Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
YS1AFELL Y BEIRDDI
YS1AFELL Y BEIRDD I Y eynhyrohion gogyfer a'r golofn hon i'w oyf eirio:-PEDROG, 217 Prescot Road, Liverpool Ll. G.-Englyn yn ymyl bod yn dda ond mae y llinell olaf— Aur delyn i ardaloedd— yn hen iawn erbyn hyij. Er Cof am R.J.-Yr un syniadau ystrydebol wedi eu hodli lawer gwaith o'r blaen, ac yn llawer mwy celfydd na'r tro hwn. Rhaid i thwi astudio rheolau mydryddiaeth, onite ni ellir cyhoeddi'ch gwaith. Priodas M.J., etc.-Ac mae'r syniadau hyn hefyd wedi eu mydryddu lawer gwaith o'r blaen. Cyffredin iawn yw'r gerdd, ac yn iaith heblaw hynny. CYMBRADWY. Pen Blwydd, etc., Fy Chwaer, Am J. P., Drych y Galon Drom, YiDydd Hwyaf. YN Y FFAIR. I Y DYN call nid yw'n cellwair—a pherygl Ffeiriau'r byd anniwair; Damnio'i enaid mewn anair Yw hanes ffl nos y ffair.-PEDROG. PEN BLWYDD Miss Myfanwy Gwenfron, merch Mr. a. Mrs. Alaw Madog, Bryn Cerdd, Lerpwl. MYFANWY GWENFRON Daioni-yw gwan Ei gwyneb diwyrni; A gwynwawr ddydd ei geni Wreiddia yn ei gruddiau hi. Bryn y Gerdd yw ei bron i gyd,—a llama Yw ei llais o wynfyd Ferch hael, mae'n ddifrycheulyd,—- Hawlia barch heuliau y byd. Llanstephan. T. GWERNOGLE EVANS. PEN BLWYDD" Miss Dilys May, merch Mr. a Mrs. Alaw Madog, Bryn Cerdd, Lerpwl. DILYS MAY hardd hudolus im' yw—ar Ddydd ei phen blwydd heddyw Ir ddeilen o Eden ydyw, Llonni y beirdd wna'i llun byw DILYS fad! merch Alaw Madog—ydyw, Y ddedwydd fun, serchog Heddyw Alaw'r gangen ddeiliog Ar Fryn y Gerdd yw'r firain gog I Llanstephan. T. GWERNOGLE EVANS. LLINELLAU CYFARCHIADOL I I Mr. Ifor Thomas, Pentraeth, Mon, ar ei lwyddiant yn ennill ysgoloriaeth am dair blynedd yn y Royal Academy, Llundain. HAWDDAMOR gyfaill tirion, „ Wrth esgyn ar dy rawd, Mor felys i'r Monwyson Yw clywed am dy ffawd Dy beraidd lais sy'n codi Dy glodydd hyd y nen Mae'th Iwyddiant yn sirioli, A hyfryd ysbrydoli Ein hannwyl Walia wen. Mae Gwalia gu yn disgwyl, Yn disgwyl am dy fri, A chanddi, mwyach, annwyl A fydd dy enw di; W,31, dal o hyd i ganu, Mae su awelon ha' Yn llenwi dy acenion, A thoddant rew y galon Fel todda haul yr ia. Pwy'th glywodd di yn canu Heb deimlo gwres y tan ? Tydi yw Eos Cymru, Mae pawb yn hoffi'th ga* Nid rhyfedd iti, gyfaill, Fu swyno calon myrdd Wel, dal o hyd i ganu, Ac esgyn eto i fyny Hyd at y Llawryf Gwyrdd. Llansadwm. GWILYK OWJIN. AFON GWILT. I RHODIAIS lannau Gwili loew, B6r ei chan ar raean ro, Cofio am awenydd hoew Gynt fu'n chwarae yn y fro. Tyf y blodau ar y glennydd, Can yr adar yn y coed, Gwena'r lleuad wen ysblennydd Pan ddel mab a bun i oed. Dyma'r man y bu'r awenydd Wrthi'n gwau ei bryddest we. Am y goleu a'r llawenydd Sy'n y byd tuhwnt i'r Hen. Dyma'r man y bu yn syllu Droion ar yr wybren dlos A'r mynyddoedd yn tywyllu 0 dan