Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Trem 1- Y rhai sal arI hunan.
Trem 1- Y rhai sal ar I hunan. DYN sa.1 sal iawn yw'r un sy sal ar hunan: oldeb. Ceir llawer un felly. Credwn inni weld un o'r cyfryw mewn maelfa'r dydd o'r blaen. Trafaeliwr ydoedd; a phan welodd ddeuddyn yn darllen map o faes y rhyfel, ac yn son am ddynesiad y Germaniaid at Paris, ac iddo ddeall nad oedd archeb iddo, troes ar ei sawdl, gan ddywedyd yn bur chwyrn, 'Does dim i'w glywed yn unman ond sdn am y rhyfel 'rwyj yn sail ar y peth Wel, mae llawer iawn, fel y dywedasom eisoes, yn teimlo fod y trychineb mawr presennol yn eu clafeiddio. Da gennym oil petai fodd i'w yrru allan o'n nerfau ond anodd iawn hynny ac mae ei yrru allan o'r meddwl yn anos fyth. Ac, yn wir, ni fedrem synied yn uchel am ddynoliaeth y neb a lwyddai i wneuthur hynny. Ym- ddangosai i ni fod y d6n oedd yn Ilais y trafaeliwr, a'r agwedd oedd arno, yn brad- ychu dyn oedd yn sal arno'i hun, ac yn anghofio ereill. Ac y mae'n un o ddosbarth. Math o bysgod cregyn yw y rhai hyn- yn ymgragennu ynddynt eu hunain, yn glynu wrth yr hyn y gallont sugno budd ohono, a'u cragen hwy yn rhy galed i gyd- ymdeimlad ag ereill ei threiddio. Yn sicr nid y rhai mwyaf cymdeithasgar yw pysgod cregyn." Ni ellir beio dyn am feddwl am ei amgylchiadau ei hun, ac mae amgylch- iadau fel hyn yn gwasgu pawb i wneuthur hynny ond mae'n feius mewn un i fod yn ddiofal am ereill, a sorri wrth bawb oni fedrant daflu trallod Ewrop heibio pan ddigwyddo ei fag personol ef ddod trwy'r drws. Am y cyfryw rai, dychmygwn glywed y diweddar Hwfa Mon, yn ei ddull arbennig ei hun, yn dywedyd, Dwylo cregyn, llygaid cregyn, clustiau cregyn, eneidiau cregyn; cregyn ydy' nhw i gyd, ie wir." -0-
Advertising
DIM TALU YMLAEN LLAW. ARIAN YN FENTHYG (yn ddistaw bach), mewfa symiau bach neu fawr (heb fod Ilai na flo) AR ADDAWEB Y BENTHYCIWR BI HUN. SBFYDLWTD t. ERS it MLYNEDD. ac yn awr yn rhoi C80,000 YN FENTHYG BOB BLWTDDYNi Am daflen a thelerau ymofyner a GEORGE PAYNE A'i FEIB. 3 CRESCENT ROAD. RHYL, 16 SCHOOL LANE, LIVERPOOL Ar gael bob prydnawn dydd Iau ya 15 KIN c ST"BT, OAER. L L
Advertising
12 Downing Street, S. W, AT FY NGHYDWLADWYR. Dyma swn rhyfel a sain utgorn wedi dod i wlad Heddwch. Yr ydym ni yn cashau rhyfel a chas cyflawn, ond mae'r Llywodraeth wedi dihys byddu holl adnoddau cymod wrth geisio cadw Heddwch. Gyrrwyd hi yn erbyn ei hewyllys i ryfel, dros anrhydedd a chymeriad ein teyrnas; yn erbyn torri cytundeb a sarnu iawn- derau Cenedl fechan; o blaid eg- wyddorion y rhaid eu cadw er mwyn achub bywyd Gwareiddiad. Mae ein bodolaeth yn y giorian: Ond mae pob gradd a phob plaid yn gyt- un; y deyrnas yn unfryd; y Trefedig- aethau yn unfryd. Gelwir ar holl ddewrder ein meibion: Gofynnir am holl diriondeb ein merched. Ymdrech ac aberth fedr ddarostwng balchder a ffrwyno hunanoldeb. Deffro mae holl egnion cenedl i ddarpar rhag adfyd a chyfyngder a thlod i. Yr ydym un ac oil yn y ffwrn in puro. Byddwn lawn hyder a gobaith. Ofnwn Dduw gan ofni neb arall. Chwi feibion dewrion Cymru-i'r Gad! WILLIAM JONES. V Trysorlys.
