Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
! BYD CREFYDDOL.
BYD CREFYDDOL. Yng Nghymanfa Annibynwyr Dwyrain Morgannwg, pasiwyd penderfyniad cryf yn galw sylw'r Llywodraeth at y tai anfoesol yn Ffrainc o fewn cyrraedd y mil wyt Prydeinig. Gel wir ar y Llywod- raeth i wasgu ar yr awdurdodau Ffiengig i ddileu'r cyfryw leoedd. Y mae Cynghor Eglwysi Rhydd- ion Cymru wedi cyhoeddi pam- ffled rhagorol ar Yr Ysgol Sul yng Nghymru—ei sefyllfa bresennol, a'r modd i'w gwella." Ymdrinir yn y rhan gyntaf o'r pamffled a'r diffyg- ion a deimlir ynglyn a'r Ysgol Sul, ac yna eir ymlaen i roddi nifer o awgrymiadau at ei gwella. Cymro i'r earn, sef y Parch E J. Williams, gweinidog y Wesleaid Saesnig, etholwyd gydag unfryd- edd yn gadeirydd Cynghor Eglwysi Rhyddion Market Drayton a'r cylch am y flwyddyn hon, a Chyrn ro gafodd y pleser o'i gynnyg, sef y Parch T. Henry Jones. Mae y Parch W. Wynne Davies wedi hysbysu eglwys Capel Mawr, Rhos, ei fod wedi gwrthod yr alwad a gafodd o eglwys arall. Mae hyn wedi rhoddi bodlonrwydd mawr i'r eglwys a'r gynulleidfa. Rhifa yr eglwys CG9. > Cymry wedi derbyn eu haddysg yn yr athrofeydd Cymrei2: ydyw gweinidogien egjwysi Annibynnol Seisnig Cyfundeb Dwyreiniol Am- wythig, oddigerth un. Y mae y Parch O. L. Roberts, Lerpwl, yn awr yn gorffen ei unfed flwydd ar hugain fel gweinidog y Tabernacl, hen gapel Hiraethog a Dr. John Thomas Eiddunwn iddo un flwydd ar hugain aratt i gy. hoeddi yr hen, hen hanes, ac i sefyll, yn ol ei arfer, ar y mur i wylied buddiannau Dinas Duw ymhob cyfeiriad. Y mae O.L." yn wir wyliedydd. Yn y rhifyn diweddaf, y mae Golygydd y "Cymru" yn traethu yn hallt ar le ffraethineb yn y pul- pud. "A geisiodd loan gan dorf chwerthin ? Onid arwydd sicraf dirywiad y caneloesoedd oedd fod y brodyr llwydion fu unwaith yn utgyrn eu hargyhoeddiadau dyfn, ion wedi troi yn glowniaidi ddi fyru torf ? A chyn dyddiay pryder ingol y rhyfel onid oedd ambell gymanfa yn gyrchle ffyliaid a'u bryd ar wrando ar arabedd, a'u clod yn fawr i bregethwyr gadwai'r dorf i chwerthin ? Tybiaf weith- iau mai temtasiwn waethaf preg- ethwr yw gwamalu yn y pulpud a lladd ei ddylanwad trwy gellwair a choegni." Wei, mae dwy ochr i'r pwnc hwn, onid oes ? Yn Seren Cymru" cyfeiria y Parch Ungoed Thomas at Rabbi Iddewig mewn tref yn y Deheudir dderbynia ddeuddeg punt y mis o gyflog, er nad yw aelodau ei syn agog yn rhifo dim mwy na deg ar hugain. Yn yr un dref derbynia gweinidog y Bedyddwyr yr un cyfiog er fod ei eglwys ef yn rhifo chwe chant-ac nid ydynt er cych- wyn y rhyfel wedi rhoddi cymaint a bonus iddo. Pa ryfedd mewn difii fod ein gweinidogion yn chwilio am feusydd newyddion Fel hyn y dywed y Cymro "Sibrydir fod ym mwriad o leiaf eidai-i o weinidogion y Deheudir adael corlan yr Hen Gorff yn y dyfodol agos a ckroesi trosodd—un i Eglwys Loegr a'r Hall at y Pres- byteriaid Seisnig. N i rodclir ond un rbeswm am hyn, sef bod yn rhaid i bregethwr wrth foddion cynhal I iaeth. Gresyn yw hyn gan nad oes plinder arian yn y wlad." 1
I COLOFN Y LLENOR.
