Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

"JACOB O'R FOEL' I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"JACOB O'R FOEL' I GAN W. Gj^asnant JONES. Yn yr eighties yr oedd set fawr Bethel, Cwm- aman, sir Gaer, yn llawn iawn ymhob ystyr. Nid corachod oedd William, Bryncethin,' Jonah, Pistyll Ijvvyd,' Daniel o'r Twyn,' Tomos Walter,' Twmi'r Gof a job.' Yr oedd bron pob un o'r diaconiaid hynny daled a'r Welsh Guards. Yn wir i chwi, ni welwyd set fawr o ddynion tebycach i feibion Anac erioed. Clywais Mr. Eynon Davies (Babilon Fawr) a Mr. Towyn Jones, A.S., yn siarad am hynny fwy nag unwaith, a chofiaf yn dda i fwy nag un ymwelydd achlysurol wneud sylw i'r un cyfeiriad. Ni fynnwn daeru eu bod yn well dynion na'r rhai a eisteddant yn yr un set lieddyw ond am hyd a lied, cofier, yr ydym yn son yn awr. Caraswn hefyd roddi darluniad o'u teithi meddyliol. Yr oedd William Williams yn debyg i John Bright mewn amryw bethau, ond fod y Cymro o Gwm Aman yn cau ei ddau lygad pan yn siarad am ryddid. 'Roedd dawn gweddl Jonah Williams yn llifeiriol.. Bechgyn llethrau'r Amaw oeddynt bob un, a Chymraeg cryf yr hen fro yn unig a lifai dros eu gwefusau. Pan ddaeth Mr. Towyn Jones i Gwmaman gyntaf, sylwodd rhywun fod yr adnod honno, 'Ac efe a alwodd ato fechgannyn, ac a'i gosod- odd ef yn eu canol hwynt/ wedi dod yn eithaf eglur i ni. Dyddiau dedwydd oedd y rheiny. Ond am Jacob o'r Foel' y golygwn ysgrif- ennu heddyw. Eisteddai ef yn set fawr y cewri, ond am ei fod yn fychan o gorffolaeth, rhaid oedd edrych yn faliwl cyn ei weld. Cawsai Towyn bach help y pulpud i ddod yn amlwg, ond am Jacob, eisteddai dan y pulpud, a Thomas Walter yn fachgen chwech a dwy rhyngddo a'r dyrfa. Jaco b o'r Foel' oedd y lleiaf o'r diaconiaid, eithr a'i fesur o'i en i'w goryn nid oedd cymaint gwahaniaeth rhyngddo a'r lleill. Jacob Jones, Garnant, oedd ei enw i dclieithr- iaid ond i ni y brodorion, Jacob,' neu Jacob o'r Foel.' 'Dyn rhyfedd ydoedd ar lawer ystyr, ond yn ddiweddar efe a fu farw, ac a gladdwyd wedi cyrraedd yr oedran mawr o bedwar ugain a saith. Efe oedd y diweddaf o'r barwniaid.' Clywodd ef John Davies, Cwmaman,' a Pryse,'i Cwmllynfell,' ar eu liuchelfannau ond. dywed- odd wrthyf yn gymharol ddiweddar fod gwell pregethu heddyw nag a fu erioed. Cadwodd Jacob ei feddwl yh loyw ac agored hyd. y diwedd ac er na ddarllenodd ond ychydig o lyfrau Cymraeg, gwyddai'r diacon bach byw fwy na llawer am bwynt a gogwydd byd ac. eglwys. Ganwyd ef yn 1830 mewn ffermdy o'r enw Y Foel Uchaf.' Saif y tv hwnnw ar lethr Y Foel,' un o gernydd uchel y Mynydd Du. Hen deulu nodedig oedd teulu'r FocI! Mae'r disgynyddion ar hyd a lied y wlad, ac yn eu mysg y Parch. Tom Davies, Horeb a Bwlch- ygroes, yr hwh sydd yn cario gydag ef i bob man trade mark y teulu (' no offence i'm hen gyfaill, chwedl W.B.). Nai arall oedd y diw- eddar Barch. Joseph Jones, M.A., Sutton, Surrey. Maent oil yn artists o'r iawn ryw. Mae gerddi teulu'r Foel yn werth eu gweld. Dyna un ohonynt ym mlaen Cwmgrenig. Gwelais hi vr haf hwn—' blodeuyn y glaswelltyn ar y lawnt, y pren almon yng lighornel yr ardd, mistletoe yn tyfu ar ddrain gwynion a choed afalau, rhosynnau o bob math, ffrwythau o bob rllnlw, a dau o bloodhounds yn gofalu am y cwbl," ac nid oes Beware of the dogs yn anharddu'r pyrth. Cawsom y prynhawn hwnnw, wrth weld y bloodhound yn tracio hen gyfaill, esboniad da ar The Hound of Heaven,' gan Francis Thompson. Ond son yr oeddwn fod hen deulu'r Foel yn artists. Un felly oedd Jacob o'r Foel.' Clywais lawer amdano fel lladdwr gwair man ar waenydd r Ainanw. Dywedai'r hen bobl nas gellid gweld 61 ei bladur. Gresyn na fuasai wedi aros ar y tir ond i'r lofa yr aeth, a hynny yn rhy ddiweddar i ddysgu'r grefft o dorri glo. Dilynodd ei waith bron i'r diwedd, a chawd tipyn o drafferth i'w argyhoeddi fod amser i farw wedi dod. Ond ym Methel, Cwmaman, yr oedd ei galon ar hyd ei oes—yno y gwelwyd ef gyda'i grefft oreu. Dyma rai o'r