Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
0 Big y Lleifiad
0 Big y Lleifiad Byd a Helynt Cymry Lerpwl. I Un Haw ar y delyn a'r Hall ar y Cledd. Gyda Chyngerdd Telyn yr agorwyd tymor gaea'r Gymdeithas Genedlaethol nos Wener ddiweddaf. Dyma'r rhaglen, heblaw yr ami encor eirias, y mynnwyd eu cael gan y ddeu- frawd Francis a'r Delynores Saf i fyny dros dy Wlad Mri. G. W' ac O. W. Francis. Cywydd, Penmon Mr. G. W. Francis. Ar y delyn, Ar hyd y nos (J. Thomas) Telynores Gwyngyll. Cerdd y Gaethes Ddu Mr. O. W. Francis. Adroddiad, Olion Hanes (Elfed) Mr. Evan Evans. Myfanwy Fychan Mri. G. W. ac O. W. Francis Benoni Mr. G. W. Francis. Ar y delyn, >" The Minstrel's adiou to his native land (J. Thoma8): Telynores Gwyngyll. Englynion Dau a dwy Mr. O. W. Francis. Adroddiad, Cyflafan Morf a Rhuddlan (Olasynys) Mr. Evan Evans. Munud yw'n hoes; rhaid mynd yn hen," Mri. G. W. ac O. W. Francis. Mr. David Jones, cadeirydd y Gymdeithas' alywyddai; a dyma rediad sylwadau Mri. J. H. Jones, T. Arthur Lloyd a Phedr Hir wrth ddiolch iddo ef a'i datgeiniaid ar ddiwedd y Cyngerdd Telyn Fod y Gymdeithas dan ddyled fawr i' llywydd am ei haelioni parod a gwastado tuag at ei chynhaliaeth ac er ei fod yn llenwi un o'r safleoedd uchaf a mwyaf cyfriiol ym myd mawr llongwriaeth Lerpwl, 'doedd o ronyn llai o Gymro o'r herwydd, nac wedi magu dim o'r balchter a'r chwydd hwnnw a barai fod yn anodd i'r distadlaf fynd a to. Yr oedd y Gymdo,ithas a'r wlad hefya, yn ddiolchgar i'r ddeufrawd Francis o Nantlle am eu hymdreehion clodwiw i gadw hen ganu :gwreiddiol a mwyaf nodweddiadol o'r anian Gymreig yn fyw ac o flaen y wlad am roi'r poblogrwydd a'r bri a haeddai ar ganu gyda'r tannau, oedd ddrych mor gywir a gwerthfawr i ni'r oes hon o ffordd radlon a diddan ein tadau o fwrw'u hamdden a threulio'u himos gaeaf am gydio'r penhillion mwyaf swynol a mynyddig wrth ein halawon, heb anghofio cydio wrthynt hefyd rai o delynegion a ohywyddau teieidiaf ein Beirdd Byw, cystal a'r rhai hen ac o'r oes o'r blaen. Ac y mae un o'r ddau'n fedrus ar farddoni ei hun, a'r Hall ar lygeidio'n naturiol a direidus tuhwnt ei awgrym wrth ganu Nacw," ac ysmaldod glan o'i debyg. Un chwim a chyfarwydd ei bysedd yw Telynores Gwyngyll, ac yn dod at ei thelyn yn wylaidd a dirodres, ac nid i orchesta tan siglo'i phen a dangos ei hun a'i chnu gwallt megis y bydd llawer o blant llwyfan. Yn sicr i chwi, dyma un o delynorion ceiniaf ein cenedl, ac sy'n deall y dirgelwch hwnnw i'r dim, sef na thai hi ddim i'w thympio, ond y rhaid i chwi ei thrin hi a'i thannau'n dyner os am gael o hyd i'w lienaid. Y mae rhywbeth yn siap a gosodiad y delyn sy'n closio dyn ati, ac yn peri i ddyn gredu, er na wyr o ddim sut, fod hanes a phrofedigaethau eu cenedl wedi eu cadw a'u trysori yn nhannau'r delyn ac wrth sbio ar hon heno, cofiem am yr amser- oedd enbyd a rhyfelgar hynny pan orfyddai i'n tadau iod ag un Haw ar y delyn i gadw'u hysbryd rhag ymollwng, a'r llaw arall ar y cledd, i godi'u gwlad a'u haelwyd rhag cael ei mathru a'i threisio gan y Sacson, sef henaf- iaid yr Huns melltigaid sy'n cipio a threisio Ewrop heddyw, ond sydd a dydd eu gofwy ar wawrio yfory. A phan glywom hi nesaf, gobeithio mai canu Alaw Buddugoliaeth Ffrainc a Phrydain yn Armagedon Fawr 1914 y bydd Telynores gelfydd LlanfairP.G. Diolchwyd hefyd i'r adroddwr am ei ddarnau rhyfelgar