I COLOFN Y LLENOR. Dyma fel yr ysgrifenna Ap Hefin am weithiau Gethin. Un o'r llyfrau a brisiaf fwyaf yw Gweithiau Gethin," a gefais yn rhodd gan y Parch H. O. Hughes pan oedd yn Aberdar; cyfrol chwe swllt pan gyhoeddwyd hi yn 1884. Anodd fuasai ei chael am unrhyw arian yn awr. Cyn- hwysa dros 400 o dudalennau mewn argraff man. Mae yn llawn o bethau diddorol, yn gofiant, awdlau, englynion, caneuon, ac ysgrifau, yn eu mysg hanes taith i Germany. Hen Gymro diddan ac amlochrog oedd Owen Gethin Jones, o Benmachno. Merch iddo ef oedd gwraig y diweddar Barch Edward Humphreys, yr hwn a ysg- rifennodd ei gofiant. Yr oedd Gethin yn enw mawr yn ein ty ni pan oeddwn i yn blentyn Ei waith ef ar y 'Cryd,' a'r 'Dant Colledig,' oedd y darnau cyntaf a ddysgais o'r Winllan.' Hwyrach y daw y rhai hynny i'r golofn hon rwydro; ond y tro hwn cewch damaid o'i ryddiaith" :— I Y Flordd i Foddio'r Byd. Dywed wrth y farn mai ei phlant hi yw y rhai tlysaf yn y byd. Dywed wrth y pregethwr y dylai gael ychwaneg am ei lafur. Dywed wrth y person mai yn yr Eglwys y dylai'r Ymneilltuwyr fod yn addoli. Dywed wrth y tafarnwr fod ei ddiod yn tra rhagori ar bob un arall. Dywed wrth y siopwr ei fod yn gwerthu nwyddau yn is na neb. Dywed wrth y Pab mai efe sy'n ei le. Dywed wrth wr a gwraig sydd heb blant mai eu ty hwy a'u dod refn yw y rhai glanaf yn yr holl wlad. Dywed wrth y ffarmwr fod trethi yn drymion. Dywed wrth y gwas a'r forwyn fod eu di wrnod yn rhy hir. Dywed wrth hen lane a ben ferch fod eu cathod a'u cwn bach clysion sydd ganddynt yn lfawer mwy cysurus na phlant. Dywed wrth y cerddor fod ei lais fel llais angel, ac fod yn resyn na bae'r holl gotau dan ei gyfar Wyddyd. • Dywed wrth y bardd ei fod wedi cael llawer o gam. Dywed wrth y telynor mai'r delyn sydd yn gwneud y byd yma gystal ag y mae. Dywed wrth dy deiliwr fod dy ddillad yn ffitio i'r dim. Dy w ed wrth y crydd fod yr esg- idiau yn esmwyth. Dywed wrth y goges fod ei bwyd- ydd yn fiasus. Dywed wrth y cor mai arnynt hwy y mae llygad a chlust y byd ymhob cyfarfod yn disgwyl. Dywed wrth John bach y daw'n ddyn nobl yn y man. Dywed wrth y-darluniwr ei fod yn euro natur. Dywed wrth y balch ei fod yn anrhydeddus. Dywed wrth yr hunanol ei fod yn anffaeledig. Dywed wrth y bugail ymha le y mae'r ddafad gyfrgolledig Dywed wrth y Tori fod ei scriw yn rhesymol. Dywed wrth y Whig mai efe a rwystrodd y byd lewygu. Dywed wrth y Radical y dylid troi y byd a'i wyneb yn isaf. Dywed wrth a doctor y gall wneud gwyrthiau. Dywed wrth y twrnai mai efe yw'r unig un cyfiawn. <
[No title]
Yn mis Ebrill ni oddefir i'r un express train yn y wlad deithio J mwy na 35 milltir yr awr bydd llawer Hal o drens hefyd ond a i-n y presennol ni chodir y fares. 1 Yn America mae'n drosedd rhoi diod feddwol i neb sydd mewc. diilad milwrol. Dywed W. J. Bryan y byddai yn werth rhoi pob dyn yn y wlad mewn dillad milwr er mwyn eu dwyn dan y ddeddf.
