Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Dywedwch wrth bawb "Y mae DA VIESS COUGH MIXTURE yn rhyctclau Peswoh." ANWYD, PESWCH, INFLUENZA. —Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddio ddef oddi wrth Beswch, Bronchitis, Pait Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Difyp Anadl. Y mae yr hen Feddyginiaetfe II Davies's Cough Mixture" etto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi yg fwy nag erioed, bob amser wrth law, yf felus, yn cynnhesu y frest, ae yn rhydd hau y phlegm. Bydd dose mewn prytf yn ddigon. tlli a 2/9 (postage, 3c.)- HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN LLETH.
Y DYFFRYN.I
Y DYFFRYN. I 0 awn i ymblesera Trwy'r dyffryn teg a hardd, A'r fynwes berarogla Fel paradwysaidd ardd; ,0 gwelwch fel mae'r blodau A'r meillion iach ei sawr Yn golchi eu hwynebau Yng ngloew wlith y wawr. Draw yn eu plith mae'r fanon Y wylaidd lili wen, Yn gwisgo harddach caron Na'r un brenhinol ben; Mor wyrdd ei helig deiliog, Mor beraidd yw y gan, Delora'r adar hwyliog I'th roesaw afon lan. Ffarwel i'th hardd deg lannau, Fy atgof lama'n awr Dros arw afon angeu Fry at yr afon fawr; -Grisialog afon bywyd A dardd dan Orsedd lor Sy'n ddyfnach lletach hefyd A mwy ei hyd na'r mor. Pe rhoid y mor i'w derfyn Pob afon ar ei fron Ni fyddai ond diferyn Yn ymyl mawredd hon; -Cerubiaid geisia i phlymio, Ond anfesurol yw Y Diluw gras sy'n llifo I ni o fynwes Duw. Y Diweddar Dewi Alaw. I
Y Dychweliad.
Y Dychweliad. Adroddiad Cystadleuol yn Seion, Seven Sisters, Hydref 2, 1915. Rwy'n nesu i'm hen gartref dan gysgod blwyddi maith, Tro ugain haf a gaeaf, yn llon-alarus ffaith Mae hanes oriau lawer yn creu breuddwydion prudd, Er gwelais mam a'i chalon mewn dagrau ar ei grudd. Ei geiriau ola' gofiaf— "O, paid a'm gadael i, Bedd gaf yn gynnar, cynnar, pe cefnu wnele' ti?" Fy nhad, a llwydrew amser yn oeri 'i ben yn wyn, Estynnai law grynedig i'm dal yn ol yn dyn. Dadleuai mai fy mywyd oedd lamp eu gobaith hwy, Fe gefnais ar eu galar heb feddwi maint eu clwy': Cledd sydd yn brathu'm henaid! fy nghalon waeda am Y cam a wnes o ddryllio teimladau tad a mam. Myfi oedd eu cynhaliaeth; tlawd oedd- ynt ar fy ol, A d'wedais na fwriadwn ddychwelid 'r ynfyd ffol! Ond ymaith brudd adgofion—myn'd wyf i'm cartref cu, A chyfoeth gennyf heno, gwnaf well- a'r clwyfau fu Yn awel cartref1. O! mae miwsig tyner lion; Daw gwawr i nos fy meddwl fel goleu'r lloer i'r don, Gwnaf i'r gorffennol ganu; symudaf greithiau'r cam, Dihunaf wenau'n fuan yn ngwedd fy nhad a mam. Fy nghartref! dacw'r bwthyn! mae'n aros fel oedd cynt, A'r ffer sydd byth yn chwarae yn es- mwyth gol y gwynt; Y dderwen sydd a'i chysgod yn aros ar y tô; Awelon bryniau mebyd irelddiant glwyfus g6'. 