Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Reliable and Superior Wotches. Daily Wound. Tested, and Timed. WE ARE OFFERING HIGH-GRADE WATCHES WHICH TELL THE CORRECT TIME, DISPLAYING ON DIALS NAMES OF WORLD- WIDE REPUTE. At Less than Makers' Prices. PRICE LIST POST FREE. DaTies's, 30 Low lilt (Top of London Road and Prescot Street, and 2 minutes from Hippodrome). Closed at 1 on Wednesday's. Open all day Saturday. Davies's Price f 13/18/6. UsualfZS. Benson's 18ct. Gold Hunter. BY WORLD-FAMED MAKER, J. W. BENSON (Maker to his Majesty the King), Ludgate Hill, London. BEST LONDON- MADE VERY HEAVY SOLID 18-CARAT HALL-MARKED GOLD THROUGHOUT, f-PLATE ENGLISH KEYLESS LEVER HUNTER, quite new last year, warranted in PERFECT CONDITION, AS NEW. FITTED WITH BENSON'S highly-adjust- ed CHRONOMETER BALANCE, for all temperatures and positions MOST ACCU- RATE TIMEKEEPER, EXTRA JEWELLED, Patent Keyless, and all Benson's Improvements GUARAN- TEED 25 YEARS a chance to secure a £ 25 watch for £ 13/18/6; approval. Also 18-CT. KEW" HUNTING WATCH, WITH CLASS A KEW CERTIFICATE, by RUSSELL AND SON, Church-street, Liverpool. Our price, £ 13 /18 usual 130. MONTH'S TRIAL. Davies's Price £ 5/18/6. Usual £ 16. Reol Gold Russell Hunter. GENT'S GENUINE HIGH-GRADE, FULL JEWELLED, HEAVY SOLID GOLD, HALL-MARKED THROUGHOUT, ENG- LISH, I-plate, Patent KEYLESS CHRONO- METER LEVER HUNTER BY THOS. RUSSELL & SON, Church Street, Liverpool. GREENWICH TIMEKEEPER in all tem- peratures and positions, 16 RUBIES BREQUET Spiral Spring, NON-MAGNET- IC will withstand SHOCK, JAR, or ELECTRICITY medium size, strong plain polished damp and dust proof cases. NEW THIS YEAR (proof). MONTH'S TRIAL. Makers' and our warranty for 25 YEARS. Also Solid Gold full jewelled WALTHAM KEYLESS LEVER HUNTER our price £ 5/18/6, usual £ 16. Approval. Small de- posit secures. j Davies's Price £ 3/7/6. Usual £ 9, Russell's Gold Expending Bracelet Watch. HIGH-CLASS PERFECT LEVER LATEST SOLID GOLD WATCH BRACELET, Patent SELF-EXPANDING, Hall-marked throughout, by those famous makers, THOS. RUSSELL & SONS, Church Street, Liver- pool (Makers to Royalty). 15 RUBIES Chronometer Balance, Brequet Spring, Patent Keyless, and latest improvements. KEEPS PERFECT TIME. Warranted by makers and ourselves 25 years. New this year; proof. Approval. Others by noted makers at £ 2/7/6, £ 2/14/ 13/101- and £ 4/10/ All Bargains. 23/6, Usually L3131. Russell's Silver Keyless Lever GENT'S RELIABLE HIGH-GRADE STERLING SILVER LEVER, OPEN FACE, CRYSTAL GLASS, by RUSSELL & SON, Church Street, Liverpool, f-PLATE CHRONOMETER BALANCE, PATENT KEYLESS ACTION, Ruby Jewelled, Non- Magnetic Nickel Movements clear plain dial and gold hands plain damp and dust proof cases (NEW 1914); ACCURATE TIMEKEEPER our guarantee and makers' for 25 years; exceptional offer; carriage i paid. 14 Gent's Gold Double Curb. ARlm -STYLISH GOLD DOUBLE CURB, Stamped Every Link, 2 swivels and bar; reliable quality. Also others as follow Solid Gold Neat Curb, 25 Double Fetter, 32/ Double Curb, 36 Graduated Single Curb, 39 Double Curb, 45/ Also very heavy Single Solid Gold Curb, £ 3 /5 usually 7 Guineas. Also Solid Gold Double Curbs at £3 f16 f- and 14 /12 Also 12-Guinea very heavy Double Curb, now f,6 /18 an extraordinary bargain. EVERY CHAIN GUARANTEED. 