Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYRAU Y MILWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYRAU Y MILWYR. GAIR 0 GANAAN. (Gan y Caplan A. W. DAVIES). Annwyl u\yynrryn,— Gair bach eto o'r Hen, Hen Wlad. Myfyrdod min yr hwyr. Yn fy mhabell len deneu, eyfyng, a hi 'Yn nosi, fe orwedd ar ael mynydd bach moeliog, islaw, ceunant ddofn, luniwyd gan lifogydd yr oesau. Yr ym ynghan- mol bryniau, neu fan fynyddau, ymweu- ant i gysgod eu gilydd, gan fifurfio Dent ydd troeiliog i bob cyfeiriad. Gaeaf yw hi, a'r wlad yn hollol Iwm o bob math o wyrddlesni-, ond yn disgwyl cawodau 4rwm y gaeaf. Cawsom un noson o wlaw trwm, a daeth cyfnewidiad buan :45welid y brysg goed man yn dechreu bwrw allan eu saefchaa tyner gweiw-las, a blodau bach tyner yn dechreu gwenu. iMae gwres y dydd yn cilio i ganlyn yr fhaul, sudda i'w orwel draw; mae y wybren yn Iliw yr aurafal ffres o'r winllan, neu y dernyn aur o'r bathdy, yma ac acw y mae llafnau gleision tlws o gymylau fel gwawl y saffir. Mae y .mynyddoedd moelion welir, a'u hesgyrn •earegog yn ymwthio o'u mynwes, wedi ,eu gwisgo a'u tlysu agwa wI glasaidd dlos. Erbyn hyn mae y lleaad wen gannaid wedi llanw y ffurfafen a'i dis .gleirdeb arianaidd, a'r ser yn llosgi fel ilusernau gloyw gwelir liineliau tlws y :mynyddoedd gleision a'u copaau yn ymffurfio yn erbyn y wybren loyw ,ond o'm blaen mae un myoydd a'i gopa yn uwcb na'i gyfoedion, ac ar ei ben y garnedd groes i ddynodi man un o'r brwydrau colyd fu ychydig ddyddiau yn ■ol. Ar gefnen fach ar y mynydd hwn, ychydig o latheni islaw y garnedd, gor- wedd gvveddillion y bechgyn annwyl, a rhai swyddogion, syrthiasant yn y frwydr. Chwaer fyddin Seisnig wersyll- ant gerllaw a godasent y garnedd. Mor ryfedd anian yn ei gogoniant, ag eto mor dawel, yr hen fynyddoedd y bu brwydro celyd arnynt fel yn cysgu, er fod creith- iau arnynt hwythau ar ol ffrwydriadau ergydion y magnelau mawr. Yma yr cedd un o amddiffynfeydd cadarnaf y ,gelyn-amddiffynfa naturiol; yma bu brw) dr den, y naiil ochr a'r llall dros dridiau a'u tynged yn y glorian ond ar yr wythfed cyfisol, gwthiwyd y gelyn o'i :Ioches gadarn, ac ar ffo yr aeth, ag ar ffo y bu am. ddyddiau lawer, yn methu icasglu eu hunain at eu gilydd. Ond mae'm meddwl yn y fynwent fach gor- wedd llu yno, yn bennaf bechgyn an- nwyl ogatrawd y seithfed R.W.F., ym- 4addasant mor ddewr, a syrthiasant yn arwyr. Y Sadwrn aethum i a'r meddyg i'r fan, buom yn crwydro dros faes y frwydr, yn dilyn olion yr ymdrech, gan olrhain safie y gelyn a ninnau. Ac yna i'r fsnwent: mynwent fach dlos ar gefnau gwastad yn ymyl copa y myn ydd, lleeyn wedi ei gau i mewn gan fur bach o gerrig gwenithfaen gwyn, a'r beddau wedi eu nodi a'r un math o feini, a chroesau bach o bren yn nodi enw a chatrawd y milwr syrthiedig. YD y canol yr oedd croes fawr o bren praff wedi ei addurno er cof am danynt. -Pradd oedd yr olygfa, canys yma gor- wedd ambell i un a adwaenwn, ag y bum yn eu hannerch, ac y buom yn .gwrando arnynt lawer tro ar ol odfa nos Sal yn canu hen donnau ac emynau Sion Cymru. Ond heddyw yn fud gof- ynnem, i ba beth y bu y golled hob, a beth bynnag all syniad dyn fod am y rhyfel hou, yma ynghannol man eu gorff. ,w>s olaf dywedwn y gorweddant yng ngogoniant dawel eu haberth mawr. Ac i mi yr oedd prudd-der arall, yn un o bump o swyddogion a adwaenwn yn dda, ac a gladdwyd yn gyfochrog yn yr un bedd, y mae cyfaill annwyl, un o fechgyn fy eglwys ym Methesda, set yr Js swyddog W. H. Williams, mab i Mr