Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Have you been to the GREAT SALE now proceeding at the PIONEER Complete 9 to 19 BOLD ST., 71 Furnishing Stores, LIVERPOOL. e If not, do so at once, as Bargains abound infall Departments. —————————-———— Either for CASH or by payments OUT of INCOME if desired.
FY MHUMP I
FY MHUMP I ssfjy pum^prj £ 3tawr a^glywais yng I 1 Nihymiafi'rjSulgwya. I 71 I GWR canol oed yvr ef, gloewddu ei bryd ym gwisgo gwydrau eiddil a gwannaidd iawn yr olwg arno, a gresyn fod enaid mor ddisglair mewn pabell mor fregus. Gorfu idd9 ffoi o'r Brifddinas i'r d ref deg ar ael y Ili', ac y mae ar fin cymryd ei hedfan o'r fan honno eto. Deheuwr yw: hawdd dywedyd hynny oddi' wrth y modd y cymysga'r u a'r i. Mae ei lais ynddwfnondhyglyw; eidraddodiadynaraf, a'i iaith yn goeth a dethol. Gwasga'i neges at gydwybod ei wrandawyr ac onibae ei wen- did corff, buasai ei rym yn orchfygol; mae fel pe'n dweyd weithiau-" 0 na buasai gennyf lais i waeddi Dyfynna'n helaeth o awduron ac arweinwyr y dydd, ac nid esgyn aeb i bulpud yn fwy up-to-date, yn ystyr oreu'r gair. Nid oes dim pertrwydd ynddo, fel mewn llawer o'r Hwntws; yn hytrach, pwysleisia ddifrifwch bywyd, a dyg ei genad- wri 61 cyfathrach agos a'r pethau nad adnabu'r-byd." Galwad gref ar yr Eglwys oedd ganddo heno, yn seiliedig ar weledigaeth o Lyfr y Datguddiad am iddi fod yn seren oleu fel y bwriadodd Duw iddi fod, ac nid yn ganhwyllbren fyglyd, gymysglyd, yn gwneud cyfaddawd a'r byd A call to the Church to clear the deck for action." Amseroedd enbyd yw'r rhai yr ydym yn byw ynddynt cedwir mi'n effro'r nos i holi Ai hwn yw'r byd y bu Crist farw ynddo ? y traddododd ei Bregeth ar y Mynydd ? ac y bu Cristionogaeth yn gweithio am ugain canrif ? Er i ddyn yn Llundain ddywedyd One good thing will eome from this war—we shall hear no more about Jesus Christ," nid yw Cristionogaeth wedi methu. Gwareiddiad masnachol, anianol, ariangarol, sydd wedi methu. Ond a ydyw'r Eglwys wedi bod mor oleu ag y dylasai ? Paham y mae'r byd mor hir yn rhoiprawf arGristionogaeth ? Paham y caift ysbryd masnachol y byd, gyda'i chwant am raian a thiriogaethau, gymaint o raff ? Rhaid i'r Eglwys ymloewi, er mwyn i Grist allu ei defnyddio. er achubiaeth y byd. Ar y ddaear y mae'r Eglwys Berffeithiedig i fod, nid yn y nefoedd,—nid oes dim o'i heisu yno "A myfi loan a welais y ddinas sanctaidd, Jeursalem newydd, yn dyfod oddiwrth Dduw, i waered o'r nef." II [ Llawenydd a feddiannai bawb o'r dyrfa wrth weld y gwr hwn yn esgyn i'r pulpud ar. ol ei gystudd caled. Da gennym ei weld yn edrych cystal, er fod y gwallt modrwyog wedi ariannu, a'r cam heb fod lawn mor chwim. Tybiais ar y cyntaf fod ei lais wedi gwanhau rhagor a fyddai; ond balchiais fel yr aeth ymlaen gyda'r hen berseinedd. Blynydd- oedd lawer a gaffo i fynd yn ei rymustra hwn," oblegid os cafodd rhywun erioed ddawn y weinidogaeth," dyma'r gwr.