23 Lady's Solid Gold Guard. £ 1 ■L//QCT//U fi —FASHIONABLE GENUINE SOLID GOLD. Stamped and Warranted Sparkling Long Guard, the favourite DIAMOND CUT, equal to new. Also another at 29/6. Also another, Plain Round, Square-edge Links, at 381-, usually £ 3/15/ and another Heavier Diamond Cut, 39/ usually JE4; SPECIALLY RE- DUCED. Also massive Round BELCHER GUARD, £ 2/5 usually £8. Also Beautiful SECRET LINK, £ 2 /19/ usually M; and large DIAMOND CUT BELCHER, GUARD £3/5 I, usually 97; and Very Heavy SECRET LINK, f.41151-, usually £9. LARGE SELECTION. Money returned if not as represented. Deposit reserves. Ex- changes. Payments.— DAVIESIS, LOW HILL
fO Big y i????.MSsg' ? Lieif?ad?.…
fO Big y i????.MSsg' ? Lieif?ad?.  *jf* MAOWYAID MR. HARRY EVANS-- Cynhaliodd meichiafon ac aelcdau anrhyd- eddus Undeb Corawl Cymreig Lerpwl eu deuddegfed cyfarfcd blynyddol nos Fercher ddiweddaf, y 24ain cyfisol, sef yn y Common Hall, Hackins Hey. Mr. Robt. Roberts, Y.H., llywydd y c6r, oedd yn y gadair, ac a sylwodd, wrth agor y cyfarfod, fed yn dda ganddo longyfarch swyddogion ac aelodau'r cor ar lwyddiant y tymor diweddaf—llwydd- i ant oedd yn galondid mawr iddynt, yn enwedig pan glywid cynifer o. gymdeithasau cerddorol ereill yn cwyno fed y draul yn drym- ach na'u derbyniadau oherwydd diffyg cefnog- aeth. Cyfeiriodd hefyd tan deimlad dwys at afiechyd difrifol eu harweinydd Mr. Harry Evans, ac a gynhygicdd bleidlais o gydym- deimlad ag ef, a chan obeithio yr adlorid ef ar fyrder i'w iechyd cynhefin hefyd, fod cyd- ymdeimlad y cor yn cael ei gynnyg i Mrs. Evans, ei briod, yn ei phryder mawr. Pas- i wyd y penderfyniad drwy i bawb godi ar ei draed mewn distawrwydd. Darllenodd Mr.- Llew Wynne, ysgrifennydd y Cor, ei adroddiad am dymor y llynedd, 1913-14. Cawsid pedwar cyngerdd, a chaed elw oddiwrth bob un fel hyn :—Hiawatha, £72/4 jl0; Messiah, £ 156/19/5; Vanity of Vanities, £ 70 /8 /2 Requiem Brahms, £ 10 /4 Cyrhaeddai cyfanswm derbyniadau'r tymor, gan gynnwys £ 72/16/3 oedd weddill o'r tymor cynt, £ 1,203/6/6, a chyfanswm y treuliau yn £ 1,029/4/11, gan ado £ 174/1/7 wrth gefn at y dyfcdol. Cyfrifid yr adroddiad yn un boddhaol a chalonnog iawn, ac a'i cymeradwywyd yn llawen, megis y cymeradwywyd adroddiad y trysorydd hefyd (Mr. J. D. Jones), ac ynddo holl fanylion y treuliau a'r derbyniadau. Wedi diolch i swyddogion ac aelodau'r cor am eu gwaith, eu haberth a'u hymroddiad, aed ati i ethol swyddogion y dyfodol. Ail- etholwyd Mr. Robert Roberts yn llywydd i s-lywyddion,Syr Edward Elgar, Syr Edward Russell, Syr Frederic Cowen, Granville Bail- tock, Yaw., Ed. German, Ysw., Dr. W. G. McNaught, Wm. Evans, YRw., Alexander Guthrie, Ysw., T. Rowland Hughes, Ysw., J. W. Hughes, Ysw., J. Harrison Jones, Ysw., J. Dudley Johnston, Ysw., John Morris, Ysw., Ed. Lloyd, Ysw., W. O. Roberts, Ysw., Jas. Venmore, Ysw., Thomas Williams, Ysw. cad- eirydd, Mr. Rd. J. Hughes is-gadeirydd, Mr. R. Vaughan Jones trysorydd, Mr. J. D. Jones sgrifennydd, Mr. Llew Wynne. Yr oedd eisieu pum aelod i wasanaethu ar y pwyllgor gweithiol am ddwy flynedd ail-, ^tholwyd