I BWYD Y BOBL. ■
I BWYD Y BOBL. ■ Ateb Cwestiynau Pwysig. A oes rhaid rhoir Cerdyn Siwgr i fyny cyn y ceir Tystysgrif Claddu? Nac oes. Nid oes hawl gan Gof- restrydd i hawlio hynny. Gwnaed hynny mewn rhai amgylchiadau, ond trwy gamgymeriad y gwnaed. Beth yw y rhagolwg am fwyd ? Mae y rhagolygon am fwyd yn well nag y buont. Cynhyrchir mwy o fwyd cartre yn y wlad hon eleni nag a wnaed erioed o'r blaen. Os ceir ilongau i'w gludo daw mwy o fwyd yma o'r America nag erioed. Eto, bydd rhaid bod yn gynnil, a gofalu peidio gwastraffu. A ydyw cynllun y Rations yn Ilwyddiant ? Ydyw, yn fwy o lwyddiant nag a ddisgwylid iddo fod. Rhaid eofio mai arbrawf ydoedd i raddau pell. Peth new- ydd hollol ydoedd yn y wlad hon, a rhaid oedd i bawb cysylltiedig ag ef ddysgu trwy brofiad. Am- hosibl felly oedd peidio gwneud camgymeriadau ar y cyntaf Ond, ag ystyried yr holl amgylchiadau, profiad Llundain yn arbennig yw mai bendith anrhaethol i bawb, i'r shopwr ac i'r cwsmer, yw gwneud cynllun y Rations yn orfodol. Beth yw profiad y cwsmeriaid ? Cyn sefydlu cynllu^ y Rations, ar- feriad beunyddiol cwsmeriaid oedd sefyll wrth y cannoedd yn rhesi hir, "ciws" y'u gelwid, ger drws y shop, pob un yn aros ei dro i gael myned i mewn, ac yn ami ar ol sefyll am oriau, methu cael yr hyn oedd eisieu. Ond mae'r rhesi hir hyn bellach wedi diflannu. Mae bwyd i'w gael yn ymarferol ymhob shop, a chan fod y Ration yn nodi swm penodol o bob nwydd i bob cwsrner, mae pob un fel rheol yn cael ei Vrfio mewn llai o amser na chynt. A yw Arglwydd Rhondda yn gallu sicrhau digon 0 bob nwydd i ateb y galw ymhob shop ? Nid yw yn ymrwymo y ca pob shop ei chyfran teg o'r nwyddau fo ar gael. Nid yw yn deg fod un teulu yn cael cwpbwrdd Hawn, a theulu arall a'i gwpbwrdd yn hanner gwag. Felly yn hollol nid yw yn deg fod un shopwr yn gallu cael ystor cyflawn tra shopwr arall heb hanner digon i'w gwsmeriaid. Mynnodd Ar- glwydd Rhondda rannu y bwydyn hollol deg rhwng y gwahanol shopau yn ol nifer eu cwsmeriaid cofrestredig. Hyd yma mae pob cwsmer, fei rheol, vTedi^medru cael ei lowans neu ration yn y shop. Ai yr un Ration sydd i bawb ? Ie, fel rheol gyffredin. Ond lie bo am- gylchiadau yn galw am hynny caniateir mwy na'r Ration o rai nwyddan i bersonau fo mewn ang- en neill tuol. Er engraifft gall dyn claf gael mwy o siwgr, neu fwv a ymenyn, neu fwy o gig na'r ration, yn ol fel bo'r meddyg yn gorchym- yn. Ac yn awr trefnir i roi ration helaethach o gig moch, neu fowl, neu unrhyw fath o gigfwyd (oddi- gerth yr hyn a elwir yn gig ffres," megis cig eidion neu gig dafad) i ddospartlnadau neilltuol o weith- wyr. Trwy y Gyfnewidfa Llafur (Labour Exchange) y ceir y cerdyn arbennig yn rhoi hawl i'r Ration, helaethach hwn.
[No title]
I b'le mae Cymru yn mynd ? Dyna destan araith Mr John Rowland, C.B.E. yng nghyfarfod Cymrodorion Rhymni. Ddoe, dadwaddoli'r Eglwys; heddyw, gwaddoli cadeiriau diwinyddol. Ddoe, dim cyfathrach rhwng yr eglwys a'r daf- arn heddyw, pwyso'r ddyledswydd gys- egredig o brynu'r fasnach. Delfryd a Chenadwri Crefydd- 01 Cenedl y Cymry" y w testun yr ysgrif gyntaf yn y Dysgedydd," a s I 1-?, Mr E, T. John, A.S., yw'r a wdur. Y mae popeth a ddywed efe ar y mater hwn yn deilwng o sylw ar- bennig.