- Yn deg i edrych arno," ac yn fwynhad di- lestair i'w wrando llais per, parabl croew, ystum urddasol, iaith gyfoethog, a meddwl fel cawr. O'r dechreu i'r diwedd, mae'n feistr ar ei waith, heb ddim yn mennu amo; mae yn ei aflaith wrth bregethu,—dyna'i fwyd a'i ddiod. Gall daro'n ofnadwy pan fyddo eisi au, a rhoddodd ergyd neu ddwy o'i wn mawr heno un, wrth son am fydol- rwydd pobl Corinth Nid meddylwyr oeddynt, ond masnachwyr." Un arall, wrth ladd cyfeiliornad "Wrth gwrs, mae diwin. yddion amrwd yn dweyd peth felly, ond rhai amrwd ydynt." Beth pe clywsech y pwyslais deifiol! Er ei lymder a'i watwareg, mae ynddo wythien gref o dynerwch Pwy sy'n dioddef mwyaf,—y bachgen yn y ffosydd ynteu'r fam gartref ? Nid oes gennyf fi ddim petruster y mae dioddef mawr, nid yn Ffrainc, ond yn y bythynod, lie y mae pobl unig yn meddwl o hyd am yr un peth, a rhyw ddisgwyl ofnadwy.' Dyma sylw arall, a rhyw hush llethol yn ei ddilyn Buoch yn edrych am y dyn oedd wedi colli ei iechyd, da iawn ac am y dyn arall oedd wedi colli arian. da iawn eto. Yn Sir Fon acW, arferant fynd i edrych am ei gilydd pan wedi colli anifeiliaid, a Christionogol yw hynny. Fydd- wch chwi'n ymweled a dyn fydd wedi colli ei garictor ? Chwi'r chwiorydd yma, fyddwch chwi'n mynd i edrych am ambell eneth fydd wedi disgyn i waradwydd ? Ynteu ym- sancteiddio y byddwch, achroesi eihenw allan o'ch visiting list. Y Nef a faddeuo i chwi Pe buasai Duw yn dechreu croesi allan fel yna, 'fuasai neb ohonom ni'n aros." Dyma bre- geth gyforiog o ddiwinyddiaeth loew, a gymhwysid at fywyd beunyddiol. Ac medd ai tua'i-diwedd Ein gwaith ni yw nid bod yn sicr yr awn i'r nefoedd, ond paratoi ein hunain ar ei chyfer. Nid yw'n anodd iawn mynd ynop-y mae gras Duw mor anfeidrol, credaf y bydd pawb yn y nefoedd ond y rhai fydd wedi mynnu bod yn golledig. Ond y cwestiwn yw, I faint o nefoedd yr awn ni ? c Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin.' III Bore Sul ydoedd, a'r cennad yn hollol ddieithr i mi, na wyddwn ddim amdano ond ei enw. Dacw fo, yn wr lluniaidd, hoew, offeiriadol ei wisg wyneb gwelw efrydydd, a gwallt du ar dalcen llydan dymunol iawn ei wedd, ac ymddengys yn wr siriol, hywaith ei lais yn oeraidd braidd, a'i ystum yn aflon- ydd. Nis gellir yn hawdd ddywedyd mai Deheuwr ydyw ond defnyddiai braidd ormod o eiriau Saesneg, yn enwedig pan ellid rhai Cymraeg 11 awn cystal Ar y dechreu mae'n ddigon did arc ond cyn pen ychydig funudau, cyfyd yr aeliau, fflachia'r llygaid, a thania i'w neges; ac am ryw dri chwarter awr, cawsom un o'r pregethau mwyaf ysbryd- ol ei chenadwri a grymus ei thraddodiad. Treiddia llygad y gwr hwn ymhell bell i'r Tudraw, a thraetha'i weledigaeth ag angerdd enaid. Mae ynddo gyfuniad godidog o'r cyfriniwr a'r proffwyd tra'r oeddwn yn myfyrio, enynnodd tan ynnof." Gall nad yw'r boblogaidd, ond 'waeth befo hynny nid oes yma ddim goglais chwerthin na chwar- ae ar deimlad, yn hytrach apel unionsyth at y deall a'r galon, ac ymgais i gael gafael ar y dyn yn y gwrandawr. Ei destyn oedd :I Ereill a ddirdynnwyd, heb dderbyn ym- wared fel y gallent hwy gael adgyfodiad gwell" pobl wedi methu i bob golwg, ond yn wroniaid, am fod eu ffydd nid yng ngallu Duw i waredu, ond yn Nuw ei hun. Pan fo dyn yn ysgrifennu nofel, mae'r ymwared yn dod pan fydd ei eisiau, am fod y plot i gyd o fewncloriau'r llyfr, a'r un modd mewn drama; ond nid fel yna y mae ffeithiau bywyd na, ysywaeth, ceir llawer o siom a methiant. Tynnodd ddarlunbyw o'rllanciau a'rgwyryf- on a ferthyrid yn Rhufain; ni ddeallai'r ymerodraeth mohonynt. Arunllaw, yroedd llawenydd bywyd,—blodau'r gwanwyn yn gwenu, llais y durtur yn canu, a nwyf ieuenc- tyd yn rhedeg trwyddynt; ar y llaw arall, yr oedd angau yn hyll a chreulon. Offrwm ychydig o berarogl i'r ymherawdr a