Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
0 DDIDDORDEB MAWR -DROB BEN I GYMRY,— CREAMER'S ANNUAL SALE OF :FURS: Of orery reliable descriptioa is now in progretio. 4/- to 9/= in each R reduction COATS ULSTERS STOLES WRAPPERS MUFFS FOOT MUFFS TIES, Etc., Etc. ELEGANT SELECTION OF FURS. BARGEINION OIGYFFELYB AR HYD YR WYTHNOS. 56 BOLD ST., Liverpool. 56 — r —^ RGRAFFU LLYFRAU Mae cyhoeddwyr y Brython wedi ennill enw iddynt eu hunain fel Argraffwyr Llyfrau. Ni wneir gwell gwaith mewn unrhyw Swyddfa yng Nghymru na Lloegr. Da fyddai i rai sydd ganddynt Lyfrau i'w hargraffu, anfon am y prisiau ar unwaith, ac nid aros hyd nes bo'r Rhyfel drosodd pan fydd llawer o bethau wedi codi,* fel y galluoger ni i gadw y gweithwyr mewn llawn waith yn wythnosau dyfodol, ac felly wneud ein rhan i gadw Masnach ar fynd. • HUGH EVANS & SONS, Swyddfo'r Brython, 356-8 Stanley Road, Liverpool. telephone sh bootle
. FFETAN Y GOL.
FFETAN Y GOL. Qejled pawb fo'n anfon i'r Fletan mai dyma'r gair sydd ar ei genau NITHIO'R GAW A NYTHU'R GWIR, Gloywi'r Gymraeg- I At Olygydd Y BBYTHON I AMIL SYB.—Da oedd gennyf weled llythyr y Parch. D. Teowyn Evans yn rhifyn Rhag. 31 o'r BBYTHON yn tynnu sylw at rai • anafau cyffredin yng Nghymraeg ysgrif- onedig y dyddiau hyn. Er fod llawer ar yr onw o lenorion. fel y dywed ef, na ddysgant ddim, eto y mae rhai,—ao nid ychydig shwaith, mi obeithiaf, y'n barod i dderbyn eyfalwyddyd. Pa fodd bynnag yr unig obaith y gwelir gloywi ar yGymraeg ydyw dal ati heb ball i ddinoethi meflau, megis y gwna Mr. Evans yn ei lythyr. A gaf fi nodi un dirywiad diweddar sydd, y mae'n ymddangos, yn mynd ar gynnydd ? Y dirywiad hwnnw ydyw gadael allan ni neu nid, na neu nad lie y mae rheswm a hen arfer yn gofyn amdano. Y mae yna dair enghraifft, o'r hyn lleiaf, yn y rhifyn o'r BRYTHON yr ymddengys llythyr Mr. Evans ynddo Fe welir y gyntaf yn eich llith chwi dan y pennawd "Y Gol. Oddicartref." Fel hyn y dywedir Yn fy myw y medraf gofio enw'r hen lane." Yr hyn a feddylir, wrth gwrs, ydyw Yn fy myw ni fedraf gofio." Wrth eiarad, dywedir yn gyffredin fedra i yn y myw," hynny yw to fedra yn fy myw a phe dywedai dyn mi fedra yn fy.myw," chwi syniech mai heb ddysgu'r iaith y byddai. Eto wrth ei droi o chwith yr un peth a hynyna ydyw yn fy myw y medraf." Y mae'n hollol fel pe dywedai Sais I can for the life of me yn lie "I can't for the life of e. "m Dyma enghraifft arall yn adolygiad diddorol Mr. Gwilym Peredur Jones: Dymunem arno adael i neb ond R. Machell dynnu'r lluniau iddu." Yr hyn a feddylir yma eto ydyw Dymunem arno beidio a gadael i neb ond R.M. dynnu'r lluniau." Yn lie "gadael," yr hyn sydd eisiau ydyw "nadu" neu beidio a gadael," sef not to allow anybody.' Diameu y gw-yr Mr. Jones yn burion mai "anybody" ydyw "neb," a bod eisiau negydd gydag ef i'w wneuthur yn "nobody" mewn brawddeg. Pe dywedasai rhywun "gedwch i neb dynnu'r lluniau," fe seiniai i bawb fel Cymraeg Sais yn dechreu dysgu Met edwch (nadweh) i neb a ddywed Cymro. I'm clust i y mae gadael am "nadu" yr un mor wrthun mewn brawddeg anuniongyrchol fel a ddyfynnwyd. Y mae'r drydedd enghraifft yn llythyr Mr. Evans ei hun "fal petai dim ond manynnau yn y glorian. Pe dywedid Mae yna ddim ond manynnau," fe welid ar un- waith mor wallus yw'r ymadrodd. Yr hyn a ddywedwn ni oil ydyw Nid oes yna ddim ond manynnau felly y ffurf gywir ar y frawddeg a ddyfynnwyd yw fel pe na bai dim ond manynnau." Mewn brawddeg, y mae dim neu neb yn gofyn negydd (ni neu na, heb, peidio a'r cyffelyb) i ddynodi nothing" neu "nobody"; fel hyn, "ni welais ddim," "heb ddim," "peidiwch a dywedyd wrth neb." Yr un modd, y mae eisiau rhyw neg- ydd o'r fath o flaen ond i fynegi only fel hyn, nid oes yma ond tair," heb ennill ond punt," etc.-Yr eiddoch yn ffyddlon, J. MORRIS JONES. Lktnfmr Pwll Gwyngyll, Ion. 2, 1915. "Gloywi'r Gynpraeg" eto. j At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Carwn, gyda'ch caniatad, Mr. Golyg- ydd, daflu fy hatling i'r drysorfa agorwyd gan y Parch. Tecwyn Evans yn eich rhifyn yr wythnos ddiweddaf.' Heb honni fy mod yn awdurdod mewn modd yn y byd ar y pynciau hyn a'u perthynasau, cynygiaf y sylwadau canlynol i sylw eich darllenwyr yn hyderus :— 1—(a) Y RhaQtnw perthynasol a a'r ferf. Y mae'n werth tynnu sylw unwaith eto at yr hy n a ddywed Mr. Evans yn ei ysgrif parthed y pwnc hwn. Ni ellir yn ein dyddiau ni, ysywaeth, bwysleisio gormod arno. Y rheol ýw: dylai'r ferf fod yn unigol ar ol y rhagenw perthynasol a, boed y sylfon (subject), neu os dymunir enw arall, y rhagflaenydd (ante- cedent) yn unigol neu liosog. Fel* hyn Pwy yw'r dynion oedd yno (h.y., a oedd yno), nid oeddynt Ai chwi yw'r plant a dorrodd y ffenestr ? "Dacw'r llanciau a wnaeth y drwg." Tynner yr a os mynner, fel y gwneir yn rhy gyffredin ar lafar ac mewn ysgrifen, eto yn unigol yr erys y ferf. Dyna'r brawddegau a ddywedir gan bawb pan siaredir yn naturiol, heb feddwl o gwbl am ramadeg a chystrawen, Cymraeg neu Saesneg. Ond pan eir i ddechreu hanner myfyrio am gystrawen yr iaith agosaf atom, neu rhyw iaith arall, yna llithrir gan eich gw9"r cyhoeddus ar y llwyfan ac yn y wasg i ddefnyddio'r ferf fel y gwneir yn unol a'r hyn a elwir yn Rule of Con- cord yn y Saesneg a'r Lladin. Ni chlywyd ac ni chlywir ar lafar gyffredin ddim yn amgen na'r canlynol a'u cyffelyb Mae'r dynion a ddywed hyn wedi ymadael"; Curwyd y bechgyn a luchiodd y cerryg etc. Mae'n wir nad yw'r Beibl yn cadw at y rheol hon. Yn y rhan amlaf o'r enghreifftiau geir yno, dilynir y gystrawen Seisnig ond y mae