Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

. " IGAIR O FFRAINC. I

Cynghrair Efengylaidd y Byd.I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cynghrair Efengylaidd y Byd. Y Materion awgrymir ar gyfer Gweddi Unol a .Chyffredinol. Sabbath, Ionawr 6, hyd Sadwrn, Ionawr 12, 1918. Sabbath, Ionawr 6ed, 1918. Mater i Bregethau ac Aoerchiadau :— Y Pethau Tragwyddol."—Dan. iv. 3; 2 Cor. iv. 18; Heb. xi. 10. xii. 27. Llun, Ionawr 7fed, 1918 Diolchgarwch a Cliyffesiacf- Diolchgarwch-Am gynydd parhaus y cylch o frawdoliaeth yng Nghrist. Cyfjesiad- Bod y dystiolaeth Grist- ioDogol ar ei goreu yn adlewyrchu cyn lleied o feddwl Grist. Gweddi- Am i ganlynwyr Crist, tra yn llefaru y gwirionedd mewn cariad, beidio gwneud un cyfaddawd a phechod. Am i nifer y rhai a ddisgwyliant Ei ymddangosiad Ef fynd ar gynnydd. > Rhannciu i'w Ddarllen-Act. xvii. 24-28; Matt xi. 21-30; 1 Petr ii. 21- 25 1 loan ii. 3-6 1 Thess. v' 22. Mawrth, Ionawr 8fed, 1918 "Yr Eglwys Gyffredinol-yr Un Corff i'r hwn y mae Crist yn ben. Diolchgarwch-Am gyfangorlf y dystiolaeth Gristionogol ar hyd yr oesau. Am fod un amcan, y'nghanol amryw- iaeth doniau, yn atdynnu y gwahanol enwadau ynghyd. Am yr hunanymholiad dwys sydd yn mynd ymlaen yn yr eglwysi ynglyn a'u haneffeithiolrwydd. Cyffesiad-O fod yr acbos am feth- iant yr Eglwys ynddi hi ei hun, ac Did yn ei Harglwydd. 0 fethiaDt yr Eglwys i gyrraedd bech- gyn a merched ieuaingc y byd. Erfyniadau- Am i 1918' weled ym drechion newyddion tuag at Undeb Cristionogol. Am i dystiolae,th yr Eglwys, drwy sancteiddiad yr Ysbryd, cariad y gwir- ionedd, doniau newyddion o ddoethin- eb ac ymdrech, ddyrchafu fel twr eglur i olwg yr holl fyd. I- Am i brif ddyledswydd yr Eglwys o efengyleiddio dynion gael ei lie priodol. Rhannau i'w Darllen-Eph. ii. 13-22; Heb. xi., 32-xi. 2; Eph. iv. 10 16; Mal iii. 19; Diar. xxiii. 22 26; 2 Thess. ii. 13 15; Matt. xxviii. 18-20. Mercer, Ionawr 9fed, 1918 Cenhedloedd a'u Llywodraethwyr. Gweddi-Arn i amcanion Duw yng Nghrist gael eu ceisio a'u gwybod ym mysg y cenhedloedd. Am i'r conheiHoedd ddod o byd i Grist yn uatblygiad eu dalfrydau cenedlaethol. Am i'r ymdrechiou i sefydlu heddwoh parhaol yn mysg y cenhedloedd gael eu Dwyfol gyfarwyddo. Am i bob atdrefniad go-el ei ystyried a'i gario allan yng ngoleuni Gair Duw, a'r pathau sydd dragwyddol. Am i feichiau llywodraethwyr, a chyf arwydd barn y cyhoedd, gael eu gosod ar galon Cristionogion yn mhob man. Dros y cenhedlodd bychain sydd yn dioddef mor dost o herwydd y rhyfel. Dros bawb sydd yn gwasanaethu y wladwriaeth. Rhannau i'w Darllen-Diar. xiv. 134; xxi. 1: 1 Peter iv. 19 2 Petr iii. 9; loan xii. 20-32; Esaiah ii. 2-4; 1 Cor. iv. 1-5. lau, Ionawr, lOfed, 1918 Cenhadaethau yn mysg Mahometaniaid a Phaganiaid. Diolchgarwch-Am nas gall rhyfel byd eang oedi olwynion ei gerbyd Ef. Am fod yr Eglwysi yn y Maes Cen- hadol yn ymgymeryd a'u cyfrifoldeb yn ddiofn. Am fod Rhyddid Crefyddol yn ymledu dros y byd. Gweddi- Dros eglwysi a chenadaeth- au sydd yn cael eu gwasgu o herwydd y Rhyfel. Am i ysbrydolrwydd yr Eglwys fyn'd ar gynnydd trwy ffydd a phrofiad newydd yr eglwysi ieuainc. Am i genhadon yr Arglwydd ddal gafael yn y Gwirionedd Tragwyddol ynghanol y cyfnewidiadau parhaus mewn ffurf a threfn. Rhannau i'w Dayllen--Dan. ii 34- 35, 45 iv. 1 3 Esaiah xl. 1-8; Matt. ii. 1 11 Eph. iv. 4-6. Gwener, Ionawr lleg, 1918 Teuluoedd, Ysgolion, Colegau, a'r Ieuaingc. Diolchgarwch-Am y fendith gysyll- tielig a'r bywyd teuluol. Am y diddanwch a'r sicrwydd, mewn galar, o anfarwoldeb gogoneddus. Erfyniadau-Am i'r fraint aroyfrif- oldeb o fod yn dad a mam gael eu derbyn yn gyffredinol ac ewyllysgar. Am i addc) iad teuluaidd, ac addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd gael y lie blaenaf ar yr aelwydydd. Am i'r ieuaingc/gael eu cadw yn ddi- frychealyd oddiwrth y byd yn y pethau a ddarllenant, yn eu dyfyrion, a,u cwm- ni. Am fendith ar bob athraw ac athraw- es- Am i Ofn yr Arglwydd fod yn ddech- reuad doethineb yn mhob sefydliad addysgol. Rhannau i'w Dayllen-Salm cxxvii. 2 Cor. i. 4 1 Cor. xv. 54—57 Matt. xviii. 1—6; Diar. i. 7; ix. 10-12. Sadwrn, Ionawr, 12 fed, 1918 Cenadaethau Cartrefol ac Iuddewig. Erfyniadau- Am i anghenion pob dosbarth mewn cymdeithas i gael cyd ymdeimlad mwyaf ystyriol yr Eglwys. Am i gydymdeimlad Cristionogol, gonestrwydd masnachol, a chydnawsedd rhwng cytlogwyr a chyflogedig, ddwyn dfnion i barchu en gilydd. Am i had Abraham fyned i mewn i gyflawnder Duw yn lesu Grist. Rhannau i'w Dayllen-Matt. xxii. 1-10; Diar. xxii. 1-2; Iago ii. 1-9; Mal. ii. 10; 2 Cor. iii. 12-18.

[No title]

COLOFN Y LLENOR. ,,1:,

[No title]

YN Y FRWYDR. I