Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

1 CERDDORIAETH A CHERDD! ORION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

1 CERDDORIAETH A CHERDD- ORION. I GAN D. C. JONES. I III. Gwasanaeth mawr roddwyd i gerddor- iaeth Cymru gan y Millsiaid o Llanidloes- Richard Mills [1808-1844] a anwyd yn Tynewydd, Llanidloes, Mawrth, 1808. Henry Mills oedd enw ei dad, yr hwn oedd yn wr o gryn ddeall mewn barddon- iaeth, llenyddiaeth a cherddoriaeth. Am- lygodd Richard Mills dueddfryd a gallu cerddorol o'i fachgendod. Cyhoeddodd rai o'i gyfansoddiadau llenyddol yn 1838, pan nad oedd ond 30 oed. Yn 1840 cyhoeddodd gasgliad o donau cynulleidfaol dan y teitl Caniadau Seion.' 0 1840 hyd 1845 cy- hoeddodd Yr Arweinydd Cerddorol,' yn dair rhan. Llyfr oedd hwnnw i ddysgu'r genedl yn rheolau cerddoriaeth, cyfan- soddiant a chynghanedd. Ysgrifennodd hefyd nifer o anthemau poblogaidd a galluog. Rhoddodd Richard Mills a'i neiaint, John a Richard Mills, y rhai gar- iasant ymlaen ei waith cerddorol yng Nghymru, wasanaeth ardderchog i gan- iadaeth Gymraeg. Yr oedd Yr Arwein- ydd Cerddorol' yn syml, yn eglur a galluog. Cawsom 1 a w e r o gymorth drwyddo i ddeall rheolau cerddoriaeth. Bu farw Richard Mills Rhagfyr 24ain, 1844. Ei frawd, James Mills, oedd gerddor galluog a llenor gwych. Bu yntau farw yn 1844. John Mills oedd fab i Edward a Mari Mills, Llanidloes. Ganwyd ef Rhagfyr 1ge9, 1812. Ymgysegrodd ef ei hunan o'i ieuenctid i waith llenyddol a cherddorol. Teithiodd drwy Gymru i areithio ar gerddoriaeth, rhoi gwersi cerddorol i'r ieuenctyd, a ffurfio cymdeithasau cerdd- orol yma a thraw ar hyd y Dywysogaeth. Bu yn foddion i ddiwygio caniadaeth y genedl. Cyhoeddodd Ramadeg Cerddor- iaeth yn Llanidloes yn 1838. Gan ei fod wedi ei ysgrifennu mewn Cymraeg syml, 'bu o wasanaeth mawr i gynorthwyo yr ieuainc i ddeall rheolau cerddoriaeth. Yn 1846 aeth John Mills i Lundain i fod yn genhadwr i'r Iddewon ynglyn a Meth- odistiaid Calfinaidd Cymru. Bu yn teithio drwy Palestina, ac ysgrifennodd amryw lyfrynnau ar Wlad Canaan a hanes yr Iddewon. Efe yw'r unig Gymro y sylw- asom ar drafodaeth yn ei ysgrifeniadau ar y cwestiwn pa un ai swyddog gwladol ai swyddog eglwysig a chrefyddol oedd yr archoffeiriad Iddewig ? Nid cwestiwn hawdd i'w drafod yw, ac y mae mwy ynddo nag a ymddengys ar y wyneb. Yr oedd John Mills yn ddyn o ganfyddiad, gallu ac annibyniaeth. Bu wedi hynny yn weinidog i'r eglwys Fethodistaidd Gym- raeg yn Nassau-street, Llundain (capel Charing Cross Road yn awr). Bu farw yn' Llundain, Gorffennaf 28ain, 1873, a chladd- wyd ef yn Abney Park. Gresyn na ched- wid ei fedd ef, a bedd Eryron Gwyllt Walia, a beddau enwogion eraill y ffydd, yn fwy trwsiadus mewn trefn i ennyn edmygedd ac ymdrech yn ieuenctyd ein cenedl i ragori mewn gwybodaethau a gwasanaeth i ddynion a Duw. Ganwyd John Ambrose Lloyd Mehefin 14eg, 1815, yn y Wyddgrug, swydd Fflint. Cafodd y lie yr enw Y Wyddgrug oddi- wrth dwmpath amlwg