Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
n_ « I I r' I l 'b. I The Ford Touring Car is five-seater of 2o-h.p. Fully loaded it will climb any hill. On the flat it is fast, quiet and comfortable. It will live with, last as long as, and cost infinitely less than I anything in the same power category. I Am j I ) Runabouts £ 125. Five-passenger Touring Car C135. Town Car £180 Complete with full equipment, head lamps, side and tail lamps, horn, hood, windscreen, tyre pump, repair outfit, two levers, tools and jack. All prices at Works, Manchester. Full particulars from— 'I A. J. SHEEN, I SOLE DISTRICT AGENT, I ABERDARE. —
I .. .,Beirdd y BonL 1
Beirdd y BonL 1 i-,i. GAN BRYNFAB. CARN ELIAN. Fel y dywedodd un o'i gyfeillion- "Beunyddiol wr boneddig xjedd Carnelian. Yr oedd yr un fath bob amser. Mae ambell wyneb, fel wyneb hinfynegydd, a nodwydd ei .dymher yn chwareu yn ol ac ym miaen o'r "set fair i'r "stormy." Ond am wyneb Carnelian yr oedd yn "set fair" o hyd arno. Welodd neb ef erioed heb wen ar ei wyneb, ac ni chlywyd gair garw erioed yn dyfod dros ei wefusau. Dyn crwn cry no ydoedd mewn gwybodaeth gyffredinol ac ymarferol. Yr oedd wedi bod yn ddarllennwr dyfal cyn iddo erioed ddechreu barddoni. Medd- ai ar gof rhagorol, a thrwy hynny, yr oedd y wybodaeth a drysorodd yn ei ieuenctyd at ei wasanaeth hyd bryn- hawn ei oes. Yr oedd yn wyddoniadur byw mewn gwirionedd. Fel hanes- ydd, yr oedd holl droion ei genedl yn wybyddus iddo. Yr oedd yn ddiw- inydd rhagorol; nid oedd nemor bwnc Y sgrythyrol nas gallai ei egluro, a gallai alw i'w gof adnodau yn ddi- derfyn i gloi rhyw ddadl ddiwinyddol. Pe buasai wedi cael addysg dda ym more ei oes, gallasai lanw sedd pro- ffeswr mewn athrofa neu gadair I esgob. ir.i, Ymhyfrydai rhoddi gwers i ddis- gybl a ofynnai am dani, ac nid ychydig yw nifer y rhai a gawsant wersi barddol ganddo. Ysgrifennodd gyfres o lythyrau i "Gyfaill yr Aelwyd," yn egluro holl gyfrinion y cynghaneddion, a gresyn na fyddai y llythyrau hynny wedi eu cyhoeddi yn llyfryn. Buasent yn arbed llawer o bendroni i geisio meistroli Mesurau Cerdd Dafod. Nodais yn barod ei fod wedi trysori llawer o wybodaeth ym more ei oes. Bu yn fwy ffodus na nemawr i fardd i wneud hynny, gan ei fod yn gymydog ,agos i Galedfryn yn y Groeswen. Yr oedd Carnelian tua 35 mlwydd oed pan y dechreuodd gymdeithasu ar a wen. Ond wedi iddo ddechreu j gwnaeth i fyny am yr amser a goll- odd. Cyfansoddodd lawer yn y Mesurau Rhyddion ym mlynyddoedd cyntaf ei yrfa farddol, ond wedi iddo feistroli y "pedwar mesur ar hugain," ni thramwyodd ryw lawer ar hyd "tragwyddol heol y Mesurau Rhyddion. Nid oedd cynghaneddu yn un trafferth iddo, er nad oedd ei gynghaneddion yn fachog a chyw. rain. Gallasai ei gvnghaneddion gael eu derbyn gan y "Macwyaid ar "beirdd newydd" y clywir cymaint o glegar am danynt yn ddiweddar. Cynghaneddion "llusg" a "thraws" —cynghaneddion y i5ed ganrif sydd i'w