fuasai'n ddigon i osgoi marwolaeth ond na, wyneb- asant angau yn eofn, gan gymryd ei fesur a'i bwysau.a dweyd a her sanctaidd ar eu gwefus- au, 0 angau, pa le mae dy golyn ? Mae rhai llanciau wedi dod o Gymru i Lundain acw, ae i Lerpwl efallai, ac wedi prynnu ymwared do, ond wedi rhoi staen ar eu cymeriadau a chraith ar eu henaid ac fe fydd y graith yn aros pan fo'r ymwared yn mynd yn filam yn y goelcerth olaf. Chwi welsoch y darlun o'r Kaiser a breni n Belgium ynedrych ary wlad anrheithiectig o aansawai y gelyn "Seal" meddai'r ymherawdr, "you have lost everything." "Yes," atebai'r brenin, but my soul." Ac a welwch chwi'r diafol-yr Hun cyntaf-yntemtio'rarglwydd lesu i dderbyn ymwared trwy droi'r cerrig yn fara ? Na wnaf," meddai'r Gwaredwr, mi fyddaf farw o newyn cyn y torraf fy nghytundeb a 'Nhad." Daeth y demtasiwn yn ol yn yr ardd ac ond i lesu Grist ddweyd gair, yr oedd deuddeg lleng o angylion, pob un a'i gleddyf wrth ei glun, yn barod i'w waredu. Ni ddywedodd ef mo'r gairhwnnw, nadd diolch i Dduw fe yfodd y cwpan i'r gwaeloo, d," "heb dderbyn ymwared." Paham y mae Duw yn gadael i'w blant ddioddef ? Ni wn i ddim. Efallai y byddi farw "heb dderbyn ymwared ond. cofia, nid dyna act olaf drama Duw yn ei ymwneud a dy enaid. Gelli golli dy freuddwydion, colli dy ddymuniadau, collidy weddiau eto, plant caethion Babilon" ydynt, "ddont adre' o don i don; cei wledda'n lion" arnynt, "mae'r dydd gerllaw." Fe'u rhydd Duw hwy i gyd yn ol i ti, oil yn eu gynnau gwyn- ion"; ac mae'n fwy o beth hyd yn oed i Dduw roi breuddwydion sant mewn gynnau gwynion na rhoi' r sant ei hun. Grymus oedd yr apel ar ddiwedd y bregeth Credwch lai mewn ymwared a mwy yn Nuw." IV I Dyma wr dieithr iawn etc dyn bychan crwn, cryno ei wisg a'i drwsiad. yn ddesiIus ddinam. Deheuwr yw hwn eto,-brad.- ycha'i hun yn y frawddeg gyntaf a dyma'r pertrwydd Hwntwaidd yn ei rym. Mae'n fywiog danllyd ei bregeth yn wreichion byw drwyddi, ac yn ffraeth ryfeddol rai prydiau. Ceir pawb wrth eu bodd yn gwrando, na dim perygl i neb gysgu, hyd yn oed ar brynhawn Sul: dyna rinwedd go fawr. Mae ganddo neges gysurlawn, a thraetha hi gyda gwres. Annog ni i foliannu Duw os yw Duw'n werth ei gael, mae'n werth ei ganmol 0 na foliannent yr Arglwydd." Mae ambell un yn y De acw yn gyndyn iawn i foliannu Duw yma, ond yn ei bygwth hi'n ofnadwy pan eroesa i'r Ochr Draw, a chael telyn aur. Ond Ces delyn tu yma i angau meddai'r emyn; gwell i ti ymorol amdani'n awr, i ti gael ei chanu wrth groesi, i foddi tipyn ar swn yr hen afon. Ni wnei di lawer ohoni gyda'r delyn yr Ochr Draw os na byddai wedi d'ech- reu ei thrin yr ochr yma. Paham yr ydym i foliannu Duw ? Am ei fod wedi ein hoffi. "Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl." Beth barodd iddo ein hoffi erioed ? Oher- wydd yr hyn a wnaeth drosom drwy ei Fab, ac oherwydd yr hyn a wna ohonom yn y man "efe a brydfertha y rhai llednais a iachawdwriaeth' Nid paentio y mae Duw nid rhoi lliw y tu allan, ond rhoi bywyd y tu fewn. Un gladdedigaeth sydd eisiau i rai pobl, ac yna ni bydd son amdanynt mwy ond am y rhai a brydferthwyd ag iachawdwr- aeth, mae cymaint o berarogl bywyd amynt, rhaid claddu hanner y gymdogaeth cyn yr anghofir hwynt. v Beth a ddywedaf am hwn ? Dyma'r anwylaf, ond odid, ymysg meibion Cymru. Mor hoffus yw ei wyneb, a rhyw wawr wen oleu" arno, er fod