Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DO YOU SUFFER FROrf, EYr" STRAIN? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERSI F.S.M.Col OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. DOWM & SONS For Good Substantial ——— Furniture, Bedsteads, Bedding, Carpets, And evepy description of House Furniture. —————— CABINET WORKS —————— g'gt m 21 HIGH STREET & MORRIS LANE, SW AN SEA. The Largest and Cheapest Steam Illustrated Catalogues free on application Cabinet Manufactory in South Wales. IMMENSE STOOK TO SELECT FROM Carriage Paid on all Orders above P.10, or Delivered Free in our own Vans. CENTRAL HALL SWANSEA. A GRAND EISTEDDFOD will be held on SATURDAY, SEPT. 18, 1915 CHIEF CHORAL (Not under 50 in num- ber). The Sea hath its Pearls." iClO and a Roll-Top Desk to conductor of winning choir. MALE VOICE (Not under 25). "In the Sweet." C5 and Chair for conductor. CHILDREN CHOIR (Not under 35). Dewch Allan ar Delyu." First Prize X5, Second Prize X2. Special prizes to conductors of winning choirs. PRYDDEST: Dyro lu i H\yn' (Luc 14,9) Also prizes for Duett, Recitations, &c. Programmes lid. post free. Secretary H. Owen, 'Ddolwen,' Ystradgynlais Argraffiad Newydd o Ysgol yr Adroddwr. Gydag Ychwanegiadau. Yn barod Gorffennaf 17eg. Pris 1/- net; yn rhad drwy y post, 1/2. GEIRIADUR CYMRAEG A SAESNEG (Spurrell). Argraffiad Newydd Dan Olygiad J. BODVAN ANNWYL. 3/6 net; drwy y post, 3/10. THE SCHOLAR'S WELSH DICTIONARY Welsh-English & English-Welsh (Entirely New Dictionary.) 1/- net; yn rhad drwy y post, 1/2. WALES GILBERv STONE. Her Origin, Struggles and, Later History, Institutions, etc. With 65 full page Plates. 7/6 net; yn rhad drwy y post, 7/11. YR UCHOD I'W CAEL ODDIWRTH MORGAN AND HIGGS, 18 HEATHFIELD ST., ABERTAWE. ATHROFA ABERYSTWYTH. (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru.) Prifathraw—T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. D, ECHREUA'R Tymor Nesaf ar Ddydd Mawrth, Hydref 5ed, 1915. Paratoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynhygir amryw o Ysgoloriaethau (rhai o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr arholiad le yn Aberystwyth ar y 21ain o fis Medi, 1915. Am fanylion pellach, ymofyner a— J. H. DAVIES, M.A., Gofrestrydd. Y LLOFFYN ADDFED." LIyfr i Ymneilltuwyr. Dylai pob Cymro-a Sais a allo-ei ddarllen. Hanes Dechreuad Ymneillduaeth yn Abertawe a'r Cylch," etc. Pris is. I'w gael gan M. G. Dawkins, nio.m Preliminary Announcement. A COMPETITIVE CONCERT will take place at SEION (CM), SEVEN SISTERS, On Saturday, Oct. 2, 1915. ADJUDICATORSMusic, D. VAUGHAN THOMAS, Esp., M.A., Mus. Loc., Swansea. Recitations: JAMES CLEMENT,Esq., (Alarch Ogwy) Skewen. CHAMPION SOLO (open) 3 guineas Other Solos and Recitation (open) 1 guinea each, Pianoforte Solo, Solos and Recitations for Juveniles. Convenient Train Service for Neath after Concert Programmes (ijd by post) can be obtained from J. THOMAS, Pen-y-Bank, Seven Sisters D. MORRIS, 