[No title]
OES, y mae llawer iawn o bobl yn sal ar y Rhyfel yr ydym yn awr yn ei hangerdd. Y mae'n waeth na salwch y mor," yn treiddio'n ddyfnach i'r galon, ac yn parhau yn hwy. Ond nid yr un ansawdd a fedd i bawb,ac mae ynddo elfennau cymhleth iawn i lawer. Gadewch inni gymeryd cipdremau ar rai o'r "bobl seilion." -0-
Trem II-Y rhai sal oI Bryder.
Trem II-Y rhai sal o I Bryder. MAE'R rhai hyn hefyd yn "sâl ar ryfel," ond nid am yr un rheswm a'r rhai seilion cyntaf. Maent yn pryderu, yn anad dim, erbyn hyn, am dynged y Cynghreiriaid yn y frwydr fawr yn Ffrainc. Fel y crybwyll- asom o'r blaen yn y golofn hon, bu rhai'n sgrifennu braidd yn rhy bendant ac ysgafn am allu goresgynol Germani. Un o'r cyfryw oedd y galluog H. G. Wells. Erbyn heddyw (Sadwrn) y mae ei ysgrifell yntau'n crynu gan bryder, ac yn tynnu'r swyddogion a ofalant am ymrestrwyr newydd i'r Fyddin trwy dan ei feirniadaeth,a'r un modd ymddygiad y Press Bureau at y cyhoedd. t Cyhuddir y Bur.eau o gadw newyddion y dylasai y cyhoedd eu gwybod. Condemnia'r swyddogion a weinyddant ynglyn a galw ac etthol ymrestrwyr,—am eu bod yn rhy fanwl gyda golwg ar oedran a chryfder. Dadleua y dylid derbyn pob dyn a allo wneuthur rhywbeth, a bod angen am bob creadur o ddyn, ieuanc neu hen, a fedro lawio arf. Yn ddiau, mae ton H. G. Wells gryn lawer yn fwy brawychus nag ydoedd ar y cyntaf. Ymddengys fel pe'n teimlo hynny; ac fel esgusawd dros ei dawedogrwydd blaenorol gyda golwg ar y materion crybwylledig, dywed ei fod yn awyddus i'r awdurdodau swyddogol gael cyfle i ddangos beth allent ei wneuthur. Beth fydd canlyniad y frwydr fawr yr ymbarotoir ar ei chyfer tua Pharis, ni wyddom ni. Ond, yn sicr, wrth edrych ar yr hyn a fu hyd yma, anodd i neb ohonom beidio a theimlo mai nid yn ddiachos y pryderir. Fel y crybwyllasom yr wythnos ddiweddaf,gwnaeth y Belgiaid a'rPrydeinwyr orchestion mawrion, a'r Ffrancod hefyd o ran hynny. Eto, yn eu blaen y mae corff mawr y Fyddin Germanaidd yn dod, ac yn awr yn ymyl Paris. Yr hyn sy ryfedd yw, pan adroddir gwroldeb dihafal y Cynghreir- iaid, fe ddywedir, braidd yn ddieithriad, eu bod yn y lleiafrif o un i dri-a mwy na hynny weithiau—o'r gelyn. Tuedda hyn yn natur- iol i beri braw a phryder, yn enwedig pan gofiwn fod y byddinoedd wyneb yn wyneb ar eu prif ligellau, mewn ymosod ac amddiffyn. A yw y Germaniaid, wedi'r cyfan, gymaint a hyn yn lliosocach na'r Cynghreiriaid ? Pe buasai atgyfnerthion tucefn, a adewsid i bigion ein milwyr gael eu teneuo mor fawr ? Cytuna'r adroddiad- au'n gyffredinol fod gan y Germaniaid nid yn unig y fantais o nifer, eithr hefyd y fantais o gyflegrau. Mewn brwydr ar ol brwydr, dywedir mai cyflegrau nerthol y gelyn a enillai'r dydd. Ac mae cwymp am- ddiffynfeydd Namur, mor rwydd, wedi peri i lawer deimlo'n Uai hyderus gyda golwg ar ddiogelwch Paris. Tybid fod cadarnfeydd Namur yn anorchfygol, o leiaf am amser maith, Beth bynnag, gostegodd y German- iaid hwynt ar fyrder, ac aethant ymlaen i oresgyn tref ar ol tref. Tybid eu bod, o'r diwedd, yn trefnu ymosodiad ar Antwerp, ond iddynt