Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

20 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLANGOLLEN,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLANGOLLEN, 1908. TESTYN Y GADAIR. BEIRNIADAETH DYFED. [Parhad o'r Rhifyn diweddaf.] Ap GWERIN.—Edrychir ar Ceiriog yn yr awdl hon fel Bardd Newydd, Bardd Natur, Bardd ci wlad a'i defion, Bardd Serch, Bardd dyn, Bardd Duw, Bardd i fyw byth. Diolch i'r awdwr am beidio gwastraffu prophwydoliaethau uwch ben y cryd Ond y mae yntau yn drysu gan draserch,' ac yn taraw ei droed wrth 'y creigiau rrug* fwy nag unwaith. Gocheled linellau pengoll fel- l' Hyawdl eneidiol rodau.' I Y mae rhai yn ymhyfrydu mewn llinellau o'r fath, ac yn eu cael yn gywir, yn ol rheolau penau bysedd ond y gwir yw, nid oes yn bon fymryn o gyngnanedd. Y mae yn rhy anghydbwys, a'i sain yn hollol aflafar. Nid yw llinellau cysswllt o fawr gwertb, os nad ydynt yn goniarua yn gystal ag yn gryfion. I gluet gerddorol y mae llinell fel hon vn ferwindod, ac mor ddi beroriaeth ag ysgrech paun. Nid yw yr awdwr yn ymhyfrydu mewn pethau fel hyn, a gwneir y aylw hwn ar yr unig linell o'r fath yn ei awdl, er mwyn i'r byddariaid glywed. Tafler llinellau cywir di-gynghanedd dros y bwrdd. Ar y cyfan, mae celfyddyd yr awdl yn iach, a'r syniadau yn hollol glir a di gwmwl. Yn wir, awdl ragorol ydyw. Ceiriog y bardd sydd yma, ac nid John Hughes yn ei gyssylltiadau eraill. Wele enghraifft o nodwedd y g&n — 0 ardducol fardd an'an, Holudog aer gwlad v gau; Wele'n d'od oleuni dydd O'r bryniau a'r wybrenydd; Yma'n pyngcio mae'n pencerdd, A'i enaid gwyn lon'd ei gerdd; Heb wael barabl, y Berwyn A thwf ei ael i'w waith fyn Rhy y lloer, a'r ser, a r Hi', A'r ddunos i farddoni.' Erys yn hir gydag Alun Mabon a Myfanwy, ac arall. eirir cryn lawer o'r olaf, yn enwedig helynt y 'beithyn. en.' Teimlir ei fod braidd yn rhy lythyrenol, fel y dengys diweddglo Myfanwy:— Ac eilwaith llun dy galon A fynai hi o fewn hon- Un i'w henw ei hunan Yn glir mewn llyth'renau gl&n; A'r llall i aros i'r Haw O'r anwel i'w cbywre;niaw.' Dicgelwyd dwy galon Yn y lwys Beithynen Ion- Myfanwy a'i threm fwynaf Leinw iiii fel beulwen haf. Ap Einion wiwlon, ddi-wall, Yn eres Lyw r un arall.' Cyfarfyddir yn yr awdl a Hawer o svniadau mwyaf dymunol Oeiriog; ond y mae ein cynnefindra a'r rhai hyny yn tori eu min i raddau pell mewn arall-eiriad Gwell fuasai cael profiad yr awdwr yn ei gymdeithas, wedi ei farddoni gan y.-brydoliaeth newydd wrth-ei ddilyn. TANKAU'R GALON.—Nid yw tant cyntaf yr awdi hon yn bollol mewn cywair: fI-- Fyw Geiriog! haf o gariad-a gaiff hwn I'w goff hau'n ei famwlad.' Gwelir fod cysgod proest yn y paladr hwn. Gair yr un peth yn amryw o'r goreuon. Myn rhai fod hyn yn oddefol, ond goreu po leiaf o oddefiadau fyddo mewn cystadleuaeth danllyd fel hon. Mae yr awdl, er hyny, yn eithriadol rydd o frycbau o'r fath. Cawn ambell flurf anffoduB ar air, megys I gwnawn ddewia yn He dewiswn,' gwnaeth eu difyru' yn lie difyrodd,' I gwnai bara,' I gwnaont heulo,' ynghyd & rhai geiriau cyfansawddanhapus, megys ■ Cwm hylon,' 'orgu syr- wyrgall,' a'u cyffelyb. Y mae y cynllun yn hen, A ehawn yma lawer o fanylion y cofiantydd cyffielin, Dyffryn Ceiriog, a chyssylltiadau'r aelwyd, a