defnyddio bellach, os ydys am fod i fyny a mympwyon yr "Ysgol Newydd. Yr oedd Carnelian yn hoff iawn o'r gynglianedd Lusg, ond nid mor hoff o'r un 11 fantachog. Ond nid ei hoffder o'r "LUSg»> oedd yr achos ei fod yn ei defnyddio bob amser, ond am ei bod yn rhoi cyfle iddo i daro ergyd i dre yn y llinell nesaf. Yr oedd wedi bod yn hir yng nghymdeithas Caledfryn, ac nid yw yn rhyfedd yn y byd fod llawer o ddelw yr athro vn y disgybl. Dysgai Gamaliel v Groeswen fod yn ofynnol gosod colyn yng nghynffon englyn, ac ni fu Carn yn ail i neb am wneud hynny. Ai gymryd gyda'i gilydd, drwodd a thro, nid oedd gwell englyn- wr nag ef yng Nghymru. Enillodd fwy o wobrwyon am englynion unigol na nemawr fardd y gwn i am dano. Ychydig o gywyddau a ganodd erioed, ag eithro ambell ddarn yn ei awdlau. Ymgeisiodd saith neu wyth o weithiau am y Gadair Genedlaethol, a buasai wedi eistedd ynddi fwy nag unwaith pe cymerasai fwy o amser i gyfansoddi a chaboli. Yr oedd ei gydymgeiswyr a'u cyfansoddiadau yn barod pan fyddai Carn yn dechreu meddwl yn ddifrifol am y gwaith, a champau pennaf ei ymgyrchodd cen- edlaethol oedd cyrraedd y Llythyrdy mewn pryd. Yr un hwyrfrydigrwydd a'i nodweddai mewn cystadleuon llai pwysig, a bu hynny yn foddion iddo gymeryd yr ail le yn fynych, pan y dvlasai fod ar y sedd flaenaf. Enill- odd ddwsin o gadeiriau, a phob un o honynt am awdlau. Ei gadair gyn- taf oedd un Port Talbot yn 1873, a'r un olaf ym Medlinog, ym mhryn- hawn ei oes. Ychydig o feirdd sydd wedi cyfansoddi cymaint o awdlau, a gresyn na thalai eu cyhoeddi am y draff erth a'r llafur. Nid oes neb wedi gweled yr ugeinfed ran o'i weithiau. Nid oedd mor awyddus a llawer am weled ei "enw mewn print. Nid wyf yn meddwl ei fod wedi gwario ceiniog erioed i anfon darn o'i waith i newyddiadur na cyfnodolyn. Rhywun arall oedd yn gwneud hynny pan ddigwyddai i ddarn o'i waith ymddangos yn y wasg. Onibae fod ysgrifenyddion Eisteddfodau a gohebwyr y newydd- iaduron wedi cyhoeddi ei englynion buddugol, ychydig fuasai y wlad yn ei wybod am danynt. Er fod Carnelian yn llawn o arab- edd mewn cwmpeini, nid oes nemawr ddim o'r elfen honno yn ei weithiau. Nid wyf yn meddwl iddo gyfansoddi can ddigrif erioed, a phur anaml y ceir ergyd o arabedd yn ei englynion. Feallai mai yr englyn digrifaf" a wnaeth oedd beddargraff "Dai Canon —hen gymeriad lied arw a dynodd ei goes ato tuag ardal Caer- ffili "Dai Canon, wedi cwyno-am oes hir Yma sydd yn huno; Hen was surdrwyn, dros hwyr- dro Y dibyn aeth, dobin ho!" Yr oedd amryw o honom wedi cyfansoddi i gystadleuaeth Tresim- WJ1 unwaith. Testynau digon sych oedd yno, bron i gyd-y ci hela, y geinach, etc. Yr oeddem yn am- canu clirio y bwrdd yno rhyngom, ond ni ddaeth cymaint ag un wobr i'r Bont, ac ebai Garn "Am bobo saig, caem bawb a'i swn,— ond O Dim ond esgyrn lyfwn; Yn iach i'r ceinach a'r cwn, Tir siomiant fu Tresimwn." Yr oedd ei englyn cydymdeimlad ar bobl aeth dan