Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

PEN M AEN M 4W8. I

IIMACHYNLLETH.

TISYDAIL..I

I LLANDUDNO II

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I LLANDUDNO Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn [ Ebenezer, nos Sul, yr 2fed cyfisol, er cof am ddau fab Mr a Mrs Robt. Jones, York Villa (blaenor y gan gyda ni), sef Alun, 23ain oed, ac Ivor, y mab ieuengaf o'r teulu, yn 21ain oed. Yr oedd y cynhulliad lliosog a ddaeth ynghyd yn tystio yn uchel i barchusrwydcl ac anwyl- I deb y ddau frawd ieuainc a gollas- ant eu bywyd yn amddiffyn eu gwlad, y naill yn Ffrainc a'r llall yn Palestitia, ac yn arwydd di- gamsyniol o'r cydymdeimlad dwfn a chywir sydd yn ein meddiannu fel trefwyr gy da'r teulu yn eu galar a'u hiraeth am eu hanwvliaid. Pregethwyd yn ddoeth a phwrpas ol gan y Parch. J. Lloyd Hughes, ac arweiniwyd y canu gan Mr Evan Evans, a chwareuwyd y Dead March" gan Mr Reuben I Jones, yr Organydd. Yr oedd y wasanaeth drwyddo yn ddwys ac effeithiol 1- Cydnabop. CYDYMDEIMDAD. I Dymuna Mr a Mrs Robert Jones, York Villa, Llandudno, gydnabod yn wir ddiolchgar y lliaws cyfeill- ion ceredig anfonasant i gydym- deimlo a hwynt yn eu profedigaeth o gollieu dau fab yn y Rhyfel, sef Alun ag Ivor. Cymaint yw rhif y llythyrau anfonwyd fel nas gellir yn hawdd eu hateb bob yn un. Digon yw dweyd i gydymdeimlad y cyfeiliion eu cynorthwyo yn fawr yn yr argyfwng chwerw hwn, Bu'r cydymdeimlad ddangoswyd yn foddion i felysu ychydig ary cwpdn chwerw ddaeth i'w rhan. Goh. I

Advertising