llenni tywyll ar y ffenestri. Motto ei fywyd, gallwn dybio, ydyw Bydd- weh lawen yn wastadol" efe a Gweinidog Arfogaeth yw'r ddau chwarddwr mwyaf calonnog yng Nghymru, medd un gwr cyfarwydd. Mae'r pruddglwyf a'r "felan" yn gorfod ffoi o'i wydd eto nid oes yma un arlliw o wamalrwydd na diffyg urddas. Mae ei iaith yn swynol ddigymar llafar gwlad tlws, rhamantus, cartrefol; ar un llaw, yn cadw rhag rhodres mursenaidd na chlogyrn- weh poenus ar y llall, rhag bratiaith sathr- edig ond ynllifo mornaturiol ac esmwyth a chornant y mynydd a chawn ambell air ac ymadrodd a ehymaint o arogl gwlad arno nes bod yn amheuthun mawr i ni, a dwyn y bwthyn a'r buarth, y pant a'r pistyll, y wern a'r weirglodd, yn fyw o'n blaen. Dyma un neu ddau a gafwyd heno uwch sort o bobl dduwiol"; "lludw enhuddo"; "dal pen rheswm cogio malio dim rhawn- en pen eu tennyn." Ffres yw ei genad- wri bob amser, a phob dam ohoni wedi ei fwydo yng nghalon radlon y pregethwr. Er na erbyd y drwgweithredwr, gwell ganddo ganmol na chemodio, a dwg rawnwin melys i'r saint. Nid dieithr iddo ef yw y pethau nid ysgydwir, ac y mae efe yn gweled y tir pell." Ein hannog i gredu'n iawn a wnai heno meddu ysbryd ffydd a thestyn ffydd. Mae eisiau inigredugormod i dewi; yr ydym yn credu pethau digon mawr i droi Lerpwl a'i wyneb i waered, ond ein bod yn eu credu'n ddiniwed,—yn rhyw gogio credu. Ydych chwi'n credu Cyffes Ffydd y Methodistiaid ? Wel, ydwyf, am wn i." Ie, da y dywed- soch chwi am wn i; 'wyddoch chwi ddim beth sydd yn ei hanner. Robert Roberts, Clynnog, yn y Capel Uchaf un tro, a'r hwyl wedi rhedeg yn uchel; a chan ei fod yntau'n gosod cymaint treth ar ei gorff gwannaidd, rhai o'r brodyr yn ei dynnu o'r pulpud gan ddweyd, Paid, Robin bach, neu mi dy leddi dy hun," a'i gario i'r t-y capel; ond wedi cyrraedd i'r fan honno, fe adroddodd ddarn o bennill (nid wyf yn sicr iawn ohono), Fe'm dygwyd i i Seion Duw, P'odd y galla'i dewi a s6n ? nes aeth yn saith waeth yno nag yn y capel. Oes eisiau Ysgol Sul a chyfarfod darllen ? Oes, er mwyn gwreiddio'r ieuenc- tyd yn y pethau iawn, fel na waeth ple'r elont wedyn, y byddant yn credu. Y mae credu ym marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist yn werth ei bwysau ymhobman. Ac nid rhyw ffisig ar gyfer marw ydyw credu yn atgyfodiad Mab Duw, rywbeth fel extreme unction y Pabydd. Na, y mae iddi werth mwy na hynny. Dywedir am y ddau dyst yn llyfr y Datguddiad A'u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a'r Aifft (Jerusalem oedd hi, cofiwch): lie hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni. Beth yw ystyr hynny ? Wel, y mae pawb sy'n marw yn yr un gym- dogaeth ag Iesu Grist yn sicr o atgyfodi. Hynny o fentar sydd yn dy fywyd di er mwyn gwirionedd a Duw, mae'n cael ei gyfrif yn ymyl marw'r groes y milwr sy'n aberthu ei fywyd ie, a'r bachgen arall sy'n gwrthod mynd os yw'n meddwl o ddifrif na ddylai. Ac nac ofnwch rhag y rhai a allant ladd y corff "—dyna eithaf hyd eu tennyn. Dyna frasolwg ar y pum cennad, a rhai defnynnau i lawr o phiolau eu cenadwri os cam-gyfleais neu os gwyrdroais unrhyw beth, erfyniaf faddeuant, gan na wnaed o fwriad. Mawr ddaioni ac eneiniad a dy- wallter arnynt eto oblegid amdanynt hwy a'u tebyg gellir yn ddibetrus ddywedyd,- Y rhai hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iach- awdwriaeth. J.D.R.