feichiau Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd i'r pwynt, ac yn wirionedd hallt i amryw o hon- om:- "Wele'r wyl ar ei helor,-a'i beirdd oil Yn brudd iawn trwy'n goror; Drwg polion trymion tramor Arian teg y "guarantor." Yr oedd yn ddisgrifiwr rhagorol. Dyma ei ddarlun o'r "Arwerthydd "Wrth ei fwrdd, fe wertha fyd,-a'i forth wyl, Mae ef wrthi'n ddiwyd; Mynd i'w hwyl, "mynd," "mynd" o hyd, A bargen ym mhob ergyd." Nid yw ei englyn i'r Modur ym mhell o fod yn ddisgrifiad cywir:- "Hyll ednfarch, oil ynfyd,-un di- ffrwyn Gyda ffroenau myglyd; Glyw buan-perygl bywyd, Hawlia gael heol i gyd." Beth allai fod yn fwy disgrifiadol na'i I englyn i'r "Gneuen "?— "Gneuen chweg, anrheg yw hi-o lawr'r wig, Ac arliw haf ami; Ond yn gaeth, ei maith i mi Byth erys, heb ei thorri."
[No title]
Y GARREG FEDD. j Merch arwyl ym mraich hiraeth-un j yw hon Anwyd trwy ysgariaeth; Morwvn cof u wch meirwon caeth Ocheineidia'i chenhadaeth. I Y WENITHEN. i I Ion a wnaeth o wenithen—ddigonedd jj I gynnal plant angen; Llawn o faeth, odiaeth yden, I Ar awn byd ceir hi yn ben. I Y FANEG. I Y Faneg, gwir fynag yw-o wreiddiol Radd, a swydd dynolryw; Hyd a lied y Haw ydyw, Ac urdd ar wisg y ddau ryw. I Y DWYREINWYNT. I Gwynt oer, ac annatliriol,-dirinwedd I Yw'r dwyreinwynt treiddiol; Dyma hen wynt mynwentol, I A'i wywdra ad ar ei ol. I ADGOF. I Guddiedig ddigwyddiadau,—gryn ud- gorn Adgor a'i alwadau— Rhoddfeydd allr-difudd oriau, I Gwyd o'u bedd, gwedi'u byw- hau. I LILI'R DYFFRYNOEDD. I Gwyryfol, hudol ydoedd,-gwyl olwg, Lili y Dyffrynoedd; Diwall dwf ei dillad oedd 0 lin haf, ar liw Nefoedd. I Y DDRAIG GOCH. 1 I droi'n ol estron elyn,—y Ddraig Goch Oedd i'r gad yn gychwyn; Ond gwridog wawr ei hedyn I Heddyw wneir gan hedd yn wyn. I BARA. I Darpariaeth Duw o'r puryd-yw bara, Hon ber, braff, ein bywyd; Toraeth haf mewn torth, hefyd, Teyrn y bwrdd-tarian y byd. I Y WENNOL. I Ymfudol wennol, fuanaf,-troi fynn Trwy'r Trofannau poethaf; Merch i wres ym mraich yr haf, Hyd ei bywyd heb aeaf. I Y GRAIG. I Uthrog, uchel gr6g, ddigryd-win ysten A chist aur celfyddyd; Yw'r graig gref, cronicl hefyd Cywir ar bwnc awr creu'r byd CODIAD YR HAUL. I Y llyw o'i gafell gyfyd,—a rhoddir Iddo'r wawr yn gerbyd; Gorsafa'n deyrn gwres hefyd, A breiniol bor yn wawl byd. MACHLUDIAD YR HAUL. I J'w wely rhos i lawr a—ar gaerau'r Gorwel, pan ol-dremia, Y tir a'r mor borffora, A banner nef yn aur wna. CRAIG YR HESG. I Gwyrth a geir dan greithiog wedd- neu ddwys dwr I ddistawrwydd eistedd- Lie y dig, ddychrynllyd hedd, A thrig hen, uthr ogonedd. Y FODRWY BRIODASOL. I Drych o gariad diadwy-mab a mun, Ym mhob modd yw'r fodrwy; A nod anwahanadwy Hyd y bedd, 6'u hundeb hwy. Gallaswn lanw tudalenau o'i englyn- ion, ond rhaid ymatal. Teimlwn yn chwith na chawn englyn gan ein hen gyfaill eto. Ond cedwir ei enw yn barchus yn y Bont am genhedlaeth- au, a bydd ei gofadail yn y Groeswen yn ei gofio i'r pererinion barddol.
