Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

fSTORI-" GRIFF IF AN," I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

f STORI-" GRIFF IF AN," I NEU BENODAU O'R HEN GWM. PENNOD VIII. (Parhad.) Teimlai Mr. Jenkyn Scriw yn fwy cartrefol yn y ty gyda Morgan nag yn y Siop gyda Myfanwy. Yr oedd yma mewn awyrgylch hollol gydnaws. Pwy newydd?" gofynnai Morgan. Ma pethe dwad ymlan yn splendid," meddai Mr. Jenkyn. Chi fuoch yno, felny f' ,meddai Mor- gan. Do do, a chi dim credu mor thank- ful odd hen bobol i fi am fod Providence wedi arwen fi yno. You would not be-, lieve it Mr Jones-Morgan! The ignor- ance of country people is stupendous, .and their simplicity is simply marvel- lous Beth chi meddwl nawr, Mr. Jones-Morgan, nhw gyd wedi meddwl to papur cwrt odd llythyr Mr. Long- paws, a nhw bron torri clonne wrth meddwl byse rhaid i'r hen dyn-that old fool of a man—mynd i cwrt," meddai Mr. Jenkyn, a chwarddodd yn iach. Wedsoch chi ddim yn wahanol wrthyn nhw, do fe 1" gofynnai Morgan. "Na, na, fi gadel nhw yn y twllwch. Fi meddwl byse gwell gan crefyddwrs hen ffasiwn yma talu deg swllt ar hugen in the pound na mynd i cwrt. They are ridiculous, they have no business instinct whatever," meddai Mr. Jenkyn. "Da iawn, gore i gyd yw hynny i fi nawr. Ma deg punt yn dipyn o arian. Ma rhai o deulu Bodeurog yn y dre yma'n amal iawn, ond chydig iawn ma nhw'n brynu yn y siop gen i a finne'n gwerthu popeth. Odich chi ddim yn meddwl fod yn deg i fi gal tipyn mas o honyn nhw ym mhris y ffenest 'yna?" gofynnai Morgan. By all means, Mr. Jones-Morgan," meddai Mr. Jenkyn gyda phwyslais. Peth arall, Mr. Jenkyn, ma nhw wedi acto'n shabby iawn ata i. Fe gasglwd digon o arian, a fi ddylse fod wedi 'u cal nhw. At dalu am y damage y casglwyd nhw a nid at y tlodion." Quite so, Mr. Jones-Morgan, they have the poor always with them. Ond daw deg punt falle cyn nos yfory. Mi gwedes fi adnod, a odd hynny digon i Siemi, the old fool!" meddai Mr. Jen- kyn. "Pwy adnod odd hi, Mr Jenkyn?" gofynnai Morgan. Cytuna a gwrthnebwr ar frys, et setra. Odd hen ddyn mor ignorant fe'n falch trwyddo pan fi gweyd fe gallu talu heb mynd i cwrt," meddai Mr. Jenkyn. Ardderchog, ond gwedwch wrtho i, Mr Jenkyn, beth am y Griff If an yna sy yn Bodeurog?" gofynnai Morgan. 0 impudent fellow yw fe sy wedi dwad i gweitho wrth lein newydd yna. Ma fe gallu imposo ar dynon sy gwbod dim, ignoramuses fel sy yn gwlad, ond fe dim whare tries a fi., I taught him a lesson once, you see," meddai Mr. Jen- kyn. I 0 ma dynon substantial yn saff or- wth rai felna," meddai Morgan. Quite so, Mr Jones-Morgan," meddai Mr. Jenkyn. Odich chi ddim yn meddwl bydd e'n debig o myrreth yn y fusnes hyn?" gofynnai Morgan. Not likely, ne falle Mr. Longpaws cal shot ato fe. Byse hynny just y peth. Ond fi dim meddwl Siemi gweyd wrth Griff Ifan. Nhw towlu llythyr i'r tan pan fi gweyd wrthyn nhw, a nhw talu deg punt fel fi gweyd," meddai Mr. Jenkyn. Gyda Ilaw, shwd dethoch chi mlan yn siop heddy gyda Myfanwy?" gofyn- nai. Wel," meddai Mr. Jenkyn, yn bwysig, odd Myfanwy yn polite iawn ond odd fi ffaelu gneud hi diall meddwl fi. Odd hi off at rwbeth arall o hyd." 0 cymerwch chi ddigon o bwyll, Mr Jenkyn, fe ddaw hi i ddiall pan wel hi'r fantes," meddai Morgan. Odd hi felse hi dim leico idea o gneud i Siemi talu deg punt," meddai Mr Jenkyn. 