0 nghartref Beth 'does oleu mewn 'stafell yn y ty Bryd hwn 'roedd goleu'r llusern gynt ar frig y ddraenen ddu; Pa le mae'r goleu hwyrol ddoi'n aur o'r ffenestr dlo-s- Pob 'stafell sydd yn dywyll iawn yn awr ar ddechreu'r nos Mae cloc y pentref eto heb rifo saith o'r gloch. Mor ddistaw! na, ni chlywaf ond hwyr gerdd y rhaeadr groch Rhy gynnar yn y gwely,—beth ydyw meddwl hyn? (Ychydig bach feddyliai bod yn fud yng ngwely'r glyn). Ond at y drws i guro-a rhwydd y cwyd fy mam, A chaf faddeuant nhad a hi i losgi nos y cam. Mae rhywbeth yn y 'ffenestr fel cerdyn gwelw-wyn, Beth ydyw neges hwn? Beth ydyw'r geiriau hyn- T-h-i, this- 0, mam! 0, ledd- fol, farwol, drefn 0 Dduw "This house to let," beth pe baent—na fe'u caf drachefn. Ond nid hir llosgodd cannwyll nes cadd esboniad llawn, Rhy gynnar a rhy ddiweddar oedd o hanes creulon iawn. Torrodd ei fam ei chalon, bu farw, dlysaf un, A'i gweddi daer cyn "croesi'r dwr oedd dros ei mab ei hun. Ei dad o eisieu bara a wywodd wedi hyn, A'i sisial olaf ynta oedd-" Duw, nodda'm Harthur Wyn." Bu Arthur fyw blynyddoedd, ond crino wnelai 'ddail, Fel blodyn heb y perlyn gwlith, heb wres, na phelydr haul, Yn crino 'nghanol llwyddiant a phob gwynfydau bron; 'Roedd archoll hen gyfrinach ddu fel cancr yn ei fron. Gwers fyddo'r hanes ini-nac oedwn wneyd daioni, Gwnawn heddyw'r peth a ellir wneyd, ni wyddwn beth fydd fory. TORIEL.
COLOFN Y PLANT.\
COLOFN Y PLANT. DAN OLYGIAETH MOELONA. DIDDANION. Cadwai boneddiges ddyn ieuanc yn ei gwasanaeth. Yn awr ac yn y man gorchymynid iddo ddweyd wrth ber- sonau a alwent wrth y drws fod Mrs. Jones oddicartref. Un diwrnod rhodd- odd John yr atebiad hwn i foneddiges, ac aeth hithau' ymaith gan adael cerdyn a'i henw arni, ac addewid y galwai drachefn. Fel yr oedd y gwas yn estyn y cerdyn i'w feistres, dywed- odd, "Beth ddywed'soch chi, John, wrth y foneddiges?" "Mi ddywedais eich bod chwi oddicartref. "Go- beithio na wnaethoch chi ddim chwerthin, John." 0, naddo, ma'am," ebe John. "Fydda i byth yn chwerthin pan yn dweyd celwydd." Aeth ffermwr unwaith a cheffyl i'r ffair i'w werthu. Wrth son am ei ami rinweddau, dywedodd y gwerth- wr-" Chi synnech pe gwelech ef yn tynnu." Gwerthwyd y ceffyl. Ymhen tro cyfarfu'r ddau ddyn drachefn. "Oni ddywed'soch fod y ceffyl hwnnw yn un da i dynnu?" gofynnai'r prynwr. "Naddo," ebe'r gwerthwr, "dweyd wnes i y buasech yn synnu pe gwelsech ef yn tynnu, buaswn innau yn synnu hefyd." Un diwrnod difyrrai Gwilym bach ei hun drwy droi o amgylch polyn wedi ei sicrhau yn y ddaear. "Paid I troi fel yna o amgylch y polyn, Gwil- y bach, onide yr wyt yn sicr o feddwi," ebe'r tad. Edrychodd y plentyn yn syn a mud yn wyneb ei dad am funud; yna gofynodd, "Dada, ai troi o gwmpas polyn ydych chwi i feddwi?" Rhoddodd y cwestiwn liw ,coch i wyneb y tad. Yr oedd dyn go sarug yn holi'r plant yn yr Ysgol Sul. Gofynnai mewn llais garw, a golwg chwerw ar ei wyneb, "Pwy gyfansoddodd Lyfr y Salmau?" Dychrynodd un plentyn bach; dechreuodd lefain a dywedodd, "Nid fi