dylanwad y naill ar y Hal), ddaw i'r golwg gyntaf:— Cu oror Dyffryn Ceiriog-ga esgyn Yn ei gysgod enwog; Hudoled yw y dalog—hen aelwyd De anfarwolwyd gan ei fri heulog.' Y mae y geiriau I enwog' a 'dalog' yn yr englyn hwn yn geryg llanw hollol ddigaboliad, ac yn ddolur Hygaid i'r neb a'u gwel. Pan oedd HlIW Morus yn dyddori'r wlskd &'i delynegion- Pwy 'n ddiwall nodai allan Y magai 'r Cwm Geiriog cân ?' Y mae hwn yn darawiad digon hapus, ond ystryd- ebol, erbyn byn, yw yr awgrym na chanwyd clych, ac na chwyfiwyd benyr ar ei enedigaeth; a rhwysg, ac nid talent, sydd yn gymmhelIiad i rialtwch o'r fath. Cyff, red in yw llinellau fel hyn:— Mwyn galon mam yn goleg A ga'dd John yn dirion deg; Tu fewn i hon tyfu wnaeth-ei ddidwyll Doddedig naturiaetb.' 0 ddiffyg gofal, mae y syniad yma'n wrthun Ta fewn i hon tyfu wnaeth.' Addysg mam, yn ddiau, a feddylir; ond y mae y mynegiant yn anhapus iawn. Nid oes fawr o eneiniad ar banes yr Y sgol WladoI 'Yntau 'n deg ramadegydd Gai y blaen ar hogiau blydd.' Y mae dylanwad y Berwyn ar feddwl ac ar ddyfodol y llangc yn well:— Rhyw fore athraw fu a'i aruthredd I wiw farddoni ei fyw arddunedd, Ac yn aig ei unigedd—cai 'r llangc mwyn Y grug yn arswyn, a'r grtsig yn orsedd. Ceir yma ddarnau rhagorol wrth fyn'd yn y blaen, ond telmlir o hyd fod yr awdwr yn glynn yn rhy dvsn wrth fanylion hanes Dygir ilawer o brif weithiau Ceiriog i sylw, a dywedir yn soniams eu bod yn ar- dderchog. Ond dyna syniad gwlad am danynt. Da fuasai genym gael y peth byw sydd ynddynt yn fwy i'r golwg, a gadael i hwnw ganmawl ei hun. Cyfeirir hyd yn oed at ohebiaethau'r FANER a'r HERALD—peth- au hollol ddiangenrhaid mewn awdl fel hon. Y mae y gorfanylwcb hwn yn maglu'r bardd. ac yn llesghau'r darllenydd Wedi'r cwbl, heb wastraftu gofod nae amser gyda dyfyniadau, digon yw dyweyd fod ton yn awdl alluog, ac yn gynnyrch bardd or iawn ryw. HTWEL WTN.—Awdl o deilyngdod uchel, mewn arddull esmwyth a digynnhwrf. Y mae ei gwisg fel brethyn cartref, wedi ei wau yn fras, ond yn lan a di- rodres. Nid oes yma ddim cywreinrwydd, oddi eithr o ddamwain. Y mae y Gymraeg yn ymylu ar berffeith- rwydd, a cheir bids hen ar ambell air i rai sydd wedi byw ar gymmysgedd danteithion yr oesoedd diweddaf hyn. Y mae dychymyg y bardd yn hollol hamddenol, ac ni chaniata iddo fod yn mhell o olwg cartref. Oeidw ei hun felly rhag profedigaethau lawer. Agorir y gan yn syml, fel dyn yn canu i ddifym ei hun, heb gym- meryd arno fod neb yn ei glywed:— Cei heb ddim dftl fy nghalon, Roi dy lais yn yr awdl hon! Cei adrodd pob peth cydryw A dy fryd-a difyr yw Cael cvfwng i d'ollwng di Am unwaith fel y m^ni! Ti yw'm tyst am y testyn, Ei dd'od i mi 'n anwyl ddyn Ail i neb. Bardd fy mebycl Oedd hwn; a newydd o hyd Yw ei fore gyfaredd, A glan ei gyfoethog wledd.' Nid oes lawer o gamp yn y darn hwn, er ei fod yn glir a di-wastraflf. Profiad tanvel un sydd a lie cynnes yn ei galon i'w wrthddrych. Ond gallai holl edmygwyr Ceiriog ddyweyd yr un syniadau heb feddwl am fardd- oai. Er fod ysbrydiaeth fWYl yn rhedeg drwy y llin- ellau, odid na fydd y mwyafnf yn edrych arnynt fel rhyddiaeth. Y mae rbanau blaenaf yr awdl ar ddull ymddiddan rhwng Cymru a Eh'igluniacth. Y wlarl yn holi am fardd i ganu ei