Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

1,Cymdeithas Gynorthwyol Annibynwyr…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

1, Cymdeithas Gynorthwyol Anni- bynwyr Ceredigion. Diolchaf am gyfle arall drwy y TYST er galw lgylw eglwysi Annibynnol Ceredigion at y Gymdeithas deilwng hon. Penderfynodd y Pwyllgor yn y Cyfarfod Chwarterol yn Awst diweddaf fod y gyfran a estynnir i un o'r eglwysi ffyddlonaf a theilyngaf yn oael ei chodi i'r hyn ydoedd rai blynyddoedd yn ol, a'r teimlad ydoedd am roddi swm rhag- orach i'r holl eglwysi a gynorthwyir. Ond gan fod y Gymdeithas eisoes mewn dyled o tua;220, a rhai o'r eglwysi cryfaf mor ddifater gyda'u cyfraciadau i'r drysorfa, sylweddolwyd y ffaith fod yn rhaid cael rhyw- beth heblaw penderfyniadau er sicrhau bara i't newynnog. Llawenbawn am fod rhai o eglwysi cryfaf yr Enwad yn rhoddi war bonus i'w gweinidogion, yr hyn a wir deilyngaot; ond y mae ein hapel ni am gydymdeimlad gyda'r gwannaf a'r mwyaf anghennus o fewn Cyfundeb Ceredigion. A gawn ni yr anrhydedd a'r mwynhad o dderbyn casgliad o bob eglwys yng Ngheredigion, a hynny eyn diwedd 1917, os yn bosibl. Onid ttantais fyddai i bob eglwys gasglu yn y Cyfarfod Diolchgarweh, os nad oes casgliad arall ar y ffordd ? Os bydd rhai o blant Ceredigion sydd at wasgar dros yr holl wlad yn baiod i gynorth- wyo eglwysi gwannaf, ond gwir deilwng, eu sir tyiedigol, byddwn yn wir ddiolchgar am bob oyfran. Tra y mae ymborth, &c., wedi dyblu yn ei bris, gorfodir gweinidogion sanetaidd eu bywyd ac ymroddedig i wasanaeth yr Arglwydd i fyw ar yr ychydig a dderbynient eyn y l'hyfel, a chwynir nad yw y caredigrwydd yr hyn ydoedd mewn rhai ardaloedd, am fod pris Y farchnad mor uchel Cyfeirier pob casgliad a chyfran i Mr. Timothy Richards, Ardwyn, Lampeter, trysor- Ydd teilwng y Gymdeithas. Hyfryd fydd cymeradwyaeth yr Arglwydd lesu Grist i'r galon garedig Yn gymaint a'i Wnenthur ohonoch i un o'r rhai hyn, fy mrodyr 'leiaf, i Mi y gwnaethoch.' I' J. D. JONES, Ysg. Aneddfa, Cellan, Lampeter.

rPenywern, Dowlais. I

ISiloa, Aberdar. I

Advertising

I, JiWbili y Parch W. C. Jenkins,I…

Family Notices