Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Dysgu Cymraeg yn yr Ysgolion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dysgu Cymraeg yn yr Ysgolion. ,Araith W. Edwards, Ysw., M.A., Arolygydd, yn Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg. Nid oes ond oddeutu deng mlynedd- ar-hugain er pan gychwynwyd y niudiad i gael i'r iaith Gymraeg ei lie priodol yn yr ysgolion. Erbyn hyn sicrheir i bob Awdurdod Lleol vng Nghymru y gallu i drefnu addysg Gymreig ymhob ysgol dan ei ofaL Ni ■enillwyd y fraint werthfawr hon heb lawer o lafur ac egni, ac mae tynged y •Gymraeg fel iaith lafar yn clibynnu i raddau helaeth iawn, os nad vn •gyfangwbl, ar y defnydd a wnawn ni o honi yn vstod y ganrif bresennol. Nid yw'r ffaith fod y Gymraeg yn parhau i fyw gynifer o fiynyddoedd wedi'r darostyngiad yn unrhyw war- ant am bellach estyniad o'i hoes. Mae'r dylanwadau sydd yn tueddu i Seisnigeiddio'r wlad yn mynd yn .grvfach bob blwyddyn fel mae'n am- Iwg i bawb. Try Cymru ochr ddiam- ddiffyn i Loegr mewn mwy nag un .ystyr. Yn yr amser gynt bu'r myn- vddoedd yn noddfa nid yn unig i'r brodorion ond hefyd i'w hiaith. Nid .ydynt mwyach yn ffurfio clawdd yn erbyn y Ilif estronol, ond yn hytrach mae eu hawyr iachus a'u golygfeydd hyfrvd yn hudo miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i dreulio eu gwyliau yn dn plith. Amgvlehynir ein gororau gan nifer o drefydd a ddarperir ar lan mor ar gyfer mwyniant ac iechvd. Poblogaeth Seisnig, gan fwyaf, sydd yn llenwi y rhai hyn ym misoedd yi haf. Saeson fel rheol sydd yn 'Cyfrannu eu cyfalaf er mwyn gweithio -em mwngloddiau, ac o Loegr rhaid cael rhan fawr o'r gweithwyr hefyd, !gan nad yw y gweithwyr Cymreig yn ddigon lluosog i ateb i'r gofyniadau. Ychydig o ardaloedd a geir heb nifer fwy neu lai o ddyfodiaid newydd yn medru ddim ond Saesneg. Y clnvan- ■egwch at hyn oil effaith y wasg Seis- nig, y newyddiaduron, y llyfrau rhad a'r addysg Seisnig a gyfrennir yn yr .ysgolion, a hawdd- gweled bod yr Vmosodiad a wneir ar fodolaeth v "Gymraeg yn un difrifol iawn, ac yn fwy felly fyth am fod y Saesneg mor hawdd i'w dysgu—yr hawsaf iaith, fe allai, ar wyneb y byd. Mae pob Sais uniaith sydd ganddo rywbeth i wneud a Chymro yn gorfodi yr olaf i siarad Saesneg, os bydd hwnnw yn medru Saesneg o gwbI, felly tuedda'r Saes- neg yn fwy fwy i fod yn iaith gyffredin. 'Gwell, bob amser, yw wynebu'r ffeith- iau. Mae'r rhyfel yma wedi dangos,: ar lawer achlysur, mor ffol yw an- wybyddu anawsterau'r sefyllfa. Os meddianna cadlywydd wybodaeth sicr a manwl am nifer a threfniadau'r ègelyn, fe fydd yn haws iddo ddarparu amddiffyniad. Anwybodaeth a di- laterwch sydd yn gyfrifol am lawer •digwyddiad anffort unus N,-ii -lianes y rhyfel. Mae'n eithaf amlwg na fydd y Gymraeg ddim yn cadw ei thir lawer yn hwy, heb son am ennill tir newydd neuadennill y tir a gollwycl eisoes os na chydweithia pob ysgol a phob •coleg yn y wlad er mwyn rhoddi i'r hen iaith ei iawn safle. Amcan yr Undeb ydvw, os wyf yn ei ddeall yn' iawn, cael addysg Gymraeg dros Gym- ru benbaladr ac nid mewn rhyw gongl yma ac acw. Gorchest go fawr yw hon. Lie mae ewyllys mae ffordd, ond nid ar ein hewyllys ni yn yr ystafell yma mae llwyddiant yn dibynnu, ond ar ■ewyllys y trigolion yn gyffredinol. Gall yr eglwysi wneud rhywbeth "tufewn eu cylchoedd priodol, ond nid yw y cylchoedd hynny gyda'u gilydd, gwaethaf y modd, yn cynnwys ond rhan o'r cyhoedd. Beth bynnag am hynny, rhaid iddynt, a bod yn gyson a'u proffes, roddi y lie blaenaf i anghen- ion ysprydol eu haelodau. Mewn ufuddhad i'r egwyddor bwysig hon mae llawer eglwys, yn ystod y hanner- canrif diweddaf, wedi gorfod troi Iaith y gwasanaeth o gymraeg i Saes- neg yn hytrach na cholli y bob! ieu- ainc ag oeddynt wedi tyf u- i fyny heb ddealltwriaeth o'r famiaith. Gall rhieni Cymreig wneud llawer, a gwna rhai o honynt. lawer iawn i .<gadv,r Gymraeg yn fyw ar yr aelwyd, 'ond pan fydd y boblogaeth yn gymysg mae'r plant yn troi at y Saesneg. Er mwvn gwrthweithio dylanwad yr am- •gylchoedd ac yn enwedig y plant Seis- nig, rhaid wrth fwy o egni a hunan- ymwadiad ar ran y rhieni na mae nhw vn arferol yn feddu. Nid oes can- moliaeth rhy uchel i'r rhieni sydd wedi llwyddo yn y fath amgylchiadau i gadw eu cartrefi yn hollol Gymreig. Maent yn haeddu ein parch a'n hed- mygedd am eu ffydddlondeb a'u hym- road gwladgarol. Ond mae lie i ofni mae dilyn y llwybr llyfnaf wna y mwyafrif. Mae eisieu wrth lawer o frwdfrydedd a dyfalbarhad i orchfygu tuedd y plant i siarad Saesneg pan fydddant yn treulio y rhan fwyaf o'r dydd yng nghymdeithas plant Seis- nig. Weithiau bydd rhywfaint o annedwyddych yn cael eu achosi yn y teulu pan fydd y plant yn cael eu dwrdio o hyd am na allent ateb yn Gymraeg. Ni raid i mi ymhelaethu rhagor ar y pwnc. Dangosa, pob arwydd na allwn ddibynnu ar ddylanwad y teulu a'r eglwysi na dim arall i gadw y Gym- raeg mewn bri os na fydd yr holl gvfundrefn addvsgol yn ymuno yn y gwaith, o'r ysgolion elfennol yn y gwaelod hyd at y colegau sydd yn paratoi yr athrawon o bob gradd. (I barhau.)

Cyfiawnhau Mr E. T. John,…

Advertising

! Wrth Fynd Heibio. I-

[No title]

Advertising