ymddangos wedyn fel pe'n ei hosgoi; a'r un modd, gychwyn ymgyrch ar Paris, ond ymddangos fel pe'n ei hosgoi hithau hefyd. Hyn oil wedi bod ysbiwyr mewn awyr-longau uwehbcn y ddwy dref ac wedi bwrw Ilosgbelenni iddynt. Fod ganddynt eu plan sydd sicr, ac mae eu penderfyniad i ddwyn ymlaen eu plan yr un mor sicr a hynny. Er iddynt gael eu siomi'n ddifrifol mewn rhai pwyntiau, yn enwedig rhwyddineb eu ffordd. mae eu Uwydd goresgynol hyd yma'n rhyfeddol. Ac yn awr, dyma Lywodraeth Ffrainc wedi symud i Bordeaux, a'r gelyn yn ymgrynhoi ger Paris. Ceisir ein cysuro trwy awgrymu fod gan y Cynghreiriaid rwyd i'r gelyn, a nerth byddinol fu hyd yn hyn yng nghudd. Gall fod gwir yn hyn, a gobeithiwn yn hyderus fod. Ond ofer fyddai gor-hyder ar awgrymiadau a datganiadau answyddogol. Ar y cyfan, gyda golwg ar y frwydr ofnadwy a ddisgwylir bellach bob awr, mae y cyhoedd mawr yn sal o bryder. —0—
Trem III-Sal o Gydym=I deimlad.
Trem III-Sal o Gydym= I deimlad. A THRWY dy enaid di dy hun yr a cleddyf," ebai Simeon wrth Mair ac esboniad cyffredin ar yr ymadrodd yw ing cydymdeimlad. Er fod Paul yn athronydd, nid Stoic mohono. Trydanwyd ei philosophi & chalon o gariad ac am hynny y gofynnai, Pwy sydd wan nad wyf finnau wan?" A cheir yn yr I ? Epistol at yr Hebraid ddisgrifiad o gyd ymdeimlad y gellir herio neb i roi ei hafal Cofiwch y rhai sydd yn rhwym fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai sydd gys- tuddiol, megis yn bod eich hunain yn y corff." A tharawiadol yw eyfieithiad Dr. Weymouth Cofiwch y carcharorion, fel petech yng ngha-rchar gyd a hwynt a chofiwch y rhai sy'n dioddef cam-driniaeth, oherwydd yr ydych chwi eich hunain hefyd eto yn y corff." Pa fodd y gellid dwyn yr iach a'r rhydd yn nes at yr afiach a'r caeth ? fel petech yn rhwym gyd a hwynt, ? A pha fodd y gellid dwyn y trallodus yn nes at yr iach a'r rhydd-"O herwydd yr ydych chwi eich hunain hefyd eto yn y corff ? Athronydd Germanaidd mawr y son am dano yn y dyddiau hyn yw Nietzsche. Beiddiasom gyfeirio ato, er lleied a wyddem am dano, droion yn y golofn hon. Ac er pan dorrodd y rhyfel bresennol allan, mae gwyr hyddysg ag ef yn priodoli rhuthr di- drugaredd Germani ar deyrnasoedd Ewrop, i raddau helaeth, i ddylanwad yr athronydd hwnnw ar y dosbarth milwrol ynddi. Felly'r ysgrifennai'r Athro Miall Edwards yn y Brython, felly yr ysgrifenna gwyr galluog i liaws o'r newyddiaduron Saesneg, ac felly'r awgrymai'r Prif Weinidog, yn ei araith gref yn y Guild Hall, Llundain. Mae philosoffi- wel, rhaid inni droi i lyfr cyn y gallwn fod yn sicr o lythrennau ei enw !—y Nietzsche wedi bwystfileiddio Germani, cyn belled ag y deellir hi trwy eijHemprwr a'i Byddin- a'i Llynges hefyd. Galwed y Kaiser faint a fynno ar enw Duw, ysbryd Nietzsche greulon sy'n ei lywodraethu, ac ni fu i Herod erioed well brawd. Ebai cyfaill wrthym, fore Saboth diweddaf, Mae'r rhyfel hon i benderfynu pa un ai Nietzsche ai Crist sydd i lywodra thu Ewrop." A chred- wn mai dyna brif bwynt y rhyfel erchyll. Cytunai Mr. Asquith a Mr. Bonar Law fod y rhyfel, o'n tu