Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
-1 -————— Ebenezer.
-1 ————— Ebenezer. Yn yr adroddiad am y cyfarfod llenyddol, diweddaf a gyhoeddwyd yn y DRAFOD Rhif 986, gwelwn y gadawyd allan enwau y bon- eddigesau ieuainc Martha, Mair, Dwyryd ac Olwen Williams. Diau mai mewn amtyf- usedd y digwyddodd eich gohebydd adael eu henwau hwynt allan, gan eu bod bob amser yn barod i wneud pobpeth a allant er gwneud ein cyrddau llenyddol yn addysg- iadol a difyrus. f, CELT. ———
Family Notices
QENI. NICHOLS.—Avvst 26aih, ganwyd i'r Br. a'r Fones James Nichols, C. M. C., Nant y Pysgod, ferch gelwir hi Ida. Y falti a'r plentyri yn dod ymlaen yh iawn.
Yr Ysgot Gaws yn llandyrnog.
Yr Ysgot Gaws yn llandyrnog. ANTURIAETH LWYDDIANNUS. Syniad hapus yn sicr ar ran rhai o am- aethwyr DyfFryn Clwyd oedd symud ym mlaen i sefydlu ysgol neu ffactri gaws yn Llandyrnog. Cydnabyddir fod prinder neill- duol o wneuthurwyr caws yn y wlad, ac mai ychydig, mewn cymhariaeth, yw niter y rhai a gymerant d,dyddordeb neillduol yn y liaethdy, Hefyd, y inae yn bwysig fod y defnydd goreu a m wyaf cynuyrehiol yn cael ei wneud o'r llaeth, ac ar y tymor presennol tystir fod gwneud caws yn liawer mwy man- teisiol na gwneud ymenyn. Trwy sefydlu y ffactri hon, sicrheir peth arall, hefyd, set, cyd-weithrediad rhwng yr amaethwyr, a rhoddid cychwyniad i anturiaeth fauteisiol a llwyddiannus mewn rhan bwysig olr dyffryn. Agorwyd yr ysgol yn tlerm y Green, Llan- dyrnog, yr hwn le a rentid yn rhesymol gan Mr. Tomkinson, Plas ftordd ddwr—ar Mai 13eg, a chyflenwid y peiriannau angenrheid- iol gan Fwrdd Amaethydr'iaeth, tra y mae Prifysgol Bangor yn gyfrifol am yr ysgol eleni, ac wedi pennodi athrawes fedrus a galluog i ofalu am y lie, yn mherson Miss Robinson. Teimla y pwyllgor eu bod wedi bod yn ffodus iawn yn yr athrawes. Gwneir y pwyllgor lleol i fyny o amaethwyr cyfrifol yn y rhanbarth,1 a gweithreda Mr. W, G. Rigby; Pentre Mawr, fel cadeirydd Mr. Tomkinson fel trysorydd, a Mr. Garside, Caerfedwen, fel ysgrifennydd. Eleni cerir y sefydliad vn mlaen fel ysgol, a derbynir efrydwyr i mewn. Bydd yr ysgol yn agored hyd ddiwedd mis Medi. Derbynir efrydwyr i mewn yn rhad, a disgwylir hwy i gynorthwyo yn y gwaith, pa un nad yw yn galed, ac i roddi tri diwrnod yn yr ysgoI, os yn bosibl. Y flwyddyn nesaf bydd y sefydliad yn cae l ei gario yn mlaen ar yr egwyddor gyd- weithredol, air pwyllgor lleol yn gyfrifol am y ffactri. A barnu oddi wrth yr hyn y mae'r ysgol wedi gyflawni er pan agorwyd hi, mae'r an- turiaeth yn rhwym o droi allan yn llwydd- iannus iawn, ac ni ddylai amaethwr yn y cylch fod heb roddi cefnogaeth i'r sefydliad. Dyma gyfle rhagorol i ferched ffermydd i ddysgu y gelfyddyd o wneud caws. Gellir