Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ISODIADAU WYTHNOSQL

CYFLOG I AELODAU SENEODOL.…

ESIAMPL IARlL GADOGAN. I

OiFFYNOQLLAETH A miVllR GWAITH.,

YR HISPAEN A'R FATICAN.,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR HISPAEN A'R FATICAN., Dywedodd Senor Canalejas, Prif- weinidog yr Hispaen, ychydig ddyddiau yn ol fod yr ymdrech rhwng Llywod- raeth yr Hispaen a'rFatican yn parhau, ac mai par hau a wna hyd oni phender- fynir unwaith am byth pwy sydd i lyw- odraethu yr .Hispaen. Nid oes gan y Prifweinidog fwriad nac ewyllys i wneyd yr hyn a elwir yn gyfaddawd. Yr hyn a gais Canalejas ydyw awdurdod i reoli i fesur ag y mae budd y cyhoedd yn galw am dano y miloedd eefydliadau Pabyddol sydd yn y wI ad ac yn dylan- wada yn fawr iawn ar y bobl ymbob cylch. Mae'r sefydliadau hyn-yn ffurf mynachdai a lleiandai wedi lluosogi yn ddirfawr yn ystod y deng-mlynedd- a'r-hugain diweddaf. Yn 1875 yr oedd yn esgobaeth Barcelona 22 o fynachdai; yn awr y mae yno 482. Dywedir fod yr esgobaeth a en wyd gynifer a 6000 o sef- ydliadau yn ffurf mynachdai, lleiandai, a chydfrawdoliaethau," a bod y Llyw- odraeth yn gwario chwe' miliwn o bunau y flwyddyn i'w cynal. Dengys ystad. egau swyddogol fod y mynachdai yn yr Hispaen yn rhifo 4,340, a bod ynddynt gynifer a 200,000 o fynachod. Anhawdd cael allan i sicrwydd nifer y lleiandai a'u preswylwyr, ond cyn belled ag y dengys ystadegau swyddogol, rhifa'r llei- andai dros 7,300, ac y mae ynddynfe gynifer a 376,000 o ferched. Y gwir syml ydyw fod y sefydliadau hyn wedi myn'd yn faich ar y wlad ac yn bla ynddi, ac y mae yn hen bryd eu dwyn dan reolaeth a lleihad eu nifer hefyd. Os llwydda Canalejas i wneyd hyny, er gwaethaf y Fatican, gwna i'r wlad was- anaeth mwy nag a wnaethpwyd iddi erioed, ond odid.