Mri. E. H. Edwards, Wm. George, W. Cernyw Jones a dewiswyd M i. E. Lloyd Davies a James Nicholas am y waith gyntaf. Ail-ddewiswyd Mri. W. H. Parry ac Ewart Jones yn archwilwyr cyfrifon y Cor am y flwyddyn ddyfodol. Wedi diolch i Mr. Roberts am lywyddu, ymwasgarwyd yn y gobaith y ceid newydd da am iechyd eu harweinydd hyglod. Da clywed ei fod laddau'n well. ANRHYDEDD A HAEDDWYD Da odiaeth gan bawb o'i gydnabod glywed fod Mr. David Jones, Waterloo (ac un o benaethiaid y Mri. Elder, Dempster & Co.), wedi oael ei ddewis yn aelod pum mlynedd o Lys Llywodraethwyr Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth. Daeth llythyr yr wythnos hon oddiwrth Arglwydd Morley, o swyddfa'r Privy Council, yn dymuno arno dderbyn yr anrhydedd a diau fod y penodiad yn gydna- byddiaeth o'r sel a'r ymroddiad diball a amlygodd Mr. Jones gyda Chasgliad Lerpwl at y Llyfrgell. Arno of, fel cadeirydd y pwyllgor, y disgynnodd baich mwya'r ymdrech honno, ac ni phallcdd ei sel nes ei choroni a swm teilwng ao anrhydeddus. Fel cadeirydd y Gymdeithas Genedlaethol, fel un o benaethiaid masnaph forwrol y ddinas, fel Cymro gwladgar a hael ei roddion at bopeth manteisiol i ddyrchafiad ac adeiladaeth ei gydgenedl, ac fel boneddwr hawddgar a pharod ei gymwynas a'i garedigrwydd ar bob llaw, nid oes neb o Gymry'r Glannau a saif yn uwch na Mr. Jones yn serch ac edmygedd ei gydnabod i gyd. TYRFAOEDD LLANSANNAN- Y mae amryw byd o blant firiddoedd Hiraethog yn hel eu tamaid ar lannau'r Mersey yma wel, trowch i golofn arall, ar tudal. 5, a chwi welwch air am Harddwch Llansannan," sef am agor Capel Coffa'r Hybarch Henry Rees. Ar ol sgrifennu hwnnw, dyma fi'n clywed mai'r Parchn. O. Owens (Llanelwy), Thos. Charles Williams, M.A. (y Borth), a Robert Roberts (Colwyn Bay) oedd y cenhadon gwahoddedig i bre- gethu ar y ddau ddydd, sef dydd Iau a dydd Gwoner, ac na welodd Llansannan mo'r fath gynulleidfaoedd erioed o'r blaen. Bqaid cael benthyg capel coffa'i frawd-yr anfarwol Wm. Rees—i gael oedfaon i'r cpnnoedd fethai gael lie yn y llall, ac yr oedd y ddau addoldy hardd dan sang, er gwaetha'r gwres. Pensaer a chynllunydd y capel coffa oedd Mri. Rd. Owen a'i Fab (Mr. Hugh Owen, Rhianfa), Lerpwl ac y mae hi'n deml hardd a hwylus. Hir y dalio enw anwyliaid enwog Chwibren Isaf i berarogli bywyd pobl Llansannan. HYN AC ARALL—•—■ Enillodd Mr. Hugh Owen, Treffynr.on, radd M.A. ym Mhrifysgol Lerpwl y dydd o'r blaen mewn Hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol. Efe'n frodor o Niwbwrch, Mdn, ac a fyddai'n athro ysgol yn y ddinas hon. -0- Un arall o Gymry'r Glannau ddisgleiriodd yn arholiadau Prifysgol Lerpwl eleni oedd Miss Dora Jones, merch y diweddar Mr. John Jones, Eldon Road, Rook Ferry. Pasiodd arholiad terfynol y B.So. yn y dosbarth oyntaf ac y mae hyn yn glod dirfawr i eneth a weith- i odd mor ddygn tan lawer o anfanteision. Da iawn, Dora. Ein cymydog y Parch. D. Adams (Hawen) yw beirniad y traethawd ar "Ddylanwad Dr. T. Charles Edwards ar Addysg a Meddwl Cymru" ( £ 15/15/) yn Eisteddfod Genedl- aethol Aberystwyth y flwyddyn nesaf a'r Athro J. Glyn Davies, M.A., Prifysgol Lerpwl, sydd i feimiadu'r Tri Chywydd Byr--Cywydd Berch, Cywydd Gofyn, a Chywydd CoSa.