yn y lie yn nyffryn vi afon Alun. Bryn Beili oedd enw hen y lie. Bu caerfa ar y crug yno elwid yn ballium, argaele y castell. Gwylfan oedd y twr hwnnw yn nyffryn Alun. Gelwid ef gan y Normaniaid a'r Sacsoniaid yn Alons All,its, Monthault a Monte Alto. Tyb Edward Llwyd oedd mai llygriad oedd Mold, enw Seisnig y lie, o Monthault. Ceisia eraill ddweyd mai llygriad yw Mold o moel-iad-pen moel. Tebyg y gweithid cloddfeydd mwnol yr ardal gan y Brythoniaid cyn dyfodiad y Rhufeiniaid i Brydain. Dichon mai caerfa godwyd gan yr hen Gymry i amddiffyn eu perchenogaeth o'r cloddfeydd mwnol oedd y twmpath elwid yn Wyddgrug yn y He. Meddiannodd y Rhufeiniaid, pan ddaethant i'r wlad, y gweithiau mwn, ac adeiladasant gaerfa gryfach ar ben y Wyddgrug. Perthynai y tir gynt i Ar- glwyddiaeth Powys Fadog, ac yr oedd ei sefyllfa ar gyffin terfynol Gogledd Cymru yn ei wneud yn faes bnvydrau gwastadol rhwng y Cymru a'r Rhufeiniaid, y Nor- maniaid, a'r Sacsoniaid, ac eraill, am berchenogaeth o'r lie. Pan geir tir sydd lawn o fwnoedd gwerthfawr, neu sydd fanteisiol i amcanion milwrol, bydd y cyfryw yn faes brwydro parhaus am fedd- iant ohono gan elynion goresgynnol. Pan gymerodd y Normaniaid ardal y Wydd- grug oddiar y Cymry, adeiladasant gastell cadarngryf ar y Wyddgrug mewn trefn i ddal meddiant o'r tiroedd yn erbyn y Cymry. Nid yw Maesgarmon ond ychydig o'r Wyddgrug. Yno y bu y Cristionogion Cymreig yn 420 A.D., dan arweiniad dau bregethwr o Armorica, sef Garmon a Bleithyn, yn cuddio eu hunain mewn glyn dwfn rhag y Sacsoniaid gelynol. Pan ddaeth y Sacsoniaid i'r lie, rhuthrodd y Cymry allan o'u cuddfeydd arnynt, gan floeddio, 'Alaluia,' nes oedd y mynydd- oedd cyfagos yn diaspedain. Yn clywed yr atsain, tybiodd y Sacsoniaid fod y wlad drosti yn llawn milwyr Cymreig, a ffoisant yn ddychrynedig rhagddynt. Lladdwyd llawer o'r Sacsoniaid gan gleddyfau y Cymry dewrion. Rhuthrodd y lleill drwy yr afon Alun, oedd y dyddiau hynny yn gorlifo ei glannau, a buont foddi yn y llifeiriaint. Rhoddodd Henri 1. y Wyddgrug i Robert o Gaer, Normaniad beiddgar. Daeth v Robert hwnnw i fyw i'r Wydd- grug. Adwaenid ef wedi hynny wrth yr enwau Robert de Mont-ault a Robert Mont Alto. Dichon i gaerfa y Wyddgrug gael ei hail-adeiladu a'i chryfhau yr adeg honno gan William Rufus. Al-un yw y brif un,' sef y brif afon yn yr ardal honno. Ceir yno amrai o neint ac afonydd eraill, eithr Al-un yw y brif ffrwd yn y rhanbarth. Rhoddodd ardal y Wyddgrug amryw bersonau galluog i'r byd yn yr oesau gyut. Merch Coedllai, ger y Wyddgrug, oedd Miss Wynn, mam Richard Wilson, y painter enwog. Treuliodd Richard Wilson flynyddoedd olaf ei oes yn y Colomendy, ym mhlwyf Llanferres, ger y Wyddgrug. Yno y bu farw, ac ym mynwent eglwysdy Mair Santes, y Wyddgrug, y cadd fedd, lie y saif maen hyd heddyw i nodi y fan. Ym mhentref Poutarwyl, ger y Wydd- grug, y ganwyd John Blackwell, B.A. Parhad ar tudal 12.

IHYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.