niwlog lenni'r nos. Dyma'r nant y bu'n ymdrochi Ynddi pan yn fachgen bach Bu ei ddeurudd yma'n cochi Ganwaith yn yr awel iach. Mae y nant o hyd yu rhedeg I gymdeithas tonnau'r m6r Ac mae'r bardd o hyd yn hedeg I gymdeithas meddwl lor. Aberporth. G. H. HUMPHREYS. ER COF. I NAWNDDYDD a'r dolydd oil yn llawn diliau, Yr haf ar dwyn a rhwyfo ar donnau, Galar bro annwyl a glywai'r bryniau, Iris wen addwyn roed dan rosynnau. Ieuanc iawn ydoedd yn cau-ei gwefus Enethig ael-lus a nith y goleu. G. H. HUMPHREYS. Y GENHINEN. I GAIN hynod las Genhinen "—lysieuyn A swyn cerdd Ceridwen [oawl Ddalen hoff, arwyddlun hen "Ddygwyl Ddewi gwlad awen. Caerfili. CELYN. Beddargraff fy Rhieni ar garreg las ar lethr yr Eifl, sef Rt. a Mary Jone-8, Bryn Celyn, Llithfaen. DAU diargyhoedd oeduy»\t,-mwyna' o bawb, Mae'n byd ni'n wag heLJdynt I Yn y llwch heddwch iddynt,—anwyliaid, Cyfamod enaid yn cofio'm danynt. CELYN (eu mab). t Y GLOWR (Cydr-fuddugol). I FFRI wr a, i goffrau'r I6n,—c61 dywyll Ciliau daear ddufron A'i ebill try'n gyrbibion Wregyaau a haenau hon. Herria'i fael-i lawr a fo,—'n iach a hyf, Chwardd ar berygl effro Wrth ddor barn mae eirf darnio Hen was gwlad ar ystlys glo. Y glew un ym mhulpud gloau-a wel Alwad lor drwy'i rasau Ond mawr stwr wna'r gweithiwr gau- heb wir drud, Na siar o olud yr is orielau. TREBOR MON. ANEURIN." I ANEURIN ni ddaethom i drofa, Ac ar fy anrhydedd fel merch Ni fynnaf dy gwmni, f'anwylyd, Os oeri mae angerdd dy serch. Pa werth yw dy anwes, Aneurin ?— Anrhydedd, a llafur, a phoen, A marwor dy allor yn oeri, Lie gynt y bu asbri a hoen. Mae rhosyn fy ngrudd yn diflanna, Gwn hynny o'r goreu fy hun Gan mai yn fy wyneb y gweli Adlewyrch dy gariad-dy lun. Gollyngaf di at dy anwylyd, Bu agos im' ddywedyd-yn lion, Ond beunydd fy enaid a lefain Gwyn fyd na tuaswn i hon." Mae eto yn Sodom afalau, Bydd eto unigrwydd i mi Nid teirblwydd o nef a oreurai Rhyw oes o gadwynau i ti. 0 serthed, lithriced y dringo, At gamp hunan-aberth, pob gris A hawdded fai peidio mynd rhagddo Pe na byddai raid mynd yn is. Ac er fod ei phen yn y nefoedd, Ac engyl yn dweyd wrthyf Dring Mor chwerw yw 'mhrofiad, Aneurin. Fod gwaelod yr ysgol mewn ing. Booth. -D- n- ELIZ. BALLTOL. I
Gorsedd Tir lorll. I -I
Gorsedd Tir lorll. I I Llwyni. I CYNHAI.IWYD yr Orsedd eleni eto. Fel y mae yn wybyddus i lawer, gosodwyd yr Orsedd i lawr rhyw bedair blynedd yn ol, gan y Parch. J. Griffith, Llangynwyd, yr hwn sydd yn awdurdod ar hanes a thraddodiadau'r Orsedd. Yr oedd y diwrnod yn ddymunol dros ben gellid dweyd, mewn gwirionedd, "yn wyneb haul a llygad goleuni," er nad oedd yn ei anterth oherwydd yr awr o'r dydd; Yr oedd Brynfab wedi dod, ac ar ei uchel- fannau. Cychwynwyd o'r Neuadd Northo ychydig cyn 5 ar gloch, ac aed yr orymdaith tua'r