DAU THR -AfON. I
DAU THR AfON. I HANNER CAN MiL Y BKDYDDWYR.—Cyn- haliwyd cyfarfod neilltuol yng nghapel Everton Village nos Lun, Mehefin 29ain. Amcan y cyfarfod oedd galw sylw Eglwysi Bedyddwyr Lerpwl a'r cylch at yr ymdrech i godi trysorfa o f 50,000 i gynorthwyo eglwysi gweiniaid Bedyddwyr Cymru. Cadeirydd y cyfarfod oedd Owen Owens, Ysw., diacon parchus yn Everton Village. Ar ol canu mawl, gweddiwyd am fendith Duw ar y cy farfod ac ar y mudiad gan Pedr Hir. Yna cafwyd anerchiad gan y cadeirydd. Hawdd deall fod ein brawd mewn cydymdeimlad llwyr a'r ymdrech o blaid yr eglwysi gwan. Hyderwn, fel y dywedwyd gan y Parch. D. Powell yn y cyfarfod, y gwel ein brawd ei ffordd yn glir i fyned a'i genadwri at Eglwysi Lerpwl a'r cylch. Ar ol araith y cadeirydd, cafwyd anerchiad llawn brwdfrydedd gan y Parch. W. A. Williams, Pont v Pridd, ysgrifennydd y mudiad. Ar ol pwysleisio mai o raid ac nid o ddewis yr oedd y symudiad hwn, eglurcdd y cynllun, a phrofiad pawb oedd ein bod wedi cael eglurhad cyflawn ar amcan mawr y mudiad. Diolchwyd i'r cadeirydd a Mr. Williams gan y Parchn. D. Powell a Myles Griffiths, a therfynwyd trwy fawl a gweddi. Y mae pwyllgor wedi ei fiurfio, a chynrychiolwyr o'r gwahanol Eglwysi yn Lerpwl a'r cylch yn aelodau ohono. Bydded i frwdfrydedd y brawd o Bont y Pridd fedd- iannu pob aelod o'r pwyllgor, a phob aelod yn yr eglwysi, gan gofio fod CTefydd Iesu yn hawlio ein goreu. HYNT Y CHWIORYDD.—Cynhelir cyfarfod i'r chwiorydd yn ystafell genhadol Smith St. bob prynhawn dydd Mercher. Mae'n gyfar- fod pur boblogaidd, ac yn sicr gwneir gwaith da yno gan nifer o chwiorydd Eglwys Anfiel l Road. Prynhawn dydd Mercher diweddaf, cawsant eu gwib flynyddol. Daeth special car i'w hymofyn o'r ystafell, ac aeth a hwy i lawr i'r stage. Yna cymerwyd y cwch i Eastham. Yno aeth pawb i fwynhau ei hun yn ei ffordd ei hun, hyd oddeutu 4 ar gloch, pryd y cafwyd te. Yr oedd chwaer garedig o Anfield Road wedi rhoi cyflawnder o ddan- teithion, a chawsant sylw dyladwy gan y dyrfa 1 i gyd. Wedi hynny aed i'r grounds i weld yr anifeiliaid, etc. tra yn y grounds, gwelwyd brawd o Douglas Road a sach o oranges ar ei gefn. Cafodd y sylw i gyd, ar waethaf yr anifeiliaid a'r cyfan, hyd nes y gwelw-yd gwaelod y sach. Dychwelwyd adref oddeutu 8 ar gloch, a phawb wedi mwynhau ei hun yn ardderchog. Trefnwyd y cyfan gan y Parch. H. E. Williams, Anfield Road ac ni wnaed erioed drefniadau mwy perRaith teimln, pawb yn ddiolchgar iawn iddo am ei garedig- rwydd. Y DDIWBDDAR MRS. WLLLIAM EVANq, SILVERMERE.-Ddydd Mercher diweddaf, yrg nghanol arwyddion amlwg o barch cyffredinol, dodwyd yr hyn oedd farwol o'r chwaer annwyl uchod i orffwys ym mynwent Anfield. Yr oedd Mrs. Evans yn ddiameu yn haeddu gwneuthur coffad. Nid yn unig yr oedd yn briod i wr a wnaeth lawer o wasanaeth i grefydd ac addysg yn Liverpool, ond hefyd oherwydd yr hyn ydoedd ei hun. Ganwyd y chwaer ymadawedig yn Liverpool. Cafodd ei dwyn i fyny yn grefyddol o'i mebyd gan ei rhieni, Mr. a Mrs. John Jones, Great Homer Street. Pan ychydig dros ddeunaw oed, priododd a Mr. William Evans, yr hwn oedd wedi dechreu ei fasnach fel chemÙtea. druggi Rt yn yr un heol. Ni bu erioed uniad mwy dedwydd. Ganwyd iddynt ddeuddeg o blant, ac hyd o fewn dwy flynedd a hannef yn ol, pid oedd angau wedi gwneud bwlch yn y cylch teuluaidd. Ymroddodd ein chwaer ymadawedig i gyflawni ei dyledswydd tuag at ei theulu. Gellid dweyd fod calon ei g-m- yn ymddiried ynddi." Craffai ar flyrdd holl djylwyth ei Ohf ac er yn egniol