3 Bryndulais Avenue, Seven Sisters. YN BAROD. RHOSYNAU MAES Y GAD," TELYNEGION CYSYLLTIEDIG A'R RHYFEL. YR UNIG LYFR 0'1 FATH YN Y GYMRAEG. Pris Chwe' Cheiniog, oddiwrth yr Awdur, REES REES (Teifi), 27 Cym- mer Street, Caerdydd. DYDDIADUR EISTEDDFODAU 0 BWYS. Central Hall, Abertawe, Sadwrn, Medi'r 18fed, 1915. Neuadd y G-Weithwyr, Abercynon, Medi'r 20fed, 1915. Seion (C.M.), Seven Sisters, Hydref 2il, 1915. Y DARIAN. Nid Amddiffyn, ond Tarian. Goreu Tarian, Cyfiawnder. Daw'r Darian allan dydd Mawrth, a gellir ei chael oddiwrth y dosbarthwyr noa Fawrth yn Aberdar a'r cylchoedd cymdogaethol. Cyfeirier po-b Gohebiaeth ynglyn a'r Darian i'r— GOLYGYDD, SWYDDFA'R DARIAN, ABERDAR. Anfoner Llyfrau, etc., i'w hadolygu i'r Golygydd. D.S.—Ni chyhoeddir adolygiadau oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolygiad. 0 BWYS I BOB CYMRO EI WYBOD. Y Darian yw'r unig bapur Cymraeg anenwadol a gyhoeddir yn Neheudir Cymru, a'i hamcan yw meithrin y diwylliant gwerinol Cymreig ac am- ddiffyn hawliau'r werin. Gwasan- aetha'r Cymdeithsau Cymraeg, yr Eis- teddfod, a'r Ddrama. Gwneir ynddi ymdrech arbennig gan lenorion coeth a gwlatgar i arwain plant a phobl ieuainc i garu iaith, llenyddiaeth a delfrydau eu cenedl. Gofelir hefyd ei bod yn BAPUR I'R AELWYD GYMREIG, Yn Lan, Dilwgr a Dyrchafol. Oni ellir cael y Darian trwy ddos- barthwr, anfoner i'r Swyddfa a cheir hi oddiyno am lic. yr wythnos, Is. 7ip. y chwarter, 3s. 3c. yr hanner blwyddyn, a 6s. 6c. y flwyddyn. Am flaen d&l yn unig yr anfonir hi trwy'r post. Diolchir am ohebiaethau a hysbys- iadau i law dydd Llun o bellaf. Gohebiaethau a hysbysiadau pwysig yn unig ellir roddi i fewn bore dydd Mawrth, a rhaid i'r rhai hyn gyrraedd Kyda'r post cyntaf. OS OES GENNYCH RYWBETH I'W ARGRAFFU ANFONWOH AM BRISOEDD AT Mri. THOMAS a PARRY (Cyf.), Argraffwyr a Chyhoeddwyr HEOL GAER, ABERTAWE, A Chewch Argraffwaith Glan a Destlus yn Rhad.
Eisteddfod Bangor.
Eisteddfod Bangor. Fe gofir am Eisteddfod Genedl- aethol 1915 ym Mangor, o bosibl, fel un a gynhaliwyd dan yr amgylch- iadau rhyfeddaf a fu erioed. Wedi ei gohirio am flwyddyn a'i chynnal yn y diwedd am y byddai ei chynnal yn llai o golled na'i tharo yn ei thal- cen. Codasid yno babell eang a ddaliai o wyth i ddeng mil o bobl, allem feddwl, a honno'n un hynod gysurus, a hawdd gweld a chlywed y cwbl ynddi. Fel y gellid disgwyl dan yr amgylchiadau nid oedd y dylifiad pobloedd arferol i'r Eistedd- fod eleni. Dydd Iau yn unig, pan oedd Mr. Lloyd George yn bresennol, y gwelwyd y babell rywbeth yn debig i fod yn llawn. A siomedig iawn oedd y cyfarfod hwnnw. Un peth diddorol iawn ynglyn a'r Eisteddfod eleni oedd y gystadleu- aeth ddramodol. Am ddau o'r gloch y Llun bu Cwmni Pentyrch yn per- fformio "Asgre Lan," ac yn yr hwyr Gwmni'r Ddraig Goch o Gaernarfon yn perfformio "Beddau'r Proffwydi." Cofir fod beimiaid penodedig wedi bod hyd a lied y wlad yn gweled cwmnioedd yn chwarae yn eu cartref ynglyn a'r gystadleuaeth