[No title]
Y mae gan wr a gwraig yn Aber- cwmboi bump o feibion, tri o feibion yng nghyfraith ac un o wyrion yn y fyddin. Y mae pedwar ohonynt yn gwasanaethu'n bresennol yn Ffrainc.
Advertising
Mae'r Cyllideb a'r Trethi Newyddion wedi poeni llawer, ond y mae Diffyg Traul, Bustl, Cur Pen, neu Flinderau'r Afu yn llawer gwaeth. Mater o lawenydd yw y gellir naill ai lleddfu neu iachau y rhai hyn gyda dogn prydlon ar ychydig o draul o BELENI D LLYSIEUOL KERNICK. Y mae miloedd na chymerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau 71c., 131c., a 2s. 9c., gan yr holl fferyllwyr.
Ymweliad ag Ebensburg, Pa.…
Ymweliad ag Ebensburg, Pa. ar Cylch. Dydd Sul, Mehefin y 7fed, 1914, cefais y pleser o bregethu i Eglwys Gynulleidfaol De Ebensburg, Pa. Hyfrydwch mawr i mi oedd gweled cynulleidfa mor barchus yma. Aros- wn gyda Mr. a Mrs. T. Richards, teulu hynod o garedig. Cefais ddydd- iau hapus gyda'r eglwys a theulu Mr. Richards. Dydd Llun, Mehefin yr 8fed, gyrrodd un o feibion Mr. Richards fi i Ebensburg i dreulio ychydig ddyddiau gyda fy hen ffrindiau Mr. a Mrs. R. L. Thomas. Yr oedd 45 o flynyddau wedi myned heibio oddiar pan yr ymwelais gyntaf a'r dref hon. Yr oeddwn yr amser hwnnw ar fy nhaith i Newburgh, Ohio, i gael fy ordeinio yno yn weinidog ar yr Eglwys Fedyddiedig Gymreig. Llettyais yr amser hwnnw yng Ngogledd Ebensburg gyda'r diweddar Mr. a Mrs. Evans, sef rhieni Mrs. R. L. Thomas, lie yr oeddwn yn aros y tro diweddaf. Pre- gethais tra ar fy ymweliad cyntaf yn eglwysi Bedyddiedig y Gogledd- Bethel, a thref Ebensburg-y cwbl yn Gymraeg y pryd hwnnw, ond rhyfedd y cyfnewidiadau sydd wedi bod oddi- ar hynny. Ym mis Gorffennaf, 1796, cawn hanes cwmni o tua deugain o Gym'ry arweiniwyd i'r fan lie y saif Ebensburg yn awr gan Morgan John Rhys. O'r cwmni bvchan hwnnw bu datblygiadau mawrion yn y cylchoedd hyn. Y mae yma dref hardd, a amgylchynir gan balasdai heirdd ar hyd y mynyddoedd, a daw miloedd o bell ac agos i dreulio mis- oedd yr haf. j Dydd Gwener, Mehefin y ufed, bu .I fr. T. R. Johns, goruchwyliwr gweithiau glo Colver, mor garedig ag anfon ei gerbyd i'm cludo i'w gartref yno. 1 ref yw Colver tua saith milldir i'r Gogledd o Ebensburg, He y mae gwaith glo gan yr Ebensburg Coal Co., a Mr. Johns yw y prif oruchwyl- iwr. Yn y prynhawn aeth ef a'i deulu a'r ysgrifennydd yn eu modur i Beu- lah, tua saith neu wyth milldir i'r De o Colver, er nad yw y lie yn awr ond fel anialwch, bu yma dref boblogaidd a sefydlwyd gan Morgan John Rhys yn 1796. (Ni chaniata gofod i mi fanylu; cyfeiriaf y dar- llennydd at fy llyfr ar Morgan John Rhys). Bydd yn dref boblogaidd eto, oblegid y mae yr Ebensburg Coal Co. yn myned i agor gwaith glo mawr yrnu yn fuan. Diddorol i Mr. Johns oedd deall hanes rhyfeddol y lie. Mae Mr. Johns yn ddisgynnydd o Johnsiaid y Ffynon Wen sydd heb fod ymhell o'r Graddfa Hengoed, lie ganwyd Morgan John Rhys. Daeth ei rieni i Bennsylvania