Clep y Clawdd sef Clawdd Offa
Clep y Clawdd sef Clawdd Offa I [GAN YR HUTYN.] .1 TN AROS ER WEDI MTND.—Hwyrfrydig iawn y sylweddola'r Clawdd golli ohono Iarll Kit- chener, y pen faes-lywydd. Teimlir rywfodd ei fod gyda ni o hyd, er ei ymadawiad mor ddisyfyd. Distaw a dirgel oedd yn ei fywyd, ac nid llawer mwy felly efe yn awr yn y distawrwydd mawr yng ngwlad y dirgeledigaethau. Erys ei gampwaith am hir, a'i eiriau sen i'r milwyr sar. Trist ei golli hefyd, y modd y bu. Disgwyliem orffen gyrfa mor eithriadol mewn modd hollol wahanol a gwrhydrol. Ond och fel hyn y bu, ac ofer ymladd yn erbyn y symbylau damweiniol hyn. Dywed rhai nas gallai ei ddiwedd fod mewn gwell cydgordiad a'i fywyd, ond ffwlbri yw dweyd peth felly pan y mae pob mynwes yn gwrth- dystio. Carem gael ei gorff ym Mynwent y Mawrion, sef Westminster Abbey ond yn lie hynny, yn nyfr- oedd oerlas a chyffrous yr Orcnis y'i ceir. Rhyfedd law y Llyw Mawr. PLISMTN A'R CAPEL.-Dywed y Glep mai anfynych y gwelir heddgeidwad mewn capel, nac mewn un lie o addoliad. Ai gwir hyn ? Mae rhai eithriadau tua'r Clawdd, ond eithriadau eithriadol ydynt. Dywedir fod un ffyddlon iawn, ac efe yn rhingyll, ac yn un o'r goreuon. Da was Sut nad yw heddgeidwaid am foddion gras ? Dywed y Glep fod yr awdurdodau yn wrthwynebol. Os gwir hyn, mae'n andros o beth. Pa beth rheitiach i gwnstabl na moddion gras ? Rhaid chwilio. i hyn. Elis Dafis, A.S., a ddowch chwi lawr? Mae yma beth wmbredd o'ch eisiau. Ond siwr i chwi fe wna ein haelod brisg, E. T. John, A.S., hyn i ni cystal a neb. Chwarae teg i'r plismon gael gofal am ei enaid ei hun. Rhaid cael dynion goreu'r wlad yn y force, ac uwch eu pen. T BOCSIO BARNOL.-Dyma beth o'i hwyl ydyw hwn sydd yn codi ei ben yn ein plith tua'r Clawdd. Dyma'r sarhad mwyaf ar y bechgyn certh yn y ffos. 'Does ond Ilyfrgwn yn ymblesera mewn coegymladd a slacers a sgylcers a fydd yn cefnogi'r bregbeth hyn. Coded y wlad ei llais yn erbyn, a' r pulpud ei gri. Gwelafynypapurau eisoes hanes un 'gethwr crai yn dyrnu'n chwyrn ar y Clawdd yma ar y pechod hwn-parod i'n hamgylchu. Os ca hwn ei ffordd, fe ysa ysbryd ein hieuenctyd. Dyma'r adeg i'w dorfynyglu. SWN EISTEDDFODAU.—Gwelir hysbysiadau amryw am eisteddfodau o bobtu'r Clawdd yma yn ystod misoedd yr. haf presennol, ac hefyd y gaeaf dyfodol. Nid sicr y Clawdd yn ei feddwl o ddoeth- ineb hyn y dyddiau rhain. Cynhelir y rhan fwyaf ohonynt er codi arian ac nid er codi lien a gwlad. Nid da hyn. Gresyn puteinio'r Eisteddfod. Ai nid gwell fai gohirio y rhain hyd nes daw y bechgyn yn ol ? Sut y gallwn ganu a hwy dan dan ? Mae angen ail ystyried pethau. LLTSDAD ENWOG.