derbyn oddeutu chwech yn rhagor o ferched i'r ysgol y tymor presennol. Mae'r hyffordd- iant yn drwyadl, dyddorol, ac addysgol, ae yn sicr ni ddylai merched ffermydd ac eraill sydd yn cymeryd dyddordeb yn yr adran hon esgeuluso cymeryd gafael ar y cyfle neillduol hwh estynir iddyrit. Derbynir y llaeth i mewn rhwng saith a hanner awr wedi wyth o'r gloch y boreu, a pwysir ef ar glorian cyfaddas. Ylia tynir ef i lawr i alwyni, a rhoddir tocyn i'r per- chenog. Derbynir cyflenwad bychan neu fawr o laeth. Y mae cyn lleied a thair galwyn wedi ei dderbyri. Ar hyn o bryd y mae ugain o laethdai yn dyfod a'u llefrith i'r ffactri, ond nid oes ond un o honynt yn cyflenwi dros ugain galwyn y dydd. Mae ansawdd y llefrith o ddeutu 3. S-Y safoncyf- reithlawn ydyw, 3. Bob mis derbynia y Ilaethwyr daliad o swllt y galwyn ar y cyfrif, ac ar derfyn y tymor ad-drefnir y cyfrif ar safon y brasder geid yn y llefrith-sampl o ba un a gymerir ac a brofir bob wythnos. Felly, po gyfoethocaf y llefrith mwyaf y pris. Cyftifir fod yn ofynol cael tair galwyn o laeth i ennill 2S. 4c. y pwys mewn ymenyn, tra y bydd i dair galwyn wedi ei wneud yn gaws, ennill 4s. 3c. Mae y cwrs o wneud y caws yn araf, ac yn gofyn Ilawer o amynedd a gofal. Gwneir ar gyfartaledd bum' cosyn y dydd, yn pwyso o 56 i 60 pwys bob un. Derbynir rhwng 260 a 280 o alwyni o laeth i'r ffactri bob dydd. Y swm a dderbyniwyd y diyvrnod cyntaf yd- oedd 105 o alwyni. Gellid derbyn pedwar cant galwyni y dydd i'r ysgol, felly, gwelir fod yna gyfle i laethdai eraill gynorthwyo yr anturiaeth. Yn ystod y mis presennol gwnaed 67 cosyn, ac er Mai 13eg gwnaed cynifer a 115, yr hyn sydd yn glod uchel i Miss Robinson a'i chynorthwywyr. Mae'r caws a wneir o ansawdd rhagorol a blasus iawn, Gwerthir ef i brynwyr awdur- dodedig gan y LIywodraêth. Gwerthir y maidd glas i't Haethwyr yn ol ceiniog y galwyn, a defnyddir ef i borthi moch. Byddai ymweliad a'r ffactri yn agoriad llygaid i lawer, a hyderwn y rhoddir cefnog- aeth gynnes i'r sefydliad gan amaethwyr y rhanbarth, acedrychwn yn mlaen at yr adeg yu fuan pan fydd ffactri gaws Llandyrnog wedi ennill tir uchel mewn enwogrwydd.— O'r Faner. —————— — —
Gwasanaeth Cymraeg yn Mynacliiog…
Gwasanaeth Cymraeg yn Myn- acliiog Westminister. Dydd Sadwrn diweddaf cynhaliwyd gwas- anaeth Cymraeg yn Mynachlog Westminis- ter, Llundain, er gwneud appel neillduol ar ran Cronfa y Carcharorion Rhyfel Cymreig. Cymerid dyddordeb neillduol yn y gwasan- aeth, a bu cryn lawer o barotoi ar ei gyfer. Daeth cynulleidfa liosog iawn. ynghyd, tra yr oedd torfeydd wedi ymgynull o gwmpas yr eglwys i wylio y rhai a ddeuent i'r gwas- anaeth. Methodd y Brenin a'r Frenhines a bod yn bresennol, ond daeth y Frenhines Alexandra