yn 1856, a chredaf mai brodor o Coalmont, Pa., yw ef. Dyn rhagorol ydyw, a sicr yw ei fod y dyn iawn yn y lIe iawn fel goruch- wyliwr gweithiau glo. Mae Mrs. Johns yn ferch i'r diweddar Barch. John R. Jones, Lindsey, Pa. Yr oedd- wn yn digwydd bod yn un o'r gweini- dogion ordeiniodd Mr. Jones. Cym- erodd hynny le yn Mason City, West Virginia, Mehefin 3ydd, 1873. Yr oedd Cymanfa Fedyddiedig Gymreig Gorllewinbarth, Pa., ac Ohio yn Pom- eroy, Carrs Run a Mason City, a mainteisiwyd ar y cyfleustra i or- deinio Mr. Jones yn weinidog ar Carrs Run a Mason City. Bu Mr. Jones farw yn yr Hospital, Phila- delphia, Tachwedd y 3ydd, 1891, a chladdwyd ef yn Circle Hill Ceme- tery, Lindsey, yn 51 oed. Bu'n weini- dog ffyddlawn a llwyddiannus o Fe- hefin 3ydd, 1873, hyd ei symudiad at ei wobr. 0 herwydd adgofion fel hyn pleser mawr i mi oedd mwynhau cvmdeithas Mr. a Mrs. Johns a'u plant annwyl. Dychwelais at Mr. a Mrs. R. L. Thomas dydd Sadwrn. Boreu Sul, Mehefin 14, ymadewais ag Ebensburg am Nantyglo—tref tua wyth milldir i'r Gorllewin o Ebens- burg yn Nyffryn y Blackbick. Yr oedd Air. R. L. Thomas a'i fab John, a Mr. Robert Ferguson gyda mi. Pregethodd y Parch. T. \V. Evans, Girardsville, Pa., bregeth ragorol yn yn y boreu, a'r ysgrifennydd yn y prynhawn. Yn yr hwyr yr oedd yr Ysgol Sul yn cynnaA cyfarfod adrodd- iadol. Diwrnod hapus oedd hwnnw. Lie cymharol newydd yw hwn. Diddorol iawn i mi oedd deall fod y dref hon ac eglwys Fedyddiedig y lie wedi eu hadeiladu ar fferm a berch- nogid gan y diweddar Barch. Thomas E. Thomas. Brodor o Ferthyr. Cym- ru, oedd efe, a anesid yno yn 1789. Bedyddiwyd ef yn Afon Taf yn Mer- thyr gan y diweddar Barch. Rees Jones, gweinidog Capel Seion, ac yno y dechreuodd bregethu. Ymfudodd i America tua'r flwyddyn 1813, a daeth yn oruchwyliwr gweithiau mwn haiarn perthynol i Ffwrnes Pennsylvania yn agos i Warrior's Mark. Pregethai mewn gwahanol fannau. Ym mis Hydref, 1824, or- deiniwyd ef yn weinidog yn Beulah, hen eglwys Morgan John Rhys. Yr oedd yn byw yn awr ar y fferm uchod, yr hon sydd o fewn tua phum milltir i Beulah. Bu farw Hydref 28, 1854, yn Sir Clarion, Gorllewinbarth Pa, yn 68 mlwydd oed. Y mae iddo hanes diddorol iawn. Gall Seion, Merthyr, fod yn falch iawn o honno fel un o'i phlant. Yr oeddwn yn falch iawn i gael allan pa le yr oedd yr hen ffarm. Gwvddwn nad oedd vmhell o Beulah, ond methaswn a chael hyd iddi o'r blaen. Cyfarfum yno a gorwyr iddo- Ellsworth Rowlands. Ffaith hynod i mi yw i mi werthu y cyfrolau olaf oedd gennyf i'w gwerthu o hanes Morgan John Rhys yn Beulah, lie nad oes yr un ty yn awr i aelodau o'r cwmni sydd i agor gwaith glo yno. Costiodd fy llyfr ar Morgan John Rhys lafur ac arian enfawr i mi, a da gennyf fod M. James, awdur cyfres o ysgrifau yn y "Darian," yn cydna- bod ei ddyled i'r llyfr.—Yr eiddoch, (Dr.) JOHN T. GRIFFITH. I Kenfig Hill. j ■ -T-=3»
I Oddiar Lech weddau I Caerfyrddin.