ac amserol eu swydd, yn enwedig am Gyftafan Glasynys, canys hwyr- ach fod Ceiriog wedi cuddio gormod ar Fardd Nantlle, a'i gadw rhag cael ei ddarllen a'i glywed ar goedd fel hyn yn fynychach nag y gwneir. Glan feddwi ar un bardd, ac esgeuluso'r Hall, ydyw'n gwendid ni'r Cymry. Rhagor o Gyngherddau Telyn tebyg i hwn a gaffom, a rhagor o Dine y Wlad ynghanol twrw'r dref. Ac wedi mynd allan o'r cyngerdd, a chlywed yr arabiaid bach troednoeth yn gweiddi Eco a hanes troion chwith a chwerw'r rhyfel, fe deimlem ninnau hefyd fod un llaw ary Delyn a'r Hall ar y Cledd. Ie, Chwifio'r Ddraig. Y mae'r Mri. D. Jones (llywydd y Gym- deithas Genedlaethol), R. Lloyd Phillips (llywydd Cymru Fydd Up. Parliament Street), J. Herbert (Ilywydd Cymru Fydd Anfield ac Everton), W. Garmon Jones, M.A. (llywydd Cymdeithas Genedlaethol Wallasey) a R. Vaughan Jones (cynhuHydd) wedi anfon llythyr argraffedig at flaenion Cymreig Glannau'r Mersey i erchi arnynt ddod i gyfwrdd y Cadfridog Syr Ivor Herbert a'r Parch. John Williams, Brynsiencyn, i'r Common Hall, Hackins Hey, dri ar gloch I prynhawn yfory (dydd Gwener) i weld a oes modd ffurfio catrawd o Gymry'r cylch at ffurfio rhan o'r Frigad Gymreig a hyrwyddir mor ddiorffwys gan Mr. Lloyd George. Os y bo Cynhadledd Hackins Hey yn trefnu cynnal cyfarfod cyhoeddus i chwifio'r Ddraig Goch uwchben y bechgyn, fe wn i am lane o Gymro fedrai adrodd Araith Llewzlyn Elfed mor eirias a chyda'r fath ryferthwy lies twymno'r llanciau i ymrestru ynghynt na'r anerchiad hyotlaf glywd. Rhowch gyfle iddo. Dewr-ond diorchest. Yr oedd Mr. R. o. Evans-mab Mr, Rd. Evans, y team owner, Seaoombe--ymysg yr ymladdwyr Prydeinig yn Antwerp ac yn y Wallasey News ddydd Sadwrn diweddaf, ceid ei lun a cholofn neu fwy o'r profiad tanllyd yr aeth trwyddo yn y trenches ac yn yr encil frysiog a pheryglus o grafangau'r Germaniaid. Leading Seaman Evans oedd orderly Major Hamilton y Scots Guards yn ystod yr ymladd ac wrth seiclo ol a blaen a'i neges- euon, bu raid iddo farchogaeth drwy ganol y ahells a ffrwydrent ar bob llaw iddo. Chwal. ai'r adeiladau'n deilchion o'i gwmpas, eithr diangodd o yn ddianaf drwy rhyw drugaredd. Pigodd ddarn o shell i'w dwyn adref yn gof-a- chadw, eithr bu raid ei gadael ar ol yn y trenche8. Yr oedd gynnau'r Germaniaid gymaint mwy fel nad oedd gan ynnau'r Belgiaid y siawns leiaf i sefyll o'u blaen. Pan ddaeth y gorchymyn i encilio a floi, bu raid ufuddhau, er mor gyndyn y gwnaed, gan fel y berwai pawb i gael y trechaf ar y treis- wyr atcas. Bu raid cerdded i St. Gilles- bellter 35 milltir-heb sefyll dim ond unwaith, a hynny am ugain munud, i lyncu tamaid a llymaid. Yr oedd y Belgiaid wedi tanio'r tanciau oel rhag i'r gelyn gael y petrol oedd ynddynt—digon i barhau ar hyd y rhyfel; ac ohibae fod Rhagluniaeth wedi digwydd peri i'r gwynt chwythu i'r cyfeiriad oddiwrthynt, buasai'r gwres wedi deifio pob un ohonynt wrth fyned heibio'r ffagl, oedd mor fawr nes* fod y nos yn oleu ond mor ofnadwy'r olwg nes bod yn ddrych o Gehenna'i hun. A'r peth c'leta'i weld o'r cwbl oedd yr olwg adfydus a thruenus tuhwnt ar y ffoedigion Belgiaidd,— pob plentyn a chrwt yn cludo'i goflaid o rywbeth, yr hen a'r gwachul yn cael eu hwylio mewn berfau, a'r own yn tynnu'r troliau ysgeifn a'u Ilwythi trymion. Nol cyrraedd St. Gilles, rhuthrwyd i dren am Ostend, a phob cerbyd cyn llawned nes oodd raid sgythru goreu gellid ar y t6 nes cyrraedd Ostend y Saboth ac oddiyno i Dover erbyn bore dydd Llun. Stori syml, ddiorchest, a gaed gan Evans, na dim o'r brol balch a gofnodir yn yr un papur o enau rhai eraill o ymladdwyrWallasey fu drwy uffefii Antwerp. Y mae iddo frawd hefyd yn filwr, sef Robert Evans, sydd gyda'r 12th Cheshires yn Seaforth. Hyfryd taro ar ddewr, a hwnnw'n ddiorchest hefyd. 