Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

YN SYTH O'R SENEDD Ac i ddodJBob…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bore Heddyw I Y NI CAFODD 0.—Mri. Hugh Evans a'i Feibion, Swyddfa'r Brython, sydd wedi cael y gwaith o argraffu, cyhoeddi a gwerthu Rhaglen Testynau Eisteddfod Genedl-aethol Barri, 1920, megis mai hwy a gyhoeddodd Raglen Llangollen, Birkenhead, Corwen, ac yn y blaen. RHYW FYND MAWR AR WYR Y CYRN.-—Oes, y mae rhyw fynd a galw mawr ar seindorf y Welsh Guards o hyd bellach. Cyfrifir hwy gyda'r goreu yn y Brifddinas ac y maent wedi eu cyflogi gogyfer ag Eisteddfod Genedlaethol Corwen, sef gyda Blodwen Dr. Parry nos Fercher, yn y cyngerdd amrywiaethol nee Iau, ac yn y Gymanfa Ganu brynhawn dydd Gwener a'r nos. DOWCH INNI WELD !-Y mae yna fintai o gyn-swyddogion Byddin yr America yn.mvnd drwy gwrs o efrydu amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn dychwelyd i'w cynefin dros y Werydd; a'r wythnos ddiweddaf, buont ar daith i weld sut y gwneid pethaa ar rai o ffermydd goreu a mwyaf effro'r ardaloedd,-baont yng Nghoed y Din as, flerm larll Powys yn y Trallwng, acyn y blaen a gellwch fod yr dawel y gWelodd plant Newyrth Sam bob smic a chast gwerth ei gludo gyda hwy. Nid rhyw lawer o feddwl oedd ganddynt o'r ceffvlau, mae'n ymddangos-yn rhy drymion a thrwstan. Carlamwr ysgafngoes tel y fo'i hun sydd oreu gan yr Yanc. SYNOD YR HEN FAM.-Bydd y Rhyl yn bar 11 awn o hetiau a chotiau duonllaesion hyd y llawr y Pasc yma, canys disgwylir J o bedwar i bum cant o glerigion a gwyr lleyg yno o bob cwr o Gymru i drafod Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Yn Neuadd y Dre y cwrddir; yn y Church House y bydd y croesawu a'r gwledda; a'r Archiagon Lloyd, y ficer, sy'n llywio'r trefniadau. DI WEDD ILLTYD JENKINS.—Caed y Parch H. Illtyd Jenkins, bugail aiadell I Fedyddiol Grawe. Maesyfed, yn gorff ar y ffordd haeam ger gorsaf Llanbister, wedi ei ladd i bob gol" g gan y dren lythyrau o Abertawe i'r Mwythig. PIIIODI A MYND YMHELL.-Pricd. wyd Miss Mabel Pughe, merch ieuengaf y diweddar Mr. Wm. Pughe, Menai View, a Dr. Bertie Owen, ei chefnder, ym Mhrif- eglwys Bangor ddydd LInn diweddaf a bydd y ddau'n cychwyn rhag blaen i Uganda bell lie y mae gan v priodfab bractis. TYSTEBWN AP NICANDER.-Y mae cyn-facwyaid Mr. Glynne Williams yn trefnu tysteb iddo, ar ei ymneilltuad o fod yn brif athro Ysgoi y Friars, Bangor ar ol deugain mlynedd o lenwi'r'swydd honno. Enw'rProff. T. Hudson Williams a Mr. J. Pentir Williams sydd wrth yr apel. Mr. Glynne Williams yn fab y diweddar Barch. Morris Williams (Nicander), un o offeiriaid mwyaf athrylith- gar ei oes, a'i hen gartref—Beudy'r Gaer- wen-wedi llwyr ddadfeilio oddiar y lle'r safai, sef ar un o gaeau ffeim y Gaerwen, cartro Dewi Wyn.

Bore Heddyw I

[No title]

[No title]

Advertising

Advertising