medals a enillodd gyda chrefydd yr Arglwydd Iesu Grist. I. Dirwestwr a gwrthysmygwr arhyd ei oes. Cafodd y ddiod gadarn afael gref ar bobl Cwm- aman yn gynnar, a mawr yr alanas a wnaeth. Bu'r tafarndy bron a mynd yn drech na'r capel. Ond tua thrigain mlynedd yn ol dechreuodd Jacob o'r Foel,' William Isaac Morris, Pont- ypridd, a Job Phillips ac eraill ymosod ar y tafarndy. Pel pob symudiad yn erbyn vested interest, cafodd yr achos dirwestol ei gamliwio a i gamesbonio ond daliodd y bechgyn hynnv ati hyd y diwedd. Ni chaed yng Nghymru amgenach dirwestwr na'r diweddar Barch W. I. Morris, Pontypridd. Cafodd ef fwy nag un- waith ei erlid a'i gamddeall. Yr un peth a ddigwyddodd i Jacob Jones a Job Phillips. Taenid pob math ar gelwyddau' am danynt a chan fod gwyr talentog y fro yn cwrdd yn y tafarndy, saethent englyn pigog a chan frathus ar eu traws. Dyma gytgan un o'r caneuon :— 0 pwy sydd mor ffol, 0 pwy sydd mor ffol, Roi allwedd ei seler I Jacob o'r Fol." Ond gwelodd Jacob or Foel gladdu pob un o feirdd y dafarn, a da fuasai iddynt roi'r allwedd i'r dirwestwr. Erbyn hyn mai dir- west yng Nghwmaman yn flodeuog iawn. Cost- iodd yn ddrud i Jacob a Job.' Rhoddwyd eu henwau ar geffylau'r wagen a gariai'r cwrw, a llawer gwaith y clywsom ni pan yn blant enwau Jacob' a Job yn cael eu sarnu dan graciadau chwip y gyrwr diotgar. 2. Yn gyhoeddwr yn ei gapel, ac yn gofalu am gyhoeddiad.au yr enwad am hanner canrif. Cofia pawb fuont am dro ym Methel am y cyhoeddwr 1 hyglyw. Ar nos Sul codai'r cy- boeddwr bychan ar ei draed yn chwim, ac wedi codi ei law ddeheu heibio'i glust at ei ben, dechreuai ami. Bydd Lloyd George yma nos Iau nesaf. Dewch i Igyd; dewch yn gryno. Mae Mr. Towyn Jones yn dweyd wrtho i mai Lloyd George yw siaradwr goreu'r byd. Cwrddau gweddi ar y Mynydd Dii-N-iig Nghwmgrenig, &c., &c. Aiiglad.d, &c.Vi.()ead gyhoeddwr di-ail! Digwyddodd iddo umvaith gyhoeddi angladd dyn sydd eto'n fyw, ac yr oedd y dvn liwnnw yn angladd yr hen gyhoeddwr ffyddlon. 0 hynny allan gwrthodai'n bendaut gylioeddi angladd heb i'r cyhoeddiad ddod oddiwrth deulu yr ymadawedig. Pan ddaeth arweinwyr vr Enwad i dreulio Saboth ym Methel ynglyn i'r mater o gael gan Mr. lowyn Jones ymgymeryd a'r Gronfa, teimlodd Jacob o'r Foel fod yr arweinwyr wedi gwastraffu amser gwerthfawr. Wedi i ddoniau De a Gogledd siarad am y cais, rhoddwyd ef gerbron yr eglwys, a phasiwyd ef yn weddol unfrydol. Yna cododd y cyhoeddwr ar ei draed, a dywedodd 'Rwy'n falch i'cli gwled a'cl.i gwrando i' gyd, ond cofiwch hyn— fe nelsai post card, dime yr un gwaith yn union.' Dyna'r drop mwyaf gafodd y bechgyn rliagoio hynny erioed. Gwyddai Jacob o'r Foel' o'r goreu fod y Gronfa yn mynd i ddistrywio iechyd eu gweinidog—a dyna a wnaeth ond da yw deall erbyn hyn fod fy hen gyfaill wedi cael les newydd i yrnladd a'r Caiser. Gofalodd Taco b hefyd am y cyhoeddiadau llenyddol, a "gwyr pawb profiadol mai dyma'r gwaith anhawddaf ynglyn a phob eglwys. • 3. Arweinydd cwrdd. gweddi'r bobl ieuainc am lawer oes. Bu gwasanaeth Jacob o'r Foel i ddynion ieuainc yn fendigedig. Ar fore Sul cyn y bregeth, gelwid bechgyn yr eglwys at ei gilydd i'r festri i arfer eu dawn i siarad a gweddio. Am ugain mlynedd a nnvy gwelid pregethwr newydd yn niynd allan i'r wlad bob blwyddyn o gwrdd gweddi Jacob.' Cydrhwng gwefr Mr. Towyu Jones a brwdfrydedd a ffyddlondeb yr hen ddiacon bu dynion ieuainc Bethel, Cwm- aman, bron a mynd yn weinidogion i gyd. Pe ceid diacon cymwys 3-mhob eglwys i 3-nigy- meryd a chwrdd gweddi'r bobl ieuainc, nid wyf yn meddwl y gwelid prinder. doniau pulpudol yng Nghymru. Dyna'r allwedd yn sicr Am chwech o'r gloch bob bore Dydd Nadolig dros lawer blwyddyn cynhaliwyd cwrdd gweddi yn yr hen Fethel. Gelwid y cwrdd hwnnw Y Blygain.' Yno y gwelais i Jacob o'r Foel harddaf erioed. Efe oedd arclioffeiriad y JMynydd Du y bore hwnnw. Cysged Newyrth Jacob yn dawel. Gwnaeth ddiwrnocl da o waith yn ei tfordd wreiddiol ei hun.

Meddyliwch Ddwywaith.