Williams, y Bank, Bethesda. Llawer awr ddifyr gawsom a'n gilydd: gwr ieuanc caredig, craff, a doniol, llawn ynni; bu farw fel glew yn y frwydr. Cysgod ei aden Ef fo dros man ei fedd, a thodded i'w berthynasau y nerth a'r -cysur hwnnw, a'r tangnefedd nas gwyr y byd am dano. Ni fum gyda hwy yn y frwydr, gan mae gydag adran arall yr oeddwn mewn -ewr arall, lie cefais weini ar y clwyfed- igiou, a chludo rhai clwyiedig o'r maes i fan o ddiddosrwydd, a He befyd y cleddais yr arwyr syrthiasant. Prudd, ie, prudd, syrthiodd lu o Gymry y trid- iau hyn. Eto, teimlaf yn falch ohon ynt, cymysgir fy nagrau a diolch am eu dynoldeb a'u gwroldeb yn y dyddiau garw hyn. Bydded i'w haberth ddwyn gwawr newydd i meWD, a diwedd ar ryfel. Tua dydd Mawrth symudasom i fyny y wlad, ymdeithiem rhwng ystlysau mynyddau y wlad ihwng Beersbeba ac Hebron. A gwersyliwn dros dro mewn llannerch bur ddymunol rhwng y bryn iau a'r mynyddoedd moel, ac eto oddi- yma gwelaf y garnedd yn y pellter tawel-nod man y cwympodd y cedyrn. Y mae dau bentref bach gerllaw, y naill a'r llall ar gopa y bryn, a'r olygfa yn ein cludo yn ol i hen ddyddiau y patriarchiaid. Gwelaf y merched a'r llestri dwfr ar eu peonau yn dychwelyd i'r pentref gerllaw, a'r un diwyg o lian main amryliw, a'r gwyr a't bechgyn a'r geifr a gyrr o ddefaid man ac ychydig asynod yn eu dilyn i'w pentrel i lochesu dros y nos, canys min yr hwyr yw. Daeth toriad gwawr, a'r Bedouin ar lasiad dydd, yn ei Arabaeg, yn galw y praidd i'w dilyn i borri o'r bryslwyni man a'r twmpathau ar y man fryniau gerllaw, bwy yn amaethwyr ac yn fugeiliaid mewn modd tawel, amrwd, mor henafol eu dull ag oeddynt yn nyddiau Jacob, heb eu deffro na'u cyn- hyrfu gan y byd mawr o'u deutu, a'r trachwant am foethau ac am arian heb losgi i'w cnawd mor dawel, a ninnau yn gwersyllu gerllaw yn un o stormydd chwerwaf, creulonaf, ac ynfytaf y byd oherwydd ffoledd dyn. Cwr tawel yw hwn o Ganaan, prin y bu rhyfel yma, gyda mor i'r cwr ogledd- ol, yr oil ffordd beibio i Gaza, Ra-ff a, Romani, i'r Aiffb. Yma y mae hen Iwybrau rhyfelwyr yr hen oesau. Er! y dywedir fod y cwr bwn wedi ei thram- wyo gan lysgenbadwyr gyda negesau dros eu gwlodydd—gwaith cyfriniol gwleidyddol, bro dawel yw. Buom yn tramwy ar yr hen ffordd o Jerusalem i Beersbeba, ac o bosibl yr hen ffordd y tramwyodd y Frenhines Sbeba, Dafydd, brenin Israel, a rhai o'r hen batriarch- iaid. Mae olion hen oesau ac ben gyfnodau o wareiddiad, ac ol traed llawer i hen genedl aeth ar ddifancoll ym t. Mae gerllaw, ar gopa bryn, hen dwr adfeil-, iedig a godwyd yng nghyfnod y Groeg iaid. Rhyw bentrefi bach henafol sydd yma, isel, ysgwar, a'r nenfwd y tai yn wastad, er y trig llawer mewn ystafell- oedd gloddiwyd yn y creigiau calchog. Mae swyn yn nhawelwch y fro, a phrydferthwch y lliwiau, er yn wlad lorn yn awr, eto edrychai y bryuiau a'r gwastad bach yma yn ogoneddus o dlws gan li-wiatt gwawl toriad dydd. Ymae swyn yr ennyd dawel yn eli i galon fu yn rhyferthwy ofnadwy rhyfel erch, a'i drwst enfawr y dyddiau diweddaf; ond mor alaethus, Did yw y diwedd eto. Ein gweddi yw am i Dduw o'i drugaredd ddwyn tangnefedd i ni. Rhyfedd, onide, cwrs dyn-rhyfel, dioddef, syrthio yn y gad, yng ngwlad yr Iesu. A thrwy'r mwg a'r dwndwr erch, o ganol y dolef, ato Ef y rhedwn, ac ynddo El mae ein hymddiried am fyd na bo rhyfel mwy o'i mewn. Cofion serchog, A. W. DAVIES, C.F., Att. 1/5 Welsh Regt. 1 159 Infantry Brigade, I 53 Division, E.E.F. I

[No title]

Y GWRTHWYNESYDD CYD. WYBODOL.

[No title]