a'r Dywysoges Victoria yno, a chroesawyd hwy wrth un o ddrysau yr eglwys gan y Deon a nifer o glerigwvr. Rhoed croesaw cynes i Mr. Lloyd George, Mrs. Lloyd George, a Miss Megan Lloyd George pan gyrhaeddasant at yr adeilad. Cynorthwyid yn y gwasanaeth gan Sein- dorf y Welsh Guards, a chorau y Capel Brenhinol a Mynachlog Westminister, yng., hyd a chor Cymreig o'r brifddinas a chor meibion y Welsh Guards. Cyn dechreu y gwasanaeth chvvareuvtfyd darnau cerdtiorol swynol gan y seindorf. Yr oedd y rhan gyntaf o'r gwasanaeth yn Gymraeg, a chenid amryw o donau adna- byddus, megis, Aberystwyth,' Mori ah,' 1 Dies Irae,' Rhondda,' Llanfair,' a Dwy- for.' Canwyd unawd, 'Hen Wlad fy Nhad- au' gan Mr. Ben Davies, y canwr adua- byddus. Datganwyd Mawl-gan Cymru,' a gyfansoddwyd gan yr EsgobBoyd Carpenter, ac a roed ar gerddoriaeth gan Syr Frederick Bridge, organydd Westminister. Darlkn- wyd y llithoedd gan Esgob Bangor, a phre- gethwyd yn Gymraeg.gan Esgob Ty Ddewi. Ar derfyn y bregeth gwnaed y casgliad, ac ym mysg y caisglyddion ceid y Prifweihidog (Mr, Lloyd George), Mr. W, M. Hughes (Prifweinidog Awstralia), y Cadfridog Syr Francis Lloyd, a hifer o aelodau Seneddol Cymreig. Ymunodd yr holl gynulleidfa i ganu, 0 anfeiclrol rym y cariad." Yn ystod y gwasanaeth, caed gorymdaith o'r clerigwyr a'r corau, a chenid yr emyn, "For all the saints who from their labours rest," a dilynid hyn gan anthem. Cyhoedd- wyd y fendith Apostolaidd yn Gymraeg gan Dr. Ryle, Deon Westminister. Y mae un boneddwr wedi rhoddi mil o bunnau tuag at y gost o baentio yr olygfa yn yr eghvys dydd Sadwrn.—O'r Faner. ————— ————
Pysgodyn Mawr.'
Pysgodyn Mawr. Yn yr amser gynt gwnai pobl lawer fwy o ddefnydd o ryfeddodau ac arwyddion na ni. I ni nid oes rhyfeddod nac arwydd, ond pob peth a ddygwydd yn naturioi. Yn New Orleans yn ddiweddar (yn y mor y tu allan, y golygwn) daliwyd y pysgodyn mwyaf a rhyfeddaf yn y byd rhyw fath o Gaiser o bysgodyn pysgodyn yn euro hwnnw lyn- codd Jonah, ers talwm. Pwysa 3o,ooop., ac inae yn 45 troedfedd o hyd. Ni wyr y gwyddonwyr, a gwyddant hwy y cyfan, i ba dylwyth i'w roi i berthyn. Cymerwyd pum diwrnod o ymdrech ofnadwy i'w ddal a'i orchfygu. Cymerwyd cant a hanner o beleni i'w lonyddu, a chafwyd o'i fewn octopws yn pwyso 400 pwys, a physgodyn arall yn pwyso r,50o pwys, heblaw nwyddau eraill, Y mae yn awr yn cael ei ddangos mewn amgueddfa yn y ddinas, a chymellwn ddar- llenwyr y Drych sydd yn gyfleus i droi i fewn i'w weled. Nid allan o le fyddai ei sychu a'i droi allan ar olwyhion, yng nghwmni y Tanc i gasglu at yr Echwyn nesaf. Ai tybed mai "arwydd yw o fudd- ugoliaeth lwyr at Germani sydd yn llyncu gwledydd ers talwm, a'i cheg yn agored i lyncu'r byd ? Hyderwn mai.