ni beth bynnag, yn un foesol ac ysbrydol." Beiddiwn ddweyd ei bod yn rhyfel Gwareiddiaeth yn erbyn Barbareidd-dra. Dygwyd ni i fyny i garu rhyddid, ac i garu gweriniaeth, a da gennym am hynny ond yr ydym heddyw, yn fwy nag erioed, yn caru Brenin Lloegr. Gallwn weddio o'n calon, Duw gadwo'r Brenin I ddychwelyd at y pwnc o gydymdeimlad, gofynnwn, Pa un ai Nietzsche ai Crist ? Os mai Nietzsche a gynhyrchodd y rhyfel, pwy sy'n mynd i gyfarfod y canlyniadau ? Yn sicr, nid y creulawn, sy'n gloddesta ar or- thrymu a lladd, a ofala am y dioddefwyr. Nid yw, ac nid all, fod yn dyner wrth ei bobl ei hun, a pha faint Ilai wrth ereill ? Buasai 'n ddrwg iawn ar glwyfedigion rhyfel onibai fod rhwyrai a gredant mewn tosturi at y gwan. Trwy ganol rhu'r magnelau, a rhuthr cadau, mor ber yr Ysgrythyr fwyn, —" Cofiwch y carcharorion, fel petech yng ngharchar gyda hwynt; a chofiwch y rhai sy'n dioddef cam-driniaeth, oherwydd yr ydych chwi eich hunain hefyd eto yn y corff." Dylasai Nietzsche ei hun gofio ei fod yn y corff" —a hwnnw'n ddigon eiddil ac afiach. Diwedd y dyn hwnnw fu gwaHgof- rwydd, a hynny, fel yr ymddengys, oher- wydd iddo gymryd gormod o stimulants i geisio chwipio i gorff bregus o'i wendid. Beth pe buasai y Kaiser yn cofio ei fod yntau hefyd yn y corff Hawdd iddo ef yw gyrru ei ddeiliaid "fel defaid i'r lladdfa," a brolio 'i barodrwydd a'i allu i aberthu miliwn o'i filwyr ar faes y gwaed. Felly y gwnai Napoleon gynt; ond pan alltudiwyd. ef "I eitha Helena lwyd," cafodd yntau ei fod yn y corff," ac yn an- ghysurus dros ben. Pe gwneid cymwynas gyffelyb a'r Kaiser, buan y deuai yntau i sylweddoli'r un peth. Bendith i'r hollfyd fyddai i'r adyn hwn gael ei ddiosg o'i fawr- hydi ymherodrol, o'i arfogaeth filwrol, a'i osod mewn carchar alltud, modd y cai ryw syniad am y dioddefiadau a achosodd i filoedd ar filoedd o'i gyd-ddynion. Fel y mae, ni ddengys. ef na'i filwyr fawr o gyd- ymdeimlad a neb—mathru, cigyddio, rhwygo, a heb drugaredd, a wnant. Cyflawn- ant y gair a dywedodd eu proffwyd, sef y dylai'r gwan fynd i'r wal, ac y dylid ei helpu yno. Ond mae eto arwyddion o ysbryd Cristionogol a dyngar yn y tir ac mae'r ysbryd hwnnw wedi ymgorffori mewn I meibion a marched hunanymwadol a ant allan i ymgeleddu clwyfedigion rhyfel, ac mewn ereill a wnant ymdrech hyd at aberth ar gyfer y rhai a anfonir i ysbytai ein gwlad. A da gennym feddwl fod calonnau Cymry Lerpwl wedi eu cyffwrdd yn y trychineb hwn, a'u dwylo'n brysur mewn gwaith o gymhorth. Mae'n syn gymaint o'r Ys- grythyr sydd yn areithiau arweinwyr politicaidd ein gwlad,ac yn y papurau dyddiol. Maent yn pregethu'r Efengyl agos i gyd. Paham, ynte, y rhaid i ninnau wneuthur un. rhyw ymddiheurad am geisio ar yr un gwaith? Oes, mae miloedd ar filoedd ohonoch, Gymry, heddyw'n cofio'r carcharorion, fel petaech yng ngarchar gyda hwynt; a chofiwch y rhai sy'n dioddef camdriniaeth oherwydd, yr ydych chwi eich hunain hefyd eto yn y corff." Maent yn sal o gydymdeimlad, ac wedi dal y salwch mawr a ddioddefodd Gwaredwr y byd —0—
I Trem IV-Sal 0 ddygasedd.