20- Trcfn ol am y Wtadfa. Byd da helaethwych beunydd ydyw rhan Cymry Gwladfa Patagonia ers blynyddau bellach, canys y mae'n fforddio iddynt bicio drosodd am sgawt o bedwar neu bum mis cyn amled ag y fforddia i ni dlodion yr Hen Wlad fynd gyda chwch Lerpwl i'r Borth ac yn ol. Gwelsom haid ohonynt yn troi'n olo Lerpwl ddydd Sadwrn diweddaf, sef gyda'r R.M.S.P. Demarara ac un ohonynt—Sian Fwyn Sian -yn ceisio codi blys ynnom i fynd gyda'r fintai er mwyn gweld y pum mil Cymry cynnes sy'n gwneud y goreu o'r ddau fyd yn eu rhandir pell. Mor felys fuasai cael mynd, ao a aethuwn hefyd onibae fy mod gymaint llymach fy llogell na'r Patagoniaid hir eu hosan. Bydd yn hanner can mlynedd y flwyddyn nesaf er pan sylfaenwyd y Wladfa bydd mintai gref yn mynd oddiyma yno i'r dathlu hwnnw ac os bydd siawns yn y byd gael fy nghyflogi felgohebyddarbennigiddis- grifio'r miri gwladfaol hwnnw ar goedd y byd, fe sythaf am y swydd. Dyma'r Gwladfawyr a hwyliodd ddydd Sadwrn gyda'r Demarara Mrs. John Pugh, Drofa Hesgog, a'i merch fach Esther Mrs. Evans, Miss E. A. Evans, a Gwyneth Evans o Bryn Gwyn Mrs. R. E. Jones, Miss Jeannie Hughes, y Fuches Wen, Bryn gwyn; Mr. Caerenig Evans; Misses Morfudd a Trofana Evans, Gaiman (plant y diweddar Barch. J. C. Evans); Miss L. Will- iams o Flaenau Ffestiniog (merch y diweddar Mr. Rd. Williams (Britwn), y hi'n mynd allan am y waith gyntaf at ei brawd i'r Andes Mr. J. Carrog Jones, Trelew;. Mr. Rowlands (Llew Maldwyn), o Tir Halen Mr. Myrddin Griffiths o'r Gairman. Rihyrsio'r Messiah. Gan fod rehearsing yn plygu mor ystwyth 1 reolau a threigliadau'r Gymraeg, ac y gellir dywedyd rihyrsiaf, rihyrsiais, rihyrsiwyd, ac ymlaen trwy'r tenses i gyd, waeth ei ollwng i fewn bellach i Seiat yr Iaith o'i gydnabod fel Cymro cywir, ac nid fel gair gordderch. Sut bynnag, dechreuodd yr Undeb Corawl rihyrsio'r Messiah nos Fercher ddiweddaf, gogyfer a'u perfformiad o'r oratorio honno ar fin y Nadolig nesaf. Mr. John Watkyn, y tenorydd a'r arweinydd hysbys o Ddowlais, fydd eu gwr gwadd (sef eu guest conductor) yn y cyngerdd hwnnw, ac yr oedd ef yn bresennol nos Fercher, ac a gyflwynwyd i sylw graslon y c6r gan Mr. Wm. Evans, Y.H., C.D., un o'r cyn-lywyddion. Ac wrth afael yn ei fatwn, sylwodd Mr. Watkyn Mor swil ydoedd wrth feddwl yn lIe pwy y safai ac mai eithaf ei obaith ef fyddai ceisio dal ymlaen ar linellau ei flaenorydd enwog, cadw'r cywair godidog a roes ef iddynt, a chael perfformiad nesaf y Me88iah mor agos i'r perffeithrwydd celfyddyd a'r trwythiad ysbryd ag y fyddai pan anadlai Mr. Harry Evans anadl ei einioes iddo, Yna aed dros y gwaith. Yr oedd Mr. Watkyn —fel y cofir-yn un o hen ddisgyblion cerdd- orol Mr. Harry Evans yn Nowlais, ac ef oedd tenorydd unawdol y Messiah pan y'i perfform- id gan yr Undeb Corawl yma'r llynedd. Tebyg mai hwn fydd yr unig gyngerdd eleni oher- wydd parlys y Rhyfel. fe Wedi rhewi mewn Rhesymeg. I Wrth draethu ar Grefydd yn Germani yn un o