gwnaeth e." Fel y mae pen y pin yn ei gadw rhag myned yn rhy bell, y mae pen dyn call yn ei gadw yntau rhag myned yn rhy bell. Yr oedd holwr gwrol yn holi twr o blant yn yr ysgol ddyddiol, ac yn gofyn cwestiwn go ddyrus mewn rhifyddiaeth iddynt. "Golygwch fod gennyf 'mince pie,' a fy mod yn rhoddi tair rhan o ddeuddeg o honi i Morgan, tair rhan o ddeuddeg i Sam, ac yn cymeryd un ran o ddeuddeg fy hun, beth fyddai wedi ei adael? Dywedwch yn uchel i bawb gael eich clywed. Gwaeddodd un bachgen dros y lle-"Y plat, syr." "Beth yw gwyrth?" gofynnai athrawes i'w dosbarth. "Wn i ddim," oedd yr ateb. "Wel, pe bai yr haul yn tywynu ganol nos, beth ddywedech a fyddai?" "Y lleuad," oedd yr ateb. "Ond pe dywedid wrthych mai yr haul ydyw, beth ddywedwch a fyddai?" "Celwydd." "Nid wyf fi yn arfer dweyd celwydd- au; tybiwch fy mod i yn dweyd wrthych mai yr haul fyddai, beth ddywedech wedyn?" "Eich bod yn feddw. M M)
IYr EpistolI
Yr Epistol ODDIWRTH GYFARFOD BLYN- YDDOL LLUNDAIN A gynhaliwyd yn Llundain trwy ohir- iadau o'r igeg hyd y 26ain o'r pumed mis, 1915. AT GYFEILLION YM MHOB MAN. Yr Arglwydd Dduw Hollolluog sydd yn teyrnasu. Annwyl Gyfeillion,- Y r ydym wedi cyfarfod eleni yng nghanol echryson- rwydd rhyfel—rhyfel ar y raddfa eangaf a welodd y byd erioed. Saif marwolaeth a thryblith wedi eu dat- orchuddio1. Ymnydda giau y bywyd dynol mewn ing, a dirdymir hwy gan ofn, tra nad yw y canlyniad i bob ymddangosiad ond gornest ddall. Gostyngir ni i'r llwch gan y ffaith fod cenhedloedd Iwrop wedi eu hyrddio bendramwnwgl i'r gwaith o gigyddio eu gilydd; fod gwladlyw- iaeth wedi profi yn fethiant; fod eglwys broffesedig Crist wedi ym- foddloni ar godi llais gwannaidd ac aneffeithiol. Cywilyddiwn inni yn y gorffennol gyduno i'r fath raddau mewn ffurf o fywyd sydd wedi ar- wain i ryfel. Yn nhywyllwch trallod ac anrliaith cyffredinol llefwn am oleuni. Ym- ddengys i lawer nas gallasai Duw y Cariad ganiatau y fath ddigwyddiadau echryslon. "Dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw?" (Psalm xlii. 3). Nis gallwn roddi un- rhyw ateb o gryfder a diddanwch i'r fath gri yn nhermau unrhyw ffydd draddodiadol. Fel yr ail-ddargan- fyddir ac yr ail-sefydlir ein ffydd ar sylfaen o graig yn unig y gallwn helpu byd wedi ei Iwyr ddrysu. Diolchwn i Dduw fod profiad newydd a bywiol o'i allu a'i bwrpas Ef wedi dyfod atom. Y mae ein gobaith yn y gair hwn Duw Cariad yw-gallu cariad anfarwol a dyfalbarhaol yw gallu Duw. Trwy galonnau a meddyl- iau ac ewyllysiau dynion a merched y gweithia Efe, ac erys iddynt agor eu calonnau i gariad ac i'w ganlyn gyda dewrder digrynu. Cyn belled ag y gwna dynion hyn cynorthwyant i sefydlu Teyrnas Dduw a'i Grist Ef-llywodraeth cariad yn y byd. Cynhwysa y Deyrnas honno, o fewn ei therfynau eang, bob cenedl a golyga sylweddoliad trefniant- byd- lydan wedi ei drawsffurfio. I sefydlu y Deyrnas honno y