-Mae Ilawer ffordd o hys- hysu a chyhoeddi pregethwyr,—cyhoeddir rhai fel graddedigion, ereill fel beirdd enwog, ereill fel paffwyr ac ereill fel deillion, etc. i ond hysbysir tua'r Clawdd ym, y dyddiau hyn beth newydd-sef pregethwr fel llys lad enwog Mae, meddir, yn llysdad i A.S., i D.L. ac i B.D. Dyma enwogrwydd heb ei fath, mi gredaf. A oes ail iddo yn rhywle ? Rhaid ei fod yn bregethwr da. Daw llu i'w wrando, gewch chwi weld | UNO CIWRAD MEWN CARIAD.-SyrthWd carad mewn cariad a meinwen dtos dros y Clawdd. Unwyd y ddau mewn glln briodae yng Ngwraig Sam y dydd o'r blaen,-a Canon Dafi. yn rhoddi'r wers iddynt. Oherwydd trallod y teulu, tawel a distaw oedd yr Oyl a'r hwyl. Dymuna pawb iddynt hir oes a mil. r RHTFEL AC WEDYN.-Testyu darlith y Parch. W. F. Phillips, B.D., yn Acrfair yw'r uchod. Cyfrif cywion cyn deor yw peth fel hyn. Rhaid ennill y rhyfel yn gyntaf. Bachgen a go ynddo yw Ffylips, ond y mae ar y mwyaf ohono yn ei destyn. Arafwch dip)rn I Mae y Rhyfel yn ddigon inni's awr, ceir son am y Wedyn wedyn. Cadeiriwyd, yn ddeheig gan film dwyfedig, neb llai na Dyfed Pa rrÎt Lifftenant glew, un o feib claer Parri'r Sg-^16. CTMANFA GANU BRTlIEBO.-Caed hwyl anarferolyma eleni: yn annisgwyliadwy daeth tyrfa fawr ynghyd, nas gallai neb ei rhifo. Yr oedd 7 canm y flwyddyn hon dan arweiniad gwr ifanc o'r Sowth- Mr. E. T. Dafis, Merthyr Tydfil: gih hapus iawn yn ei ffordd a'i arddull, ieuengaidd a gloywddu ei wedd. Yr oedd canu'r plant y prynhawn yn gampus, a chanu'r cwbl yr hwyr yn ysbrydoliaeth. Da y gwna'r Dosbarth gadw Caniadaeth y Cysegr i fyny. Haedd- ant glod .j I SWN SrRTHIO.-TrewiryClawddyndrwmgan fwledi'r Ellmyn. Mae llu mawr o'n milwyr wedi syrthio. Daw son dyddiol am ereill o hyd. Collir rhai o'r goreuon. Mae galar cyffredinol; rhy ami ydynt i enwi neb. Yr oedd llawer o'n morwyr hefyd yn ymgyrch y Gogleddfor, ond trwy drugaredd ni chollwyd neb ohonynt dan y ddyfndon. Eto cwyna rhai ohonynt am na chawsant gyfle a rhan yn yr ymgyrch. Dylesid codi baneri half-mast ar gorun y Clawdd mewn coffa am y dewrion. COLLI HAFELOC.-Syrthiodd Harry Havelock Williams, Lodge, Brymbo, ar y ffordd ym mreichiau angau y dydd o'r blaen. Tarawyd yr ardal a syndod, oblegid gwr byw a diwyd iawn oedd Hafeloc. Nid oedd ganddo elyn yn unlle, er y dywedai ei fam yn ddifloesgni ar bob pwnc. Car pur oedd i'r tlawd, a dyfeisiai garedigrwydd a'r anghenus. Claddwyd' ym Mrymbo, a daeth tyrfa fawr ynghyd i'r cyn- hebrwng. Caed geiriau melys amdano gan y Cyng- horwyr E. D. Roberts, Brynteg; Morgan Dafis, Brymbo, a Tysilio Jones, y Rhos. Yr lor fendithio'r teulu yn eu dwys alar. TR HOLLALLUOG AR E1 HOLIDAYS.— Credai llawer," medd Esgob LIanelwy yn yr Eglwys yr wythnos o'r blaen, fod yr Hollalluog, fel petae, cyn y rhyfel hwn, ar ei holidays, a'r Diafol yn cael amser goreu'i fywyd, oblegid yr oedd y byd wedi rhoi ei hun i ymblesera, ac nid digon chwe dydd o'r wythnos; halogent y seithfed hefyd, sef sanctaidd ddydd yr Arglwydd." Dywedodd yr Esgob bethau da iawn a sobr, gwell pethau na fydd ganddo'n gyffredin. Yr oedd ei eiriau o berthynas i'r milwyr- syrthiedig a'r rhai galarus yn dyner dros ben. Cred ef (sefyrEsgob)maiymweliadbarnolyr Hollalliiog yw'r rhyfel erchyll hwn, am gamweddau'r oes. Ym- ostyngwn felly mewn sachlian a lludw. 