cylch yn cael eu blaenori gan Seindorf I Byddin yr lechydwriaeth. Yr oedd yn yr orymdaith ryw 16 o ferched Ysgol Plas Newydd yn yr hen wisg Gymreig,ac yn cael oymeradwyaeth uchel y dorf. Ar el i Frynfab agor yr Orsedd gyda rhwysg llawer mwy nag I a geir yn yr Orsedd Genedlaethol, offrymwyd y weddi gan y Parch. J. T. Parry ac yna derbyniwyd Brynfab,Will Ivan Pen y bont, yr Arolygydd Rees (Ysgolion Eilradd) yn aelodau o Gymdeithas Gwyddoniaeth Tir I Iarll. Yna cyflwynodd y llawforynion yr Orsedd, sef Miss Ray Gibbon a Miss Olwen Evans (merch Cadrawd) Flodeuglwm, a chyf- Iwynwyd y "Plagawd gan y cofrestrydd. Dylesid dweyd inni lwyddo i gael telynor a datganwyr eleni yn Mr. D. Thomas, Aber- gwynfi-telynor o fri, a Mr. J. Rhys Jones a Miss Olwen Evans, a Gwladys Thomas, o'r I Cymer. Yr oedd y dyrfa fawr oedd wedi dod o amgylch yr Orsedd,mae'n amlwg, yn disgwyl am y delyn a'r canu penhillion a phan esgyn- nodd Gwladys y maen cafodd dderbyniad brwdfrydig. Canodd benhillion ar Llwyn Onn, er boddlonrwydd pawb. Cafwyd anerchiadau gan y beirdd Jeremiah, S. Bowen, Ap Nathan, Llwch Arian, Iorwerth Ddu, Brynfab, a Gwilym Gadfa yn esgyn y Maen ac yn gwefreiddio'r cynhulliad. Cawsom Pen Rhaw gan Olwen a Nos Calan gan y cyfaill J. Rhys Jones a phan ddaeth y tri i ganu Tribannau Morgannwg yr oedd yn hawdd gweld fod y gynulleidfa wedi ei llyncu i fyny gan y delyn a'r datganwyr. Cafwyd adrodd- iad ardderchog gan Eiddwen Roderick, un o ferched Ysgol y Plas Newydd. Yr oedd Cad- rawd yn ei elfen ac yn proffwydo y byddai'r hen iaith mewn bri hyd ddiwedd amser, a Gwilym Gadfa yn dweyd "Amen." Pwys- leisiodd Mr. Lewis Davies, Cymer, ar i rieni'r plant wneud eu rhan hwy trwy ei siarad a'i gilydd ar yr aelwyd. Y mae deffroad wedi digwydd, ac y mae yr hen iaith yn mynd i gael lie pwysig yn hanes addysg ein gwlad. Cynhygiwyd gan y cofrestrydd(GwilymGadfa) Ein bod fel Cymdeithas Gwyddoniaid Tir larll yn ymuno ag Undeb y Cymdeithasau Cymreig." Cefnogwyd gan Iorwerthu Ddu, a phasiwyd yn unfryd. Terfynwyd trwy i Mrs. M. C. Lewis ganu Hen Wlad fy Nhadau," a'r dorf yn ymuno yn y cydgan. Yna ffurfiwyd yn orymdaith am y Dorothy, Ile'r eisteddodd yr aelodau i fwynhau Hufen dai] yr India." Ar ol, cafwyd rhydd-ymddiddan, ac awgrym- iadau ar y ffordd oreu i ddod a'r iaith yn fwy ymarferol ymhlith ein pobl ieuainc siarad- wyd gan Lwcharian, Cadrawd, Lewis Davies, Iorwerth Ddu, Brynfab, Gwilym Gadfa, ac ereill, a chafwyd amryw geinciau ar y delyn gan Gwladyp. Olwen a J. Rhys Jones. Ym- wasgarwyd ychydig cyn 8 ar gloch, a phawb yn teimlo eu bod wedi cael gwledd ac os yw'r Orsedd yn rhagredegydd i'r Eisteddfod, mae, pob arwyddion y bydd yn llewyrchus ymhob rhan ohoni. Y mae'r pwyllgor i'w canmol, ac yn enwedig y cadeirydd a'r cofrestrydd, lorwerth Ddu a Gwilym Gadfa—dau Gymro hyd y earn, ac yn cael pob cefnogaeth a chynhorthwy gan fechgyn fel Tom Richards, B.A., a D. J. Davies, B.A. Da iawn, rhagor o'r un ysbryd Cymreig sydd eisieu yn ein meibion a'n merched ieuainc.