0 trueni i chi son wrthi am hynny," meddai Morgan," wede hi ddim am y peth, a mi anghofies inne weyd wrth- och chi am beidio son wrthi. Rw i'n gorfod gneud pethe fel hyn heb wbod iddi hi." Fi meddwl bod notions hi am busi- ness tipyn bach yn puritanical," meddai Mr. Jenkyn. Felny ma hi," meddai Morgan, "ma hi'n rhy galon-dyner. Dyw hi byth yn edrych ar i mantes i hunan hyd yn nod pan ma hynny 'n eitha reit." Quite so, ma hi un o rheiny sy meddwl gall hi gneud fel ma Beibl. yn gweyd yn siop," meddai Mr Jenkyn. Rych chi wedi taro'r hoelen ar i chlopa, Mr Jenkyn, dyna yw i cham- gymeriad mawr hi mwn busnes. Ma hi'n gneud tipyn o ofid i fi weithe os bydd hi'n meddwl fod y Beibl yn gweyd yn wahanol i'r hyn fydd raid i neud. Ond peidwch a tehynnu'n gros iddi ar y lein yna. Gweyd gyda hi yw'r gore a pheido gadel iddi weld y cwbwl," meddai Morgan. Da iawn, quite so, ma hwnna valu- able hint," meddai Mr Jenkyn, gan dyb- led ei fod wedi cael allwedd newydd a agorai glo calon Myfanwy. Bu cryn ymddiddan rhyngddynt eto gyda golwg ar y modd gore i osod meddwl Myfanwy yn esmwyth gyda golwg ar y cais am ddeg punt o Fodeu- rog. Wedi penderfynu hyn aeth Mr. Jenkyn i gael cwpanaid o de gyda Mrs Jones-Morgan, a Morgan i'r Siop at Myfanwy, .i ddadwneud y camgymeriad a wnaethai Mr Jenkyn yno, ac hefyd i geisio dylanwadu ar ei ferch i roddi ei llaw a'i chalon i Mr. Jenkyn. Arwein- iwyd yntau eto at rywbeth arall." Talwch dipyn o sylw i Mr Jenkyn, merch i," meddai Morgan mewn llais addfwyn a thyner. Rw i'n talu a alia i o sylw i bawb ddaw i'r siop yma 'nhad, a dw i ddim yn meddwl fod gydag e achos i achwyn 1 mod i'n gneud y gwahaniaeth lleia rhyngddo fa a rhai erill sy'n dod yma," meddai Myfanwy. Dyna'r drwg, Myfanwy fach; odich chi ddim yn diall i amcan e. Chewch chi ddim cyfie fel hyn bob dydd, meddai Morgan. "Oyfle i beth, nhad," gofynnai Myfanwy yn benderfynol, "ma'r peth yn dywyll i fi. Beth odd gan Mr. Jenkvn Scriw mwn golwg? Odi Bodeu- rog ddim wedi talu llawn ddigon i chi am y ffenest?" Odin, odin, Myfanwy fach," meddai I Morgan, yn anesmwyth. <c*Beth sy gyda chi a Mr Scriw mwn llaw ynte, pa Arlan sy wedi 'u gofyn yto ?" gofynnai Myfanwy. Rhyw gamgymeriad rhyfedd iawn odd y cwbwl. Digwydd galw yno nath Mr Jenkyn, a rodd yno lythyr Sysneg wedi dod na wydde neb o honyn nhw beth odd ynddo fe. Roen nhw'n deall window ynddo fe, a roen nhw'n meddwl yn suwr taw rhwbeth am y ffenest hyn odd e, a mod i isie iddyn nhw dalu rhagor. Fe awgrymodd Mr Jenkin falle byse talu'n well na diflas- dod. Dyn a wyr beth odd y llythyr, a thrueni na fysen nhw wedi i roi e i Mr Jenkyn i ddarllen. Ond dyna'r cwbwl wydde Mr Jenkyn, meddai Morgan. Da iawn os felny ma hi," meddai Myfanwy. Er i Morgan ddod i'r siop i gyn- orthwyo i wneud amcanion Mr Jenkyn yn eglur i Myfanwy, i gyfeiriad hollol wahanol yr aeth yr ymddiddan. Yr oedd achos Mr Jenkyn wedi ei esgeu- luso'n llwyr ganddynt pan ddaeth hwnnw i fewn eilwaith. Rw i wedi bod yn egluro i Myfanwy y camgymeriad nethon