lliaws o enghreifftiau i'w cael ynddo lie y dilynir cystrawen y Gymraeg. Mewn ambell f an yn yr un adnod, defnyddir y ddwy ffurf. Gwell i'n lIen orion lynu wrth reol y Gymraeg. (b) Cofier, modd bynnag, os rhagenw per- sonal fydd y sylfon, yna gosoder y ferf yn eu ffurfiau treigliadol yn ol person y rhagenw. Fel hyn Mi ddywedais hyn Ti wnaethost y weithred hon Efe osododd y sylfeini Ni ddysgasom ein gwersi Chwi gewch y gwobrau Hwy dorasant y llestri." Eto, os bydd eisiau pwysleisio'r rhagenwau personol hyn, yn hytrach na phwysleisio'r weithred a osodir allan gan y ferf, yna rhaid i'r ferf fynd i'r 3ydd person unigol, fel y dywedwyd o dan y pennawd 1 (a), fel yn yr enghreifftiau canlynol :—" Ti a wnaeth hyn," h.y., ti ac nid neb arall; Chwi (ac nid neb arall) a gasglodd y llyfrau" Pwy losgodd y das wair ? Ni (nèb arall) a'i llosgodd." Os yw'r pwyslais (neu lleisbwys, fel yr arferid gan Isaac Jones, y gramadeg- ydd, a hynny gyda llawer mwy o briodoldeb) ar y weithred o losgi mewn brawddeg fel ni losgasom," yna y mae hon yn weddol gywir ond os pwysleisir y gweithredydd ni, yna y nurt gywir yw "ma losgodd." 2. Cyfarfum. Eglurwyd mewn cyfnod- olion o bob math, dro ar ol tro, mai dyma'r ffurf gywir, ynghyda'i threigliadau, ac nid cyfarfyddais. Y mae'r gair yn dod o cyfarfod, sydd air cyfansawdd o bod, a chan mai bum, buost, bu, buom, buoch, buant (neu buont), yw ffurfiau treigliadol o bod yn yr amser gorffennol (aorist neu past), felly hefyd am y ffurfiau cyfatebol yn cyfarjod. Fel hyn :— eyfarfum, cyfarfuom; cyfarfuost, cyfar- fuoch; cyfarfu, cyfarfuant (neu -ont). Dyma'r ffurflau a geir bob amser yn y Beibl, fel y dengys y canlynol:—" Ei dad a'i canfu ef Cyfarfu ag ef ddeg o wahan- gleifion." Felly hefyd am y cyfansodd-eiriau eraill o'r un natur, megis gwybod, gwybum, etc. darfod, darfum, etc. adnabod, adna- bum, etc. Enghreifftiau o'r Beibl Ym- daenodd penwyni ar hyd-ddo, ac nis gwybu efe Beth ddarfu i ti, o f6r, pan giliaist ? A'r byd nid adnabu ef." Gresyn fod y diweddar Syr Edward Anwyl wedi rhoi sel ei gymeradwyaeth ar y ffurfiau cyfarfyddais, etc. yn ei Ramadeg. 3. Brawddeg anghenfilaidd, i'm tyb i, yw honno a welir ac a glywir yn aml-y mae'n dda allan. Nid yw ond Saesneg digymysg-he is well off. Yr un modd ei pherthynas,—" Y mae'n well allan nag erioed," am y Saesneg, he is better off than ever." Erlidier y gair allan, ac yna ceir brawddeg Gymraeg, un ddigon da i bob pwrpas yr amcenir hi :—- Gwelais Iorwerth ddoe, y mae'n dda arno Y mae'n dda iawn arno Y mae'n well arno na'i frawd,"—brawddegau digon cryfion ac agwedd Gymreig arnynt,—nwyddau cartref yn hollol. 