Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

- ABERMAW.I

NODION WESLEAIDD. I - -I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION WESLEAIDD. I Gwelwn oddiwrth nodyn mewn colofn arall, fod mudiad ar droed i wneud tysteb i Mr John Marsden,y Llyfrbryf Wesleaidd. Bu Mr Marsden yn swyddog cyhoeddus yn Nhreffynnon a'r cylchoedd am nifer fawr o flynyddoedd, ac ni fu swyddog mwy cydwybodol a gof aius erioed ac y mae y trigolion a'i liaws cyfeiiiion yn manteisio ar ei ymneilituad i'w anrhydeddu, ac i sirioli tipyn ar nawnddydd ei oes yn y ffordd hon. Cafodd ein cyfaill lawer o afiechyd ac anhunedd yn ddiweddar, a mawr hyderwn y bydd y syniad fod ei gyfeillion yn meddwl am dano ac yn ei barchu yn y ffordd hon yn galondid mawr iddo. Y mae Mr Marsden yn Wes- leaid selog iawn, ac adnabyddus trwy Gymru fel un o'n lleygwyr mwyaf cyfrifol, rhoddodd lawer o wasanaeth erioed ar rai o brif bwyllgorau ein henwad. Bu ei ysgrifell hefyd yn gynyrchiol iawn, ysgrifennodd lawer i'r Winilan a'r Eurgrawn, a bu am oes faith, o'r dechreu yn wir, o dan y ffugenw "Llyfrbryf," yn cyfoethogi tudal- ennau y Gwyliedydd gyda nodiad- au dyddorol a gwerthfawr iawn ar hanes ein Cyfundeb. Y mae'n sicr gennym na fydd cyfeillion Wesle aidd ein hannwyl ffrind yn ol o gofio eu dyled i'r Liyfrbryf. Gwelwn oddiwrth lythyr y Parch. Darley Davies fod Alderman Jos= eph Jones, Frondeg, Treffynnon, yn garedig yn addaw derbyn rhoddion Wesleaid a deimlant ar eu calon gynorth wyo y drysorfa, a deallwn y bydd yn 11awen gan Olygydd y Gwyliedydd Newydd gyhoeddi rhestr y tanysgrifwyr. Bydd colled fawr i Wesleaeth a chylchoedd cyhoeddus yn nhref Aberystwyth a'r cylch ar ol Mr Robert Doughton, U.H., C S., yr hwn a fu farw yn ddiweddar yn yr oedran aeddfed o 80 mlwydd. Bu Mr Doughton yn faer tref Aberyst- wyth ddwywaith. Cymro oedd Mr Doughton, end bwriodd ei goel- bren gyda'r Wesleaid Seisnig, ac yr oedd yn ft /ddlon a llafurus iawn gyda'r achos Yr oedd at hynny yn bregethwr cynorthwyol derbyn- iol ers blynyddoedd maith. Merch i'r diweddar Mr Doughton ydyw priod y Parch. John Hugh Wil- liams, Hirwaun. Y mae y Caplan Wesleaidd, W. G. Hughes, gynt o Griccieth, wedi dod adref o Mesopotamia yn wael ei iechyd. Diau y cofia ein dar. llenwyr am amryw lythyrau dydd- orol a anfonwyd gan Mr Hughes, yn y rhai yr oedd yn fyw iawn, yn disgrifio y wlad, y trigolion, ei waith ei hun, ynghyd a theimlad- au bechgyn. >- Eiddunwn iddo adferiad cytlawn, a hynny yn fuan. M =. !E8 Gwelwn fod y Wesleaid selog, Alderman W. J. Trounce, Caer- dydd, wedi marw. Yr oedd Mr Trounce yn gyn faer y dref, ac yn un o aelodau hynaf y Gorfforaeth, yn wir yr hynaf oll,-gelwid ef ers amryw flynyddoedd yn "Dad y Gorfforaeth." iwmmm, Wesleaid amlwg iawn ydyw Maer Londonderry, Iwerddon, a hynny ers pedair blynedd, sef Syr Robert Anderson. Y dydd o'r blaen yr oedd Wesleaid y ddinas yn ei anrhegu ag anerchiad, ac a Salver arian gwerthfawr. Y mae y Parch E. Wynne Owen, y Caplan Wesleaidd yng ngwersyll Croesoswallt, wedi cychwyn ym- gyrch Iwydddiannus iawn yn erbyn hap chwareuaeth ymhlith y mil- wyr. Y noson y cychwynodd yr lymgyrch cafwyd 230 i arwyddo'r anti gambling pledge. Da iawn yn wir, dyma rywbeth a. gwir angen am dano.

Advertising

CYifl.811Îa \i esleaid Lerpwl…