—Gwyddon. Tir larl], y mae dy feibion Ar Alban hirddydd haf, Yn rhoddi parch i ddefion Gostegion beirddion Naf Cyhoeddwn ddeugain diwrnod I symud pob rhyw drawst Cyuhelir yr Eisteddfod Y trvdydd dydd o Awst.— Ll wcharian. Darllenodd W. G. Roberts, y cofnodydd,y rhai canlynol oddiwrth Dyfed a Bethel Llawn o gan yw Llangynwyd,—ac hiraeth Ei Gorsedd ni chollwyd Hwylio'n ol i'w hen aelwyd Wna beirdd lion heb ruddiau llwyd. Awenyddion yn oddaith-yma gawn Yn ymgynnull eilwaith Blodeu'r oes o blaid yr iaith, Yn dal awdwyr dilediaith. Ein Gorsedd aiirhydeddwn-a'li clefion Dihafal glodforwn A dyhirod a heriwn I ddamnio hedd y Maen hwn.—DYFED. Unfrydol yw'r hen frodir,—ei nwydus Raniadau anghofir "Calon wrth galon yw'r gwir. Mewn heddwch yma noddir.-Bethel. o
Y BEIRNIAD_I
Y BEIRNIAD I Dan olygiaeth yr Athro J Morris Jones, Lerpwl: Hugh Evans a'i FeibioD, Pris Swllt. YMDDENGYS fod Y BEIRNIAD yn benderfynol o gadw gwell amser nag a wnaeth dro'n ol. Darllenasom y rhifyn hwn a, llawer iawn o fwynhad ac adeiladaeth. Ysgrifenwr toreithiog iawn yw'r Athro Miall Edwards, a Pherthynas Athroniaeth a Chrefydd yw ei destyn y tro hwn. Y mae'n un, o'r ysgrifenwyr nad yw yn ein blino, pa mor fynych bynnag y darllenwn ei waith. Bu'n werth i Mr. 0. W. Griffith geisio Cywiro Camsyniadau yn y rhifyn o'r blaen, i ddim ond achlysuro'r ateb hwn iddo gan Mr. Edwards. Llawer o eiriau a fathwyd am environment, y gwnaed cymaint ohono gan y Proff. Drum- mond gynt a chlywid fel cyfieithiad ohono amgylchoedd," amgylchfyd," cylch- yniadau," etc. Ymddengys yr ä pragmatism William James trwy gyfielyb yrfa. Gwelsom ei alw'n pragmatiaeth gan amryw. Ond enw Mr. Edwards arno yw "pragmadegiaeth." Gall ei fod yn burion Cymreigiad o'r gair, ac nad oes ond eisieu arfer ag ef i'w hofii. Ond os cewch Gymro syml allo ddweyd prag- madegiaeth yn groew, ar y cynnyg cyntaf, gellwch fod yn sicr am sobrwydd y dyn hwnnw ar y pryd. Ni wyddom pa reswm all fod dros yr arferiad o olygu arddull yn fenywaidd-" arddull fwy poblogaidd geir yma. Onid gormes style y Sais yw'r achos ? Braidd na theimlem fod ymadrcdd fel hwn braidd yn rhy "ymffiamychol i ysgrif athronyddol,—" Efallai fod angen damcan- iaeth o'r fath i'n galluogi ni i amgyffred pa fodd y gallai y Duw Anfeidrol ddisgyn o lwyfan Tragwyddoldeb i lwyfan amser a hanes." A gwell o fynd i'r Saesneg o gwbl, fuasai Ond y very point," na'r very pwynt" sydd yma. Ond dyma ni'n gwybeta manion, o ysgrif ragorol, ar destyn pwysig ac amserol iawn. Bydd ysgrif y Parch. Tecwyn Evans ar Ein Llyfrau