4. Arferiad atgas iawn yw pan ddefnyddir yr amser gorffennol (aorist) yn lle'r tra- gorffennol (pluperfect). Yn llawer rhy fyn- ych, clywir brawddegau fel dysgodd y bachgen ei wers, cyn i'r athro ddod i mewn," am y Saesneg, the boy had learnt his lesson before the master entered." Y cyfieithiad cywir fuasai dysgasai'r bachgen ei wers," etc. Ni freuddwydia neb arfer y gorffennol yn lie y tra-gorffennol yn y Saesneg, a phaham y gwneir hynny yn y Gymraeg sydd ddirgel- wch i mi. Nid oes yr un rheswm am hyn ond aflerweh ysgrifenwyr a diofalwch am gywir- deb iaith a chystrawen-segurdod meddwl. Ni wna'r Beibl byth mo'r camddefnydd hwn sylwer ar ei frawddegau A'r hwn a fuasai farw a ddaeth allan." Nid "a'r hwn a fu farw," oblegid he who died yw hynny. "A welsant y pethau a wnaethai'r Iesu which Jesus had done Yr hwn afuasai glaf namyn dwy flynedd deugain A'r hwn a iachesid ni wyddai pwy oedd efe A'r hwn a dderbyniasai y pum talent." 5. Gwelir camarfer atgas arall pan ddefn- yddir y ffurfiau benywaidd ar ansoddeiriau yn eu graddau cymariaethol. Dywedir yn briodol, dyn byr, dynes fel; ond gwelir ffurfiau anghywir fel dynes ferrach, dynes ferraf; ffordd ferrach, ffordd ferraf. Yr hyn '-sy'n iawn yw defnyddio'r un a'r unrhyw ffurf- iau gydag ansoddeiriau gwrywaidd a benyw- aidd yn y graddau cyfartal, cymharol, ac uwchradd, e.g., dynes fer, dynes fyrred, dynes fyrrach, dynes fyrraf; y mae Morfudd yn fer, y maeDyddgu fyrred a hi y mae Gwenhwyfar yn fyrrach na'i dwy ehwaer ond Arianrhod yw'r fyrraf ohonynt oil. Dyma ddigon, Mr. Golygydd, am y tro hwn. Aberystwyth D. SAMUEL Englyn, wir! .1 At Olygydd Y BRYTHON I SYR,-Wedi bod yn ddarllenydd cyson o'r BRYTHON am amryw flynyddoedd, ac yn para i werthfawrogi ei wledd wythnosol o lenydd- iaeth a barddoniaeth, yr wyf wedi mynd i greduersamser bellach nad oes gennyf rith o obaith y deuaf byth yn fardd na llenor o safon Y BRYTHON. Ond yr wyf yn caru barddon- iaeth gymaint fel y rhoddwn unrhyw beth a feddaf pe llwyddwn i gyrraedd safle digon da i'm cynhyrchion weled goleu dydd yn rhywle. A chan gredu fod Y BRYTHON yn safon, hwyrach y caf wybod gennych, neu gan rai o'ch gohebwyr angirif, os ydyw'r pedair llinell isod yn deilwng o 'r enw 'englyn. Ymddarigosasant yn un o wythnosolion y De, ac wedi eu cyfrif yn deilwng gan y Golyg- ydd, yr hwn sydd wedi cymeryd iddo ei hun enw barddonol, faint bynnag o'r bardd eydd ynddo. Dyma'r englyn" fel yr ymddangosodd, ac yr wyf yn ei ddanfon yn argraffedig, ynghydag enw'r awdur :— Y KEISER Keiser fyth faedda Lloiger, r Ei fawr rwysg a'i falchder Ffrench, a'r boys, a Kitchener Ystwytha'r cawr a'i gryfder. Llwyncelyn, Manordeilo WILLIAM LLOYD Ac i ddod at y pwynt, os caf ar ddeall fod yr uchod yn englyn cywir ei gynghaneddion a chlir ei syniadau, a thrwy hynny yn rhyw- faint o glod i'w awdur, byddaf yn deall drwy hynny fod gobaith i'm pethau innau gael eu lie ar dudalennau rhai o wythnosolion fy ngwlad waith peth hawdd, yn ol fy marn i, fyddai rhagori ar yr uchod, ond camp fyddai gwneud ei salach.