Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

DYDDIADUR,

Cyfeaeddwyr y Cymod

Advertising

Family Notices

?* ? :9 S? ? s I r ? n", ..nfH…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

?* ? :9 S? ? s I r ? n", ..nfH  Yt:" I I m nu\u p linceinioii. I I Cenhadon y Sul Nesaf. I Y METHODISTIAID CALFINAIDD Moss SIDE—10.30 a 6.30, J. Roberts, Caerdydd PENDLETON-10.30, It. P. Jones, Warrington, 6, R. Will- HEYWOOD ST.-10.30, R. Williams, 6, J. H. Morris [iams VICTORIA PARK—10.30, J. H. Morris, Lerpwl, 6, R. P. Jones FAKNWOKTH—10.30 a 6, D. James, Etlint LEIGH—10.30 a 6, WARRINGTON—10.30 a 6, Cyfarfod Diolchgarwch EARLESTOWN—10.45 a 5.30, M ASHTON-TJNDER-LYNE—10.45 a 6.30, V;- -c;¡(, — EGLWYS UNDEBOL ECCLES-ll a 6.30, J. Hughes, Mostyn K YR ANNIBYNWYR CHORLTONROAD-10.30, D. R. Jones, 6.15, M. Llewelyn BOOTH STREET—10.30, M. Llewelyn, 6.15, D. R. Jones, Cerrigydrudion QUEEN'S ROAD—10.30 a 6.15, J Morris LD. DUNCAN STREET—10.30 a 6.15, Cyfarfod Gwrddi HOLLINWOOD—10.30 a 6.15, G. James L mw- .BPiflriP 1 Y iWESLEAID. !1, DEWI SANT-10.30, W. G Jones, 6. D R Rogers HOREB—10 30, J Felix, 6, J T Ellis SEION—10.30, Cartrefol, 6, J. Felix BEULAH-2.30, J. Felix. 6.30, J. David Owen CALF ARIA-1 0.30, Cartrefol, 6, W. G. Jones WEASTE-IO.30, D. R. Rogers, 6.30, J. E. Roberts Y BEDYDDWYR' UP. MEDLOCK ST.-IO.30 a 6, J. H. Hughes LONQSIBHT-IO.30, 6.30, ROBIN'S LANE, SUTTON-10.30 a 5.30, CO FI O'R GL WYFEDIG.-Nawn dydd -Sadwrn, cafodd milwyr Cymreig yr ysbytai deheuol eu gwahodd i gyfranogi o'r wledd a ddarparwyd iddynt gan y Pwyllgor. Cyrch- wyd hwy i ysgoldy Moss Side, a rhoddwyd iddynt bryd o fwyd rhagorol. Ron oedd y drydedd waith er pan ffurfiwyd y Pwyllgor, a ofala'n gyson am ymweled a'r ysbytai gyda Haw lawn, haelionus. Yr oedd sirioldeb a llonder ar wedd pawb. Dywedodd un o'r clwyfedigion Welais i ddim gwen fel hyn ers tri mis ar ddeg." Onid yw brawddeg fel yna'n symbyliad ardderchog i'r gwaith, ac yn ddigon o ddiolch am a wnaed ? Yn y cwrdd bach difyr ar ol bwyta, caed gwasanaeth Cor y milwyr Cymreig sydd yn Heaton Park, a chanasant amryw weithiau dan arweiniad y Preifat Gwilym Williams (Llanberis). Canodd Williams Baner ein Gwlad hefyd, ac mewn ufudd-dod i gymeradwyaeth wresog canodd gan fach Saesneg ddoniol. Adroddwyd Y Dedwydd Dri gan y Sergt. David Jones (Porthmadog). Gofidus deall-fod y Cor yn darfod o hyn allan. Chwelir yr aelodau oddi yma, a'r arweinydd hefyd. Trwy hyn cyf- newidir trefniadau'r Cyngerdd a gynhelir Hydref 18, ym Moss Side. Cafwyd anerchiad difylr gan y Caplan E. Wyn Roberts, a dy- wedodd na allai'r un genedl arall gael Cor o 40 o aelodau allan o 300,0 glwyfedigion mewn un gwerysll. Mae'r Cymry wrth eu bodd yn canu, a'u canu'n wahanol iawn i eiddo'r Saeson. Y Parch. M. Llewelyn oedd llywydd y cwrdd yntau'n ffraethbert ryfeddol, yn galonnog iawn ei groeso a'i edmygedd o'r bechgyn, a'r Pwyllgor yn falch o wneud a allai iddynt ar eu dyfodiad o faes y frwydr i'r dref a siglodd grud i Gymro mwya'r byd, a'r dref a fu'n gartref i fardd mwyaf Cymru ac yn ei ddydd a ganodd brofiad i'n milwyr yn y rhyfel hwn. Cyfeiliwyd gan yr athro ieuanc graddedig Mr. Aneurin Roberts. Digonwyd y milwyr a sigarets a sigars. Ymysg y milwyr yno yr oedd Roberts, Llangollen D. J. Lalis, Ton Du; D. J. Thomas, Neath; J. Davies, Boncath, Penfro E. Roberts, Ffestiniog G. L. Walker, Abertawe Llew Jones, Ffestiniog »G. Davies, Birken- head H. Evans, Llanelli