Emynau yn sicr o dynnu sylw, ac efallai wahaniaeth mewn barn. Yn wir, dyma'r Patriarch Job allan yn barod, ac yn cadw chwarae teg i un emyn a gondemnid gan Tecwyn. Byddai raid wrth olygwyr calon- galed iawn i wrthod eiriolaeth Job dros ei hoff emyn. Ac mae'n bur debyg y ceir amryw ereill yn dadlu'n gyffelyb dros emynau a fercir i'w troi allan. Gwae di, Decwyn, am feiddio gosod cyllell beirniadaeth ar beth mor gysegr- edig ag emyn Waeth yn y byd, mae Tecwyn yn gwneud gwaith yr oedd ei fawr eisieu, ac erbyn ei ddilyn yn y dyfyniadau a wna o lyfrau emynau'r gwahanol enwadau, Eglwys Loegr yn eu plith, fe synnir dyn ddarfod i'r fath bethau gael eu cyfansoddi, ac yn enwedig eu dethol i'w cyhoeddi. Clywsom yr ymgais canlynol i wneud pennill allan o adnod, ond ni feddyliasom erioed fod y fath beth mewn llyfr emynau, nes darllen ysgrif Tecwyn,— Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Mae'r awr yn dod—yn awr mae hi- Pan glywo'r meirw lef Mab Duw, A'r rhai a glywant fyddant byw. Anodd iawn yw diddyfnu'r teimlad oddiwrth hen emynau, pa mor wael bynnag fyddont, os wedi eu canu'n hir. Cant eu cysegru yn y galon addolgar, er gwaethaf eu gwallau. Ond dylai hynny fod yn rheswm dros ofalu mwy, ac nid llai, am deilyngdod yr hyn a gyhoeddir fel emynau. Mae gennym lawer o emynau'n fyw am eu bod yn cael eu canu, ac nid yn cael eu canu am eu bod yn fyw. Da gennym fod Tecwyn yn mynd ymlaen a'r gwaith, ac yn ei ysgrif nesaf bwriada drafod "diwinyddiaeth" y llyfrau emynau. Ynys Hud yw testyn cerdd gyfriniol o waith W. J. Gruffydd. Seilir hi ar, o leiaf ffurfir hi wrth, ddarn o Fabinogi Branwen verch Lyr. Bydd i'r symudiadau cywrain yn y gerdd ddyrysu rhai darllenwyr, ond fe wel pawb fod yma waith bardd uchelryw. Gyda llaw, mae'r Athro J. Lloyd Jones, Dulyn, yn egluro Beth yw Mabinogi, ac mae'n ddiddorol iawn. Ysgrifenna David Samuel ar Hen Lyfrau Cymraeg ar Rifyddeg. Testyn sychlyd i lawer, ond gwledd i lawer hefyd, a ffrwyth ymchwil helaeth. Wil Jos o'i Go, gan Miss Mattie Roberts, sydd chwedl o deilyngdod uchel. Mae yma gymeriad arbennig, yn cael ei ddatblygu'n gelfydd a naturiol. Cedwir y meddwl yn effro a disgwylgar ar hyd y ffordd, a llwydda'1' awdures dalentog yn rhagorol i guddio'r gyfrinach y mae'r darllenydd yn ei hela ac yn hyn o beth y rhagora'n fawr ar Yr Unig Fab Drama mewn dwy Act, sy'n yr un rhifyn, gan H. 0. Hughes. Peth gwaelaf y gwaith olaf yw fod y darllenydd, oherwydd cynefin- dra a plots cyffelyb, yn canfod yn bur fuan yn y chwedl beth oedd y terfyn. Nid yw y Sarjant wedi ei weithio allan mor naturiol ag y buasai ddymunol er enghraifft, lie y ceir ef yn tostio bara, etc. Ond gyda'r eithriad o bethau fel hyn, mae'r Unig Fab yn wir dda. Mae yma lawer cyffyrddiad byw a'r galon, a theimla dyn y Iwmp hwnnw'n dod i'w wddf yn lied ami. Nid ellid adrodd darn fel hwn mewn cyfarfod cyhoeddusheb ddeffroi teimladau goreu calon dyn. Mae'r peth byw, hanfodol, ynddi. Diddorol iawn yw gweled y drafodaeth rhwng y Parchn. J. Williams, Brynsiencyn, Shankland, a'r Go]., ar bethau ynglyn a Goronwy Owen. Dyry'r Gol. ganmoliaeth uchel iawn i'r Spurrell's We?A-.E'?