—Yr eiddoch yn gywir, Llandyssul IEUAN I Wil Pen Domen. Y GOL YGYDD AC ANNWYL FBYTHONIAID I GYD,—Dymunaf arnoch anfon i mi eich newyddiadur yn wythnosol, am y chwe mis dyfodol. Bum yn ei dderbyn yn gyson tra yn byw yn y ddinas yma, ond er pan wyf heb ei dderbyn yr wyf yn teimlo fel yn gorfod bwyta fy mara heb ymenyn, yn lie gydag ymenyn ac 61 dant ynddo, yn ol ymadrodd fy nhad yn un o gymoedd Eryri. Y fo, fel finnau, yn bur hoff o'r lluniaeth anhebgor, yn enwedig pan yng nghynhaeaf gwair y byddai yn Lladd gwair a phladur drom Ar weirglodd lom fynyddig, A throellgoryn yn galed iawn, A'r wana'n llawn o gerrig Ac ni chaf arfod yn fy myw Gan fonau eithrin- ffyrnig. Pa fodd y mae Wil Pen Domen yn dod ymlaen yn y gwledydd yna bellach ? Y mae lie i gredu y bydd Wil druan wedi diwyno'i ddwylo a'i bopeth yn ddychrynllyd cyn y rhydd i fyny geisio mynd i ben y domen. Blwyddyn newydd dda i chwi i gyd,—bu bron i mi ddweyd end d-l y wasg," end nid oes angen, gan nad yw'n galw yna'n ami.— Ydwyf yn gywir, RICHARD ROBERTS 951 Coron Street, Denver, Colo, U.S.A. Rhag. 19eg, 1914 I Cofio'ch hen 'athro Ysgol !SuI- Mr. John Evans, M.A. I At Otygydd Y 13RYTHON I SYB,—Da y gwnaethoch yn y rhifyn di- weddaf roddi i ni eich hatgofion am y gwr da hwn,—yr oedd yn llawn deilyngu eich teyrnged, a gwych o beth yw gweled rhai ysgrifenwyr, ac ambell olygydd yn eu plith, yn anrhydeddu coffadwriaeth eu hen athraw- on yn yr Ysgol Sul. Nid oedd dim perthynas gwaed rhwng yr athro o Groesoswallt a'r gwr o'r un enw, y Parch. John Evans, a adna- byddid yn gyffredin dan ei enw barddol, 1. D. Ffraid. Un o Aberystwyth oedd yr athro, mab i ysgolfeistr enwog iawn o'r un enw, a thad Mr. John Rhys Evans, M.A., prif- athro Ysgol Sir Porthmadog; a'r tri yn ysgolheigion tan gamp ym mhethau cyfrin Rhif a Mesur, y cyntaf wedi ei adolygu gan Mr. Griffith Davies, yn Llundain yr ail gan ei dad, ac wedi hynny gan Proff. Tait yn Edinburgh a'r trydydd gan ei dad yntau, ac yn ddiweddarach gan athrawon yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, a Choleg Crist, Caer- grawnt. Buoch yn dra hapus, Mr. Golygydd, yn cyplysu enwau Mr. John Evans ac 1. D. Ffraid, a Milton gyda'i gilydd, oblegid hoff fardd y cyntaf oedd Milton, a gallai adrodd cannoedd o linellau o Paradise Lost, ac o gyf- ieithiad I. D. Ffraid. Clywais Mr. Evans amryw droion yn adrodd llinellau o'r gwreidd- iol, ac yna yr un llinellau wedi eu troi i'r I Gymraeg fel y'u ceir yng Ngholl Gwynfa gan 1. D. Ffraid. Dyma ddau ddernyn a glvwais ragor nag unwaith,—y cyntaf lie mae'r bardd yn cyffwrdd at y byw wrth gyfeirio at ei ddallineb,- (Paradise Lost, iii., 