fewn y pythefnos diweddaf yno. Glaniodd dwy fyddin newydd o Brydeinwyr mewn datt fan r gwahanol, gan geisio, fel y ceisiai y Gennaniaid yn Riga, fyned yn wrthgefn i'r gelyn. Llvvydd- • wyd i lanio yn y ddau. le, sef Ariburnu a Suvla Bay. Yr oedd mynydd-dir yn wynebu y ddwy fyddin ar ol glanio, a'r mynydd-dir hwnnw o'r fath natur fel y rhaid cario yn y ddau le, neu buasai safle y fyddin a enillai un o'r ddau yn beryglus os na enillid y llall hefyd. A dyna, yn aiif-f-ocliis, sut y bu. Enillwyd y mynydd o flaen Ariburnu ond wedi cyrraedd copa'r bryniau yno, cafwyd uad oedd y fyddin o Suvla Bay wedi gallu gwueud cystal gwaith. Ym- ddengys fod byddin gref o'r Tyrciaid wedi ynigasglu y noson cynt gyda'r bwriad o ymosod ar ein gwersyll ni, ond heb wybod am y fyddin newydd. oedd ar lanio gennym. Collodd y Tyrc- iaid y cyfle i ymosod ar ein gwersyll, ond yr oeddent yn gylieus i wrthsefyll ein byddin ni yn Suvla Bay. Y canlyniad oedd methu cyr- raedd y nod geunyin yn SuvIa Bay, a thrvvy hynny orfodi ein byddinoedd wedi ennill copa'r mynydd yn Ariburnu i gilio ychydig yn ol o ben y mynydd. Gwneir yr ymdrech eto yn fuan yn y ddau le, a brwydr waedlyd ofnadwy a fydd. PRYDAIN A GKRMANJ Y GWRTHGYFERBVNIAD. Mae Canghellor Germani newydd draddodi araith bwysig iawn yn y Senedd yno. Atebir ef mewn llythyr maith gan Syr Edward Grey ar ran y wlad lion. Ceisia Canghellor Germani daflu'r bai am y rhyfel i gyd arnom ni, a lied awgryma .pa beth yr amcana Germani ei sicrhau drwy'r rhyfel. Dengys Syr Edward Grey, ar y Haw arall, yn glir a digwestiwn mai Germani, a Germani yn unig, sydd gyfrifol am y rhyfel, a beth sydd gan y byd i'w ddisgwyl os enill a wna Germani yn y rhyfel hwn. Rhaid i Germani lywio ffawd pob gwlad arall,' ebe Canghellor Germani yn ei araith. Rhaid i Germani fod yn darian heddwch a rhyddid i bob cenedl, fach a mawr.' Ië¡' ebe Syr Edward Grey yn ei atebiad miniog,' dyna hi-heddwch haearn o dan darian Prwsia ac o dan oruchafiaeth Germani. A Ger- mani yn oruchaf, ni fyddai neb yn rhydd ond Germani. Byddai Germani yn rhydd, a hi yn unig yn rhydd—yn rhydd i dorri pob cytuudeb, yn rhydd i sarnu pawb arall i'r llaid, yn rhydd i wrthod cyflafareddiad, yn rhydd i fyned i ryfel pan y gvtelo hi yn dda a phan aiff i ryfel, yn rhydd i dorri pob cyfraith o eiddo dynol- iaeth a gwareiddiad ar dir a mor. A thra y rhaid iddi hi gael gwneud fel y mynno ei hun ar dir a mor, rhaid i'w llongau hi gael rhyddid i hwylio bryd y mynnont a ble y mynnont ar foroedd y byd. Na, nis gellir heddwch felly, neu bydd pawb yn gaeth ond Germani, a bydd bywyd cenhedl- oedd craill y byd yn annioddefol. Myn Germani i ni a'n Cynghreirwyr dalu costau Germani am y rhyfel a wthiwyd ar y byd gan Germani. Na, rhaid i Brydain a'i Chynghreirwyr yniladd eto ymhellach am yr hawl i fyw. nid o dan draed Germani, ond mewn gwir ryddid a diogelwch ychwanega eu hanfanteision fwv-fwy o hyd. Ac ychwanegu a wna eu hanfanteision o hyd, hyd nes y gallant ddal byddin Rwsia mewn congl, ei gorfodi i ymladd brwydr derfynol, a'i chwalu a'i gwnend yn ddiymadferth. Dyna amcan Germani. Amcan yr Archdduc Nicholas ydyw osgoi hyn, gan gadw ei fyddin ei huti mewn cyflwr y geill ymladd bryd y mynno. Felly, encilia o ddydd i ddydd ac o fan i fan pan wel na eill efe ddal ei dir yn y fan honno yn hwy. Dewisa efe ei le a'i amser ei hun i ymladd. Yr amser fydd pan fyddo ganddo ddigon o gyf- legrau