gyda gofalon ei chartref a'r fasnach, eto rid esgeulusodd ei dyledswyddau crefyddol. Profcdd ei hun yn un o'r gwragedd mwyaf defxyddiol yn eglwys Anfield Road. Danghosodd ofal am y tlodion bob amser. Nid yn unig cyfranr ai yn haelionus, ond ymwelai'n bersonol a hwy, a hynny gyda chysondeb. Yr oedd yn amlwg fod aelodau tlodion yr Eglwys yn ei chalon, ao wedi iddi oherwydd gwendid fethu myned ei hunan i ymweled a, hwy, gofalai am anfon ei phlant i ymweled & hwy. Yr oedd yn wraig nodedig ar amryw gyfrifon. Nis gallasai ei phriod gyflawni y gwaith a wnaeth onibM am ei help a'i chefnogaeth gartref. Meddai natur hynod o swynol. Tynnai heulwen y ffordd y cerddai. Gellid dibynnu arni gyda phob gwaith yn yr Eglwys, a gallai gydwaithio ag ereill. Amheuwn a wnaeth elyn erioed yr oedd yn hoff gan bawb. Yr oedd wedi ei chynvsgaeddu yn ddiameu & natur dda, ao a chraffter a synnwyr cry f ac uwchlaw'r cwb], meddai dduwioldeb diambeuol. Ymhoffai'n fawrmewnemynau. Meddai reddf i adnabod emyn, a dysgodd a chanodd lawer arnynt. Ymhyfrydai hefyd yn y Salman. Dyma oedd testyn ei myfyrdod yn ystod ei chystudd diweddaf. Cyfarfu Ag afiechyd trwm saith mlynedd yn ol, yr hwn a adawodd ei 61 ami, a gwelodd gladdu ei mab a'i phriod rhyw ddwy flynedd a hanner yn ol, ond nid ymollyngodd yn ei hysbryd, oherwydd Yr Arglwydd oedd gynhaliad iddi." Teimlir hiraeth dwfn a chyffredinol ar ei h61, nid yn unig gan ei phlant ond hefyd gan lu o gyfeillion. Cydymdeimlir yn fawr Wr teulu sydd fel hyn wedi eu galw i alaru mor fynyoh. Nawdd y Nefoedd fyddo drostynt, a Duw eu tad a'u mam fyddo yn arweinydd iddynt. Trefniadau'r angladd yng ngofal Mr. P. Lloyd Jones, Stanley Road a chymerwyd rhan gan y Parotvdigion J. Owen, J. Hughes, M.A., ac R. Aethwy Jones, M.A. Ddydd Sadwrn diweddaf, ynglfn a Cholegy Tonic Solffa, Llundain, terfynwyd cyfres yr arholiadau chwarterol yn Lerpwl. Daeth ymgoiswyr o Gymru a Lloegr, gan fod y lie yn ganolfan mor gyfleus. Yr arholwyr (yn benodedig gan y Coleg) oedd y Mri. J. H Roberts, G. W. Hughes, ac A. Hardcastle. Ysgrifennydd medrus a llafurus y Pwyllgor Lleol yw Mr. J. W. Jones, 12 St. Michael's, Aigburth, gan yr hwn y ceir pob manylion. HYNT FITZCLARBNTCE A Piaiony.-Didd Sadwrn diweddaf, bu treat blynyddol yr ysgolion uchod. Cydgyfarfuwyd yn yr ysgoldy am 12.30: cludwyd ni gan electric cars i'r Landing Stage, oddiyno gyda'r cwoh i Seacombe, ao yna gyda'r tren i BarnBton. An odd fyddai cael man mwy dymunol i dreulio'r prynhawn. Yr oedd yno ddarpar. iaethau amryw er adloniant, ar gyfer yr hen a'r ieuanc, ond ar y glorian bwyso (weighing machine) yr oedd y mynd mwyaf a dyma enghraifft o bwysau dau, yn unig, o'r aelodau y naill wrth gwrs o Fori, a'r llall o Feirion, 18-stone, a 16-s<o«e-10, a'r ddau gyda'i gilydd yn troi'r glorian gyda 486 o bwysi. Tybed fod yn perthyn i unrhyw ysgol arall ddau all gystadlu a hwy. Golygfa ddieithr oedd cael edrych i grombil y reservoir a lenwir cyn hir a dwfr Hiraethog, i ddicdi trigolion Birkenhead. Mae ei hamgylchcdd yn illltir gron i'r fodfedd, a'i huchter yn ddeunaw troedfedd, a bwriedir tywallt o'i chrombil 7 miliwn.o alwyni bob dydd o'r flwyddyn. Cofied Cymry Birkenhead, tra yn yfed dwfr gwlad Henry Rees, am y dwfr bywiol a'i gwnaeth ef yn serafE i dorri syched ysbrydol ein cenedl. Darparwyd lluniaeth mewn ystafell eang a chyfleus eisteddodd 220 wrth y byrddau ac ni raid dweyd fod pob darpar- iaeth wrth fodd calon yr aelodau. Trefnodd y swyddogion gofalus gogyfer a'r plant mewn modd caredig iawn gyda nifer dda o wobrwyon a chwaraeon diniwed. Da fydd gan yr Undeb Ysgolion ddeall fod gwedd lewyrchus ar ein hysgol, yr hyn sydd i'w briodoli yn bennaf i swyddogion yr Ysgol. Mae yma gynnydd o 26, ac arwyddion cynnydd mwy eto ymlaen. --J. T. CYMANFA YSGOLION Y BEDYDDWYR.