40-45) :— Thus with the year Seasons return, but not to me returns Day, or the sweet approach of even or morn. So much the rather thou, Celestial Light, Shine inward, and the mind through all her powers, Irradiate there plant eyes all mist from thence Purge and disperse, that I may see and tell Of things invisible to mortal sight." Cyfieithiad I. D. Ffraid :— Ond dychwel ni wna dydd i mi na gwfin Diriondeg hwyr a bore yn agoshau, Na threm ar wanwyn mewn blodeuawg wrid Na rhosyn haf, na diadellau'r maes, Fel y gwelwyf ac y traethwyf bethau sydd Yn anweledig byth i farwol drem. Ond ei hoff ddyfyniad, a adroddai'n ami, oedd yr un a ganlyn a welir yn yr un llyfr (iii) o Goll Gwynfa, llinellau 343-371 yma mae Milton ac I. D. Ffraid fel pe baent yn rhagori arnynt eu hunain,— No sooner had the Almighty ceased, but all The multitude of angels, with a shout Loud as from numbers without number sweet As from blest voices, uttering joy, Heaven rung With Jubilee and loud Hosannahs filled The Eternal regions. No voice exempt, no voice but well could join Melodious part, such concord is in Heaven. Ycyfieithiad Can gynted tawai'r Hollalluog Dad, Yr holl angylaidd dyrfa, gyda bloedd Uchelsain, megis can afrifed rif, Per, megis lleisiau gwynfydolion pur, Gan lawenhau adseinient nef y nef, A iwbili a sain hosanna cryf A lanwent holl dragwyddol froydd gwawl: Tua'r ddwy orsedd plygant gyda pharch, A chyda myg addoliant, bwriant oil I lawr eu heirdd goronau, yn y rhai Y rhoed ymhleth anfarwant cain, ac aur Anfarwant cain, blodeuyn unwaith oedd Yng Ngwynfa gynt, wrth bren y bywyd teg, Yn dechreu agor; Un llais nid oedd nad unai yn y sain, Y fath yw'r cydgord llawn sydd yn y nef." Yr oedd rhyw gydnawsedd hyfryd rhwng Mr. Evans a Milton a'i gyfieithydd, a esboniai paham yr o idd mor hoff o 'r ddau. Fy syniad yw y gallai Mr. Evans adrodd cymaint o Mil- ton ag a allai Macaulay, a gwyr pob lienor am allu'r gwr hwnnw i gadw popeth a ai unwaith i mewn i'w eof ehangfawr. D.S. Yn eisiou 0 athro gohebol. I I At Olygydd Y BRYTHON I Syn,-Beth amser yn ol, ymddangosodd llythyr dan y pen uchod yn eich papur gwych. Tybiais wrth ei ddarllen y buasai amryw ar unwaith yn barod i gefnogi'r syniad rhagorol o gael athro gohebol i ddysgu Cymraeg ond er fy syndod, nid atebodd neb. Er hynny, pwy na theimla fod cais eiddgar Un am Ddal Ati am gymorth i ddeall iaith ei fam ynghanol anfanteision amgylchedd Seis- nig yn deilwng iawn o'n hystyriaeth ac amlwg yw na throir ein brwdfrydedd tros y Gymraeg i'w bwrpas eithaf nes y gwneir a gais. Mr. Golygydd, yr ychych chwi yn selog a medrus mewn lledaenu gwybodaeth o'r hen iaith, rhowch wth i'r cwch hwn i'r dwr, dachwi. Defynnog, pa le yr ydych chwithau? Oni all Cymdeithas yr Iaith Gymraeg afael yn yr awgrym ? Os yw'n anodd cael arian at y gorchwyl, diau y gwnai'r disgyblion eu rhan oreu medrent yn y cyfeiriad hwn a phe hysbysebid am athro sicr y ceid gwr cymwys a gyflawnai'r gwaith yn bennaf er mwyn yr iaith ac nid er mwyn elw. Yr hyn sydd eisieu, gredaf fi, ydyw awdurdod Cymdeithas. yr Iaith Gymraeg tucefn i athro, a rhoddi congl i hysbysebu'r mater yn gyson mewn papur Cymreig ei ysbryd fel Y BBYTHON. GWR A GAR Y GYMRAEG o
I Llith Glannau'r Afan.
I Llith Glannau'r Afan. Cerddi'r Ymgnawdollad. DAETH y Nadolig i'r Glannau hyn yn SA&U carolau Bethlehem,-ffurfid yn wahanol gwmnïau" yn oriau man y bore bach," gan fyned. oddiamgylch o heol i heol i ganu Cerddi r Ymgnawdoliad, a melys iawn oedd eu sain rhagor rhyfelganeuon y dyddiau echrys hyn. Cafwyd cyfarfodydd gweddio yn yr addoldai yn gyffredinol am naw ar gloch i Gofio'r Geni, "-y ffurf newydd ar yr hen blygain, mae'n debyg. Yn y Tabernacl (M.C.), Cwmafon.—Caed cyfarfod cystadleuol yn y prynhawn, dan arweiniad y gweinidog-y Parch. J. Owen Jones (Hyfreithon), yr hwn a feirniadai'r farddoniaeth a'r traethodau hefyd. Beirn- iadwyd y gerddoriaeth gan Mr. Dan Waters, L.T.S.C., Penuel, a'r adroddiadau gan Mr. Wm. Williams, Seion. Caed cyfarfod bywiog a chystadlu da. Caed cyngerdd diddorol iawn yn yr hwyr. Y rhan gyntaf ohono yn amrywiaeth o ganu ac adrodd gan dalentau Ileol. Yr oedd teulu o Belgiaid yn bresennol, a chawsom unawd yn eu hiaith gan ddau ohonynt yn wirioneddol dda; a dyna glap cynnes a gawsant am eu can. Canodd y plant y La Marseillaise yn y Ffrangeg, er mwyniant mawr i'r ffoaduriaid druain. Yn eilran y cyngerdd, canodd plant y Gobeithlu y gantata. brydferth, wych ei gwers, Buy your own cherries, a chynorthwywyd yCor gan chwydd- lusern ardderchog a ddangosai luniau. Yn Seion (A.) yr un noson, caed Service of Song gan G6r y Gobeithlu. Gwledd oedd clywed y plant yn canu'r gantata fwyn The Children of the Bible, dan lywyddiaeth y gweinidog, y Parch. D. Morlais Davies. Ym Mhenuel (B.)—Dydd y Nadolig a'r dydd Sadwrn canlyncl, caed cyfarfodydd cymysg o bregethu, mawl, a gweddi, sydd bellach yn arferiad didor yma er adeg y Di. wygiad. Y Parch. Trefor Jones, Llanelli. oedd y cennad eleni, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. R. S. Morris, gweinidog parchug yr eglwys, sydd bob amser a'i ysbryd cynnes yn ceisio cadw'r tan i losgi ar yr allor. Cyfarfodydd hwylus iawn, a llawer o eneiniad arnynt. Yn Tabor (B.), nos Nadolig, caed cyngerdd i berfformio Emmanuel (Chas. D. Winton), gan G6r y Gobeithlu, a'r nos Lun dilynol, cafwyd hi eilwaith. Llywyddwyd y ddwy noson gan y gweinidog, y Parch. D. Giles Williams. Felly gwelwch y cafodd y Cwm ddigon o ddar- pariaeth ar ei gyfer dros yr wyl. 0/  0/ I- /o Grawn Judas Maccahseus rhagor us y