I Trem IV-Sal 0 ddygasedd. Sonia Nietzsche lawer am yr angen am lidiowgrwydd mewn dyn, a beia Gristion- ogaeth am beidio a'i feithrin. Gofynna, Pa werth yw fy rhinwedd imi ? Nid yw eto wedi fy chwipio i gynddaredd." Ond y mae y fath beth a digofaint Cristionogol. Bu mellt digofaint sanctaidd yn llygad yr Hwn a wyddai fwy na neb am wylo dagrau. Un o'r pethau mwyaf nodedig a ddywedir am yr Iesu yw hyn, "Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddigllawn, gan dristau am galedrwydd eu calon hwynt." Teimlai ddygasedd moesol yn erbyn rhagrith a diffyg cydymdeimlad y Phariseaid—"yn ddigllawn;" ac yr oedd ei galon fawr yn sM o'u herwydd—" gan dristau." Ceir' llidiowgrwydd annhrugar y bwystfil ym Mwli Europ ond mae miliynnau o galonnau hefyd yn llosgi o ddigllondeb yn erbyn ei weithredoedd annynol. Ceir profion di- amheuol heddyw y gall Cristionogaeth ddigio, a Duwioldeb fynd allan i'r gad, cledd yn ei Haw, a gwir ar ei hysgwydd. Pan fo dyn yn actio bwystfil, rhaid cymeryd moddion gorthrech i'w atal. Yr oedd yr hen Biwritaniaid yn gyson a'u proffes, o leiaf, drwy gymryd gwn gyda hwy i'r addoldai. Ac os oedd yn Gristionogol y p ryd hwnnw, mae'n sicr o fod felly heddyw. Mae'r creulonderau a wneir ar wragedd a phlant, diniwed a diamddiffyn, yn peri i ddyn deimlo'i bod yn amser i'r neb a allai ruthro ar y llofrudd. Mae'r hen Jingo ynfyd gynt wedi marw. Yn awr, mae dynion ieuanc parchus, wrth y miloedd, yn ymrestru i'r Fyddin, gydag argyhoeddiad dwfn o ddyledswydd, a phenderfyniad sefydlog yn eu calon, i fynd allan dros eu cartrefi a'u cenedl. Gwyddant trwy brofiad beth yw digofaint sanctaidd yn erbyn yr annyngarweh a'r brad a fynnai ymosod ar genhedloedd yn ddiachos a dirybudd, ceisio diddymu annibyniaeth cenhedloedd bych- ain, halogi cysegredigrwydd pob cytundeb, rhuddo cyfandir a, gwaed dynol, a choroni pob ysgelerder trwy ddiolch i Dduw'r Nef- oedd am ei lwyddo'n ei waith Teimlem ni, fel miloedd ereill, mai Jingo a alwai ein pobl i Ryfel y Transvaal; ond teimlwn fod Brenin y brenhinoedd yn galw Brydain i hon. Mae hi'n eithriadol yn hanes rhyfel- oedd byd a hanes. Fel yr ydym yn ysgrifennu, daw'r hanes am y Germaniaid yn suddo pymtheg o gychod pysgota ym M6r y Gogledd, a'r llong ryfel Pathfinder yn y fargen. Ond mae eu gwaith yn dinistrio'r cychod hyn yn gyson a'u holl grefftwaith mileinig yn yr holl ryfel. Pa ryfedd fod pobl yn sAl gan ddygasedd? Ymysg y rhai sy'm ymrestru yn Lerpwl, mae lliaws o ddynion ieuanc o'n gwahanol eglwysi. Oeir tua dwsin o honynt eisoes o'r Tabernacl, Belmont Road; a deallwn fod yno gwrdd anghyffredin nos Saboth diweddaf. Nid anghofir y dylanwad a gafodd datganiad Miss Evans o'r geiriau God be with you till we meet again. Ceir peth o'r un natur mewn eglwysi ereill, a dynion ieuainc rhinweddol yn troi allan ohonynt i wasanaeth eu brenin a'u gwlad, a'u hwynebau'n wyn o ddygasedd cyfiawn yn erbyn gelyn anghyfiawn. Ae, yn sicr, fe ellir dywedyd am y math yma o salwch yn ein heglwysi,—" Nid yw y clefyd hwn i farwolaeth." Mae'n brawf ddarfod i ffyn- honnau dyfnach na difyrrwch a hunanfwyn- had gael eu tapio yn eu natur. o
