Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Ymofyn am yr Hen Lwybrau.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ymofyn am yr Hen Lwybrau. I Nid oes dim yn y byd crefyddol yn yr Unol Daleithiau yn ystod y mis sydd wedi myned lieibio wedi achosi cymaint cynnwrf, nac wedi rhoddi mwy o fwynhad i'r rhai sydd yn glynu wrth }- ffydd a rodded unwaith i'r saint, na dychweliad y Parch B. Fay Mills, D.D., at y Presbyteriaid. Yr wyf yn bersonol wedi cael y fath fwynhad yn y ffaith fel ag i awyddu ei gwneud yn hysbys i'r cylchoedd ehangaf posibl. Gwneir llawer o swn gan ryw ddosbarth pan gilio rhywrai o enwogion y pulpud i dir a ystyrrir gennym yn gyfeiliornus. Curir tabyrddan a seinir utgyrn yn arvvydd o'r llawenydd a'r croesaw roddir iddynt pan yn cefnu ar y ffordd dda ac yn mabwysiadu syniadau dieithr yn ei le. Onid teg yw i ni sydd yn glynu wrth yr athrawiaethau sylfaenol fynegi ein llawenydd pan y mae y cyfryw yn dychwelyd i'r gorlan, ac yn cyfaddef yn onest en siomedigaeth yn y ffordd a'r syniadau newydd a ddewisasant ? Croniclir y ffaith yn gyntaf er gwneud mewn rhan yr hyn fwriada Dr Mills wneud o hyn i derfyn ei oes. Teimla ei fod wedi cael goleuni mor gy-flawn, eglur a phendaut, os nad mor sydyn, ag a gafodd Paul ar hanner y ffordd i Damascus. Y mae y datguddiad araf hwn roddwyd iddo wedi peri fod cen oedd dros ei lygaid wedi syrthio, ac y mae wedi ei arwain yn ol at AT Hwn a ddywedodd, Goleuni y byd ydwyf fi yr hwn a'm dilyno I, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni y bywyd.' Ei ddymuniad bellach ydyw dyfod i gysylltiad a ffynhonnell dylanwad sydd yn paratoi dynion ieuainc i'r weinidogaeth. Awydda ddyfod i gyff- yrddiad a myfyrwyr ein colegau diwinyddol, er ceisio eu rhwystro i grwydro fel efe i dir amheuaeth ac anialdir meddylfrydau. Cymer ormod o amser a llafur i bobun fyned trwy y peiriau y bu efe trwyddynt. Dywed yn groyw fod y profiad, y mae wedi ei gael yn ystod y 15 mlynedd diweddaf wedi ei lwyr argyhoeddi o annigonolrwydd pob crefydd a dyfais a diw- ygiad i wella cymdeithas oddieithr yr hyn a gynygia Cristionogaeth i'r byd. Y mae yn awyddus i arbed pawb rhag y boen feddyliol yr aeth efe drwyddo yn ystod ei grwydriadau. }i neges at bawb yw lieges a rhybudd y proff- vvyd Jeremias (vi. 16). Byddai yn fc-iiclitli i bawb sydd yn cael eu blino gan amheuon i sefyll ac edrych, ac ymofyn am yr hen lwybrau, lie y mae ffordd dda a rhodiwcli ynddi, a cliwi a gewch orffwvstra i'eli eneidiau.' lifallai y bydd adrodd helvnt Dr Mills yn fwynhad i lawer, ac yn atalfa ar ffordd rhywrai sydd a thuedd yncidynt i wyro oddiwrth syml- rwydd yr Efengyl. I gychwyn, gweddus a theg yw mynegi fod y gwr yma wedi cael manteision eithriadol ar hyd ei oes. Magwyd ef mewn manse. Mab yw i weinidog enwog gyda'r Presbyteriaid. Dywed ei fod ef wedi yfed diwinyddiaeth pan yn sugno bronnau ei fam, yr hon oedd yn flaenorol i'w phriodas yn genhades yn India. Cafodd fan- teision addysg goraf yr ardal. Symia i fyny ei oes hyd yr adeg hon fel y canlyn :To mlynedd yn weinidog, 12 mlynedd yn efengylwr, 6 mlyn- edd yn astudio athroniaeth, eneideg, cymdeith- aseg a gwahanol grefyddau y byd. Gwelir ei fod felly yn pregethu ac yn dysgu er's 40 mlyn- edd. Cof gennyf am dano yn Scranton yn ein gwasanaethu fel efengylwr. Yr oedd yn llwydd- iannus yn ei holl gyflawniadau. Nid dyn siom- edig yw. Y mae yn siaradwr poblogaidd, ac yn cael cynulliadau mawrion i wraudaw arno pan yn areithio ar wahanol destynau, megis y bu am y 12 mlynedd diweddaf. Nid cilio o'r maes fel efengylwr a wnaeth am ei fod yn fethiant, ac nid dychwelyd y mae at yr eglwysi union- gred am ei fod yn amhoblogaidd