mawr a digon o gyfarpar iddynt. Y lie a fydd rhywfan lie na fedr y Germaniaid yn rhwydd ddod a'u gynnau mawr yno yn ddigon lliosog i falu Lyddiu Rwsia fel y malwyd mur- iau'r trefi a'r amddiffynfeydd ganddynt. Ac heb reilffyrdd, neu ffyrdd eraill cyfaddas, araf iawn y geill byddin Germani symud ymlaeu. A gwaethygu o ddydd i ddydd y mae y ffyrdd ar hyd y rliai y teithia byddinoedd Germani yn Rwsia, canys wrth fod cannoedd o filoedd o wyr traed a miloedd o gerbydau yn teithio trostynt, malurir y ffyrdd yn llwch; a phan ddaw gwlaw, try'r llwch yn llaid, a pliau fo blaeu-fyddiu Germani wedi teithio'r ffordd honno, bydd y llaid yn gors a'r fforcld yn myned fel nas gellir ei thramwy. Gwelir felly mai nid fel yr ymleddid yn y wlad hon yr ymleddir yn Rwsia, ac nad yw'r hyn a gyfrilid gennym ni yn golled fawr yn cyfrif ond megis bychan yn llygad Rwsia. Ymdrech fawr Hindenburg o'r cychwyn cyntaf yw dal byddin Rwsia mewn congl lie y bydd rhaid iddi ymladd hyd farw, neu rhoi ei hun i fyny yn garcliarorion. Dyna geisiai wneud yn Przemysl, yn Lemberg, yn Warsaw—ond o'r naill ar ol y llall yr oedd yr Archdduc Nicholas wedi encilio a'i holl gyfarpar a phob dim gwerth ei gario ymaith gydag ef. Ymdrech fawr Hin- denburg yn awr yw gwueud yn Brest Litovsk yr hyn y metliodd. wiieud yn Przemysl, Lem- berg na Warsaw, sef dal byddin Rwsia mewn trap. Bob tro y caua'r trap, bydd byddin Rwsia wedi dianc allan cyn i'r trap gau. Os gwna hyn eto yn Brest Litovsk, cneuen goeg heb ddim cnewyllyn ynddi a fydd y ddinas i'r German- iaid--er mai colled fawr i Rwsia fydd ei cholli. Gwahaniaethed y darllenydd hefyd rhwng byddin yn encilio a byddin yn ffoi am ei hcin- ioes--canys mawr, yn wir, yw y gwahaniaeth. Peryglus iawn yn ami i'w gelyn yw byddin yn ciicilio, ac yn gallu troi a bratllU bryd y iiiyiilio. Byddin yn cael ei difetha gan y gelyn yw byddin sy'n ffoi am ei lieinioes. Ac encilio, ac nid ffoi, a wnaeth byddin Rwsia hvd yn hyn. Colled fwyaf Rwsia wrth golli'r trefi a gymer- wyd gaii Germani oedd colli'r eiddo a ddifeth- wyd gan y Rwsiaid eu hunain, a cholli cyfleus- terau y rheilffyrdd i syrnud ei byddin ei hiuiau pan ddaw'r adeg i fyddin Rwsia droi ar fyddin Germani, ymosod arni, ei threchu. a'i lierlid yn ol tua'i gwlad ei hun. A daw yr adeg i wneud hynny yn y man. BRWYDR RIGA A'I HYSTYR. I droi eto o'r tir i'r mor, yu ddiameu y peth bwysicaf ar y mor er dechreu'r rhyfel yw brwydr Riga yr wythnos ddiweddaf. Porthladd pwysig ar For y Baltic yw Riga. Pe gallai Germani ei hennill, enillai ddau beth pwysig—agorai ffordd i fyddin Germanaidd fyned yn rhwydd o'r tu ol i fyddin Rwsia, i gau y trap cyn y medrai yr Archdduc Nicholas a'i wyr ddianc. Gyda hynny, agorai'r ffordd i symud ymlacn i vinosod ar Petrograd, prifddinas Rwsia. Yr oedd pob un o'r ddau beth hyn yn werth gwueud ymdrech fawr i'w sicrhau. Gwnaed yr ymdrech, costiodd yn ddrud—ond methodd yn druenus. Ceisio efelychu gwaith byddin Prydain yu y Dardanelles a wnaeth y Germaniaid. Danfou- asant lu o filwyr mewn cludlongau i lanio y tllhwnt i borthladd Riga. Danfonasant ljaiges gref i'w cynorthwyo a'ii hamddiffyn. Yn yr | jnndrecli collodd Germani yr oil o'r milwyr oedd yn ceisio glanio—lladdwyd llawer, a chymerwyd y gweddill oil yn garcliarorion. Collodd y Ger- maniaid hefyd un ar ddeg o longau rhyfel, bach a mawr. Ymhlith y llongau a gollodd Germani yr oedd y Dreadnought Moltkt-ul1 o'r llongau