'STEDDWCH TN EICH SEDD.-Mae Mr. Dodd a Mr. Pywel wedi gwasanaethu pwyllgor addysg Sir Ddinbych am flynyddoedd lawer. Nid oes eu hamgenach yn y Sir. Maent yn rhoddi eu goreu i addysg a chrefydd. Ni cheir eu gwell mewn unrhyw wlad. Am hynny, dywedodd y Cyngor Addysg wrthynt unwaith eto-U Steddwch yn eich sedd ni fyn neb ac ni cheir eich gwell. Hyn oedd y farn unfryd. Mae'r Sir yn ddyledus iddynt am eu holl' lafur costfawr a didal. Pa bryd y daw'r dydd' y gwobrwyir hwynt ? Na adawer iddynt ffoi cyn til. r TRIBUNLTSOEDD.-Mae gan y rhai hyn goflaid o waith: eisteddant beunydd. A da yw dweyd y chwanegant ddoethineb at eu cymwysterau ercill. Maent wedi tyneru llawer iawn yn eu hysbryd yn ddiweddar. Gwelant bethau mewn goleuni gwell. Nid oes cymaint cwyn i'w herbyn ag a fu. Pobl ddibrofiad ydynt, ond enillant hyn o ddydd i ddydd. Ca cydwybod hefyd fwy o barch ac ystyriaeth. Pobl ar eu hennill fydd y rhain yn y diwedd maent yn awr wedi cael llawer o addysg. 'Does dim fel profiad. -0-
[No title]
EISTEDDFOD ABER YST W YTH.-Nid oes mwyach ond ychydig amser cyn cynnal yr Wyl Genedlaethol yn Aberystwyth, ac y mae'r Pwyllgor wrthi'n brysur yn darpar. Yn ol pob argoel bydd llawer o gystadlu yn y gwahanol gystadleuaethau, yn enwedig yng nghystadleuaeth y corau merched. Gan fod y brif gystadleuaeth gorawl wedi ei thorri allan mae'r ail gystadleuaeth yn awr wediel chodi'n brif, a disgwylir y bydd ymryson tyn am y wobr. Cynheliryr Eisteddfod ddydd Mercher adydd lau, Awst 16 a 17 a'diwrnod dilynol -sef dydd Gwener, cynhelir cymanfa ganu genedlaethol. Mae cwmniau'r rheilffyrdd wedi addo trenau arbennig argyferyr wyl, ac y mae hynny yn dipyn o ffafr ar hyn o bryd. Bydd Mr. Lloyd George yn llywyddu'r ail ddiwrnod, a chan ei fod yn cymryd cymaint diddordeb yn y Gymanfa, diau yr erys hyd ddydd Gwener. Hyderir y cymerir rhan gyffredinol yn y Gymanfa Ganu, ac y gofala arweinydd canu pob capel ac eglwys i anfon at ysgrifennydd yr Eisteddfod am raglenni'r tonau. Ceir dros hanner cant o donau eidvvy anthem yn y rhaglen, ac fe'u gwerthir am 4d. (Solffa) a 6d. (Hen Nodiant) a chan y bydd galw mawr amdanynt, goreu po gyntaf yr anfonir archeb. Ceir rhestr testynau'r Eis- teddfod oddiwrth y Mri. James Davies a'i Gwmni, South Wales Press, Llanelli,-Sd. drwy'r post. Gwasanaethir yn y cyng- herddau gan Gor yr Eisteddfod, a chan gan- torion uchel iawn ym myd y gan. Cofied y cystadleuwyr fod ys enwau a'r cyfansodd. iadau i fod ynllaw yr ysgrifennydd cyffredinol erbyn y lOfed o Orffennaf.