I 0 Chwarel a Chlogwyn, I
0 Chwarel a Chlogwyn, Sef o Ddyffryn Nantlle. GAN YSBRYD GLASYNYS. Chwyddo'r Bhengau.—Heno (nos Iau) yn NeuaddYmarferTiriogaethwyr Pen y groes, apelir at ein" pobl ieuanc i ateb yr alwad i'r gâd. Nid yw pawb yn unfarn ar y cwestiwn. Yn angerdd sel eu cariad, clywir ami i fam a thad yn dweyd pethau chwyrn, ac eithaf naturiol yw iddynt gwyno. Beth sydd yn fwy cysegredig na'r cwlwm hwn ? Enwir y rhain i siarad yno y Parch. T. Charles Williams, M.A., Col. Lloyd Evans, Broom Hall, ynghyda dau o'n gweinidogion lleol: y Parch. W. Williams, < Talysarn, a D. Cynddelw Williams, B.A., Pen y groes. Gwywo'n gynnar.-Wedi nychu fisoedd maith, bu farw Miss Nel Williams, merch hynaf Mr. a Mrs. Rowland Williams, Pen- llwyn house, Talysarn. Merch ieuanc yr oedd pawb yn ei hoffi oedd Nel. Cymerodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus capel Tal- ysarn, ac un o'i nodweddion amlycaf oedd ei sirioldeb. Canodd lawer yn ei dydd tu mewn a thu allan i'r Cysegr, ac y mae galar dwfn amdani drwy'n bro. Cydymdeimlir yn fawr a'i theulu trallodus. Credwn ei bod tua 30 mlwydd oed. Dros Amser.-Am fod un o athrawon ysgol Nantlle yn gwasanaethu ei wlad, penodwyd Mr. Idwal Roberts, B.Sc., Llan- llyfni i weithredu yn ei le yno. Gwr ieuanc caredig yw, ac yn fab y Parch. G. Ceidiog Roberts. Oyngerdd yr Egin.-Sef cor plant enwog Llanllyfni fu'n diwyd ymarfer o dan fatwn W. D. Roberts ar gyfer Eisteddfod Bangor; ac er gohirio honno, rhaid oedd -i'r cor glirio ei ddyled, a thyna fu amcan y cyngerdd nos Lun yn Festri Salem, Mr. W. Williams, Dpi Wenith, yn y gadair. Nid oedd yno fodd bynnag, a -chymerwyd ei le gan Mr. D. G. Davies, a Mr. H. Hughes yn arwain. Yn ychwanegol at ganu y cdr a'r unawdwyr fohono, gwasanaethwyd gan Mri W. D. Hughes; J. Griffiths; William Roberts y Brodyr Francis; Seth Roberts, Tilysarn a Mr. E. Walter Williams, etc. Cyfeiliwyd gan Miss Myfi Pritchard ac Owen Hughes, A.L,C.M. Dau ganwr gwych ar offerynau, ac yn addo llawer. -0--
IYSWIRIANT A RHYFEL I
YSWIRIANT A RHYFEL I MAE'r Dirprwywyr Yswiriant Cymreig wedi cyhoeddi pamffled amserol, ynglyn a Budd Genedigaeth, yn egluro'n llawn safle gwragedd morwyr, llyngeswyr, a milwyr (gan gynnwys Tiriogaethwyr (Territorials) a milwyr y Fyddin Gadw) sydd mewn cad-wasanaeth. Hefyd, maent wedi cyhoeddi coflen fer a semi, yn cynnwys cyfarwyddiadau i'r rhai sydd mewn cysylltiad a, gwragedd y gwyr a aeth allan, ac yn dangos y cwrs y dylent ei fabwysiadu ar unwaith er rhoddi'r wraig ar ben ei ffordd i gael y Budd yn ddioed. Anfonir coplau o'r rhai hyn i holl gang- hennau a chynrychiolwyr Cymdeithasau Cymeradwy, i Bwyllgorau Yswiriant, Cym- deithasau Gweinyddesau, Meddygon y Panel, Prif Gwnstabliaid, a Chymdeithasau Dyngar drwy'r Dywysogaeth, ac hefyd i'r Pwyllgor Ymgynghori Cymreig. Deallwn yr enfyn y Dirprwywyr goplau i'r neb a ofynno am danynt, a bydd yn dda ganddynt gynorthwyo mewn unrhyw achos o amheuaeth neu an. hawster. N euadd y Ddinas, Caerdydd.