bu Crist fyw a marw. Yr unig gyfrwng a ddefnydd- iodd Efe oedd gallu cymhell-orfodol cariad yn gweithredu yng nghalonnaii dynion. Ymddibynnodd ar nerthoedd ysbrydol. Ni roddai undyn i fyny, ond gwelai yng nghalonnau y gwaeth- af bosibilrwydd y goreu. Gwelai nas gallai dyn wrthwynebu am fyth ym- drechion amyneddgar a diflino cariad. Yn y ffydd honno y bu Efe byw, y bu farw, ac y gorchfygodd. Cyflwyn- odd Crist y gorchwyl o ddwyn ei waith ymlaen er mwyn y byd i'w ddisgyblion ym mhob man. Rhaid yw iddynt hwythau hefyd weithredu fel y gweithredoedd eu Meistr mewn ffydd ddiamheuol yng ngallu Cariad Duw, ac yn y goleuni sydd yn goleuo pob dyn ym mhob cenedl, ac at yr hwn y gallwn bob amser apelio. Y ffydd hon a ysprydolodd ac a nerthoedd ddisgyblion cyntaf yr Ar- glwydd lesu. Chwalwyd hi gan ei Groeshoeliad Ef; dychwelwyd hi iddynt yn yr Adgyfodiad wedi ei phuro, ei chyfoethogi, a'i goleuo. Yn hyn y gwelsant mai Ei Fuddugoliaeth oedd Ei Orchfygiad yn gymaint ag iddo goncro galluoedd drygioni a'i fod yn byw i'w harwain i argymeriad- au newydd a byd-lydan. Eiddo, iddynt hwy oedd llawenydd anturiaeth fawr, ymdrech arwraidd; teimlent eu bod wedi eu galw a'u galluogi i gyflawni pethau amhosibl. Y ffydd hon hefyd a ddeffrodd ein cyndadau ni ein hunain yn adeg cyfodiad ein cymdeithas i' fyw "yn rinwedd y bywyd a'r nerth hwnnw a gymerodd ymaith achlysur pob rhyfeloedd." (Dydoiadur George Fox). Daeth atynt hwy alwad o'r newydd i fyned allan yn unol i gyflawni gorchwyl arwrol tebyg. Er ei fwyn Ef nid oeddynt i gyfrif dim yn anodd. Pe gallent ond yn unig fyw ar lefel newydd y profiad i ba un y cododd Efe hwynt yna cymerai colled, poen, ac hyd yn oed farwol- aeth arwedd newydd. Ysgubwyd ymaith yr awydd i amddiffyn eu hun- ain neu i hyrwyddo ei achos Ef trwy drais gan lanw uchelgais urddasolach a gobaith mwy aruchel am ddynolryw. Pa fodd y safwn heddyw? Y mae llawer o'n cyd-Gristnogion, rhai hyd yn oed o'n haelodau ni ein hunain, yn weithredol yn cynnal rhyfel a ffieidd- iant yn gymaint a ninnau. Anrhyd- eddwn hunan-aberth, dewrder ac ymroddiad y rhai hynny a geisiant hyrwyddo neu amddiffyn teyrnas cyfiawnder trwy offerynoliaeth rhyfel. Ond hawliwn gydag argyhoeddiad trylwyr, er gyda gostyngeiddrwydd mawr, nas dichon ond gallu ysbrydol yn unig amddiffyn a hyrwyddo yr achosion ysbrydol hynny ydynt o bwys i'r byd. Hawliwn fod yna ffordd ragorach ac na thycia ond Cariad, yn unig i gael o hyd iddi ac i'w dilyn. Apeliwn at ddynion a merched ym mhob man i osod eu hymddiriedaeth yn yr Arglwydd Dduw Hollalluog, ac i rodio yn ffordd Crist costied a gostio. (Dat. xix. 6). Nis gellir bwrw allan yspryd y creulondeb a gynhyrchir gan ryfel trwy ad-daliad dialgar ond trwy gyf- newidiad calon yn unig. Dichon yr ymddengys y cyfnewidiad hwn yn amhosibl inni, ond os ydym yn credu mewn gwirionedd yng nghariad Duw, nis gallwn feiddio gosod