gapeli'r Wyddgrug ddydd Iau di- weddaf, sylwodd y Parch. A. T. Guttery Lerpwl (pregethwr a mawr alw amdano), mai clymblaid o swyddogaeth oersych oedd yr Eglwys yn yr Almaen, yn llawn o Resymoliaeth drahaus a ffronuchel, heb "Ie ynddi i ffydd Efengylaidd, na fawr ddim o loan na lesu na Phaul ynddi i'w chynhesu. Yr oedd wedi ei rhwymo gan Resymeg a'i rhewi gan Athroniaeth. Rhywbeth i'w ddrilio oedd enaid, gan y Proffeswr mewn Coleg heddyw, gan y Cymol mewn catrawd yfory. Cyn. hyrchid digon o ddisgyblaeth, ond yr un ias o ddefosiwn." Defosiwn, wir beth sydd yn yr Absolute Germanaidd i gynhyrchu'r un dafn o ddefos- iwn yng nghalon neb ? Gwres gwn a phowdwr yw'r unig wres a godir yn Germani. .n Y Rhaglen Ddi-ryfel. I Diolch am gopi o Raglen Cymdeithas Len- yddol Chatham Street, at y gaeaf yma. Y mae yma rai testynau hen, a ffustiwyd filwaith o'r blaen, ond a fyddant yn newydd i'r t6 sy'n codi; eraill yn destynau newydd a gwreiddiol; ond dim Rhyfel ar y rhaglen, gan dybio, mae'n debyg, fod gormod o'i awn hi eisoes ymhob papur a chyfarfod, ac mai eithaf peth cael un lie i ddianc o'i chlyw, a ohael un raglen, beth bynnag, heb smotyn o waed na gronyn o lwch powdr ami. •X Noson y Deuddeng Mis. Syniad hapus a doeth iawn oedd rhoi noson gyfan i'r aelodau ieuengaf drafod deuddeng mis y flwyddyn. sef i bob un ei fis i draethu a sgrifennu arno. Fe hoff'swn i fod yn Chath- am Street y noson honno, i glywed yr egin yn dweyd eu barn; cant ddeunydd da yng ngweithiau'r beirdd Cymraeg a Saesneg a byddant yn ddoniol ac yn dda, mi wrantaf. Y mae ymysg fy nghyfeillion a'm cydnabod i rywun sy'n ateb i'r dim i bob un o'r deuddeng mis, o ran oerni a gwres, o ran llymder a mwynder, o ran Honder a phrudd-der, o ran dod ohono'i hun a mynd iddo'i hun, ac yn y blaen. Ac wrth enwau'r misoedd y byddaf yn eu galw pan yn siarad a fi f'hun ac nid a hwy. Ac y mae un ohonynt sydd wedi byw'n ddigon hir, a chael profiad ddigon amrywiol o droion bywyd, nes ei fod bellach yn galw pob profiad wrth enw'r mis y bo'n debyg iddo edrych yn ol yn hiraethus ar Fai ei fywyd, ac edrych ymlaen yn ofnus braidd at ei Ragfyr a'i niwl. Fe ddiolchwn am weled copi o ragleni'r Cymdeithasau eraill, os byddwch cystal. Hyn ac Arall. Rhai o wersi'r Rhyfel oedd testyn trafodaeth Seiat Undebol o'r holl enwadau Cymreig a gynhaliwyd yng nghaptl Parkfield nos Iau ddiweddaf, tan lywyddiaeth y Parch. Joseph Davies. Agorwyd yn fedrus a phwrpasol, tuhwnt gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., nes closio'r cynhulliad ato a chael y gwrandawiad mwyaf astud wrth ddangos fel yr oedd diwylliant materol wedi methu, ac y rhaid i'r moesol a'r ysbrydol gael uchafiaeth yn y pen draw. Dilynwyd yntau gan y Mri. T. Davies, Lewis Morris, Wm. Jones (Price Street) a P. H. Jones, F.I.C., a'r Parch. W. 0. Jones yn dibennu drwy weddi. Cyfarfodydd bendithiol fu'r seiadau undebol hyn, a hir y daliont.-B.G.J. Y Parch. W. Llewelyn Lloyd, M6n, a'r Parch. Lemuel Jones, Goppa, gadwai gyfar- fod pregethu yng nghapel M.C. P el Road nos Sadwrn a'r Sul diweddaf a chyda dau o deithi ac anian mor drwyadl Gyrareig, ac mor llavra o'r peth hwnnw na dderfydd mo'r bias amdano yn enaid Cymro,—gwres a hyo'ledd —pa ryfedd fod y cynulliadau mor frwd a ihosog, a r gweision yn cael eu porthi wrth ganmol Y Drefn. 