— Cynhaliwyd hon o dan nawdd Undeb Ysgolion Sul Bedyddwyr Lerpwl a'r cyffiniau yng nghapel Seion, Bousfield Street, nos Tau ddi- weddaf, pryd y daeth cynhulliad mawrynghyd ac y cafwyd cyfarfod rhagorol. Mr. E. O. Hughes, Edge Lane, yn y gadair. Dechreu- wyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Myles Griffiths, F.T.S. Cymerwyd rhan gan 9 o'r ysgolion. Canwyd amryw donau allan o Laiolyfr Moliant yr Ysgolion Sul yn bur effeithiol, o dan arweiniad Mr. Robert Roberts, Bousfield Street, yn cael ei gynorth- wyo wrth yr offeryn gan Miss M. E. Roberts, Balliol Road. Cafwyd cydradroddiadau hefyd gan blant y gwahanol ysgolion, ar "Hanes Iesu Grist," fel y canlyn plant Balliol Road a Rhyl Street ar Yr Enedig- aeth Windsor Street a Greenbank Road, Y Bedydd Everton Village, Edge Lane a Bousfield Street, Y Temtiad a Birken- head a Seacombe, "Y Croeshoeliad." Caf- wyd anerchiadau gan Mr. R. E. Humphreys, Prenton, i'r plant, a Mr. Wm. Evans, Waver- tree, i'r rhai mewn oed. Holwyd y plant yn ddeheig iawn aan Pedr Hir allan o Holwy- ddoreg newydd y Parcn. D. Powell. Addurn- wyd pob plentyn oedd yno a bathcdyn tlws gan Mr. John Hughes, Everton Village (trys- orydd). Trefnwyd y plant gan Mr. John Roberts (Alaw Lleifiad) a Mr. Robert Price, Greenbank Road. Darllenodd yr ysgrifen- nydd fynegiad o'r Arholiadau Ysgrythyrol, a chafwyd fod cynnydd o G yn nifer yr ymgeis- wyr eleni 11 yn llai yn yr Arholiad Llafar- edig, a 17 mwy yn yr Arholiad Ysgriferedig. Diolchwyd hefyd i Miss M. E. Roberts, Balliol Road, a Miss E. Evans, Edge Lane, am eu gwaith yn arholi'r plant dan 10 oed. Hysbyswyd fod David Lloyd Evans o Ysgol Greenbank Road, wedi ennill prif wobr Cymanfa Dinbych, Fflint a Meirion, yn Safon III. Cyflwynwyd bathodyn goreuon pob safon gan Mrs. Robert Roberts, York Villas. Diolchwyd i'r cadeirydd a phawb a gymerodd ran i wneud y cyfarfod yn llwyddiant gan Mr. J. T. Jones (arweinydd Cor y Cymric) a'r Parch. R. H. Roberts, Edge Lane. Dyma restr y goreuon, ynghyda nifer y maroiau a gawsant 0 dan 8 oed Janie Williams, Birkenhead, 97 John Hughes, Everton Village, 89; Harold Griffiths, Everton Village, 86 Ceridwen Jones, Birkenhead, 81 W. R. Owen, Birkenhead, 65. 0 8 i 10 oed Doris Williams, Balliol Road, 100; Gwennie Morris, Balliol Road, 99; Lizzie Evans, Bousfield Street, 95; Annie Hughes, Balliol Road, 92; Eva Jones, Everton Village, 90. Safon I, o 10 i 12 oed 1, Owen Owens a Thomas Parry, o Greenbank Road a Windsor Street, yn gyfartal, 86 2, Bronwen Morgan, Medlock Street, Manchester, 85 3, James A. Jones, Manchester, 72. Safon II, 12 i 15 oed 1, John W. Turton, Everton Village, 89; 2, Maggie Gruer, Bousfield Street, a Nellie Jones, Manchester, yn gyfartal, 86 3, Rosina Hughes, Edge Lane, 84 Safon III, 15 i 18 oed 1, Dilys Roberts, Woodlands, Birken- head, 72 2, T. C. Williams, Windsor Street, 68; 3, Winifred Jones, Everton Village, 65. Safon IV, 18 i 21 1, Jennie Lloyd Evans, Everton Village, 79; 2, Hugh Williams, Manchester, 74 3, Fred Jones, Manchester, 71. Safon V, dros 21 oed 1, Wm. Jones, Birkenhead, 74; 2, Wm. Harris Williams, Bousfield Street, 71 3, Gwilym H. Williams, Manchester, 68. Doris Williams, Balliol Road, a enillodd y wobr am ateb oreu yn yr iaith Gymraeg. Da