terfynau i'w allu prynedigol. Yr ydym yn argyhoeddedig mai ewyllys Duw inni ac i bawb o'i blant yw ar iddynt wneud yr anturiaeth fawr o ymddiried ynddo Ef, nid yn unig eu bywyd unigol, ond hefyd fywyd eu cenedl. Pe buasai gan ond un cenedl ddigon o ffydd a gwroldeb i fwrw arfau, buasai hynny yn rhydd- hau nerthoedd ysprydol enfawr a chuddiedig er rhyddhad y byd oddi- wrth ofn a thywallt gwaed. Pa bryd y gwneir yr arbrawf mawr hwn, os nad ar derfyn y gwrthdarawiad presennol ? Y mae wedi bod yn galonogiad inni yn y cyfarfod hwn i wybod fod cyfan- gorff ein dynion ieuainc yn barod i wrthod pob math ar wasanaeth mil- wrol. Yr ydym wedi ein cynhyrfu hefyd gan foddlonrwydd datganedig llawer o ferched o Gyfeillion i dderbyn yr holl ganlyniadau oblygir wrth gymeryd ein safle hon. Ein gweddi yw ar inni oil gael bod yn gryf i ddal, os oes dydd o brawf i ddod, gan sefyll gyda phob gostyngeidrwydd, gyda y rhai trwy ddioddef a wasanaethasant ddynolryw. Meddwn ar ymdeimlad dwfn nas gall ein hyder ar Gariad, fel y gallu mwyaf yn y byd, ein gadael yn fodd- Ion gyda gwrthodiad i ddwyn arfau neu i geisio amddiffyniad arfog yn unig. Llawenychwn fod llawer o'n cyfeillion yn bresennol wedi cael cyfleusterau i gynorthwyo dioddefwyr rhyfel, o ba genedl bynnag, gartref ac mewn gwledydd tramor. Ni charem anghofio ychwaith mai yr angen pennaf yw creu awyrgylch, yn yr hon y dichon casineb ac anghyfiawnder gael eu symud ymaith oddiwrth ein heneidiau ni ac eiddo pobl ereill hefyd. Yng nghanol yr holl demtasiynau i aflonyddwch medd- wl a nwydau, yn nhawelwch gweddi a thrwy hunan-ddisgyblaeth yn unig y gall gwellhad ar bethau ddyfod trwom ni. Gwyddom nad yw rhyfel ond un o arwyddion dychrynllyd y clefyd, mwy dychrynllyd fyth 0 hunangais sydd ein treiddio ein bobl gyfundrefn gym- deithasol. Trwy roddi a gwasanaethu yn hytrach na thrwy feddiannu a der- byn gwasanaeth, ac felly yn unig y deuwn i gyflwr ar gymdeithas, yn yr hon ni fodola gwreiddiau rhyfel mwy- ach. I'r diben hwn rhaid inni geisio ffordd o fyw, yr hon fydd yn ddat- ganiad ymarferol o'r ewyllys i garu ac i wasanaethu. Yn ein bywyd mas- nachol, yn ein gorchwylion ham- ddenol dylasem gadw mewn golwg fuddiannau y genedl ac eiddo dynol- ryw. Rhaid yw inni fod yn ddiflino mewn gwasanaeth wir genedlaethol, gan gyflwyno i hynny weddi, meddwl dyfal, gwrteithiad, ac ad- noddau materol, gan ddwyn ei hawliau i sylw pob aelod o'n Cvmdeithas. Nis gellir ennill y byd i Grist, ond yrfv unig fel bydd dynion wedi eu meddiannu gan y gallu annherfynol a alwn yn Gariad Duw—y cariad na fyn ollwng ei afael ar ddynion-y cariad sydd "yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros a phob dim" (I. Cor. xiii. 7), ac nad yw byth yn cwympo ymaith- y cariad sydd yn Hollalluogrwydd Dwyfol. Arwyddwyd yn ac ar ran y Cyfar- fod, JOHN H. BARLOW. Clerc. Cyfieithedig gan E. K. Jones, Cefn- mawr.