yn ei ddar- lithiau a'i areithiau. L, i dystiolaeth ef ei hun yw ei fod wedi ym- noilltuo o'r maes fel efengylwr am ei fod wedi tnyned i wan obaith am ddeitroad eang ysbrydol o'r Eglwys. Teimlai yn siomedig fod y bobl a broffesent droedigaeth yn y cyfarfodydd a gyn- haliai, ac yn uno a'r Eglwys, yn syrthio yn fyr o fyw yn ol y syniadau a'r delfrydau oedd ganddo ef o fywyd dyn duwiol. Yr ail reswm 0 1 ymneilltuad oedd y syniadau a ddaeth iddo 111 a 1 Gwaredwr cymdeithas, ac nid Gwaredwr yr. unigol, oedd Crist. Edrychai arno fel diw- yguvr yn fwy 11a gwaredwr. Collodd olwg ar JJauwdod Crist, ac ar awdurdod ysbrydoledig yr Ysgry thy ran, ac ar yr Eglwys fel cymdeithas trwy ba un y mae y byd i gael ei achub. Wedi ymneilltuo fel efengylwr, cymerodd ofal eglwys Bresbyteraidd yn Albany, N.Y., i'r diben o gael manteision llyfrfa y Dalaith, yr hon sydd yn y ddinas ac aeth oddiyno i Cambridge a Boston, lie y mae y manteision goraf i fyfyriwr yn y wlad hon. Yma y mae Prifysgol Harvard a chanolfan Undodiaeth, He y mae degau o eglwysi a llawer o ysgolion oeddent yn wreiddiol yn perthyn i'r Cynulleidfaolwyr yn eiddo Undod- wyr, ac yn cael eu llywodraethn ganddynt. Pan yn y cyflwr meddwl hwn daeth i gysylltiad a'r Parch Edward Everett Hale, D.D., 1111 o arwein- wyr 111INTyaf parclitis yr Undodiaid ac yn fnan ceir ef yn siarad bob nos Sul ym mhrif adeilaclau cyhoeddus Boston o dan nawdd pwyllgor, llyw- ydd yr hwn oedd Dr Hale. Yn y cyfiiod hwn y torrodd efe ei gysylltiad a'r weinidogaeth uniongred. Bu am ddwy flynedd yn Boston. Casglodd o'i gwmpas gynulleidfa fawr, fel y tybiai fod yn rhaid iddo sefydlu math o gym- deithas ohonynt, neu ymneilltuo. Yr olaf a wnaeth. Aeth i Redmont Hills, Oakland, Cali- fornia, a bu yno am bedair blynedcl. yn gwas- anaethu yr eglwys Undodaidd yn Oakland ar fore Saboth, ac yn areithio yn yr hwyr yn un o neuaddau San Francisco ar gwestiynau pobl- ogaidd yr oes yng nghyfeiriad gwleidiadaetli, moeseg ac athroniaeth. Bu ei briod ac yntau yn ceisio ffurfio math o gredo neu arwyddeiriau i'w cenhadaeth. Seilient yr oil ar Bregeth y Mynydd a i Cor. xiii. Cymhellent y bobl i fyw yr egwyddorion hyn heb un math o gyffes i'w cynorthwyo. Casglodd o'i gwmpas filoedd o bobl oeddent yn lioffi y ddysgeidiaeth. Bu yn darlithio ac yn cymell yr egwyddorion hyn ar y bobl yn y rhan liosocaf o ddinasoedd mawr- ion yr Unol Daleithiau. Ond yn ddiweddar gwawriodd ar ei feddwl fod y genadwri a dradd- odai a'r gwirioneddau a ddysgai yn cael eu cynnwys yn nysgeidiaeth Crist a'i apostolion, ond nad oedd y naill na'r llall yn cynnwys yr Efengyl yn gyflawn, pur a dilwgr. Daeth i deimlo mai cenadwri i ddynion iach oedd ganddo, ac nad oedd ynddi ddiin i achub yr unigol ac i gynhyrchu cyfnod a dylanwad ysbrydol iachus. Nid oedd ei genadwri yn cymeryd i'r cyfrif lygredd a gwendid y natur ddynol, a phallai mewn creu ynni at gyfiawnder ac uniondeb, oddi- gerth yn y bobl hynny oedd a lleiaf o'i eisiau. Un o'r petliati mwyaf llwyddiannus i'w argy- hoeddi o wendid ei genhadaeth oedd toriad allan y rhyfel yn Hwrop. Dechreuodd y goleu dy- wynnu arno ym mis Awst, 1914. Dyma ei gyf- addefiad ef ei hiul Yr oeddwn yn llawn o oreuaeth (optimism), wedi bod yn edrych gyda boddhad ar gymdeithas, ac yn darlunio gyda geiriau teg amgylchiadau dynoliaeth, ac yn gwenu ar y dyfodol, ac yn ceisio perswadio fy nghynulleidfaoedd ein bod ar y llwybr i dded- wyd.dwch, a'n bod yn teithio yn gyflym tuag yno. Ond pan yn mwynhau y dychmygion hyn, y mae y waedd am ryfel yn myned fel taranfollt trwy yr awyr, ac yn chwilfriwio y pethau cadarnaf oedd gennyf, a breuddwydion fel yn myned fel mwg i'r gwynt. Argyhoeddwyd fi