Brookes, Barry Dock; Pughe, Abertawe John Jones, Capel Curig D. W. Jones, Penfro S. Hopkins, Abertawe W. Jones, Caernarfon; W. Taylor, Caerdydd L. Lewis, Ebenezer R. Jones, Ynysbwl; T. Williams, Rhuddlan Mort, Maesteg O'Hara, Caerdydd; E. Allen, Llanelli Beattie, Pentrefoelas J. A. Roberts, Glyn Ceiriog T. Gwilym, Timper- ley A. E. Thomas, Ferndale; Wm. Clayton, Dinbych Howcroft, Ebbw Vale Delaney, Abertawe; E. R. Jones, Caerfyrddin,; Ruther, Abergafenni Williams, Llanrwst a'r Preifat John Hughes, R.W.F., o Lanrwst, enillydd y D.C.M. Galwyd ef i'r llwyfan, a llongyfarchwyd ef yn wresog. Yr oedd ruban yr anrhydedd ar ei got, ond ni dderbyniodd ei fathodyn eto. Gwr ieuanc hollol ddiymhongar a wnaeth wrhydri mawr wrth bomio'r gelyn, ac a gariodd y clwyf edigion o safn angaui ddiogelwch. Mewnym- laddfa arall y clwyfwyd ef yn ei fraich. eWYR GOBEITHIOL.-Mewn cyfarfod o aelodau'r Gymdeithas Genedlaethol nos Wener, cadarnhawyd taflen y eyfrifon, ac enwau'r swyddogion yr un rhai a'r Ilynedel, oddigerth Mr. E. D. Evans yr ysgrifennydd. Hefyd dewiswyd Mr. Francis Williams i fod yn ysgrifennydd ariannol am y tymor.pres- eol, ac i ddyludo'r tanysgrifiadau. Pwys- wyd am gefnogaeth i'r ddarlith gyntaf nos Wener ar David Jonkins gan Mr. fHopkin Evans, Mus.Bac. Penderfynwyd i Mr. J. G. Jones, Moss Side, arwain y gynulleidfaiganu rhai o emynau Ann Griffiths noson darlith y Parch. Tecwyn Evans. Rhoed hawl i'r Pwyllgor sy'n ceisio cael Cymry'r ddinas yn ynadon i ddygnu gyda'r gwaith anodd. Penderfynwyd fod ymchwil eto am lyfrau cof- nodion cyntaf y Gymdeithas, sydd ar goll. Cenfydd rhai mwyaf gobeithiol y Gymdeithas dymor llewyrchus iawn y tro yma, ac ar ei derfyn bydd yr arian yn Haw y trysorydd wedi eu dyblu'n helaeth. ABERTH DDYBLYG. Mae Bwrdd Llywodraethol y Royal Infirmary wedi derbyn -ri,ooo oddiwrth Mr. a Mrs. Wm. Hughes, Gorffwysfa, Sale, fel hyn To endow a bed in perpetuity in memory of their son Rhys Hughes, 2nd Lieutenant, 20th Lancashire Fusiliers, who died of wounds in France on August 1, 1916." Yr oedd Rhys yn ysgol Trefynwy (Monmouth) pan ddechreuodd y rhyfel. Mae ei dad yn un o'r Cymry mwyaf twymgalon, ac yn eiddgar gyda pb ob mudiad o bwys a berth yn i'n cenedl ac yn hen aelod o'n Cymdeithas Genedlaethol. Yn frodor o Gwm Llynfell, yr ardal lie codwyd y beirdd talentog Ben Davies, Dyfnallt, Mafonwy, Ap Ionawr, a'r Athro Noah Williams, B.Sc., sydd yma gyda ni yn y Brifysgol. COF 10'I HEN GYNEFIN.-Mr. Emlyn Davies yw arolygwr Ysgc I Sul Moss Side a derbyniodd lythyr o San Francisco, Cali- ffomia, oddiwrth Mr. M. J. Owen^ yn dweyd ei fod yn aelod o eglwys M.C. oed,, d yn dweyd venor Square hanner can mlynedd yn ol cyn ei symud i Moss Side. Efe hefyd oedd Hyfrgellydd yr Ysgol Sul. Ychydig cyn iddo ymadael yn 1866 gwnaeth gatalog o'r holl lyfrau, ac y mae ganddo gopi oliono. Addawa ei anion i arolygwr presennol Moss Side. Bydd yn drysor, a diddorol fydd sylwi'r nifer o lyfrau'r llyfrgell honno sydd yn y llyfrgell bresennol. Dywed Mr. Owen ei fod yn medd- wl nad oes neb oedd yn Grosvenor Square y pryd hwnnw yma'n awr yn ei gofio. *Mae'r hen gymeriadau hoff a duwiol, Jarnes Hughes, John Hughes, Wrn. Jones a John Frimston wedi mynd oddiwrth eu gwaith at eu gwobr ers amser maith. Ychwanega xnai dyna ddyddiau hapusaf ei fywyd pan ym Mancein- ion annwyl yng nghwmni Ceiriog, Idris Fychan, Derfel, Meudwy Mon, a Chymry enwog eraill.

FFETAN Y GOL.

Advertising

DAU TU'R AFON.