hon, a'r ddau gwmni hyn a ddewisasid gan- ddynt i chwarae ym Mangor. Dyfarn- wyd Cwmni Caernarfon yn oreu ac yn deilwng o'r wobr flaenaf, a Chwmni Pentyrch yn deilwng o'r ail. Dywed- ir y bydd yr elw oddiwrth y ddrama tua dau cant o bunnoedd. Canmol- iaeth fawr a glywsom i'r chwarae. Gwelsom rai papurau yn ei gyhoeddi fel peth newydd i'r byd y medrai'r Cymro chwarae drama Un peth hynod yn yr Eisteddfod eleni eto oedd llwyddiant y bardd ieuanc, T. H. Parry Williams, o'r Rhyd-ddu, yn cipio'r gadair a'r goron, megis ag y gwnaeth o'r blaen yng Ngwrecsam. Chwith oedd gennym fod Dyfed, yr Archdderwydd, yn methu bod yno. Cymerwyd ei le gan Cadfan. Wele restr o'r buddugwyr hyd nos Fawrth Hir-a-thoddaid i "Bencerdd Gwalia" (26 yn ymgeisio) Mr. D. Edgar Thomas, Aberdare House, Pontar- dulais, De Cymru. Bugeilgerdd seiliedig ar fywyd Cymreig yn y i8fed ganrif Neb yn deilwng. t Arlunio (study in still life, any coloured medium), ugain o ym- geiswyr: Rhannwyd y wobr rhwng Gwen" a Mr. E. A. Gilbert, Rhymney. Deunydd cartref eyfaddap at wisg i foneddiges (19 yn ymgais): Mri. Jacob Jones a'i Fab, Moelwyn Mill, Blaenau Ffestiniog. Cynllun o bentan, o lawr i nen: Mr. Thomas,' Blenthorne, Nantford, Yorks. A Frieze: Enillydd, "Swansea." Pedwarawd (heb gyfeiliant), "Within the Garden (Reger) a "Dim ond Breuddwyd (Price) Mr. Llew. Powell, Wyddgrug, a'i barti. Allan o 58 o ymgeiswyr, detholwyd pedwar i ymddangos ar y llwyfan i adrodd "Araith Llewelyn Mr. W. J. Walford, Bangor, yn ennill y liawryf. Ymdeithgan leisiol gyfaddas i ys- golion dyddiol; pedwar cyfansoddiad, ond dim un o honynt yn deilwng o'r wobr. Unawd soprano (48 o gystadleu- wyr), "Cenad y Don (W. Davies) a "Dove Sono (Mozart): Bessie Morris, Ammanford, De Cymru, gyda mawr ganmoliaeth. Canu gyda'r tannau (i rai dan 16eg oed) D. P. Jones, Ffestiniog, a J. Maldwyn Roberts, Ebenezer (cyd- radd). w Allan o 121 o englynion i'r "Gragen," un wrth yr enw "Peny- cynant oedd y goreu. Brethyn rhesog: Mr. J. Jones, Factory, Bryncir; hefyd am fath arall ar frethyn. "Gwenllian" oedd ffugenw'r oreu am ddwfr-darlun ar dir neu for. Chwe' sketch yn egluro "Bard" (Gray) neu "Rhys Lewis": Miss Eluned Lloyd, merch y Proffeswr J. E. Lloyd. Model mewn carreg: Mr. George Holding, Garth View, Cefn. Cystadleuaeth can gwerin i blant ysgol: Cor Troedyrallt, Pwllheli. Casgliad o ganeuon gwerin anghyhoeddedig: Mr. L. Lewis, Aberhonddu. Corau'r Merched.—Canodd y corau canlynol, "Yr Arglwydd yw fy Mugail (Schubert) a "Can yr Eos" (E. T. Davies) :—Cor Ancoats, Man- ceinion; Cor Bethesda; Cor Bangor; Gitana Ladies' Choir, Birkenhead; Cor Mr. W. Turner, Nottingham. Rhoed y feirniadaeth gan awdur yr ail ddarn. Dywedai fod y beirniaid yn siomedig oherwydd na chaent glywed y corau mawr yn yr wyl, ond yr oedd y merched wedi gwneud peth iawn am y siom trwy ganu'n rhagorol. Elai y wobr i Gor y Gitana, y rhai enillasant 182 o farciau; Nottingham, 165; Bangor, 164; Ancoats, 161, a Bethesda, 150.