nad oeddwn wedi edrych yn ddigon dwfn i'r natur ddynol, nad oeddwn wedi plymio dyfn- deroedd y llygredd a berthyn iddi, ac nad oedd cynlluniau dynol i achub cymdeithas yn cyfateb i'r gwaith. Yn ychwanegol at y datguddiad sydyn hwn, daeth i'm rhan i weled llawer o'r hyn sydd yn cymeryd lie tu ol i'r llenni. Bum yn gwneud tipyn o waith ynglyn a gwlcidiad- aeth, a gwelais lawer o safonau bywyd ymhlith arweinwyr cymdeithas a barodd boen i mi. Gwelais mai nid peth bychan a distadl yw pechod y byd-yn hytraell, ei fod yn beth difrifol a phwysig. Daeth argyhoeddiad. imi fod pawb wedi pechu, ac wedi dyfod yn fyr o ogoniant Duw," ac fod dynoliaeth yn ddi- ymadferth a gwan ac yn ddiobaith, oddigerth cael iachawdwriaeth a gwaredigaeth nad yw ddynol/ Dyma ddyn wedi cael yr addysg a'r diwyll- iant mwyaf wedi ei argyhoeddi nad yw diw- ylliant, gwareiddiad ac addysg yn abl i achub y byd, eithr yn hytrach y mae addysg a gwar- eiddiad a dybir sydd uwchraddol wedi bod yn achos o'r alanas fwyaf yn hanes y byd. Rhaid cael rhywbeth heblaw colegau a phroffeswyr dysgedig, rhywbeth heblaw Kultur,' i achub y byd oddiwrth lygredd calon a balchter ysbryd. Gwellheir cymdeithas wrth wella yr unigol, tra na achubir ond ychydig o'r unigolion trwy ymgais at wella amgylchoedd dynion. Nid oes dim i wella nac achub dyn na chym- deithas ond Cristionogaeth. Dywed Mr Mills fod astudio gwahanol grefyddau y byd yma yn ystod y 15 mlynedd diweddaf wedi ei siomi yn fawr. Cafodd ymhob un ohonynt wirioneddau moesol mawrion yn sylfeini yr adeiladaeth, ond pob un ohonynt yu hollol annigonol i achub y byd. Cristionogaeth yn unig sydd ddigonol i'r gwaith. Danghosodd y diweddar enwog gen- hadwr, Dr Griffith John, i mi ddau rifyn o bapur clyddiol oedd newydd dderbyn o China yn mis Hydref, 1907, yn y rhai yr oedd y golygydd, er nad yn Gristion ei hun, yn dweyd mai unig obaeth ac iachawdwriaeth China oedd Cristion- ogaith. Prin y medrai yr hen wron gynnwys ei linn wrth fynegi a dangos y ffeithiau hyn i mi. Mae y byd yn araf gael ei argyhoedcli nad oes iachawdwriaeth yn neb arall, nac enw arall wedi ei roddi 3-mhiith dynion, heblaw Crist, trwy yr Hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gad- wedig. Bellacli, Crist fycld baich cenadwri Dr Mills. Nid oes ddatgnddiad cyflawn a hollol o Dduw wedi ei roddi i ni ond yng Nghrist. Ei argy- hoeddiad olaf yw fod Crist yn Fab Duw. Ei anerchiad cyntaf oedd ar Ddwyfoldeb Person Crist. Gwnaeth y mynegiad hyn yng ngwydd pedair mil o bobl yn ninas Efrog Newydd, pryd yr oedd yn bresennol Dr Wilbur Chapman, Dr Torrey, a llawer o efengylwyr a phregethwvr eraill. Cydnebydd o'r newydd ysbrydolrwydd ac awdurdod yr Ysgrythyrau Hebreig a Christion- ogol, a dywed mai yr Eglwys, er yr holl feio sydd ami, yw y gymdeithas, a'r unig un, sydd yn abl i wneud y gwaith moesol ac ysbrydol sydd angenrheidiol er achubiaeth y byd. Dywed ei fod ef wedi beio yr Eglwys ac wedi amlygu byrbwylldra wrth gyfeirio at ei diffygion, gan feddwl fod llwybr byrrach a gwell i gyrraedd yr amcanion bwriadedig. Ond yn awr, meddai, yr wyf am dreulio gweddill fy oes i wneud y daioni mwyaf posibl ac yr wyf yn llwyr gredu mai yr Eglwys yw y cyfrwng goreu i wneud hynny. Gall y bydd argyhoeddiad a phrofiad y gwr yma yn fantais i rywrai sydd yn ameu y ffeithiau hyn, ac yn gadarnhad pellach i'r rhai sydd yn aros yn ffyddlawn i'r gwirioneddau hyn. Dyma amcan cofnodiad y ffaith. 'A'r pethau hyn oil a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwv, ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd.' I Scranton, Pa., I Scranton, Pa., DAVID JONES. Gorffennaf 22ain, 1915.

I Ein Henwad -yn Llanelli.

I GALWADAU.