bywyd, a Rhagluniaeth yn ei chysuro mewn addewid:— Un a wnai ganeuon 0 liw a thardd haul a tbon, 0 le gwilr, a gar y fog- Ac iraidd Ddyffryn Ceiriog Y cyfyd, yn hyfryd hedd Hen gynnes wenog annedd. Gh olân wladgarlinacb, Ddiwyd a fydd o dwf iach. Yn Mleddyn ab Cynfyn caed Yn abem ei burwaed; Fe dyf wrth fywyd afon, A difyr hwyl coed y fron.' Ond, y mae y syniad iddo fyw allan o'r wlad yn peri i Gymru ammheu'r adde-v-id:- P'odd y gall teimlad alltnd Ganu dawn it gwen ei dud ?' Walia dirion, taw A'th gwyn'on, Daw y gwron i dy garn Yn angerddol ar estronol Dir, a gwenol dyr i ganu.' Cofia yno 'n ngwag ac effro A diflino dy fyw lenyrch, Gyr it' ddyddan gerddi mwynlan— Cyfoeth anian, ac fe 'th enyrch.' Gan fod angen 'h' yn y gair I cwsz' yn y pennill hwn. gellid ei chael o linell arall, lie nad oes ei heisieu Ac arwydd rhoddai mewn cerddi rhvddion.' Prin yr ystyriwn I ffres,' criw,' a ledio,' o waed Cymreig, er eu bod, bellach, yn broselytiaid hen. 0 ran hyny, fe alla i fod I prosel yt,' hefyd, yn perthyn i'r un criw.' Peiriannol iawn yw yr englyn hwn:— 0 gwsg i'r wledig ysgol-iii *n fore Annifyrwch hollol; Nid ai 'n brif 'fod cyfrifolyn y fan; Mwy diogan gwnai 'r gwaith gramadegol.' Y mae ei annogaeth i droi ei feddwl i ysgol natur yn well Rho i'th dad gymmhorth rhadol, A rho ddvsg i'r maes a'r ddol.' Fel rheol, y mae ffigyrau yr awdl yn hollol ddidram- gwydd; ond nid cystal yw gyra' diliau o'r dail yn y llinellau hyn:— Cerdd Jona, da o hyd wyd-a diliau Dy loewon eiriau o'r dail ni yrwyd-' Er fod celfyddyd yr awdl, fel ei hiaith, yn hollol lai. ceir tor-mesur ar ben tudalen 19eg, a mymryn o wall cynghanedd yn y llinellau hyn: 'I'w glust ef glysed oedd.' I droi 'n ol awch estron lid.' Tlws iawn yw y cyfeiriad at rai o ddarnau tyneraf Ceiriog, ond daw i'r golwg eilwaith lawer llinell gyff- redin a di-urddas, megys:— I Lle ar hynt gynt yr iii 'r gwr Yn getyn o bysgotwr.' Rhaid i mi adael yr awdl ar byn. Y mae ynddi lawer o bethau dymunol, heb ddim eithafion gwrth- wynebus. Er nad yw yn awenyddol ddisglaer, nac o'r gelfyddyd uchaf, mae ynddi iaith loyw, meddwl clir, a chryn lawer o galon. SISTAL GANU. Dyma awdl brydferth dros ben. Y dlysaf a'r fwyaf "cyfareddol yn y gytadleiiaeth. Teimlir fod ysbryd y peth byw yn anadlu drwyddi, ac y mae mor naturiol a nant y mynydd. Y mae yn gyf oethog o awen, ac yn greadigaeth newydd y gwir fardd. Awdl delynegol ydyw, fel y gweddai ar destyn fel hwn. Hanner y gamp yw tarilw ar gywa,:r sydd weddol a'r hyn y cenir arno. Bi yr awdwr hwn yn ffodus yn hyn, ac y mae ysbryd Ceiriog ar ei oreu yn rhedeg drwy y gan. Mae y cynllun yn hapus ac yn gryno1. Orsgod y Berwyn, yn gosod allan y cartref gwledig, rhyfeloedd y dyddian fu, ac ysbryd Huw Morus. 2. Tannau'r delyn-hiraeth, serch, gwladgar- wch, a natur. 