IBraidd-Gyffyrddiadau.I
Braidd-Gyffyrddiadau. I GAN BRYNFAB. Dyma yr Wyl Genedlaethol wedi mynd heibio unwaith eto. Nis gwn a fydd heddwch rhwng ei phleidiau, megys rhwng y rhai gwleidyddol, ai peidio. Mae yn rhy gynnar eto i wybod sut mae y gwynt yn chwythu. Gan nas cynhyrfwyd fi i roi tro tua Bangor, rhaid ymddibynnu ar hysbysrwydd ail law. Mae y Gol. yn rhywle ym Mon neu Arfon, a disgwylir ei fod ef wedi bod yn deneuglust a'i ddyferbin yn hylaw i groniclo yr hyn a glywodd, a'r hyn a welodd yn ystod yr wyl. Oafwyd yr englyn i'r Gragen yn un o bapurau Caerdydd, ond nid oes sicrwydd ei fod wedi cael ei wisg wreiddiol yno. Os do, mae digon o le i bigo brychau arno. Dyma fe:— Annedd hardd a drefnodd lor—i ni rai bach Ym mro bell y dyfnfor; Yn ei thrwsiad a'i thrysor Gwelir mwy firaglau'r mor. Ni enwid yr awdur yn y papur a welais i, ond mae lie i gasglu mai un o fech- gyn yr ysgol newydd ydyw, neu ynte rywun cyfrwys o'r De, wedi rhoi yr abwyd "newydd" ar ei fach, a'r beirn- iaid wedi ei lyngcu heb gomdagu dim. Wyr neb o feirdd y De am y gair "mir- aglau," na pheth yw ei ystyr-os oes ystyr iddo, hefyd. Bechgyn yr "ysgol newydd" sydd wedi dyfod o hyd iddo yn rhywle, a cheir ef mewn bri mawr tua chylchoedd yr Eryri. Yr wyf wedi chwilota pob Geiriadur sydd gennyf ac wedi methu cael cysgod ohono. Dichon mai lledrith o'r gair Saesneg miracle ydyw. Os felly, fe ddywed y bechgyn medrus nad llygriad mohono—mai gair Cymraeg pur ydyw, ac mai y Saeson a'i lladratodd oddiar y Cymry. Mae ganddynt dwll i ddod allan o bob dyrys- wch. Ond beth am yr englyn? Rhyfel neu beidio, rhaid gwyntyllu yr englyn cen- edlaethol. Rhaid yw bod "fel arferol" gydag ef, fel pob busnes arall. I ddechreu, mae y llinell flaenaf sill yn rhy hir ond dichon mai y gohebydd wnaeth y gwall. Feallai mai fel y canlyn y dylasai fod:— Annedd hardd a drefnodd Ior-i rai bach." Methaf a gweld fod barddoniaeth na synwyr ynddi mewn un ffurf. Onid lor a "drefnodd" "annedd" i bob creadur a thrychfilyn ag eithrio y rhai a drefnir gan ddyn? A pham y dywedir fod y Gragen wedi ei threfnu i "rai ^achf Welais i erioed fwy nag un malwoden na mwy nag un wystrysyn mewn un gragen. I beth y gosodwyd peth mor ddwl mewn englyn cenedlaethol? I beth, hefyd, y gosodwyd Ym mro bell y dyfnfor" yn yr ail linell? Onid oes cymaint o gregin ar y traeth ag sydd yn y "fro bell" ? A rhaid cael y gragen ar y traeth cyn y medr y bardd ei gosod wrth ei glust i glywed "miraglau'r mor" ynddi. Ond gweled "miraglau'r mor". wnaeth y bardd buddugol. Codi y gragen at y glust y byddwn ni, i glywed swn a swyn y mor ynddi. Pe goddefid i mi geisio gwella paladr yr englyn, rhywbeth fel hyn y byddai:— Annedd hardd a drefnodd lor—i'r un bach Geir yn byw'n y dyfnfor. Buasai syinwyr ynddo felly, gan nad beth am farddoniaeth. A mynd yn felldigedig o fanwl hefyd. Gellid nodi nad yw yn "annedd hardd" yn gragen o gwbl cyhyd ag y bo "yr un bach neu y "rhai bach" yn byw ynddi. Y coclyn neu yr wystys- yn, neu ryw beth "bach arall, yw yr "annedd," ac yntau cyhyd ag y byddo yn y "dyfnfor." Wedi i'r "un bach ddyfod o'r "annedd," o'i fodd neu o'i anfodd, y daw yn gragen. Ond dyna ddigon am baladr yr englyn. Methaf a gweled dim i syfrdanu neb yn y drydedd linell:- "Yn ei thrwsiad a'i thrysor." Caniatawn fod y gair "trwsiad o'r goreu fel disgrifiad o brydferth- wch y gragen. Ond beth am ei "thrysor"? Mae hwnnw wedi mynd i grombil un o heigiau y "dyfnfor," neu ynte mewn gwinegr a phubur cyn y daw yr "annedd" yn gragen.. "Creginbysg" y galwai Ceiriog y "rhai bach," a'i