Advertising
MITCHELL BROS. Marsh Lane, Biotle. English Manufactured MAPLE. B,OCt.: FLOORING, AU 8iseskept In stock. Larges1 Stock In the Kingdom Phone 639 Bootla Tel. Ad. I aremptory" Llntpoo I I
| TELEI0S0N Y LLYFR,
| TELEI0S0N Y LLYFR, DYMA rai o deleidion Cristionogaeth a Chym- J deithas. sef y gyfrol, gwaith y Parch. J. BE. Howard, Birkenhead, sy newydd ddod allan o wasg Y BltYTHON Ail eni a chwyldro. Dywedir ein bod mewn cyfnod newydd ar grefydd. Oes y Dyn Newydd oedd yr oes o'r blaen, ond oes y Byd newydd ydyw „ hon ailenedigaeth a bwysleisid gynt, ond chwyldroad sydd eisieu'n awr; nid sanct- eiddhad ond 8anitation sydd bwysig; nid cyflog pechod, ond cyflog byw, dynn sylw y mae'r Dyn newydd wedi ymgolli yn y Byd newydd." Ond maentumiwn fod y naill yn amhosibl heb y Hall. Ni welir Byd newydd ar wahan i'r Dyn newydd, ac amher- ffaith fydd y Dyn newydd heb y Byd newydd." T T T t Cofgolofn i Grist: wfft Y mae ysbrydiaeth cymeriad da ym ddylanwad arhosol; y da yn unig sy'n anfarwol. The evil that men do, lives after them, The good is oft interred wtih their bones. Nid gwir dywediad Shakespeare, o drugaredd- canys cynghanedd yn unig sydd yn cario syrth pob anghydsain ar y ffordd. Daioni sy'n anfarwol, ac nid pechod. Hyd y dryd. 4 edd neu'r bedwaredd genhedlaeth yr a drwg, a gorffenna'i yrfa mown colledigaeth dra. gwyddol, ond erys daioni o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb cyfranoga o anfarwol- deb Duw ei Hun. Bydd y diferyn o ddwfr, yn oer ynghanol fflamau'r Farn, ac erys y ddwy hatling pan fydd y ffurfafen yn oddaith ni raid i ddaioni wrth gofgolofn. Codwn farmor gwyn i Nelson, Pitt, Bright, a Dr. Edwards, y mae llif ebargofiant milwrol, gwleidyddol, ac addysgol, mor chwyrn, ond cabledd fyddai codi cofgolofn i Grist! Y mae y Groes yn werdd tros byth. -T- -r -r Er gwaetha'r cwbl. Y mae tynged cenedl yn ddiogel yng ngofal dyn Duw beth bynnag fo'i enwad, ei faner, neu ei wleidyddiaeth. Crist a alluoga'r areithiwr i ddeffro cydwybod cenedl; crefydd a rydd iawndQr i fasnach, a'r un gallu a wna wleidydd yn ddyngarwr. Dyn Duw yw angen y byd. Gwyddom am y tlodi a'r llygredd, y dioddef a'r pechu, yr anobaith a'r anwariaeth sydd yn ein dinasoedd cofiwn ddigalondid a gormes, anwybodaeth a marw- eidd-dra, gwaseiddiwch ac ofn bywyd gwlad clywsom gri'r gorthrymedig, a gwrandawsom ddolef y gwan edrychasom ar grud newyn ac arch gobaith yn hir; cynefin ydym a mynwent delfryd ac a beddau brad; gwelsom ddagrau'r fam ddibriod, a phoen plentyn blys,. a dychryn y crwydryn o bell; y mae hunan- laddiad yn ami yn ein