15b Dyna briodas dlos a mawr y sbio arni a fu yng nghapel M.C. Saesneg Dolgellau ddydd Mercher diweddaf, sef Mr. Henry Lloyd Thomas, unig fab Mr. a Mrs. John Thomas, Sefton Park, Lerpwl, & Miss Mary Jones, unig ferch y diweddar Ddr. Edward Jones a Mrs. Jones, Llys Mynach, Dolgellau. Y Parch. G. A. Edwards, M.A., Croesoswallt, a'r Parch. J. Radcliffe weinyddai; Dr. John Jones, cyn-uch-siryf Meirionydd, a gyflwyn- odd y briodferch, a Mr. J. E. Morris yn was priodas; a'r ddeuddyn dedwydd yn cilio o ganol y parti llongyfarchiadol a'r neithior briodas i dreulio'u mis met yn y Brifddinas. Fy Nhaith i'r Amerig oedd testyn darlith y Parch. W. M. Jones, Birkenhead, o flaen Cymdothas Lenyddol Eglwys David Streeo nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf Mr. John Morris, Y.H., yn y gadair. Clywais un o weilch mwyaf athrylithgar Lerpwl yn dweyd ddydd Llun diweddaf wrth 6n am y Zeppelins, ei fod wedi cuddio'i het :ilc rhag digwydd i un o'r bomb. ddisgyn arni ac yn ail, ei fod yn credu fod mwy o bobl y ddinas a'r wlad yn syllu tua'r Nef yn ddi- weddar nag a fu erioed o'r blaen, hyd yn oed yng ngwres tryma'r Diwygiad. Bydd y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., yn dechreu ar ei weinidogaeth yn Eglwys Laird Street, Birkenhead, y Sul nesaf; daw ei lun ac amlinelliad o'i yrfa addysg, gyda hanes ei gyfarfod sefydlu. k Cleddid y diweddar Mr. Robert Jones, Cavendish Mount, ym mynwent Flaybrick Hill ddydd Mercher diweddaf; y Parch. W. 0. Jones, B.A., yn gweinyddu, yr hwn a dalodd warogaeth i'w gymeriad glan a'i ym- roddiad cyson ar hyd ei oes faith gyda chrefydd. Yr oedd yn wr medrus tuhwnt gyda'i waith, ac a lwyddodd yn y byd gyda'i grefft ar sail gallu a deheurwydd eithriadol. Cyfarfod Pedwar-Misol. Yir Bethlehem, Douglas Road, Hydref 7fed Cyfarfod y Pregethwyr.-Llywydd, y Parch R. R. Hughes, B.A. Agorwyd ar Y Seiat gan y Parch. W. Owen, a siaradwyd ymhellach gan y Parchn. R. Aethwy Jones, M.A., G. W. Griffith, B.D., E. Griffith, J. Hughes, M.A. Estynnodd y llywydd groeso cynnes y cyfar- fod i'r Parchn. W. 0. Jones (Woodchurch Road) a James Lamb. Cyfarfod y Blaenoriaid.—Llywydd, Mr. D. Jones, Bootle. Agorwyd ar Le y Plant a'r Bobl leuainc yn y Cyfarfod Eglwysig, gan Mr. Ifan Tomos, a dilynwyd gan Mr. Hugh Roberts, Bootle, ac eraill. Y Cyfarfod Unedig.—Arwyddwyd cyd. ymdeimlad a Mr. T. Davies, Woodchurch Road,-mewn galar ar ol ei dad. Arweiniodd y Parch. O. J. Owen, M.A., mewn ymddiddan a blaenoriaid Eglwys Douglas Road y saith yn fyw iawn i'w cyfrifoldeb, yn awyddus i wasanaethu eu Harglwydd, ac yn profi pethau nad adnabu'r byd, wrth wneud eu goreu gyda'r Achos Mawr. Yr oedd hanes yr achos a roddwyd gan Mr. J. E. Jones yn galonnog iawn cynnydd o 43 er pan fu'r Cyfarfod Misol yno o'r blaen, a 57 er pan symudwyd o Netherfield Road. Costiodd yr adeiladau dros L9,000, ac nid oes ond tua £ 700 o'r ddyled yn aros. Cafwyd ychydig eiriau gan y Parch. G. W. Griffith, B.D. Llongyfarchwyd yr Eglwys gan y Cyfarfod Misol, gan ddymuno am i'r amddiffyn dwyfol barhau drosti. Trefnwyd i'r brodyr canlynol fyned i Stanley Road i gynorthwyo yr Eglwys gyda dewis blaenoriaid y Parchn J. Owen, W. Henry, a H. H. Hughes, B.A.,B.D., a'r Mri. J. Morris, Y.H., Stephen Roberts,E. Edwards, I 'I Ellis W. Jones, a Dd. Jones (Douglas Road). Rhoddodd y Parch. R. Aethwy Jones adrodd- iad o'r ymweliad a Laird Street, fod y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., wedi