- fLLOFFION DIKW&STOL. I i1…
f LLOFFION DIKW&STOL. I i1 f Dyma apel o gallonau merched Cymru at y Prif Weinindog:— Penderfynwyd :—"Ein bod yn gofyn i ferched Cymru gyfarfod ar ddiwedd y gwasanae,th yn eu heglwys, forou a hwyr unrhyw Sul yn ystod mis Mawrth, ac mewn cyfarfodydd ereill y gall Cym- deithasau Merched trwy Gymru eu trefnu i'r amcan o uno a'u gilydd i ddan fon yr apel a ganlyn at y Prif Weinid- og." Rachel Williams, Llywyddes. Gertrude Davies, Fairfield, Llanelly, TrN soryddes. A. S. Hayward, 7, Evans Ter., Llan- elly, Rosina Davies, Ferryside, Ysgnfen- nyddesau. I'rGwir Anrhydeddus D. Lloyd George, A S., Prif Weinidog. Yr ydym ni, ferched Cymru, yn dat' gan i chwi, ein cydwladwr a Prif Wein- idog, ddymuniad ein calonau i chwi gym- eryd llwybr effeithiol mewn perthynas ag Ataliad y fasnach feddwol yn ystod tymor y Rhyfel a dadfyddiniad. Yr ydym o'r farn y byddai pryniant a rheoleiddiad y fasnach gan y Wladwr- iaeth yn atalfa i wir ddiwygiad dirwest- ol, ac na ddylid ein gwneud ni bobl grefyddol yn gyfranogion yn y fasnach. Gan fod prinder bwyd yn fater mor bwysfawr i'r wlad, apeliwn atoch i osgoi gwastraff achosir gan wneuthuriad y diodydd. Gan fod lleshad ein gwlad, ac yn enwedig eiddo ein plant, yn agos at ein calon, byddwn lawen os cynorth wywch i'w diogelu rhag difrod arswyd lawn y diodydd meddwol trwy roddi llwyr waharddiad i Gymru, yr hon, yn ol eich mynegiad, sydd yn aeddfed i'r cyfryw. Dymunwn yn barchus adgofio y Llywodraeth o apel Merched Canada, ac i ddywedyd ein boo ninnau, fercbed Cymru, yr un mor bryderus am gyflwr moesol ein gwroniaid ninnau ag yw ein chwiorydd dros y don. Yr ydym felly yn anfon yr apel hwn -apet o galon merched y Dywysogaeth, yn erfyn arnoch yn enw Duw ac er mwyn ein gwyr, tadau, merched an brodyrj i gymeryd mesaran uniongyrch- ol i atal y ddiod gan ein bod yn ei hofni yn fwy na'r Germaniaid a'i cynorthwy- wyr." i I Hi Rhoddir cryn sylw i gwestiwn pryn- iant y Fasnach yn Sir Gaerfyrddin, a chryf yw'r teimlad yn erbyn pryniant. Gofynai y Parch Hugh Jones am i'r atholwyr beidio pleidio hyd yn oed Mr John Hinds os byddai ef3 o blaid pryn- iant. Ysgrifenna Dr Cernyw Williams fel y canlyn at Ddirwestwyr Meirion :— Mae pwyHgor arbeJJnig dewisiedig gan Gymanfa Ddirwestol Gwynedd yn trefnu cyrddau drwy siroedd Gogledd Cymru o blaid Gwaharddiad dros dymor y rhyfel a chyfnod dadarfogiad, ac o blaid Mesur Dirwestol neilltuol i Gymru, yn cynnwys Dewisiad Lleol- NJ chredir ym mhryniant y fasnach, a gobeikhio nad yw yn dcbygol y cymer hynny le. Ond y mae gwaith o hyd i ddirwest wyr,-mae bill y ddiod yn uwch y llynedd nag y bu erioed o'r blaen. Gwir fod y ddiod yn costio mwy, er hynny galarus yw meddwl mor fawr ac II mor gyffredinol yw'r drwg. Fy amcan yn ysgrifennu yw cymell eyfeillion sobrwydd ymhob than o'r sir i drefnu cyfarfodydd o blaid llwyrym wrthodiad, a'r diwygiadauangenrhsidiol. Maeeisiau dinistrio y drwg, ameifchrin y da,—nid negyddol yn unig yw ein I gwaith, nid tynnu i lawr ond adeiliadu I hefyd ceisio cael awdurdod i godi ser-j' ydliadau ymhob pentref lie y ceir cySe i ddarllen, ac i gryfhau y chwaeth at ddiwylliant meddyliol a'r elfen gym deithasol. 'Peidier a diystyru cyfarfod bychan mewn pentref gwledig, ni wyr neb pa ddaioni a wneir. Ceir pob cyfarwyddyd a gwybodaeth angenrheidiol gan y Parch 0. Lloyd Owen, Ysgrifesnydd Cymdeithas-Ddir- westol y Sir, a rhydd enwau brodyr sydd yn barod i annerch cyfarfodydd fydd yn cael eu trefnu." I ]