tref, ac ymwelwn yn fynych a bedd y byw yng Nghaer ;—Ond ond! ond! Er gwaethaf ysbyty a thloty, gwallgofdy a thafarn, gormes a gwaed, llygredd a phechod, carchar a chythraul,-tra bo Beibl yn bod, a chapel yn agored emyn yn yr awyr, a gweddi yn y galon Crist ar Ei orsedd, a'i Ysbryd wrth Ei waith y mae gobaith am y Byd Newydd trwy'r Dyn Newydd," a hyn yw diweddglo datguddiad y Duw." +- -I- -J- Cyfundeb yn cadw sioo. Amheuwn degweh, cyfiawnder a chref. yddolder Book Room enwadol. Onid oes digon o werthwyr llyfrau eisoes ? Clywn fod rhai enwadau yn estyn eu cortynnau ac yn dwyn gwaith y Jeweller erbyn hyn Dywed rhai fod Yswiriaeth hefyd yn rhan bwysig o waith enwad, a gwelir brodyr sydd yn hawlio Datgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys Wladol, yn deisyf cymorth, cydnabyddiaeth a nawddogaeth y Llywodraeth i'w Cymdeithas- au Yswiriol hwy! Pe cawsem enwad i agor siop ddillad eto, byddem ar y ffordd i ber- ffeithrwydd-neu ddiddymdra. Baldordd cyfnewidwyr arian yn y deml yw ysbryd masnachu enwadol. -L J_ L r- T Geriach i gyd. Yn nhloty Birkenhead, rhaid i'r Gwarch. eidwaid gyflogi archwilwyr i brofi pob peth bron a brynnir gogyfer a'r tlodion. Gwen- wynir cannoedd bob blwyddyn gan doreth o fwyd afiach. Gwerthir cig ceffylau o dan enw arall. Clywsom am gathod yn dwyn lie cwningod ar giniaw; elyrch oedrannus yn ymrithio fel gwyddau Nadolig, a chwn Ell. mynig yn ffurfio rhan o foreubryd Prydeiniwr -The New German, Invasion I T T T Sbleddach y deuddeng mil. Wele ychydig enghreifftiau allan o lyfr a ysgrifennwyd gan ddyn cyfoethog-F. T. Martin-yn 1911: Cafwyd gwledd mewn neuadd fawr yn New York. Yr oedd pob un o r gwahoddedigion yn bwyta oddiar fwrdd ar gefn march; costiodd y sbleddach £ 12,000. CynhaIiwyd swper i ddathlu penblwydd ci bach un yswam. Daeth tyrfa 0 ddynion glow a gwragedd hanner-noeth i'r t^ ac ar ganol y cyfarfod, rhoddodd y meistr wddfdlws 0 emau, gwerth £ 3,500, am wddf y creadur mud. Nodau can' doler a ddefnyddiwyd i gynneu pibelli ysmygu'r gwahoddedigion mewn un ymgomwest. Gwaria un gwr bon- heddig £ 2,500 o flwyddyn ar esgidiau yn unig. Eilun un wraig wastraffus yw mwnci bychan y mae gan y creadur hwnnw geffyl, dillad, bwrdd cinio, gwely ifori wedi ei addurno ag aur, a deg dyn i weini amo. Bydd merched a gwragedd Llundain yn gwastraffu mwy o arian ar gwn nag a gyfrennir drwy'r Deyrnas hon i gynnal ein cenadaethau tramor; a phan gofiom afradlonedd rhedegfeydd, chwaraedai, hap-chwarae, a'r ddiod feddwol, swnia geiriau Agur fel iaith cynrychiolydd byd a hil arall ar ymweliad a'n daear ni."