- - - - - - - GAIMAN.'
meddylwyr mwyaf yr oesau yn amheuwyr mewn rhyw gyfnod neu gilydd o'u bywyd." Pwysleisiodd Mr. Daniel arnom i fanteisio ar eiu horiau hamdden i ddiwyllio'n gallu- oedd meddyliol, i wneud defnydd priodol o bob cyfle i goethi a datblygu y meddwl, Dynion o feddwl goleuedig ac o argyhoedd- iadau dwfn sy' wedi codi safon cymdeithas ymhob oes." Dylai pob dyn ieuanc gyflawni ei addew- idion, collir ymddiriedaeth yn yr hwn na chyflawna yr hyn addawodd wneud, nis gell- ir ymddibynu arno. Cyfaill amhrisiadwy yw hwnnw gyflawna ei addewid, gwell i'w dweyd yciiydig a chyilawni liawer, na dweyd liawer a gwneud dim. Elfeti arall sylii hatifodol mewn dyn ieu- anc dewisol yw parch. Gwel ef ddaioni ym mhawb, ni edrych ef ar ochr ddu eu bywyd, ac ni rydd ei fryd ychvvaith ar chwilio am feiau na nodi brychau yng nghymeriad neb, nid yw'n gul ei feddwl na cheidwadol ei ysbryd. Nid oes gennym hawl i goridemnio neb na font o'r un farn a ni, o herwydd pwy wyr i sicrwydd beth yw gwirionedd ? Dyl- em barchu gonestrwydd ymhob dyn. "God never damn's sincerity." Amrywiol ddull- iau o feddvvl a gwahaniaeth mewn diwyll- iant sy'n cyfrif am yr holl wahanol farnau sydd yn y byd. Cred Mr. Daniel yn angherddol mewn gonestrwydd. Nid yw'r dyn ieuanc dewisol yn yinddiried dim i lwc heu chance. Mae pob ceiuiog afedd yn cynrychioli llafur, nid yw'n credu mewn' gamblo, betio, raffles, lotteries, na dim o'r moddion geir i ennill symiau mawriou o arian mewn aiunud am- ser trwy hapchwareu. Mae'r arian geir rwy hapchwareu yn dlfwyno hapusrwydd, ac nid oes bleser parhaol mewn arian na fyddent yn ffrwyth llafur onest." Ni wna ychwaith ddim yn y dirgel na hofl'ai iddo ddod i'r ainlwg, nid oes arno ofn goleu ym- ehwil i orffennol neu i ddirgelion ei fywyd arno, ac ni phetrusa wneud popeth a wna yn y dirgel yn yr amlwg. Y mae dyn ieuanc a'r egwyddorion hyn wedi eu planu yn ei fywyd yn adduru moes- ol i gymdeithas, ac efe yw'r ysgogydd crvfaf ymhob teyrnas, y mae yn meddu crefydd bur, a Duw yw ffynhonell ei nerth a'i ysbrydiaeth. Crist o Nazareth yw'r unig esiampl berffaith b'r dyn ieuanc delfrydol, a chyn bod yn llwyddiannus rhaid dilyn ei gamrau ef, a mabwysiadu ei egwyddorion yn ein bywyd, ac yna deuwn yri nes i'r ddel- fryd fu'r Gwaredwr yn engraifft mor dry- lwyr ohoni. Pe'r mabwysiadid y cynghorion gwerth- fawr roddodd y darlithydd ger ein bron, deuai ein hymwybyddiaeth yn fwy goleued- ig, ein rheswm yn gywirach, a'n gweithred- oedd i ddisgleirio ar blaize uwch bywyd, a dymuniad y bardd fyddai dyhead ein calon ninnau :— "Into the silence let me enter Pierce the. spirit's inmost shrine; There in the glow of the soul's hid centre Bathe each thought till it burn divine." Diolchwyd yn wresog i Mr. Daniel am lafurio mor galed, er rhoddi darlith mor afaetgar ac ymarferol ger bron y gymdeithas. Hir oes iddo, a Duw fo'n gymorth i lwyddo ei genadwri angherddol lie bynnag yr elo, dyna yw dymuniad gwresocaf Cym- deithas Catnwy Fvdd. 11 MEDDYLYDD. J.8.A.8.