I Oddiar Lech weddau I Caerfyrddin. }I Emynydd Eisteddfod Tir Iarll yw Mr. Ben Davies (Pelydrog), Dafen. Efe enhillodd yr emyn, ac a gafodd gymaint o glod gan y beirniad Bryn- fab. Cydymdeimlir yn ddwys gan lawer un y ffordd hon a Mr. a Mrs. David: Jones, Banc y Tai, Pump Heol, yn wyneb y ddamwain angeuol ddaeth i ran ei geneth fechan, Sarah Cerid- wen. Yr oedd yn blentyn ffel ac fel hen wreigen, a hithau yn ddim ond blwydd a deng mis oed. Cladd- wyd ei gweddillion ym mynwent Rehoboth dydd lall, Awst 2ofed. G wasanaeth wyd gan Myfyr Hefin, Horeb. Cysured y nefoedd y tad a'r fam yn wyneb amgylchiad mor drist. Y bardd Symlog, Castellnewydd- Emlyn, a'r lienor a'r Cymreigydd \V. R. Watkyn, M.A., Llanelli, was- anaethai yng nghyrddau blynyddol y Meinciau. Siaredir yn uchel am yr wyl. Cynhaliwyd cwrdd gweddi undebol yn Roreb, Pump Heol, yr wythnos ddiweddaf. Taerion oedd y gweddiau ar ran ein milwyr ar faes y gad, a chryf oedd yr apeliadau ar i Dduw amlygu ei hunan yn y cyfwng cyth- ryblus presennol, ac am i'r adeg brysuro pan y bydd "heddwch fel afon. Penderfynwyd gwneud casgliad ym mhob un o'r eglwysi y Saboth nesaf. Dychwelodd y Parch. H. R. Jones, Cydweli, o'i wyliau yng Ngogledd Cymru. Da gennym glywed ei fod ar wellhad. Bu'r Parch. J. Rhydderch, Pwll- heli, ar y llechweddau yn ddiweddar yn efengylu ac yn cael ychydig seibiant ac adnewyddiad ysbryd ar aehvyd ac yng nghymdeithas ei frawd, y Parch. D. Rhydderch, B.A., Capel Seion. Araf iawn yw'r gweithfeydd y I ffordd hon, ond y bobl yn dal yn amyneddgar a theimlad diolchgar i Dduw ynddynt fod pethau cystléd ar- nynt mewn cyfnod mor drist. Yn Nhre yr Alcan yr wythnos hon gwelsom y gweinidog da a'r arwein- ydd mwyn, y Parch. W. R. Jones I (Pelidros), Cymer, Rhondda. Da oedd gennym ei weled yn edrych mor dda a chlywed fod ei ymdrechion brwd yn llwyddo. Llwydded eto. MYRDDIN MIN Y MOR. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street, Aberdare, in the County of Glamorgan
Advertising
I THE Aberaman & fountain Ash Billposting and Advertising Co. Proprietors of the most prominent stations n Aberaman, Cwmaman, Cwmbach, Abercwmboi, Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTING. EVERYONE SEES POSTERS. All communications and parcels should iN addressed to the MANAGER. Public Hall & Institute, Aberaman, Aberdare Tel. P.O. 12. Aberaman. GWAEDl GWAED! GWAED! MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNU ARWACDPUR CRYP, IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills Mae "Hughas's Blootf PIIII" yn hymi efleithlol at Crsu Cwatd Newydd, For a Chryf, rally yn dylanwadu ar hall Organau y Corfl, drwy hyny yn laahtM OOlur Pan, Olffyg Traul, Agwtl\ Biliousness, io Atu OdrwM6 Tarddlanta*' H IfII /I h H a y Cnawd, yvf | A[/ ff Cornwydon, MW jut' yjlffl II f Scurvy, Pllat Vul 4 \I Vf Fits, Nerv- Wii\ Mf^\f II I c w