ei ddewis yn unfryd yn fugail ar yr Eglwys. Mr. W. Thomas, Y.H., a hysbysodd fod yr Eglwys yn Crosshall Street wedi dewis y Mri. R. Davies, Dd. Jones, Lewis Lloyd, a Peter Owen yn flaenoriaid. Penodwyd y Parch. E. J. Evans a Mr. J. J. Thomas i ymweled a Blackburn. Ar gynhygiad y Parch. R. Aethwy Jones, a chefnogiad y Parch. D. Jones, pasiwyd :— That we (the members of the Liverpool Monthly Meeting of Welsh Calvinistic Methodists, representing 11,000 ad- herents) desire to call the serious attention of the Licensing Justices for Liverpool and Bootle, to the urgent necessity for curtailing the hours for the sale of intoxicating liquors within their respective, areas as has been done already in the Metropolis and other important centres of population. We believe that the present circumstances are a call upon the nation to self-restraint and I sobriety, and we greatly deplore the signs that drunkenness is exceedingly cc prevalent at the present time. The "large number of young men who have recently joined the Army ought to be protected from temptation to indulge in intoxicants while off duty. We believe "also that the relief granted to the cc dependents of our soldiers and sailors is liable to be, and in numerous cases is, abused without further restriction of the Cc facilities for obtaining drink." Y Cyfarfod Cyhoeddus.—Dechreuwyd gan y Parch. W. O. Jones, Woodchurch Road. Canmlwyddiant marwolaeth y Parch. T. Charles, B.A. Ar gynhygiad y Parch. J. Owen, a chefnogiad y Parch. O. J.Owen, M.A., pasiwyd penderfyniad yn cydnabod gyda diolchgarwch ddaioni yr Arglwydd am roddi Mr. Charles i'r Methodistiaid, ac yn wir i'n cenedl, ac i'r byd, etc., etc. Wedi iddo longyfarch yr Eglwys yn Douglas Road ar ei llwyddiant, cyflwynodd Mr. D. Jones (y Ilywydd) y mater penodedig i sylw'r cyfarfod, sef Gweddi Eglwys mewn cyfyngder, Act. iv, 24:30, gyda chyfeiriad at yr argyfwng presennol. Agorwyd gan y Parch. H. H. Hughes, B.A.,B.D., mewn anerchiad dwys ac effeithiol, a dilynwyd ef gan y Parchn. E. J. Evans a J. Hughes, M.A. Terfynwyd drwy weddi gan y Parch. R. R. Hughes, B.A. Yr oedd cyfeillion Douglas Road, yn ol eu harfer, yn garedig wedi darparu croeso teilwng i'r Cyfarfod Misol, am yr hwn y diolchwyd yn wresog iddynt gan y Parch. D. Jones a'r Ilywydd, Mr. D. Jones, Bootle. GWYL DIOLCH.—Cynhaliwyd Gwyl Diolch am y Cynhaeaf yn Eglwys Asaph Sant, Mayfields, Kirkdale, y Saboth a nos Lun ddi- weddaf. Diolchgarwch a Phregeth, a nos Lun Gwasanaeth a Phregeth. Pregethwyd yn ystod y Sul gan y Parch. J. Salt, B.A., rheith- or Bodfaen, a nos Lun gan y Parch. Evan Williams, Bootle, cyn-gurad Asaph Sant. Cymerwyd y gwasanaethau gan Mr. O. R. Jones (Lay Reader) a'r Llithiau gan Mr. S. Jones-Parry, Dewi Sant; y gwasanaethau yn llawn diolch a phregethau grymus, a chanu S'r galon. Canodd Miss Parry, yr eneth ieuanc o'r C6r, yr unawd Dim ond Deilen yn swynol iawn, ar y geiriau Mae grasusau heb eu haeddu." Yr addoldy'n orlawn, a phawb wrth eu bodd yn diolch i Dad y Tru- gareddau. Bu'r chwiorydd yn garedig iawn yn arwisgo mor ddestlus gyda gwahanol ffrwythau amryfal y maes. Treuliwyd cyfar- fodydd hynod dros bon.-W.H. i i TEML GWALIA," EDGE LA-wn.