nhw ym Modeu- rog," meddai Morgan. Ie, wir, what a silly mistake, ond ma nhw dynon uneducated," meddai Mr Jenkyn. Uneducated ne beido, ma nhw'n onest, a fyse'n dda i lawer sy'n edu- cated fod yn debig iddyn nhw," meddai Myfanwy. Quite so, quite so," meddai Mr. J enkyn. Ymneilltuodd Morgan eto er mwyn rhoi cyfle i Mr. Jenkyn egluro'i hun ym mhellach. Chi dim diall meddwl fi gynne, Miss Jones Morgan," meddai Mr Jenkyn. Na, shwd odd yn bosib i fi ddiall a nhw a chithe wedi camgyineryd 1" gofynnai Myfanwy. Na, nid hynny, ond —— Cyn i Mr. Jenkyn orffen y frawddeg gofynnodd Myfanwy iddo- Odich chi'n dost, heddy, Mr. Scriw ?" I gweyd yn plaen, Miss Jones- Morgan, dolur calon yw fe," meddai Mr Jenkyn, gan dybied fod y gwir plaen wedi dod allan o'r diwedd. Ma'n ddrwg iawn gen i am danoch chi, Mr Scriw, ga i alw am ddiferyn o ddwr ne frandi i chi, ne, ddwr a brandi beth fydd ore i chi?" gofynnai Myfan- wy'n ddidrugaredd. Na, na, nothing of the kind; ma fi'n iawn," meddai'r carwr gwirion mewn pembleth. Ry'ch chi'n anodd y'ch diall heddy, Mr. Scriw, mae rhywbeth o'i le arnoch chi. Gaf fi alw ar mam atoch chi?" gofynnai Myfanwy. Na, na; how ridiculous I am!" meddai Mr. Jenkyn. Falle dewch chi'n well ar ol cysgu heno," meddai Myfanwy, "mynd adre nawr fydd ore i chi. Edrychodd Mr. Jenkyn yn wirionnach nag erioed, ac aeth allan gyda'r gair, gan dybied yn sicr fod Myfanwy yn meddwl ei fod yn feddw. Yr oedd gan- ddo ffordd bell i fynd adref ar draed, ac nid oedd meddwl am y driniaeth a gaw- sai gan Myfanwy'n felus iddo. Siarad- odd lawer ag ef ei hun ar y ffordd, ac yn cynllunio sut i wneud yr ymosodiad nesaf ar y gaerfa. Un peth y teimlai'n sicr o hono, sef, y gwnai i Myfanwy ei briodi o fodd neu anfodd. A'r cwestiwn nesaf a ofynnai iddi fyddai a wnai hi ei briodi, a byddai raid iddi ateb; ac ni waeth beth fyddai'r ateb, byddai raid iddi ei priodi! Gyda hyn gwelai Lewis Owen, y Crwydryn, yn dyfod i'w gyfarfod. Rhoddodd hyn gyfeiriad newydd i'w feddwl. Yr oedd yn hwyr a neb o'i gwmpas. Meddyl- iodd ynddo ei hun ai nid doeth fyddai iddo ddal ar y cyfle a "symud" y crwydryn. Na, gwell peidio, meddai ei lwfrdra, but I will get him out of the way yet." ■> Bore drannoeth derbyniodd Morgan y llythyr a ysgrifenasid gan Wil, Bodeurog. Gwenodd o glust i glust gan ddisgwyl yn sicr, y byddai ynddo bapur decpunt, ond siomwyd ef yn dost. Atebodd y llythyr, er hynny, un amcan da dybiai ef. Danghosodd ef i Myfanwy fel prawf o'r anwybodaeth y soniasai Mr. Jenkyn am dano. Tawelodd hyn gryn lawer ar feddwl Myfanwy. Aeth Morgan ar ei union at y Cyfreithiwr i gael ganddo ysgrifennu llythyr Cym- raeg at Siemi yn boddloni i dderbyn y deg punt yn ddistaw. Aeth Myfanwy, hithau, gan nad oedd brysurdeb yn y siop, ati i ysgrifennu llythyr i Fodeurog yn datgan eu sofid eu bod o hyd mewn pryder yno ynghylch y ffenestr ac yn dymuno arnynt fod yn dawel yn ei chylch, y barnai hi eu bod eisioes wedi talu, o bosibl, fwy na digon am dani. Cyrhaeddodd llythyr y cyfreithiwr ac eiddo Myfanwy gyda'u gilydd i Fodeurog bore drannoeth. (I barhau.)

Newyddion.J

[No title]

Bwrdd y Golygydd.

I Nodion o Rymni.

i LLYGAD CYNON.I

Shop Dafydd y Crydd. I