Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CASTELLNEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CASTELLNEDD. Marwolaeth. Mys, lvIary Hayry, Paycj,t,hos.- Am 3 o'r gloch fore Sadwrn, Hydref zit, 1915, cafodd y chwaer annwyl a rhinweddol uchod ollyngdod tawel a mynediad helaeth i mewn i lawenydd ei Harglwydd, yn 61 oed. Chwaer ydoedd i'r diweddar Barch. J. R. Williams, Hirwaun, a David Ebrill Williams, fu farw pan yn fyfyriwr yn Yale College, America. Bu yn cadw ty i'w brawd yn Hirwaun am rai blynydd- oedd, ac ar ei phriodas symudodd oddiyno i Gastellnedd tua 33 mlynedd yn ol. Ymaelod- odd ym Maesyrhaf, a bu'n ffyddlon a defnyddiol i holl waith y ty hyd y gallodd. Mae ei phriod, Mr. Tom Harry, yn ddiaeon a thrysorydd gyda'r Bedyddwyr, a buont yn lletya gweinidogion y ddau enwad yr un pryd am flvnyddoedd, nes i'w llesgedd niawr ei gorfodi i'w rhoddi i fyny, A gall llawer ohonynt dystio i'w charedigrwydd, ei chydymdeimlad, a'i chariad mawr at y wein- idogaeth. Ni chafodd gweinidog erioed well ffrind a elai i'w chyfrinach, ond ni ymwthiai ei hun ar neb. Yr oedd wedi cael profiad helaeth o'i ofidiau a'i anawsterau, ac wedi cael cym- hwyster arbennig i roi cyngor a batn ar unrhyw fater. Yr oedd mor bwyllog a doeth, wedi ei breintio a synnwyr cyffredin cryf iawn, ac anaml y byddai yn cyfeiliorni yn ei barn. Yr oecld, fel ei brawd, yn danllyd ei sel dros yr Ysgol Sul, a'i holl awyddfryd oedd gwneyd rhywbeth er hyrwyddo Teyrnas ei Gwaredwr yn y blaen ond oherwydd gwaeledd ei hiechyd, ni chafodd ei delfrydau oil eu sylweddoli. Lithr yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth.' Bu yn ddiodd- efydd mawr ar hyd ei hoes. Bu hefyd yn fawr ei hamynedd, ac yn fawr ei hymdrech a'i haberth. A dengys yr adnod oedd wedi ddewis yn destyn i'w hangladd fod ei ffydd yn fawr a diysgog yn ei Cheidwad, er cymaint ei dioddefiadau Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn ond nid oes arnaf gywilydd canys mi a wn i bwy y credais ac y mae yn ddiameu gennyf Ei fod Ef yn abl i gadw yr hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw.' A daeth yn nisgleir- deb Ei ogoniant i'w goleuo trwy'r glyn, a'i cliludo Ji. dragwyddol fwynhad a rhyddid, i'w wasanaethu Ef mwy ddydd a nos, ac i dderbyn anniflanedig goron y gogoniant. Ceisiwn fynegi ein teimladau yng ngeiriau tlysion Eifion Wyu Ni fynnai serch dy ollwng, Ac wylem bawb yn lli' Ond nid oedd deigr a'r wedd y dorf Oedd yn dy dderbyn di.' Cafodd angladd luosog. a pharchus y dydd Iau canlynol, pan yr hebryngwyd yr hyn oedd farwol ohoni i fynwent newydd Llanilltyd, Gwasan- aethwyd yn effeithiol yn y ty ac yn y fynwent gan ei chyn-weinidog, y Parch. T. George, Tre- degar (yn ol ei dewisiad), a'r Parch. D. W. Hopkins (B.), Bethaiiia. Yr oedd hefyd yn bresennol y Parchn. R. O. Evans, Siloh, a B. T. Jones (M.C.), Llywydd Cangen Undeb Efengyleiddio De America, o'r hon yr oedd hi yn un o'r îs-lywyddesau, Derbyniwyd llythyr tyner o gydymdeimlad oddiwrth Mrs. George Morgan, ysgrifenyddes y Gymdeithas, ac hefyd oddiwrth nifer fawr o weinidogion a gwyr lleyg, y rhai fuont o gysur a diddanwch nid bychan i'w phriod yn ei alar a'i golled mawr. Y prif alarwyr oeddent y priod a'i nith ieuanc, Miss Anita Rees ei dwy chwaer, Mrs. Pugh, Blaen- garw, a Mrs. James, Lougher, a'n gwyr ei chwaer-yng-nghyfraith, Mrs. Johns, Llanstephan, a'i dwy ferched a'u gwyr y Parch, a Mrs. E. J. Hughes, Ravenshill, a Mr. a Mrs. Awstin, Dun- vant ei nai, Mr. Ieuall. Williams, Kenffig nai eto, Parch. W. Evans, B.A., Penybont-ar-Ogwy Mr. a Mrs. Dan Harry, a llu eraill o bob ochr. Nodded y Net fyddo dros y priod yn ei hiraeth a'i unigrwydd ar ol arweinydd mor ddiogel, mor drefnus a darbodus. Dymuna ddiolch o galon i bawb anfonodd lythyrau a blodeudyrch, ac am bob danghoseg o barch iddo yn ei brofed- I igaeth chwerw. NEDDFERCH.

Advertising

CYFUNDEB DEHEUOL MORGANNWG.…

I CYFUNDEB ELEYN AC EIPIONYDD.I