3. Llawryf cenedl—bardd y deIyneg d'o\ bardd esyd ei ddelw ar gyfnod, a bardd i fyw byth. Llenwir y cynllun yn ddeheuig, heb orlwytho'r awdl Po manylion diangenrhaid. Cawn ymt ychydig fan frychau o ddiofalwch, megys Y llanw'n drvllio'i hunan,' yr hyn sydd yn fwy na hanner proest. Gwneir defnydd helaeth, hefyd, o aur ac arian fel ffigvrau. Ni ddylid gwastraffu sylweddau mor brin. Heb law hyny. y mae Ilif y gynghanedd, weithiau, yn gadael ambell dywodyn ar rai meddyliau; ond y mae rhagor- oldeb yr awdl yn peri i ni faddeu y man bechodau hyn dan ganu. Anhawdd gwybod He i ddechreu dyfynu, gan lawned o geinion yw y gerdd. Gwell dechreu yn yr hen gartref:— Awyr bur Ilethran *r Berwyn—roes y rhos I'w rudd welw 'n blentyn; Chwareuai 'ngbrych yr ewyn Yn ebyr iach Pen y bryn. I Ion wylio an wylvd-yr awen Caed rhiaint duwiolfryd; Ar ei ddwyfron 'r oedd hyfryd Rosynau gras yn ei gryd. Aelwyd gwlad a'i golndoedd—oddi fewn I gudifanau'r nefoedd; Ac ar anterth corwynteedd, Mfir Duw i gymmeriad oedd. Hwyrnosau difyr hanes eu defaid Ro'i nef i galon yr ben fageiliaid Attal galanas, a Huddias lleiddiaid 0 wawr hyd osber ar grwydr diysbaid Gywir unig wroniaid—mewn storm ddig I gwyn yr unig yn rhoi en henaid.' Yna daw at ryfeloedd y dyddiau gynt, y rhai y clyw- odd Ceiriog eu sn yn y mynyddoedd: 'Henfro gu, annifyr g^-yn—gly waist gynt, Gwelaist a chynllwyn; Ti wytia st dan y tewlwyn Burwaed dy feib er dy fwyn. Ganwyd is law'th glogwyni—arwriaeth Fedrai herio cenlli'; Ac yn gylch o d'a mgylch di, Oedai cariad y cewri. Dewrion gwlad ar waen a glyn-heriasant Rysedd balch y gelyn; Cadfloedd ddilesg fu 'n esgyn Heibio niwl y bannan hyn. Is y glyn, a'u gwancus gIedd-yn malltt Dan y meillion irwe ld. Mae dewrion yn mtid orwedd. A'r ych a bawr uwch eu bedd. O'r fro gain darfu 'r gynnen—hyd y llethr Cyfyd llais mwyalchen Heno'n wyllt o ddraenen wen Yn mysg creigiau Maes Crogen.' Mab y mynydd oedd Ceiriog. a thelynau'r mynydd a'i dysgodd i ganu. Yn nistawrwydd yr encilion clywai alawon o'i gylch yn mhobman, a'i fwynh-id penaf oedd en deongli — 0 ir-dannau rhedynen—d'riwai gwynt Denai 'r gan anorphen Cai ei heco o acen Twrf y nant ar feini hen. Lie troai mellt erwau mawr-y niwloedd Yn olosg goleuwawr, Yn nhwrf y ddrychin erfawr Y gan leddf ddisgynai i Iawr,' Pan oedd Ceiriog yn nghanol cynnhwrf y ddinaa ) fawr, y mae y disgrifiad o'i galon yn ehedeg yn ol i' w hen gynnefin yn dlws iawn:- Deuai heibio i'r dibyn—He mae 'r lli' Mawr a. Ham yn disgyn, I wylio 'r helyg melyn Yn friw a lleddf ar y llyn. Ac er ffoi dros gvvr y ffin-daw 'r enaid Er hyny 'n bererin Adref i'w hen gynnefin Ardal aur ei1 edau lin.' Y mae yr adgof am hen glychau. Llanarmon yn fel us odiaeth:— „ Clybu 'n fachgen acenion-alaw iach; Hen glychau blanarmon; Eilwaith bu'n torri 'i galon Is eu dwys gwynfanus d6n. Galarnadol gUr nodyn—oer y gloer Dreiglai wae drwy 'r dyffryn A ch^n y gloch yn y glyn Lidaliodd drwy'i oes i'w ddilyn.' Ond rhaid rhoi pen ar ddyfynu, er fod genym dor- acth wrth law. Awdl ragorol yw hon, yn llawn o natur. Ceidw'r bardd ni ar lechweddau'r mynyddoedd, yn arogl y grug a'r eithin o'r decbreu i'r diwead. Y mae awen fyw yn mhob pennill, a pheroriaeth feills yn mhob llinell. Yn ddibetrus, hon yw yr awdl oreu, ac yn unfryd un^rn,' i'w hawdwr y dyfernir y Gadair a'i hanrhydedd. DYFED. I

Advertising

[No title]

LLIN Y MYNYDD ;

YR HEN FERCH.

Y WIWER.

Y CYBYDD.

ER COF AM JOHN MORRIS, TANYWAEN,…

. FY MEBYD.

HEN DDYDDIAU.

AR DDIWEDD.

CAN I FERCH FECHAN.

. LLINELLAU

CASGLIADAU MAWR.

BLWYDD DAL.

PREGETIIIV, It, CURAD, A GWEINID3G.

Advertising

LLYS YNADON RHIWABON.

BlwyM-daliadan i hen bobl.

PREGETIIIV, It, CURAD, A GWEINID3G.