Advertising
Liverpool Guardian Trade Protection Society 'Phone 4865 Bank. Wires Preoption The Oldest Provincial TRADE PROTECTION SOCIETY A MUTUAL SOCIETY Governed by a Board ol Honorary Directors. or tonus write-F. MEATHER, Secretary, 41 North John Street, Liverpoo M9 155 KENSINGTON,: LIVERPOOL R. W. EVANS, FUNERAL DIRECToa. AU Orders penonally attended to I P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'poel. TSLILF 01919-261 BOOTLIL ITELEPHONE-sys ANFIELD. J. T. JONES, Funeral ?ndcrtokef EVERTON, 42nd55rByrcfc%» EVER TO-N 40  LIVERPOOL. IfFunerals personally arranged to all parts* Why go to Town ? When the ]EI c> c> rx ][' ]F' Shorthand & Typewriting -A.OAi>EM;Tr, 4 TRINITY ROAD, give pupils a practical business training in Shorthand, Typewriting, and General Offlee Routine equal to any City School. Failures. Day and Evening Classes. Anply Principal. BARGAINS.-Underwoods, Remingtons, JJ Yosts, Smith, Premier, Barlocks, BnL- pires, Oliver, Blieks, Royal Standard, from di new condition, See the REX £ 23 woatb for 12 guineas—Longmors, 41b North John Street, I Liverpool, Sole Agency Cavona Portable Typewriters. COOK it TOWNSHEND Special Value this week. Boys' Oilskm Coats, 8/0 to 12/6 Boys' Sylkoyly Coats. 14/6 to 23J6 Splendid Selection of Boys' Sports Suits, Rugby Suite. 12/6 to 15/6 15/6 to 21/15 Boys' Covert Coats, 12/6 to glf- Gentlemen's Business Suits to measure, 50/ 55/- and 63/- Byrom St. & Dale St., LIVERPOOL. For Baths, Lavatories,Closets, Brass Fittings; t Lead Pipes, etc., apply to- JAMES CHEW ill CO., Plumbers' Merchants & Brassfoandeta, Stel. No. 58 & 60 PARADISE STREET*. Bank 3402. LIVERPOOL) Manufacturers of Copper Cylinders, Boilers, aaA Gas Washing Boilers. DIM TALU YMLAKN LLAW. ARIAN YN FENTHYO. (711 ddistaw bach), mewn symiau bach neu iasrc (heb fod llai na £10) AB ADDAWIB T BENTHYCIWR BI Ø1M. 8EFYDLWYD ERS 46 MLYNBBD. ao yn awr yn rhol iv.wo YN FBNTHYG BOB BLWYDDT* Am daflen a theleran ymofyjmnqr a George Payne a'i Feib., S Crescent Road, Rhyl, a 16 School Lane, Li. OFFIOK TRAINING Classes. SPECIAL Rapid Course fov those whe ? desire to become ShOAh&nd Typists in one session. NO TIME WASTED BY OUR METHODS. r SPECIAL DAY & EVENING CLASSES. 'r Send for prospectus before arranging winter study. GREOO SCHOOL. 21 Harringttt St. (off Castie-St). Phone 3800 Bank. IN a Letter Home a Soldier writes It Is hard to -L find a clean soldier now. The belt you sent me Is splendid, and every man out here should be provided with one. Wie refers to KENNEDY'S KILL-LICE BBL? which absolutely repel vermin and disease. Help 10. boy to keep clean. 3 Oelts for 4/- All Chemists, 1/6 each, or post paid anywhere bona KENNEDY, 2 Park-rd., iivaiipool. For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE SON & STOTT, LTD., 116, 118 & 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 000* Telephone al37 Royal* If.: r