-Noo Fawrth ddiweddaf, dan lywyddiaeth y P.D. Ceredig Jones, aed trwy y rhaglen ganlynol: Can, My Treasure, Chwaer Eluned Jones. Dadl ddifyfyr,—beirniad, Br. H. Davies: 7 goreu, Br. J. E. Davies a Br. Eddie Evans. Deuawd, Life'r dream is o'er, farewell, Chw. L. Jones a B. Edwards. Adroddiad, Bedd y dyn tlawd, Chw, M. Jones. Can, My Home in the West, Br. Williams, Boaler Street. Ad- roddiad, Ystori, Chw. Jones, Catherine Street. Can, Yr Hen Gerddor, Chw. Jenny Jenes. Derbyniwyd dau o'r newydd.—M.E.E. CYMRU FT-Di), UPPER PARLIAMENT ST.— Yng nghyfarfod blynyddol pwyllgor y Gym- deithas uchod, rhoddwyd adroddiadau ffafriol I iawn o weithrediadau'r tymor diweddaf, gan y trysorydd a'r ysgrifennydd. Rhoes y oadeir- ydd hefyd amlinelliad o waith y tymor dyfodol. Etholwyd y swyddogion a ganlyn llywydd, Mr. R. Lloyd Phillips; cadeirydd, Mr. J. J. Williams; trysorydd, Mr. Ellis P. Evans; ysgrifenyddion, Mri. Ted Davies a T. Griff Evans. Ceir rhaglen gyfoethog a diddorol ar gyfer y tymor nesaf, a agorir nos Wener, Hydref 30, gydag anerchiad ar Arweinwyr Addysg Cymru, gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., un a gydnabyddir fel un o Gymry ieuaic disgleiriaf ei oes, mewn mwy nag un cyfeiriad. Diau y ceir cynhull- ) iad lliosog, ac y rhoddir cychwyn calonnog i'r tymor. Croesawir Cymry ieuaino y cylch i ymaelodi yn wresog. Buddiol fyddai i arweinwyr crefydd argymell yr ieuenctyd i ymuno, oblegid anodd meddwl am gyfrwng gwell, ar wahan i'r eglwys, i'w cadw rhag temtasiynau'r ddinas, ac i uno a'i gilydd i ddiwyllio eu meddwl a'u cymhwyso ar gyfer defnyddioldeb mewn byd ac eglwys. Deall- wn fod nifer dda o aelodau newyddion eisoea wedi ymuno. Teg hysbysu brwdfrydedd a diwydrwydd Merched Cymreig Wallasey yn y cyfwng hwn yn hanes y wlad. Rai wythnosau yn ol, ffurflwyd Cymdeithas Undebol o foneddigesau o wahanol Eglwysi Cymreig y lie, gyda'r amcan o wneud eu rhan fel Cymry i weithio a'u holl egni ar gyfer anghenion fydd yn codi o achos y rhyfel. Cwrddant bob prynhawn dydd Mercher yn Ysgoldy'r Eglwys Anni- bynol, Martin's Lane, ac eisoes y mae ffrwyth eu llafur a'u diwydrwydd wedi ei rannu, peth i'r milwyr Cymreig yn Northampton, a pheth i ysbyty milwrol Cymreig Caerdydd. Maent yn agored i dderbyn rhoddion neu alwadau am gymorth, yn enwedig o blith eu cydgenedl yn Wallasey. Taniwyd y boneddigesau hefyd a'r awydd i fod yn alluog a defnyddiol mewn First Aid, a ffurfiwyd dosbarth o dan y St. John's Ambulance Association. Dengys hyn i gyd yr ysbryd ardderchog a gwladgar sydd ymhlith ein chwiorydd Cymreig yn Wallasey. YB ANNIBYBTWYB IBTJAINO.—Rhyw "daÎr blynedd yn ol, daeth syniad hapua i bea rhywrai mai purion peth fuasai oynnull pobl ieuaino Annibynwyr Glannau'r Mersey—ym Gymry a Saeson—at ei gilydd, o leiaf unwaitk yn y flwyddyn, i ganu mawl, ac i wrando anerchiadau gan wyr enwog a medrus. Rhoddwyd ffurf ymarferol i'r syniad, a bu'. llwyddiant mawr. Bellach y mae'r hyn a elwir yn Demonstration y Bobl Ieuainc wedi dyfod yn sefydliad blynyddol arhosol, a dymuniad pawb o fynychwyr yr wyl ydyw, mai hir y parhao. Eleni, cynhaliwyd y cyfarfod yng nghapel Norwood Grove, nos Lun, y 12fed o Hydref. Yr oedd yr addoldy eang dan ei sang, a mynd a hwyl anghyffredin ar yr holl weithrediadau. Y llywydd ydoedd Mr. T. Arthur Lloyd, Grove Street, a'r siaradwyr, y Parchn. Bernard J. Snell, M.A., B.Sc., Brixton, a'r Athro Joseph Jones, M.A.,B.D., Aberhonddu. Y rhyfel ydoedd baich araith y cyntaf, ac ynddi ap61 eithriadol gref