haneddau, yn ei- awdl i'r "Mor." Am linell olaf yr englyn—"give it up." Beth sydd wedi dyfod o'r Arch- dderwydd Dyfed? Nid wyf wedi' clywed ei fod yn sal nac ymaith ar ei "fis mel." Barna rhai ei fod wedi mynd i'r "front i helpu Taldir, yr Archdderwydd Llydawaidd, i gystwyo byddinoedd y Kaiser. Bid a fynno, nid oedd siw na miw am dano ynr Mangor. A wyr John Thomas, Llan- wrtyd, rywbeth am dano? Gallodd, aros i chwarae "croquet" yno pan oedd ei eisiau yn ei gadair yn Aber- honddu ystalwm. Eithr digon prin y gellir tybio ei fod mor fachgenaidd eleni pan oedd ei angen i lanw y gwagleoedd yng Ngorsedd Bangor. Dylasai ei feddyg gyhoeddi "bulletin" bob dydd, os ydyw yn gystuddiol. Mae pob bardd yn holi am dano yn y. cyfwng presennol. Gwelais ei fod wedi anfon ei wisg Archdderwyddol i Fangor, a Chadfan wedi neidio i fewn iddi. Tybed fod Dyfed wedi cael digon ar y swydd ? Gwell gennyf gredu hynny na'i fod yw sal. Ond os ydyw yn dioddef oddi- wrth rhyw anhwyldeb, gall ym- gysuro yn y ffaith y bydd i Cadfan fyw yn hirach a dedwyddach wedi; iddo gael ei hun yn y wisg Dder- wyddol. Yn y darlun welais i ohono. yr oedd wedi ymsythu i'w faintioli, eithaf, a digon tebyg ei fod wedi llanw y swydd yn rhagorol. Nid oedd cymaint a scolpyn o Dde- heuwr yn rheoli o gylch y Maen Llog eleni. Dyna swydd yr Arwydd- fardd wedi mynd i Gaersws—Ap Gwyddon wedi cymeryd lie y diweddar ArJunydd Penygarn. 0 fyn'd o'r swydd i Ogleddwr, nis gallasai ddis- gyn ar well ysgwyddau nag ar eiddo< Ap Gwyddon, y Meddyg a'r Cymrc" amryddawn o Gaersws. (I barhau.)
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. CYNHILDEB. Mr. Gol.,—A fyddwch mor garedig; a galw sylw eich darllenwyr at fater y llyfr a ddaw o'r wasg yn fuan gan yr awdurdodau ar y mater uchod. Dymunir ar i'r wlad ymwrthod a. moethau ymhob ffurf rhag i "newyn du ac eisieu ei goddiweddyd. Dylid. bod yn gynnil a'n pleserau a gofalu- rhoddi arian yn y banc yn wythnosol, os gellir, fel y byddo'r Llywodraeth yn cael eu benthyg, ac y byddont ar gael i'w perchenogion os digwydd- caledu ddyfod.—Yr eiddoch, etc., GOHEBYDD. CYWIRIAD. Mr. Gol.,—Yn hanes cyfarfod or- deinio gweinidog newydd Ferndale, sef y Parch. Gwilym Owen, B. A., cyfeiria eich gohebydd ato fel myfyri- wr o Goleg Bala-Bangor. Gwelaf na fu yn fyfyriwr o Bala-Bangor, a chasglaf mai yng, Ngholeg y Bedydd- wyr ym Mangor y bu yn efrydu. Er mwyn yr anghyfarwydd priodol yw nodi mai coleg yn perthyn i'r Anni- bynwyr yw Bala-Bangor, lie y mae- dau o wyr Aberdar yn athrawon, sef y Prifathro T. Rees, M.A., a fu yn llanc yn mynychu Ebenezer, a'r fHhro. J. Morgan Jones, fu am flynyddoedd yn bugeilio eglwys y Tabernacl.—Yr eiddoch, etc., CARWR Y CYWIR. YSBYTY ABERDAR. Mr. Gal. ,-Gan fod y Bute wedi penderfynu atal y tanysgrifiad blyn- yddol at y sefydliad pwysig uchod, y mae'n ddyledswydd ar y lie i symud. yn ddiymaros i sicrhau adeiladau- cyfaddas. Y mae yn annynol meddwl fod dioddefwyr i'w cludo bob cam ic Gaerdydd cyn derbyn triniaeth, briodol. Y mae yma adeiladau pwr- pasol yn barod yn Nhrecynon, sef y rhai a fwriedir eu trosglwyddo i 'n' milwyr clwyfedig. Gan mai o arian y trethi y talwyd am y rhai hyn, onid' dyledswydd y Gwarcheidwaid yw eu trosglwyddo i'r bobl er lleddfu dio- ddefaint a darparu cyfleusterau addas, ar gyfer damweiniau. Dylid cofio- am y bechgyn a glwyfir yn y "trenches" dan y ddaear, yn ogystal a'r rhai a ddaw o Ffrainc. Gellid parhau y sefydliad a neilltuir at ddi- benion meddygol yn ystod y rhyfel i'r un pwrpas i'r cylch ar ol y rhyfel.— Yr eiddoch, etc., GLAN DAK.