gan lu cyfeillion Thomas Henry Williams, mab Mr. a Mrs. Williams, Glasnevin, Birkenhead, ddeall ei fod wedi pasio yn dra llwyddiannus yn gapten yr wythnos ddi- weddaf, ac yntau ond piin wedi troi ei ugain oed. Bwriada cyn hir ymgeisio am dystysgrif extra captain, a mawr hydera'i gydnabod y llwydda. Hyd yma, y mae wedi mynd drwy ei holl arholiadau ar y tro cyntaf. Llongyfarchwn Miss Katie Roberts, 8 Kirk- dale Vale, ar ei llwyddiant yn arholiad y Viotoria College of Musio. Pasiodd y Pianoforte Primary Grade gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf. Y hi'n ddisgybl Miss Gwladys Davies, A.V.C.M., 44 Dunluoe Street, a deallwn fod tair arall o'i disgyblion wedi llwyddo yn yr un arholiad. Clod i'r athrawes a'i disgyblion. HYN-R DEWI SANT.—Ddydd Sadwrn di- weddaf, aeth Cor ac aelodau Eglwys Dewi Sant am eu gwib a'u picnic i Hale. Cychwynn- wyd am 1.45 mewn wagonettes, aoymunodd llu a ni yn Sheil Road. Cyrhaeddwyd pen y daith tua 4 ar gloch. Awd i bare y Colonel Blackburn i chwarae difyrrion diniwed gyda'r plant; ac am 5, eisteddwyd i fwynhau pryd ysblenydd, am yr hwn y diolchodd y Vicar (y Parch. R. D. Hughes) a'r Warden (Mr. Chas. Williams) i Mr. Findlay, y gwestywr. Cymerwyd rhan yn y chwarae gan hen ac ieuanc, a phawb mewo hwyl dda, dan ofal Mr. W. C. Williams yr organydd, a Mr. O. R. Parry, yn cael eu cynorthwyo gan Mr. D. Williams. Yr oedd y picnic dan ofal y Ficer a Mr. Chas. Williams, ac yr oedd yn ddiguro. Drwg gennym weled priod y Ficer yr absennol oherwydd anhwyldeb. Cyrhaeddwyd yn ol tua'r deg, wedi mwynhau diwrnod diangof.— W.H.
RHYDDID.
RHYDDID. Ond Rhyddid i beth ? MEDD pob dyn ryddid i fwynhau ei hunan, ond iddo gadw rhag dedi ei droed ar ryddid neb arall. Amcan arbennig llywcdraeth wladol yw amddiffyn y deiliaid rhag camwri. Y modd y gwna hyn ydyw drwy eu cynys- gaeddu a hawliau ac iawnderau penodol. megis hawl i amddiffyniad person, cymeriad, ac eiddo. Ac hefyd i gynhorthwy mewn cyni adfyd ac angen. Ond pan y mae'r gyfraith yn creu hawliau, mae hefyd o angenrheidrwydd yn creu rhwymedigaethau, ac felly yn gwneud trosedd yn bosibl. Mae'n amlwg, gan hynny, fed dyn, er ennill amddiffyniad y gyfraith, yn gorfod aberthu rhyw gymaint o'i ryddid. Dyma ystyr y dywediad The liberty of the subject. Rhyddid y deiliad mae "rhyddid" a "deiliad" yn wrth- ddywediad mewn gwirionedd. Mae yn rhydd —ond rhyddid mewn rhwymau ydyw, rhag i'w ryddid ef beryglu arall. Pan arhosai Robinson Crusoe ar ei ynys gynt yr oedd yn "monarch of all he surveyed ond pan ddaeth Friday ato, caethiwyd ei ryddid, ac yn enwedig rhyddid Friday druan. Yn wyneb y golygiad digamsynol hwn am hawliau personol, mae Plaid Sobrwydd yn dal allan, a hynny gyda phob cysondeb, fed trwyddedu a dal y Fasnach Feddwol i fyny yn ymyryd a hawliau ereill. Mae rhyddid y lleiafrif yn mathru hawliau'r lluaws. Pan gludid Madam Ronald gynt yng nghert y dienyddwr drwy heolydd prifddinas Ffrainc, wrth fynd heibio cerflun Duwies Rhyddid, a saif yn fawreddog ar y square, cododd y gar- chares ei dwylo cadwynol i gyfeiriad y cerflun, a gwaeddai, 0 ryddid, ryddid, y fath dros- eddau a gyflawnir yn dy enw di Eithaf gwir, i'r dydd hwn. 0 Frythoniaid, gwran- dewch Mae ynadon yn honni rhyddid i sefydlu yr hyn brawf yn ffynonellau tem- tasiynau ar ffordd y bobl Mae'r publicanod a drwyddedir yn hawlio ac yn ymorfoleddu yn eu hawl i hyrwyddo a throi eu haneddau yn uffern ferwedig; ac fel y sugnir i fyny'r diodydd o'u seleri i'r cwsmeriaid, fe dyn y ddiod drwy'r cwsmeriaid ufel annwn i'w cyfeddach. Mae cynghorau trefol yn teimlo rhyddid, ac yn wir gorfodaeth, i lwytho'r trethdalwyr i ddwyn y beichiau a ganlyn yr ymyfed ac mae'r mil-filoedd meddwon fel yn hawlio niwedio eu hunain, andwyo'u plant, a dodi beichiau anodd eu dwyn ar y treth- dalwyr. 