I. Tipprary." Perfformiwyd yr oratorio boblogaidd Judas Maccabaeus gan G6r y Tabernacl, Cwmafon, nos ola'r hen fiwyddyn, Rhag. 31ain, dan arweiniad Mr. David Williams, A.C., yn cael eu cynorthwyo gan y datgeiniaid enwog Madame Bessie Morris, Rhydaman, soprano Miss Ethel Jakeman, Caerdydd, ail soprano; Mr. Gwilym Jones, Ystradgynlais, bass; a Mr. Tudor Davies, Porth, tenor. Drwg oedd gan bawb ddeall fod organydd y C6r, Mr. James H. John, "yr organydd dall, yn analluog i ganu'r organ y noson bwysig hon, oherwydd afiechyd. Yr oedd wedi codi'r llyfr i'w gof yn llwyr, ac yn syndod i bawb y gallu arbennig a amlygai ar yr organ gyda'r cyfanwaith godidog hwn, fel mai siom fawr iddo ef a'r gynulleidfa fawr yn y Tabernacl oedd ei weled yn eistedd yng nghongl y llwyfan heb allu rhoddi ei dalent ddisglair ar waith. Sicrhawyd organydd medrus i gymryd ei le, aef Mr. Barlow, A.R.C.O., Abertawe, organ- ydd Madame Patti, Craig y Nos. Wel, Mr. Golygydd, fe garwn yn fawr pe buasai eich cerddor-ohebydd chwi, Mr. G. W. Hughes, yn bresennol i anfon i chwi sylwadau ar y canu y ncson hon. Carwn wir achos nid wyf fi fawr ogerddor fel ag i sylwi'n deilwng ar y canu; ond fel sylw cyffredinol, gallaf ddweyd i'r gynulleidfa fawr oedd yno gael gwledd amheuthun, yn enwedig pan ganai. Mr. Gwilym .Tones Arm, arm ye brave," a'r C6r yn ateb, We come, we come, in bright array a phan ganai Mr. Tudor Davies yr unawd orchestol How vain is man gyda'i lais clir a'i ysbryd heriol. 0 na buasai Ymherawdwr yr Almaen mewn rhyw goiigl yx gwrando. How vain is man who boasts in fight The valour of gigantic might r And dreams not that a hand unseen Directs and guides this weak machine. Pa ryfedd i'r dorf fynnu iddo ail ganu ac yna ei ganu gwefreiddiol ar Sound an alarm, your silver trumpet sound, And call the brave, and only brave around Who listeth follow-to the field again- Justice, with courage, is a thousand nlex. Onid yw'n gan ymrestru ddiail ? Clywodd y Cor yr Alarm," ac atebent gyda nerth fel awn dyfroedd yn torri :— We hear, we hear, the pleasing, dreadful call And follow thee to conquest. If to fall For laws, religion, liberty we fall. Cymharwch hynyna am funud a Tipperary ein milwyr heddyw, a daliwch eich hanadl! Onid yw'r geiriau uchod yn fynegiant clir o'r pam yr ydym yn rhyfela ? Yr oedd canu'r cor a'r unawdwyr yn odidog drwy y gwaith hyd nes y deuwyd at y ddeuawd a fynegai eia teimlad oil, 0 lovely peace. Pa ryfedd i'r corws "Hallelujah, Amen," gael ei ganu .gyda'r fath arddeliad ar y diwedd ? Canmol cyffredinol sydd ar y cyngerdd, ac yr oedd y trefniadau yn glod i'r ysgrifennydd, Mr. Philip Williams. Brynheulog. Yr oedd pump o aelodau y Cor eisoes wedi ateb galwad yr unawd Arm, arm, ye brave," trwy ymuno a'r Fyddin. I YSPRYD STV/NCYN PENHYDD