Advertising
MAE'R GERMANIAID FEL FFERYLL- WYR wedi dod a meddyginiaethau cyfansawdd hynod i'r maes, ond nid yw Lloegr ar ol. Ymhlith meddyginiaethau Prydeinig nid oes dim gwell na PHELENI LLYSIEUOL KERNICK. Ni honnir iddynt allu gwvrthiol, ond cå'r rhai sy'n dioddef oddiwrth ddiffyg traul, afu drwg, croen drwg, etc., eu bod yn amhrisiadwy. Gofynnwch am beleni llys- ieuol Kernick, a gofelwch eich bod yn eu cael. Gwerthir hwy mewn blychau &m 71c., 131c., gan unrhyw Fferyllydd, Boots, etc. CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID GOFALU AM Y RKAI HYN. Esgeuluadod 0 unrhyw nlwatf I rhat hyn drwy ddamwain rbu glofyd cH zehetl Blood Poisoning a Mapwolaeth. Meddyginiaeth Efleitltitl. Er mwyn ysgol Ptrysl rhaid it ynarfar mown pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIANUS A SICR A GOM E R'S I BALM. I Mae Hwn yn awr yn taol ei gydRab»e B gan filoedd fel y meddyglin mwyvC ■ sicr a diogel a ddarganfyddwyfl I erioed at iaihau Clwyfau, Atoholilon, Tardd- lantau y Cnawd, Eozema, Craoh a N c d i yn Mhento Plant, Lloaglad. au, Yalal. I d a n a u 8 0 u r v y, L I u g r ad Plant, Benywod a Babanod, Tarwden, Gout, Gymalau Poenus, Rheumat- los, Poen Yr oedd pern fy mlea- Cefn, Plies, tyn mewn atat ochrysion. Hynod 0 Gwellhaodd Gomnr'« B.1. offelthlot hi yn bur fUAIi-" at CLWYFAU 4 ar 3 COESAU. Miloedd yn tystio i'w Effeithiau Rhyfeddni RHOODWOR BRAWF ARNO Gwaflhad sydd s/or. Ar werth gan bob Chemiafe a Storea an 1/1 i. Gofyner am COIIII". Balm. 1118- weh weled enw jaooh Hughaa ar bal blwch. Heb hyn nid yw gywir. Now danfoner ei gwerth (P.O. neo Stamps) at Jacob Hughaa, Manufaaturlng Chits- let, M.P.S., L.D.8., Panarth, Cardiff. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. UNIVERSITY COLLEGE of WALES ABERYSTWYTH (One ot the Constituent., Oolleges of the University of Wales). PRESIDENT Sir JOHN WILLIAMS, Bart.,M.D.,D.So.,G.C.Y.O PRINCIPAL T. F. ROBERTS, M.A. (Oxon.), LL.D. (Vict.) Department of Instrumental Muslo. The above-named new Department is now open to both male and female Students. Special Staff: M. Gaston Le Feuve (of the Schola Cantorum, Paris), M. Henri Delange, M. Camille Delebelle; M. Charles Turboar, Madame L. Andr6 Barbier. Classes will be held in: Violin, Violincello, Viola, Chamber Music and Orchestral Classes. Theory of Instrumental Musio, Singing, Piano. Sessional Composition Fee, 912; Registration Fee, £1 j Fee for a Single Course, d62 2s. per term, together with a Registration Fee of 10s. Men students reside in registered lodgings in the town, or at the Men's Hostel—Warden: H. H. ^ame» Esq., M.A., B.Sc. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women—Warden Miss C. P. Tremnine,B.A.-For full particulars respecting the Department and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar. £ \A PAGE Book about Herbs and how to use Ut* them. Post free. Send for one. Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond-road, ?H? ADDR?SS??' PLEASE NOTE THE ADDRESS. TO prevent fraud see that you gee Estab. J. lished 1879 on every label and wrapper of my preparations, without which none are genuine.—Trimnell, The Herbalist, 144 Rioh- mond-road, Cardiff. T RIMNELLIS PILLS AND POWDERS have cured thousands. Why not you ? See that you get Established 1879 on every bel.—Trimnell, The Herbalist, 144 Richmon Road, Cardiff. Agents wanted. LAOZES BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for al Irregularities, &a.. they speedily afford relief and neve rfail to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal, Pit Cochia, Bitter Apple, &a tilanobard's are the Beat of all Pills for Women. Sold in boxes, 1/1 j, by BOOTS'' Branches, and all Chemists, or post free, same price, from LESLIE MARTYN Ltd., Chemists. 3 DALSTON LANE, LONDON Free Sample and vatuabte Booklet, post free Id. stamp EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Hi ustrated Book, containing Valuable Information how all Irregularities and Obstructions may be enfirelj avoided or removed by simple means. Recom- mended by eminent Physicians, as the only Bafe, Sure and Genuine Remedy. Never Fails. thousands of Testimonials. Established 1862 MR. PAUL BLANCHARD, Clwr^montllouse, Dalswa 1 -ane, "< onooK*.