0 ryddid, ryddid, y fath droseddau anfad a gyflawnir yn dy enw di -0 ble y daw gwaredigaeth, tybed ? Ai o'r Senedd ? Na, rhaid ail-bobi honno, a hynny yn fuan. Ar ryw olwg, mae ynddi hufen hyawdledd, nerth meddyliol, ac athrylith gwladweiniaeth, na fedd unrhyw Senedd yn y byd ei ogyfuwch. Eto, i wynebu ar gwestiwn pwysicaf y genedl heddyw—ei SOBRI, y mae difrifoldeb, argyhoeddiad, a chydwybodol- rwydd yn gorffwys tuallan i'r Senedd, ac nid ynddi. Agor sanatoriums ie, da iawn. Ond faint gwell fuasai cau y tafarndai i bwrpas iechyd y genedl ? Codi aneddau i'r gweithwyr, ie, da iawn ond gadael aneddau ereill ar eu sylfeini a ddami ia dri-chwarter gogoniant yr aneddau newyddion cyn pen deng mlynedd ? Ai o Eglwys Iesu Grist fel y mae y daw gwaredigaeth ? Ofnwn mai nad e. Yr ydym yn crynnu bron wrth feddwl a dweyd hyn. Gwir fod gan yr enwadau cref- yddol, yn gaeth a rhydd, eu cymdeithasau dir- westol, a rhoddir lie lied arbennig i ddirwesfc yn eu gwyliau blynyddol. Carasem fedru dweyd am yr Eglwys Wladol fel y medrwn am yr Eglwysi Ymneilltuol, fod corft eu gweini- dogion yn llwyrymwrthodwyr. Gydag Ym- neilltuaeth yr eithriadau yw'r yfwyr gyda'r Eglwys Sefydledig yr eithriadau yw'r dir- westwyr. Eto, er da y naill, a rhagoriaeth y llall, mae heddyw rhyw falltod, rhyw ddi- frawder, rhyw argyhoeddiadau yn huno yn hanes Cymru grefyddol gyda Sobrwydd, a'i dinistria ryw ddiwrnod oni ddeffroir. Gwna tafarnwyr diegwyddor lai o ddrwg na ohref- yddwyr didaro, er eu gwaethed. Mae'r Eglwysi yn llymeitian, ac mae amgylohoedd gweinidogion, mewn cydymgais am gadw i fyny rif yr Eglwysi, mewn diogelu moddion oynhaliaeth, ac mewn cadw cymdogaeth dda, yn eu parlysu, nid i gadw disgyblaeth i fyny, mae honno wedi mynd, ond i athrawiaethu, dysgu, a rhybuddio yn ddirwestol. Faint o eglwysi ein cyfundebau sy heddyw heb feddwon cyhoeddus o'u mewn ? A faint yw rhif yr eglwysi y mae hanner eu dynion yn Ilwyrymwrthodwyr ? Carem wybod. Chwe blynedd yn ol, bu cyfle godidog i sobri Cymru: A wnaeth yr arweinwyr eu rhan y pryd hwnnw Clywsom yr annwyl a'r hynod Evan Roberts- yn taranu yn erbyn rhyw ddiafol dychmygol, ond ni ddeallasom arno fod tafarnau'r wlad yn peri fawr ddychryn iddo, er fod pangfeydd meddwon o dan argyhoeddiad yn rhwygo awyr a chalon Cymru. 0 ble y daw gwaredigaeth ? Nis gwyddom, os nad yw cyflafan Bethlehem yn rhyw arwyddlun Yno, o ddwylaw llofruddion babanod, diangodd "Mebyn" a droes yn Waredwr cyfanfyd. Tybed na chwyd yn y man ryw Fesia dirwestol o ddaear yn gwaedu, a dry'n Waredwr ei wlad ? PLENY
Advertising
WANTED MRS. WILLMER, 17 Alfred Road, Claughton, Birkenhead, requires good general Servant, family 2; commencing salary, L18. W. DAVIES, Conductor. Adiudicater, Accompanist. Tooebor *( Slmfltmn Vieltn. AN Pianoforte Terns for Festivals, Concerts, Bisteddfodaa. At HAFOD, DMANWY, N. Wales Liverpool Guardian Trade Protection Society '9.åQø 4866 Bank. Wires Preoaation" The OUMt Provincial TRADE PROTECTION SOCIETY A MUTUAL SOCIETY Governed by a Board of Honorary Directors. or tSBBS write-F. MBATHBE,Sj3fdiif7. MITCHELL BROS. Marsh Lane, Bootle. EngUgh Minoiactored FMAPLE- BLOCK PLOORINO. All Slses kept In Stock. Largest Stock in the Kingdom Phone 639 Bootle Tel. Ad. Peremptory" Llrerpoo