/KNA DM?OMsr?, wedi 'ei olygu gan Bodvan a dyma ddigon i ddangos ei farn am y gwaith Heb weniaith, y mae'r llyfr o deilyngdod anghyffredin, yn llawer iawn amgenach na dim o'r fath a gawsom o'i blaen a'm cred yw y bydd o wasanaeth jjirfawr i'r iaith a'i llenyddiaeth."
Advertising
I Telephone Royal 1157 Established 1864. ROBERT ROBERTS ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let In various parte of the own. Mortgagee arranged. Valustionsmade Established 1884 'Phones 205 Bootle —— 547 T. WOOSNAM ROBERTS, F.A.I., Estate Agent and Valuer, Bootle Estate Office, Practical, Prompt and Reliable Management of all Classes of Real Estate. 52 STANLEY ROAD, BOOTLE, (I doort from Bedford Road). Telegrams: "WOOSNAM, BoorLs Telephone No. 7909. Telephone No. 7909. J. LEWIS" JONES, ESTATl 4GENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents per- sonally collected. Purchases and Sales ne- gotiated. Mortgages arranged and Insurance, effected. THOMAS d JONES, ESTATE AGDNTB VALUERS. IUVRSTMANT 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No. —3868^Bank. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged. Valuations made. Rents collected. TEL. Sf 7 Aurma. ESTABLISHES 1871. Stephen Roberts & SOl, BSTATR AGENTS A VALUERS. 137 Everton Road, Liverpool. Properties carefully managed. Rents per. sonally Collected. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and In- surances affected. Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER &f.PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool TXLO BAlfE 4084. Excellent Building Land for Sale In the Vale of Clwyd. Lewis & Bromley Edwards, ESTATE AGENTS. j 102 Kirhdale Rd. Liverpool Tel. 1840 Royal 0. JONES WILLIAMS, F.A.I., ESTATE AGENT & VALUER, 17 Boundary Place, Moss St. Liverpool. Est. 1885. Telephone 567 Royal. Telephone 8586 Ba nk JONES HUGHES. ESTATE AGENTS, 13 Whitechapel, Liverpool PROPERTIES CAREFULLY MANAGED Rents Collected. R. E. HUGHEb, Estate Agent.IISurveyor & Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.-56 B'head. Has Houses to Let and for Sale in various parts of the Town and out districts Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Sold for BuFilsdMintg es ILig out. Rents Collected, and Property carefully managed. D. GRIFFITHS & SON, 221 Brech Road and 9 Moss St., Liverpool PIANOS AND- ORGAftS from Bf^allthe 8/ PERS leading MONTH makers. TELEPHONE—456 Anflaid LADIES BLANCHARD PILLS Are unrtTnlled foi all IrrognlarltlM, &a., they speedily afford relief and never fall to alleviate all lafterlnp They enpeKede Pbnnyroy&L PUOocbia, Bitter Apph. A* Sf?