at y dynion ieuainc iach a heinyf i ymrestru yn y fyddin, er gwneud eu rhan i amddiffyn yr hym sydd oreu a mwyaf cysegredig mewn bywydi Testyn yr Athro ydoedd Diwyllio dynoliaetk Gristionogol," ac araith dan gamp ydoedd, ya gosod delfryd uchel o flaen llygaid yr ieuanc, ac yn apelio at y goreu yn ei natur. Dwy araith odidog oeddynt. Yn ystod y cyfarfod, canwyd nifer o emynau pwrpasol, a clwy unawd, sef Lead, kindly Light (Pughe Evans), gan Miss Flossie Caley,ac If w, th all your heart* (Mendelssohn), gan Mr. Woodville Francis. Am chwarter awr i ddechreu, chwaraeodd Mr. J. G. Angelbeck nifer o ddetholion ar yr organ, ac arweiniwyd yn y rhannau dafosiynol gan y Parchn. J. A. Patten, M.A., a Sidney F. Wicks. Cyfarfod rhagorol ydoedd, drwyddo, a diau y gwna les, drwy fod yn symbyliad i'r bobl ieuainc i ymestyn at nod uchel mewa bywyd. Da ydoedd gweled y Cymry yn gwneud i fyny rhan mor helaeth o'r gynull- eidfa. Dyma'r tri brawd a ddewiswyd yn flaenor- iaid gan Eglwys M.C. Stanley Road, Bootle nos Iau ddiweddaf: Mr. John Davies, 99 Beatrice Street; Mr. Robert Jones, Beack Lawn, Waterloo; Mr. William Rowlands, 54 Wadham Road. ER BUDD Y BELGIAID.—Nos Feroher ddi- weddaf, yn Ysgoldy M.C. Stanley Road, Bootle, cynhaliwyd cyngerdd er budd ffoadurion Belgium yr adeilad yn llawn ben, a'r elw ar y diwedd yn swm pur sylweddol. Mr. Robert Jones, Waterloo, oedd y cadeir- ydd; a dyma'r rhai wasanaethodd: Miss Laura Jones, soprano Miss Nellie Bucknall, mezzo-soprano; Miss Nellie Davies (Pres- tatyn); Mr. Griff Owen, tenor; Mr. James Griffiths, baritone; Mr. W. P. Williams ya canu penhillion Mr. T. O. Morris yn adrodd yr Arcadian Orchestra yn rhoi detholiadau llinynnol; a Miss L. Kyffin Williams ya cyfeilio. Diolchwyd i bawb ar y diwedd gam y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., a Mr. David Jones, Cremlyn. Cyngerdd da iawn; yr Arcadian Orchestra feddyliodd gyntaf am ei gynnal, a hwy a Chyfrinfa'r Cambriaa (U.A.T.D.) a'i trefnodd diolch iddynt am y wledd. TRINITY ROAD (A.).-Nos Fercher, cyn- haliwyd y cyfarfod cyntaf yngISn a'r Gobeitk-* lu, a thrwy garedigrwydd Mrs. W. Roberts, fe'i nofiwyd a the rhagorol. Yr oedd y ddar- pariaeth yn wir dderbyniol gan y plant, a'r llu o rai mewn oed ddaeth i gyfranogi. Darparwyd a gweinyddwyd gan Miss A. Jones, Mrs. W. Owen, a Mrs J. Rowlands. Drwg iawn oedd gennym fod Mrs. Roberts ei hun wedi ei hatal i fod gyda ni oherwyda afiechyd. Wedi'r te, caed cyfarfod amryW" iaethol gan y plant; cymerodd nifer fawr ohonynt ran, a chynorthwywyd gan Miss Bella Jones a Mr. J. Thomas. Y cyfarfod dan lywyddiaeth y Parch. W. Roberts. Diolch. wyd i Mrs. Roberts yn gynnes gan Mri. J. Jones, E. Thomas, a J. Rowlands, a phrofwyd fod pawb wedi eu boddhau gan ei haelfrydeddi.
Advertising
Y Ddrama PWT Big 90 googir ? DRAMA DDIGRIFOL GAK DEWI MAI 0 FEIRIONY Blaenau Pfestiniog. TN AWR YN BAROD. Pris Naw Ceiniog. o Moses: O'r Cawell i'r Mor Coch. Drama at wasanaeth Oobeithluoedd a Chyfarfodydd y Bobi Ieuainc. Gan PEDR HIR. PRIS: GROT. MAB y ddrama uchod wedi ei pher- fformio dro ar ol tro yn ysgoldai Capeli Cymraeg Lerpwl, ac mewn llawer man yng Nghymru, ac yn para i ennill ffafr. MOSES B ACH Drama at wasanaeth Gobeithluoedd* Mae hon yn gymwya i blant ieuengaoh na'r ddrams uchod. Pris Dwy Geiniog. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS A'I FEIBION.