y n t CwynalOIl ("au Cymal- wst), PHil Cefn, Lum- bago, Cor"- rwymadd, W J Neuralgia, au yr Ann- api, Isaldar Surnl cylla. BENYWOD! At Anhwylderau tueddol i bob Gwraig, Mam a Merch o bob oedraa mae Hughso's Bload Pills" ym nodedig o effeithiol. Rhodder prawf arnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Fills hyn gofaler rhafl gae) eich twyllo. Mynwoh weled j Trada Mark, sef Hun Calon fel hym— pr ar bob blwoh. Heb hwn, twyll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall.. Ar werth gan bob Chemist a Stores am 1/11. tll, 4'1. Neu danfonwoh el Gwerth mewn Stamps nea P.O. at y Perchenog- JACOB HUGHE81 MANUFACTURING CHEMIST, M.P.S., L O.S Penarth, Cardiff. Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLEGAO YM MHRIFYSOOL CTMBU). Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadan Frifysgol Cymru. Cynhygir amryw o yagoloriaethaa (rha honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Am fanylion pellaoh, ymofyner a— H. DAVIES, M.A., Cofrcttrydd. LAt>; £ 8 BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for al Irregularities. &a.. they speedily afford relief and neve rfail to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal, Pil Cochia, Bitter Apple, &a. Blanchard's are the Bast of all Pills for Woman. Sold in boxes, 1 Ili. by BOOTS' Branches, and all Chemists, or post free, same price, from BSLIB MARTYN Ltd., Chemists, 3 DALSTON LANB, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free ld. stamp /» A PAGE Book about Herbs and how to use 04: them. Post free. Bend for one. Trimnell, The Herbalist, 144 Riohmond-road, Cardiff. Established 1879. PLEASE NOTE THE ADDRESS. To prevent fraud see that yon get" Estab- lished 1879 on every label and wrapper of my preparations, without whioh none are genuine.—Trimnell, The Herbalist, 144 Rioh- mond-road, Cardiff. TRIMNELLI8 PILLS AND POWDERS have cured thousands. Why not you ? See that you get "Established 1879 on every label.—Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond Road, Cardiff. Agents wanted. EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Illustrated Book, containing Valuable Information how aU Irregularities and Obstructions may be entirely avoided or removed by simple means. Recom- tnended by eminent Physicians, as the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never Fails. Thousands of Testimonials. Established 1862, MR. PAUL BLANCHARD, Olarwmont House. Dalaton T -ane, T ondon. DOWN & SONS, FOB GOOD SUBSTANTIAL Furniture, bedsteads. Bedding, Carpets, And every Description of HOUSE FURNITURE. CABINET WORKS :—  ——— 21 High ';o; 0 Morris Lane, ?W?USe?. The Largest and Cheapest Steam Cabinet Manufactory iq South Wales. Illustrated Cataloguet free on application. IMMENSE STOCK TO SELECT FROM. Carriage Paid on all Orders above ill, or Oalivored Free in oar ewa Vaao.