/VCM?C'S are the best of all Pill for Women." sold in boxes, I ll by BooM* Bnmohee, TATLOK'S Br#achm and aU OIíemiste. or poet frw, Mme pri., from LESLIE MARTYN. Lte? Cbemists.34 Dt'itoi LMt, Londe Mr. HARRY EVANS, Conductor, Adjudicator, Organist Teacher of Singing, 26 Princes Avenue, Liverpool (i, W. HLGHES,O & L.T.S.c (Anpgnydd p Cam yng Nghaptl M.O. Ninm R*A- Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, ac Arholwr. .Paro?cM* Ymgeiswyr at D?t/a?rt/'tm uwehat Co?ar y So?a. BeM ?Vb?MMt a SO?O. 70 KINGSLEY ROAD LERP W WILLIE REES. Tenor Vocalist 6 Choirmaster. Winner of Tenor Solo at New Brighton Tower Eisteddfod, 1913;, also winner of 38 champioa solos, and over 100 other prizes. Terms for Festivals, Concerts and Eisteddfodau. Apply at 44 ASH GROVE, SHOTTON, CHESTER Madame Gladys Williams PROFESSOR of ELOCUTION, Deportment, Gesture, Voice Culture, Defects of Speech, dec. ADJUDICATOR leading Eisteddfodau, including Royal National, Bangor, 1914. ENTERTAINER principal Welsh & English Concerts. 35 Hamilton Square. Birkenhead Madame Humphreys Lees (Soprano), Frank Nicholson (Baritone), Prize Duettiats at Corwen, Colwyn Bay, Liver- pool, Rhyl, Rhos, and other Eisteddfodau, are open for engagements. Terms, apply, Madam LBBS, 6 Mayfeld Terrace, Mountfields, Shrewsbuay,* FRANK NICHOLSON, Gwespyr, Mostyn, N. Wales -M P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'pool. TItLEPBONE-261 BOOTLE. TELEPHONE—575 Anfield. J. T. JONES, Funeral Undertaker, EVERTON, LIVERPOOL. Funerals personally arranged to all parts. Telephone-215 Old Swan." 16 Whitland Rd.. near Shell Rd.. Fairfield. R. W. EVANS Funeral and Wedding Director. (Agent for Thomas Porter A Sons, Ltd.). All orders personally attended to throughout at moderate charges. Highest testimonials cam be seen. DlM TALU YMLAEN LLAW. ARIAN YN FENTHYG (yn ddistaw bach), irewn symiau bach neu fawr (heb fod llai na £10) AR ADDAWEB Y BENTHYCIWR EI HUN. SEFYDLWYD ERS 41 MLYNEDD. fac yn awr yn rhoi £ 80,000 YN FENTHYG BOB BLWYDDYN Am daflen a thelerau ymofyner a GEORGE fAYNf A'i FEIB. 3 CRESCENT ROAD. RHYL, Á 16 SCHOOL LANE, LIVERPOOL Ar gael bob prydnawn dydd Iau ya 15 KING STREET, OAER. I.. saa—s> PALAIS DE LUXE, LIME ST. LIVERPOOL, LLUNIAU BYW SYMUDOL C-bwaethu*, dyddorol, so adeiladol ao YN BARHAOI. 0 2-0 hyd 10>30 bob diwrnod o'r wythnoe. Denwch pan y mynnoob, ao arboiwob oyhyd ag y drmunooh, Ta yn r had heb dal rhwng a 5 yn yr Orthttir StøUI, Pit StalU, a'r Dreu CircU. Mynediad. I J. a 6oh r- ??J????HEVANS?SONS.     3563563 ?YR-'aJ. ?)) LIVEPPOOL.